Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

IPOB OCHR I'R HEOL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

POB OCHR I'R HEOL. I (1) Y flwyddyn hon y mae'r Parch. D. Lewis (Dewi Medi), Llanelli, yn dathlu ei hanner canrif yn y weinidogaeth.—tymor maith ac anrhyd- eddus iawn. Daeth llawer tro ar fyd yn y cyfnod hwn. Gwelodd Mr. Lewis fynd a dod lied fawr. Pan ordeiniwyd ef tua Brynmenyn hanner can mlynedd yn ol, yr oedd llu o hen gewri'r pulpud yn anterth eu dyddiau; ond bellach nid oes nenxor neb ohonynt yn aros. Daeth to ar ol to o rai gwahanol iddynt. Plyg- ion amrywiol iawn yn y bywyd a'r meddwl gweinidogaethol. Deil Mr. Lewis yn gryf ac yn iraidd ar ol y cyfnod maith hwn o lafurio. Adwaenir ef fel gwr urddasol, pregethwr glan ei gyfansoddiad, cymeriad pur yng ngwasanaeth ei Arglwydd, brawd addfwyn ac hawdd cyd- weithio ag ef, lienor graenus pan fynno ysgrif- ennu, cynganeddwr da a chanddo doreth o englyn- ion heb eu cyhoeddi erioed ond dichon wedi'r oil y bydd enw Mr. Lewis yn cael ei gofio yn y dyfodol pell yn hanes ein Henwad fel gwr a gyfansoddodd emynau prydferth, gwlithog, can- adwy. Nid oes un ddadl ynghylch ei allu i ysgrifennu emynau. Y mae amryw ohonynt yn ein llyfr Enwadol, a cheir hwynt ar hyd a lied y wlad yn nhaflenni'r Cymanfaoedd. Dawn arbennig yw hon—un nas gellir ei chael oddi- eithr i natur a gras ei rhoddi mewn dyn. 0 ble y daw, a sut y daw, ac i bwy y daw-nid oes byth ddweyd. Daw weithiau i'r gwr na feddyliwyd fod fawr o ganu ynddo. Ac atelir hi'n llwyr oddiwrth arall sydd yn fedrus ymhob cangen ar farddoniaeth yn ei hystyr arferol. Y mae Dewi Medi wedi ei chael. Llongyfarchwn ef yn galonnog ar gyrhaeddiad ei hanner canrif yn y weinidogaeth. (2) Dathlodd y Parch. D. Lloyd Morgan, D.D., Pontardulais, ei chwarter canrif fel gweinidog eglwys yr Hope hefyd yn ddiweddar. Treuliodd efe'r holl dymor hwn yn yr un maes, er iddo cyn hynny lafurio mewn lleoedd eraill. Bu'r pum mlynedd ar liugain hyn yn rhai llawn o lafur—gyda chodi ysgoldai ac adnewyddu'r capel, gwahodd yr Undeb, teithio i Ganaan ac America, a phregethu ar hyd a lied Cymru, a darlithio llawer. Gall Dr. Morgan edrych yn ol at y cyfnod hwn fel un dedwydd a llwyddiannus. Diau 11a ddaw eto gyfnod o gyffelyb nerth, ond gall yindawelu yn y ffaith iddo wario'r nerth a gafodd yng ngwasanaeth ei Feistr yn dda a chydwybodol. Llongyfarchion iddo. (3) Mae'r Parch. R. W. Davies, Casllwchwr, eto'n wael ei iechyd fel y deallwn. Cyfeiriwyd yn y TYST at waeledd nifer o frodyr eraill, ac hyderwn yn fawr fod yr hyn a ddywedwyd am eu hadferiad yn wir. Y mae'r brawd ieuanc Mr. Davies wedi ei gystuddio droion yn ddiw- eddar, a'i droi o'r neilltu megis ynghanol ei lafur. Newidiodd cylch Casllwchwr yn fawr yn y deng mlynedd diweddaf drwy agoriad gweithfeydd fu unwaith yn segur, a dylifiad pobl i'r ardal. Ond daliodd Mr. Davies ar ei gyfle yn y cyfnewidiad, ac enillodd lu o'r dyfodiaid i eglwys Horeb, a chadarnhaodd grefydd yn ogystal a'n buddian- nau Enwadol yn y cylch. Hyderwn yr adferir ef yn llwyr yn fuan. (4) Cyhoeddwyd yng Ngwrecsam lyfr bychan o waith y Parch. H. Elvet Lewis, M.A., ar Foreuau gyda'r lesu '—llyfr yng ngwasanaeth defosiwn grefyddol yw. Yr oedd prinder llyfrau Cymraeg da yn y cyfeiriad hwn. Ni chaed nemor i ddim o werth er dyddiau'r hen gyfieithiadau o brif lyfrau defosiynol y byd, megis Y Llwybr Hyffordd,' &c. Cyhoeddwyd rhai o dro i dro yn y blynyddoedd a fu, eithr teimlid fod bwlch o hyd. Gall nad yw wedi ei lenwi eto ychwaith —ychydig fedr ysgrifennu llyfrau o'r fath ond yn y cyfamser y mae'r llyfr bychan hwn yn un annwyl a gwerthfawr iawn. Nis gwn pa faint yw ei bris-iiis gall fod yn fawr. Y mae'n fychan ei blyg, fel y gellir ei gario mewn poced yn rhwydd, a bydd troi iddo cyn myned i'r gwely'r nos, neu pan ddeffroir yn y bore, am ennyd neu ddwy, a darllen pennod ohono, yn wir help. Y mae meddyliau dwys a dyfnion ynddo ynxa a thraw. (5) Ylii mraw ac ym nxerw gwaedlyd y dyddiau hyn, amheuthun yw dod ar draws llyfr neu fudiad neu berson neu rywbeth sy'n help i ddyn gadw ei feddwl gyda chrefydd, ac, yn wir, rhywle o gwmpas ysbrydolrwydd. Yn ystod gwyliau'r haf eleni cefais yn bersonol lawer awr felys odiaeth. Ar brynhawn heulog yn nechreu Medi yr oedd treulio oriau mewn cwch ar Lvn Idwal yn un o'r mwyniannau mwyaf prid. Gyda milwriad ieuanc oedd yn Annibynnwr ac yn Gymro ac yn bysgotwr medrus, a chyda'r Parch Owen Jones, fy nghydymaith hoff o Nant Ffrancon—nxynd a dod ar hyd a lied y llyn, a thair gwialen yn suo dros ymyl y cwch, ac ambell frithyll llachar yn dod at y bluen, ac yn cyrraedd y fasged bysgota yn y man. Nid hawdd anghofio'r prynhawn hwnnw. Hiraethu am awel i grychu'r dwr yr oeddym, ond llonydd a llariaidd ydoedd y llyn. O'i gwmpas ehed'ai ambell wylan unig, wedi dod i fyny o Draeth y Lafan. Yn llwydni'r creigiau o'n cylch yr oedd sypynnau cysglyd o niwl. Yma ag acw gwelem dwr o Saeson anturus, yn feibion ey- hyrrog ac yn ferched mewn peisiau cwta, yn paratoi i ddringo'r crogleoedd serth ac awvdd canu piii oedd arnom ninnau wrth rwyfo a gen- weirio a bachu a chwedleua. Hawdd oedd dweyd nawn cla '-da iawn ydoedd. (6) Treuliais ddydd arall y tuallan i dref Amwythig yn ymweld ag adfeilion yr hen ddinas a adeiladodd y Rhufeiniaid yn y gymdogaeth honno yng nghanrif gyntaf Cristionogaeth. Gel- wir yr hen ddinas yn Uriconium,' ond Wroxeter yw'r enw diweddar ar y pentrefyn llwyd. Gyda fy nghyfaill llengar Mr. John Morgan, Perril Farm, gerllaw Amwythig, a'r Parch. T. B. Evans, gynt o Garno, ond sydd wedi vmsefydlu yn ddiweddar yn sir Amwythig, yr euthum mewn cerbyd o gyfeiriad Broadoak, drwy ardaloedd tlysion odiaeth, ac heibio i gynhaeafau euraidd. Yr oedd ambell bare a chastell yn ymyl y ffordd, a phontydd dros yr Hafren i'w croesi. Drwy Uffington a thrwy Atchain yr aed, yngolwg gweddillion yr hen fynachlog ar y dde, ac o dan goed afalau ac eirin llawn o ffrwyth ar yr aswy. Ond dyma Uriconinni !—un o ryfedd- odau'r byd heddyw, dinas y goresgynwyr, hen gartref y llengoedd, a lie byddai'r gwarchodlu- oedd yn dod i ymdrochi ac i fwynhau eu badd- onau. Adfail candryll sydd yno heddyw, ond hawdd yw olrhain y gwahanol adeiladau a llwybrau. Gwelir y fan lie y bu'r siopan gynt, a lie bu'r ystefyll gwisgo, a'r marclinaty, a'r gorffwystai cynnes gyda'u lloriau o fosaic a'u teils bychain croesffurf. Ond y prif adeilad yno oedd y fortttn-iieuadd fawr y Rhufeiniaid ac y mae un talcen iddi'n sefyll o hyd yn y drycin- oedd. Yn y neuadd honno y cyfarfu'r cynghor- wyr yno y clybuwyd llais yr areithwyr; yno yr oedd y Rhufeiniwr yn son am ei ymerodr- aeth, ac am wrhydri'r llengoedd, ac am astrus elyniaeth y Brythoniaid. Llawer wnaed, llawer ddywedwyd, a llawer deimlwyd yn y llys mawr hwnnw. Y mae priffordd garegog y Rhufein- iaid yn yr ymyl, y tuallan i'r ddinas, ac nid oes ond llusg-gerbydau'r werin ac ychen a defaid y tyddynwyr yn ei thrauxwyo ymron erbyn hyn. Y llwybrau gynt lie bu'r gan '—dyna'r hanes o hyd. Uriconium enwog (7) Ond deubeth arall a welais yn ystod y gwyliau adawodd arnaf yr argraff ddwysaf. Yr oedd yn brynhawn Sul mewn hen dreflan haul

Advertising