Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Dafydd Nicholas, Cwmafon.…

News
Cite
Share

Dafydd Nicholas, Cwmafon. Bum yn mordeithio y mis hwn i Hong Kong a Canton. Gosodais y Tvsf, yr Expositor ac eraill yn y trunk i'w darllen yn ystod y daith. Ar 01 gosod y cabail mewn trefn, agorais y TYST, ac un o'r pethau cyntaf a welais oedd y pennawd uchod, a bod yr hen sant dewr o'r diwedd wedi mynd i'r wlad y siaradodd ac y canodd mor wresog am dani. Ni ddarllenais ychwaneg y dydd hwn, gan fod y galon yn benderfynol o groesi'r moroedd ac yn gwrtliod dycliwclyd. i China, gan mor fyw y bu atgofion am ddyddiau fy niachgcndod yn yr hen Gwm. Codasant yn fyw iawn o flaen fy llygaid, ac am amser hir. bum yn ail-fyw y dyddiau gynt, nes y dallwyd fy llygaid a dagrau hiriaeth a serch Gwelais yn hen gapel Seion y set fawr a'i rhes o ddynion nerthol yn yr Ysgrythyrau a dwys mewn gweddi, Cwrdd y Bobl Ifeinc bore Sul, yr Ysgol Sul a'i channoedd deiliaid, ysgol gramadeg y gweinidog, yr ysgol gan, a llawer mwy o bethau cyfielyb. Clywn Edward Roberts yn pregethu, y tadau'n cynghori, a'r cor dan arweiniad Jason Richards gwelwn y sedd lie yr arferai fy ewythr John Rees athrawiaethu bum etoyn y Gyfeillach, a chlywn John Bamford, Dafydd Powell, Evan Parker, Dafydd Davies, John Thomas, Thomas Rees ac eraill yn cynghori ac 0 fel y tynnent y nefoedd i'r lie Gwelais fy hunan yn canu alto yn ymyl Thomas Williams a Thomas West wrth y gist lyfrau ar y gallery; ond rhy ami oedd yr atgofion hyn a ddaethant fel llifeiriant dros fy enaid i'w hysgrifennu. Ac. ymhlith y lliaws dacw Dafydd Nicholas, bardd, athronydd, diwinydd, athraw a cherddor a dyma yntau wedi mynd, heb aros yn hir ar ol William Leyshon. Am yr ychydig gerddo-riaeth a ddysgais erioed, i Dafydd Nicholas y mae fy nyled bennaf. Mor ffyddlon yr arferem fyned i'w dy yn Woodland Row i gael y wers. Bachan, pam na cliymrwch fwy o ofal '-mol' ami y bu hyn, a'r pencil yn taro fy mysedd mewn cosb. Mor amyneddgar yr oedd gyda ni, plant Seion, ac fel yr ymnofiai mewn afiaeth yn y cor Pan aeth cor Caradog i Lundain, Dafydd Nicholas oedd fy ngwylied- ydd a phan enillasom yn y Palas Grisiai, gwledd fawr a gawsom y noson honno. rhywle yn Den- mark Hill. Mor enwog y dyddiau hynny oedd cor capel Seion, a chipiasant aneirif wobrwyon Jason Richards, William'Davies, John Webbe, Rees Rees, Thomas Williams, heb son am eraill ac am gantoresau gwych. Teithiasom filltiroedd lawer i'r ornest, ac yr oedd gofal yr henuriaid am yr ieuainc yn ddifeth. 0 ddyddiau hyfryd. 'Does neb ar ol heddyw ond y rhai oedd yr adeg honno yn lied ieuanc. Cristion gloyw oedd Dafydd Nicholas, ac athronyddai yr Efengyl yn y Gyfeillach a'r Ysgol Sul gyda medr arbennig. Ni bu neb ffydd- lonach gyda Dirwest. Gallai fod yn swrth ambell dro. Yn amser helynt flin Coleg y Bala yr oedd mwyafrif eglwys Capel Seion yn ffafriol i'r Hybarch Michael D. Jones, a Dafydd Nicholas oedd prif esboniwr y cweryl. Yr oeddwn innau fel myfyriwr wedi cymryd yr ochr arall, ac yn glynu'n dyn wrth Proffeswr Lewis. Edrych yma, William Hopkyn, ddylet ti ofyn barn yr eglwys yng Nghapel Seion cyn ochri gyda'r Lerpwliaid —dyna oedd ei gvvyn yn fy erbyn. Gwyddwn innau fy mod ar yr un ochr a'r gweinidog, yr hwn ni ymyrrodd o gwbl vn yr eglwys y naill ochr na'r llaIl. Ond pasiodd y cwmwl, ac ni chefais yn unman fwy o groesaw gonest ar fy ymweliadau o China nag yn Seion, na chan neb yn fwy na Dafydd Nicholas. Pan welais ef olaf, tua thair blynedd yn ol, dywedais wrtho fod yr hyn a ddysgais wrth ei draed wedi bod o help a gwasanaeth dirfawr i mi yn nhir Sinim, gan fy mod wedi dysgu can- noedd yma i ganu emyii-a-Li Ir cysegr, a bod amryw o'r hen emynau a'r tonau ddysgais yng Nghwm- afon yn awr yn sirioli pererinion China ar eu hymdaith i'r nef. Bachaii, hi fydd yn hyfryd i'w clywed nhw yn y nefoedd,' meddai, a'r dagrau ar ei ruddiau. Credaf ei fod erbyn hyn wedi cyfarfod a rhai ohonynt; ac 0 mor felys eu cytgan Er marw y dewrion, ni chaiff Cymru gam, am fod Duw yn aros; ac mae fel darnau o gerdd- oriaeth i'm clustiau glywed fod Mr. Marlais Davies yn gwneud gwrolwaith yn Seion teilwng o:r rhai fugeilient gynt. Mae yno ddiaconiaid (lihafal-aluryw ohonynt £U'11. cydysgolia a mi, a rhai yn perthyn i mi yn ol y cnawd—cynull- eldfa gref a gwresog ei hysbryd, a chystal canu ag erioed dan arweiniad fy hen gyf aill hoq, Bvan Thomas, mab-yng-nghyfraith Dafydd Nicholas, a thad y doethawr Afan Thomas. Ac er fod hiraeth dygn yn fy nghalon ambell awr am y dyddiau gynt yn yr hen Gwm niyglyd ond annwyl, a gweddi at Dduw bob dydd o'r fan hon am i'r dyddiau hyn fod yn llawnach o ogoniant na'r dyddiau fu. Caffed amynedd ei lie, ac yna ni gawn eto gwrdd mewn lie mwy grisialaidd na'r Palas yn Llundain. A phan ddaw awr fy ncsayl innau, at yn syth at Grist i ddiolch iddo gydag aceniad sicr am freintiau fy maboed yng nghapel Seion, Cwmafon. Yn wladgar. Shanghai, China, W. HOPKYN REES. I Mai 2lain, igife. t

I I'R BEIRDD.I

II HUW FY MRAWD,

NA I, ADD YW GORCHYMYN Y NEF.

! Trewyddel. I