Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GLOYWI'R GYMRAEG.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GLOYWI'R GYMRAEG. [Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Rhymney.] Williain.-(a) Beth yw hanes yr s yn yr ymadrodd, Sana i'n gwbod a'r cyffelyb, a glywir mewn rhai tafodieithoedd ? Er mwyn yr anghyfarwydd ni a ddywedwn i ddechreu mai'r ystyr yw, I do not know.' Yn sir Aberteifi fe geir tair ffordd o fynegi hyn ar arfer (a) Sana i'n gwbod ';(&)' 'Dw'i(ddi)m yn gwbod (c) Wn im (' Ni wn i ddim '). Wel, ffurf dreuliedig yr ymadrodd hir, Nid oes dim ohonaf yn gwybod,' ydyw'r ymadrodd Sana i'n gwbod,' a dyna'r dull a arferir fynychaf mewn rhai tafodieithoedd, megis Sano'n mynd am JSfid a,' Sana i'n mynd am Nid äf.' Nid yw'r ymadrodd mewn un wedd arno yn llenyddol. Os defnyddir cylch-ymadrodd o gwbl, yr un cywir ydyw Nid wyf yn gwybo d.' Gyela llaw, nid yw pob cylch-ymadrodd i'w ochel, ac ni ellir chwaitli. Pel y gwyddys, yr un ffnrf yn Gymraeg sydd i'r ferf bersonol presennol a dyfodol. Er enghraifft, fe all af olygu naill ai I go neu I shall go.' Yn wir, ei ystyr yn yiaarferol ydyw I shall go.' Tybiwch yn awr eich bod yn gofyn i rywyn, I ble'r ych chwi'n mynd ? chwi ellwrch gael dau ateb, sef (a) Mi af i'r cyfarfod: neu (b) Yr wyf yn myned i'r cyfarfod.' Nid yr un ystyr sydd i'r ferf bersonol yn y cyntaf ac i'r cylch-ymadrodd yn yr ail. (Felly er bod y gwrthdystiad eyffredin i'r cylch-ymadrodd a dramynychir gan lawer i ysgrifennwr yn gywir i raddau, eto cofier fod yn rhaid ei arfer i ysgrifennu Cymraeg clir, diamwys. Y mae llawer i ferf bersonol ag ystyr ddyfodol iddo, megis af,' rhedaf,' &c. a llawer eraill ag ystyr bresennol (yn ymarferol) iddynt, megis gwn,' adwaen,' &c. a llawer eraill eto a all olygu'r naill neu'r llall. Nid yw'r gwrthdystiad ysgubol yn erbyn cylch-ymadrodd ar unrhyw delerau yn wrthdystiad yn ol gwyb- odaeth. Nid yw'r mater hwn hyd yn hyn wedi cael y sylw a haedda gan ysgolheigion. Yr hyn a ellir ei ddywedyd ydyw, Gochel cylch-ymad- rodd pan ellir mynegi'r meddwl lawn cyn loywed trwy gyfrwng y ferf bersonol. Efallai y caf hamdden i draethu'n helaethach arno ryw ddydd. (b) Paham y condemnir idd yn yr ymad- rodd, Idd eu gweld,' Idd eu Harglwydd," &c. ? Wel, am yr un rheswm ag y condemnid 'erdd yn Erdd eu Harglwydd am Er eu Harglwydd' neu Yndd eu Harglwydd am Yn eu Har- glwydd.' O'r trydydd person iddo,' erddo,' ynddo y daw'r dd. Eithr yn i yn unig y llithra'r dd i mewn, a hynny mewn rhai tafod- ieithoedd yn unig. Trueni mawr yw iddo ddyfod i mewn i un o'n hemynau mwyaf poblogaidd— Yn debyg idd eu Harglwydd Yn dod i'r lan o'r becld." (c) Pa un aiun n neu ddwy sydd yn ynof," ynot," ynom," ynoch ? Mi ddywedais yn bendant rywdro o'r blaen mai un ac nid dwy. (d) Beth yw hanes yr dd mewn rhai tafod- ieithoedd mewn cyffelyb ymadroddion a Ei chloi dd'hi" am Ei chloi hi"; "Mynd i'w rhyddhau dd'hi am Ei rhyddhau hi ? Wel, hyd y sylwais, ar ol geiriau yn gorffen ag i neu u y dodir hi i mewn. Felly mi dybiaf tnai'r anhawster i cynhanu dwy sain i neu u ar ol ei gilydd sydd yn cyfrif am yr dd. Efallai hefyd fod effaith ymadroddion fel Rhoi iddi,' &c., wedi penderfynu i ryw fesur y llyth- yren dd yn hytrach na rhyw lythyren arall. D.D.—' Yr wyf yn sylwi fod rhai ysgrifenwyr diweddar yn ysgrifennu ag am ac yn gyson iawn. Pa awdurdod sydd dros hyn ? fejYn wir, mympwy hollol ydyw ysgrifennu ac o gwbl. Ei gymryd o orgraff y Cymraeg Canol a wnaed, lle'r ysgrifennid c yn gyson am g yn niwedd gair. O'm rhan fy hun, mi garwn i pe gallem gytuno i ysgrifennu nag, ag, yn ddi- eithriad. Nid yw'r gwahaniaeth swyddi' ac a nac ar y naill law, ac ag a nag ar y Haw arall, ond dadl fasw iawn, gan y defnyddir yr un gair mewn ffurf arall yn ei wahanol swyddi, megis yn y brawddegau Na ladd' a Nid Dafydd na Moses.' Nid yw amlder ifurfiau chwaith yn gwneuthur yr iaith yn haws i'w dysgu na'i deall, eithr i'r gwrthwyneb. Chwi sylwasoch, mi wn, y goddefir i c yn y gair ac (ac yno yn unig) i ateb g mewn llinell o gyng- hanedd. Yr unig reswm am hynny ydyw fod miloedd o linellau ar gael cyn gwneuthur y gwahaniaeth rhwng ac ag ag lle'r oedd g yn ag (ac yn yr Orgraff Ganol) yn ateb g arall yn y llinell. Felly, wedi cael ac, yr oedd yn rhaid cyhoeddi'r llinellau gynt yn anghywir neu estyn goddefiad (!) i c yn ac ateb g yn y llinell. Gymaint o aberth sydd raid, onite, i roddi lie i fab anghyfraith (b) Fel y dywedwch, tebyg yw mai dang- gos y dylid cynhanu'r gair dangos,' am mai ei wreiddiau yw dan a 'gos,' fel y daw Bangor o ban a cor.' Nyni'r Deheuwyr sydd yn iawn felly, fel y dywedwch Y mae'n wir ddrwg gennyf i mi golli'ch gofyniadau eraill, ac yr wyf yn methu eu holrhain ymhellach na phawen y gath fach Ysgrifennwch eto. F.J.

Cydnabyddiaeth.I

CYNHADLEDD GENHADOL CYMRU.

Advertising