Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MERTHYR TYDFIL.

Ymneilltuaeth yn Kinme! Park.

News
Cite
Share

Ymneilltuaeth yn Kinme! Park. GAN Y PARCH. ELLIS JONES, BANGOR. Yr oedd yn ddydd lladd mochyn yma y Saboth, Awst 2ofed. Wedi misoedd o gynllunio a pliaratoi, o'r diwedd mae'r Neuadd Ymneill- tuol wedi ei hagor ac yn ddibetrus tystiwn ei bod yn un o'r adeiladau prydferthaf, mwyaf pwrpasol geir yu yr holl wersyll, ac, yn sicr y mae hefyd yr ehangaf, gyda lie cysurus i ryw fil i eistedd. Ar y dvdd. yr agorwyd hi yr oedd yn orlawn hyd y drysau, ac nid rhyfedd hynuy gan fod pigion Pulpud a Senedd wedi eu gwa- hodd i'r dathliad—neb llai nag Elfed, Idwal Jones, John Williams, Tecwyn, a Lloyd George. Yn y gwasanaeth agoriadol am 11 y bore pregethodd y Parch. John Williams yn fyr, ond yn hyawdl, ar Gyfiawllder yn dyrchafu cenedl.' Elfed ddechreuodd y cwrdd iddo, a dywedodd Mr. George ryw air ar ei ol. Afraid ail-adrodd dim ddywedodd Mr. Lloyd George, gan i'r wasg ddyddiol roi adroddiad cyflawn o'i araith beni- gamp. Yn Saesneg, gan mwyaf, y siaradai, er yn eglur pan gododd ar ei draed y bwriadai annerch yng Nghymraeg. Ond doethach, am y tro, ydoedd ynddo i ddefnyddio iaith yr estron, gan y gwrandawai llu na wyddent air o'r hen iaith, ac yr oedd ganddo genadwri bwrpasol i rai ohonynt. Ond y mae un peth ddywedodd yn werth ei atgofio Nid. wrth ddiystyrru crefydd cenedl y meithrinir y goreu yn ei milwyr. You don't improve the morale of a people by snubbing their shrines 'dyna un o'r brawddegau nad angholir mohoni'n fuan. Nid heb ei eisiau y dywedodd yr areithydd hyn yn wyneb yr enghreifftiau niynych hyd yn oed yn y gwersyll hwn o fechgyn o Gymry Ymneilltuol yn cael eu rhuthro i ddatgan eu hunain yn Eglwyswyr Parchwch grefydd Genedl 'dyna faich yr araith. Cyfeiricxld at ymgais ddewr ond aflwyddiannus y JRegulars i gymryd Mametz. Ar eu hoi hwy dyma'r 38th (y Fyddin Gymreig) ymlaen., a chymerasant y dref. Bid siwr, nid oeddynt gystal milwyr a'r Regulars sut y gall- ent fod wedi disgyblaeth filwrol o ryw ychydig fisoedd yn unig ? Ond meddent un peth mewn graddau uwch na'r NRegulars—3^ peth hwnnw elwir yn morale, Ac i'w crefydd y priodolai Mr. George hyn. Cyfarfod i'w gofio ydoedd hwn. Heblaw y tri chaplan—y Parchn. Edward Jones, Llifon, a Llewelyn Lloyd—gwelwyd nifer o wyr grymus yn bresennol yn mwynhau'r bwyd cryf hwn, yn eu mysg y Cadfridog Dunn a'r Milwriad Cuth- bertson (y ddau o'r gwersyll), Syr Herbert Roberts, Mr. Herbert Lewis, y Milwriad David Davies, Mri. D. S. Davies (Trysorydd y Neuadd) a Simon Williams (Cadeirydd y Pwyllgor). Yn ystod y dydd gwasanaethodd y gwahodd- edigion a ennwyd eisoes yn y gwahanol parades. Arhosodd Tecwyn dros nos rlUl, a thraddododd bregeth Gymraeg yn y Neuadd i gynulleidfa fawr. Y lllae'1' Neuadd yu agored, a bydd mewn llawn gwaith gyda hyn. Yn vchwanegol at ystafell eang i ryw fil i eistedd. yn gysurus, ceir amryw ystafelloedd eraill, megis ystafell gyda dau billiard table ynddi, eraill at ddarllen ac ysgrifennu. Dyma ystafell snug arall lie ca y milwyr lyfrall i'w benthyca. Dyma i chwi eto siop de a thybaeo a phob nwydd buddiol arall; bydd yr adran hon dan ofal eynorthwywyr gwir- foddol. Os bydd gan ryw frawd o'r De neu'r Gogledd wythnos i'w roi, danfoned i gynnyg ei wasanaeth i'r Caplan Edward Jones. Gyda'r dodrefn, costia'r Neuadd ryw £ 2,500 y fan lleiaf. Cyfranna teulu Llandinam £ 1,000 yn un swm at y gwaith ond disgwylir y gweddill, bob yn £500, oddiwrth yr Annibynwyr, y Bed- yddwyr a'r Methodistiaid. Mae'r arian at yr adeilad yn dod i mewn yn weddol. Ceir nifer o eglwysi wedi gwnend casgliad a'i ddanfon i'r Trysorydd; eraill, er fod y casgliad wedi ei wnead, eto heb ei ddanfon yma. Gair distaw wrth y rhai olaf brysiweh i'w ddanfon i'r Trys- D. S. Davies, Y.H., Dinbycli, neu i'r Caplan Edward Jones, Chaplain's Hut, Camp 6, Kinmel Park, Rhyl. Ond y mae mwy o eglwysi heb gychwyu gyda'r casgl. Apelir atynt hwy i beidio gadael i'r cyfle fynd heibio. Mae llawer 0 gannoedd yn eisiau. oddhurth bob un o'r tl'i enwad cyn y bydd y Neuadd yn ddiddyled. A oes gan rywun o ddarllen wyr y TYST piano y teimlai ar ei galoll ei chyflwyno i'r Pwyllgor ? Neu gwell fyth, pwy garai roi swm o arian 3-11 llaw y Pwyllgor i bwrcasu piano ? Darluniau hefyd, i'w rhoi ar y muriau, fydd yn dra der- byniol. Y mae'r Pwyllgor yn awyddus i gad stoc dda o lyfrau diddorol i'w benthyca i'r mil- wyr-llyfran Cymraeg darllenadwy, cofier, neu lyfrau Saesneg, ran hyli-iiy. Ond cofier mai llyfrau sydd eisiau, ac nid ysbwriel nad oes gennych le idclynt yn eich llyfrgell eich httii 'does yma ychwaith ddim lie i'r cyfryw. Ar yr adeg hon, a chyda'r mudiad tra phwysig hwn, gwnaed yr eglwysi eu dyledswydd. Heb- law gwnend daioni, hwy lonnant galon y cap- leniaid Cymreig yn y gwersyll hwn—-brodyr sydd a'u holl galon yn y gwaith, a'r gwaith hwnnw, lawer ohono, o nodwedd lied annhebyg i'r hyn arferent ei wneud yn yr eglw3rsi gartref.

IMAN CH ESTER.

Advertising