Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR. APEL NEWYDD. I. Gwelir fod ein gofod yn dra phrin oher- wydd gorfod ohonom gwtogi a chynilo ein papur. Erfyniwn gan hynny ar i bob gohebiaeth a newyddion gael eu cyfleu mor fyr a chryno ag y bo modd. Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ordeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu hennill heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &e. Ac nid yw manion am wyliau te, cyfarfodydd preg- ethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un fedrwn dderbyn am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddau tu i'r ddalen. I'r fasged yr a. popeth o'r fath, oblegid ni allwn ail-ysgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwn orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yn cadw cyfieithydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei ehyfieithu, &c. 4. Ni allwn ychwaith ufuddhau i'r eyfcillion sy'n anfon atom-yn Saesneg, fel rheol—i wneud crybwylliad am y peth yma neu arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awydd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er mwyn eu harbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ae yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. 5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob llythyr at y Gol- ygydd neu ysgrif fo'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef—17 Gi,ynriioxdda STREET, CAERDYDD. Y GOLYGYDD. Mewn Llaw.-Peniel, Penrhos-Saron, Maes- teg—Trewyddel—Cyfarfodydd y Bobl Ieuaine- H. T. J.—Urddo Gweinidog yn Rhydyceisiaid— Marwolaeth Gynnar Cenhadwr— J ohn jeiikiiis- Cwm Rhondda—Y Drysorfa Gyiiorthwyol- Cyfundeb Lleyn ac Eiflonydd-Cyfundeb Dwyr- ain Caerfyrddin-Cyfarfodydd, &c.

IPOB OCHR I'R HEOL. I

Advertising