Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

CENHADAETH MUDION MORGANNWG.

News
Cite
Share

CENHADAETH MUDION MORGANNWG. At Olygydd y Tyst. SYR,—Y mae tymor y gwyliau bellach ar ben, ac y mae'r eglwysi yn ail ddechreu anfon eu casgliadau i mewn. Diolchaf iddynt am eu ffyddlondeb, a lxyderaf y bydd iddynt oil weith- redu ar yr awgrym hwn, a dechreu arni yn fuan ac o ddifrif, er mwyn arbed i ni draul afreidiol ar bapur a stampiau. Adeg o gynhildeb eithr- iadol ydyw, ac ni fynnem wario'r un ddimai yn ofer. Y mae ffyddlondeb yr eglwysi wedi bod yn wyrthiol, ac y mae ei fod wedi para mor gyson a chyflawn drwy'r ddwy flynedd hyn o ryfel a drudaniaeth wedi fy synnu a'm calonogi yn ddirfawr. Yr wyi yma yn awr er yn agos i ddeuddeng mlynedd. Deuthum yma yn 1904, ar anogaeth fy annwyl fani, yr hon a'm dilyn- odd yma yn fuan, ac a fu yn galondid ac yn symbyliad i mi hyd fis. Medi diweddaf. Yr oedd rhai eglwysi yn casglu yn weddol gyson at y Genhadaeth o dan yr hen oruchwyliaeth, eithr nid llawer. Dlyfryn bychan cul iawn fvddai'r hen Adroddiad. Y mae wedi tewhau yn fawr yn y blynyddoedd diweddaf. Pan ddeuthurn yma, nid oedd gennym un math o fan cyfarfod i ni ein hunain, ond benthyg. Erbyn hyn y mae gennym adeilad a gostiodd i ni yn agos i ddwy fil o biiiinau, a chyfriiir ef gan rai cymwys i farnu yn un o'r rhai goreu yn y deyrnas. Ynddo cydgyferfydd to newydd o bobl ieuainc, sef y plant pan ddeuthum i yma, a' da gennyf ddywedyd eu bod bron-bob un yn ddirwestwyr. Ac am bawb ohonynt yn ddiwahaniaeth, gwyr dyn na allant fod ar lawer o ddrwg tra byddant yma. Rhai bach yng Nghrist ydynt bron bawb ohonynt, ond y mae gwell cyfle 1 w cynhyddu mewn gras a gwybodaetb nag a fu erioed o'r blaen. Ysywaeth, erys dyled o bedwar cant a hanner ar yr adeilad byth, ac nid yw'r aniser yn fanteisiol i wneutliur un ymdrech arbennig i'w dileu ond os pery'r eglwysi yn eu ffydd- londeb, parha hithau i ddiflannu o fesur ychydig. Diau y bydd yn symbyliad pellach i'r eglwysi i gyfrannu pan gofiant eu bod yn cyfrannu' at waith a wneir yn eu mysg a than eu llygaid. Gwyddant i ba le y mae'r arian yn myned. Nid oes yma dreuliau swyddfa o fath yn y byd, ond y rhai sy'n gyffredin i'r eglwysi, megis y llythyrdy, &c. Arbedaf lawer o draul argraffu drwy luosogi ysgrifau a'm llaw fy hun. Ni thelir dim i neb am osod ein hawliau gerbron yr eglwysi. Yn wir, yr un cyflogau a delir yw fy nghyflog i a chyflog y gofalwyr. Canlyniad y drefn semi a diymhongar hon yw ein bod wedi gallu llunio'r gwadn fel byddai'r troed bob blwyddyn, a thalu'n ffordd bob dimai heb ddiffyg hyd yn hyn. Y mae'r ychydig a ddigwydd fod dros ben ar ddiwedd blwyddyn yn gymorth mawr i aros y casgliadau newyddion, ac yn galondid i lafurio ymlaen. Pe dechreuem fethu cyfarfod ein gofynion bellach, cyfrifwn fod yr eglwysi wedi colli hyder ynof, a dechreuwn anieu fod tymor fy nefnyddioldeb ar ben. Pan gofir fod tan a goleu ac angenrheidiau eraill gymaint yn ddrutach, teimlir grym ein hapel at gared- igion yr achos i gyfrannu yn ol eu haelioni arferol. Ni phery na'r rhyfel na'r byd gwan presennol am byth. Carwn i'r eglwysi sydd heb wneuthur hynny drefnu eu casgliadau yn ddi- ymdroi. Yr eiddoch yn bur, The Deaf and Dumb Institute, The Deaf and Dumb Institute, BOOT AN. Pontypridd.

COLEG ABERHONDDU.

- Marwolaeth y Parch J. Ossian…

Marwolaeth y Parch J. Tertius…

[No title]

IPOB OCHR I'R HEOL. I