Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFARFODYDD CHWARTEROL

News
Cite
Share

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFUNDEB GORLLEWIN CAERFYRDDIN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol cliweddaf y Cyfundeb uchod yng Ngwernogle, Awst 23ain a'r 24ain. Yn absenoldeb y Cadeirydd am y flwyddyn, llywyddwyd gan y Parch. William Thomas, Llanboidy. Y GYNHADI/EDD. Gweddlwyd gan Mr. Lloffwr Davies, St. Clears, a derbyniwyd y cofnodion. Y cwrdd nesaf i'w gynnal yn y Priordy, Caer- fyrddin, yn ol y gylchres. Cydsyniwyd a chais y Parch. Robert Griffith, o'r Ty Cenhadol, am gyfle i osod achos dathliad canmlwyddiant cychwyniad y Genhadaeth ym Madagascar ger bron y Gynhadledd nesaf. Penderfynwyd fod dewisiad y pregethwyr ar y pynciau i'w gadael o hyn allan yn llaw y Gynhadledd. Dewiswyd y Parch. D. Peregrine, B.A., Tre- lech, i bregethu ar Werth Gweddi yn Argyf- yngau Bywyd,' a'r Parch. J. Lewis, Blaenycoed, ar fater rhoddedig gan eglwys y Priordy, a'r Parch. Glyndwr Richards, B.A., B.D., Ysgol yr Hen Goleg, i draddodi ei bregeth ar Ddirwest.' (Methodd Mr. Richards fod yn bresennol yng nghwrdd Gwernogle ar gyfrif ei fod yn gweini gyda'r Y.M.C.A. i ran o'r Fyddin yn Pfrainc.) Darllenwyd llythyr y Parch. R. T. Williams, Pant-teg, o Gyfundeb Lerpwl a Manchester, yn yr hwn y Ileferid yn uchel am Mr. Williams fel brawd annwyl a gweithgar. Llefarwyd geiriau croesawgar gan y Cadeirydd ac eraill. Derbyniwyd y Parch. G. Davies, gweinidog ieuanc y lle, i'r Cyfundeb, a dymunwyd yn dda iddo yn ei gylch pwysig. Rhoddwyd llythyr trosglwyddiad i'r Parch. Idris Davies i Gyfundeb Dwyrain Morgannwg. Cydsyniwyd ag awgrym Pwyllgor Adroddiad y Cyfundeb mai annoeth a cholledus fuasai argraffu'r Adroddiad am y flwyddyn ddiweddaf. Methodd Mr. Morgan, Cana, fod yn bresennol i ddarllen ei bapur ar Y Pwys o beidio meithrin ysbryd milwrol wrth geisio gorchfygu'r gelyn.' Cymerwyd y mater i fyny gan y Gynhadledd. Agorwyd gan y Llywydd, a dilynwyd gan nifer o frodyr. Gwnawd defnydd da o'r ainser, a chafwyd cyfeillach ragorol. Terfynwyd gan y Cadeirydd. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd y noson gyntaf yng Ngwernogle a Llidiadnenog. Yr ail ddydd yng Ngwernogle yn unig. Gwasanaethwyd yn y gwahanol gyfar- fodydd gan y brodyr Gregory, Peniel; Jeremy Jones, Cwmllynfell; Thomas, Llanboidy (ar y pwnc rhoddedig gan eglwys Gwernogle—' Dy- ledswydd yr Eglwys yn wyneb yr argyfwng presennol') Evans, Penygraig Williams, Pant- teg Morgan, Philadelphia a Lloffwr Davies, St. Clears. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan y brodyr John, y Wyddgrug, Pencader R. T. Williams, Pant-teg T. H. Williams, Bala-Bangor (gweinidog dyfodol Salem a Soar, Talybont, Dyffryn Conwy) a J. Jones, Coleg Caerfyrddin. Yr oedd Mr. T. Eurig Davies, B.A., Bala-Bangor (un o blant Gwernogle), hefyd yn bresennol. Casglwyd £ 2, 8s. 3c. at drysorfa'r Cyfundeb. Er ddarfod i'r hin droi'n eithriadol anffafriol, cafwyd cynulliadau lluosog ynghyda cyfarfodydd hwylus o'r dechreu i'r diwedd. Cydnabyddwyd Mr. Thomas, Llanboidy, am ei bregeth ragorol ar y pwnc, a'r eglwys am ei charedigrwydd i'r ymwelwyr. Dechreua'r gweinidog ieuanc, Mr. Davies, ei weinidogaeth yn y lie gyda rhagolygon dymunol iawn. Caffed oes hir i wasanaethu ei Feistr, a phob llwyddiant a ddilyno ei ymdrechion. Philadelphia. T. W. MORGAN. I

[No title]

Advertising

LLYTHYRAU .AT FY NGHYD-WLADWYR.

CYFARFODYDD.