Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Peniel, ger Caerfyrd di n.

News
Cite
Share

Peniel, ger Caerfyrd di n. Claddecligaeth BarchiLs.-Ym mynweat Peniel, ger Caerfyrddin, y cymerodd hon le, pryd y daearwyd gweddillion marwol un o blant goreu yr eglwys. Cyfeiriwn at y diweddar Mr John Richards, fagwyd yn Llwynsarnau, dderbyn- iwyd yn aeiod yn eglwys Peniel pan yn ieuanc, ond a ytnsefydlodd yn tfermwr yn Lloegr mewn lie o'r enw Harpley Green yn swydd Worcester. Yr oedd yn ffermwr Uewyrchus iawn, ae o ddylanwad yn y cyleh hwnnw; ond fel dyn crefyddol y mae a tynnom ni fig of heddyw, a gallwn dystiolaethu ei fod yn un o ragorolion y ddaear. Er yn byw yinhlitb. y Saeson, ni pheidiodd a bod yn Gymro trwyadl, a chadwodd at yr hen ddull o grefydda fel y cychwynnodd ym Mwlchycorn a Pheniel pan yn ieuanc. Nodweddid ef fel brawd tawel a diniwed iawn, ond pa agosaf ato yr aid yr oedd ynddo rin- weddau a rhagoriaethau amlwg iawn, a bydd ei goffadwriaeth yn felus gan ei gyfeillion hoff tra y deil eu cof i wneud ei waith. CoUodd ei briod ychydig flynyddau yn oi, a daeth a'i gweddiilion i fynwent Peniel. Tri o blant oedd ganddynt, sef dau fab a iiiereli. Ymnnodd David, y bachgen hynaf, a'r llynges ar ol i'r rhyfel dorri altars, a chollodd ei fywyd ym mrwydr fawr Jutland pan ar fwrdd un o longau mawrion y wlall hon. Tebyg i hynny effeithio ar iechyd ei annwyl dad, gan nad oedd ers blynyddau yn gryf iawn. Ni chafodd gystudd caled, ond hunodd gwsg dydd Gwener, Awst lleg, ac ni ddihunodd yma, ond trannoeth agor- odd ei lygaid yn y byd tuhwnt i'r lien. Y dydd Mawrth canlynol cludwyd ei weddillion yntau yr holl ffordd i Peniel, lie y claddwyd hwynt yn barchus yngwydd ei berthynasau a'i ddau blentyn annwyl, ynghyda chyfeillion cynnes iawn iddo. Yn y capel siaradodd y Parch — Morgans, ei gyn-weinidog; y Parch Wilding (P.M), Bromyard; y Parch J. T. Gregory, Peniel; a'r Parch Stephen Thomas, Salem, Llandeilo. Tystiolaethwyd gan y brodyr am dano fel Israeliad yn wir, ac yr oedd y llythyr dderbyniwyd oddiwrth y Parch H. T. Jacob yn ategn hynny. Gorffennwyd y gwasanaeth tyner hwn gan Mr Wilding. Yna gweddiwyd yn gynnes iawn ar lan y bedd gan Mr Morgans. Mawr gydymdeimlir S'i fab Johnnie a'i ferch Maggie yn eu hiraeth a'u colled. Hefyd, yr un modd estynnwn ein cydymdeimlad A'i frawd, Mr David Richards, Glancorrwg, a'i chwaer, Mrs Davies, Cwmgwili, yngyda'r lleill o'r perthynasau yn eu hiraeth. Canwyd yn Gym- raeg a Saesneg yn ystod y gwasanaeth, a meddiannwyd pawb oedd yn bresennol a, theimladau dwys. Un o blant Bwlchycurn oedd y brawd John Richards, ac yno y dechreuodd ar ei yrfa grefyddol gyda nifer o'i gyfoedion. Nid ydoedd byth yn absennol o'r Ysgol Sabothol, cyfarfod gweddi a chyfeillach yr eglwys, ac yr oedd hefyd yn un o ff yddloniaid cyfarfod y bobl ieuaine, Y Parch Stephen Davies oedd yn gweinidogaethu yno yr adeg honno, ac yr oedd gan yr ieuenctyd barch dwfn i'w gweinidog, cynghorion yrjhwn ni ddiystyr- ent. Gellir dweyd am ein cyfaiJl iddo gychwyn yn dda ac iddo orffen yn fendigedig. Tystiol- aeth o hynny ydoedd ei aelwyd hapus, ei ffyddlondeb i'r achos, ei barch dwfn i holl gan lynwyr lesu Grist, yn enwedig Ei weision a gwell na'r cwbI, ei broflad addfed, diymhongar, o'i gariad at lesu Grist. Deuparth o'i ysbryd ddisgynno ar ei blant annwyl acar bobl ieuaine yr oes sydd yn codi. Salem. STEPHEN THOHAS.

Advertising

IBro Morgannwg.

Advertising