Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
t Y WERS 8AB0TH0L. | 2 Y WERS…
News
Cite
Share
t Y WERS 8AB0TH0L. | 2 Y WERS SABOTHOL. i ? ———— y f Y WEM RYNGWLADWRIAETHOL.$^ 4 I Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., ❖f TREFFYNNON. t 4 MEDI 24ain.Adolygu'r Gwersi am y Chwarter. Y TESTYN EURAIDD. Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethall ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.z Cor. v. 18.
Moriah, Bedlinog.
News
Cite
Share
Moriah, Bedlinog. YMADAWIAD Y PARCH. T. J. JONUS, I Dieithr-beth yn hanes Bedlinog yn ogystal ag yn hanes eglwys Moriah yw ymadawiad gweinidog, ond prin y gellid ystyried ei newydd- deb yn ddigon i gyfrif am y diddordeb a deimlid yn ymadawiad y Parch. T. J, Jones, nac am y ffaith i'r ymadawiad dyfu i fod yn event yngolwg ac ym mhrofiad y lie. Rhaid wrth fywyd a phersonoliaeth a phoblogrwydd yr hwn oedd yn ymadaw i esbonio hyn. Prynhawn Iau, Awst 17eg, trefnwyd cyfle agored i bawb gyfarfod wrth fyrddau te er cael ymgom a'r gweinidog a'i briod cyn ymadaw ohonynt y Llun canlynol, a daliodd tyrfa fawr ar y cyfle. Nos Wener cynhaliwyd cyfarfod ymadawol i anrhegu a chanu ac areithio. Erbyn amser dechreu yr oedd yr addoldy eang yn orlawn. Cymerwyd y gadair, ar ol canu emyn, gan Mr. R. Ingram, diacon, a chacleirydd y pwyllgor tystebu. Wedi gwneud ychydig sylwadau pwr- pasol iawn, galwodd ar y Mri. Thomas Williams a Lewis Griffiths, diaconiaid, i gyflwyno anerch- iad goreuredig a chantedig i Mr. Jones ar ran yr eglwys, yr hyn a wnaethant mewn geiriau oedd yn amlygu eu gwerthfawrogiad o Mr. Jones a'u parch dwfn tuagato ef a'i briod ar gyfrif eu ffyddlondeb a'u cymeriad. Darllenai'r anerchiad fel y canlyn Awst i8fed, 1916. Aiierchiad cylfwynedig i',y Parch. T. J. Jones a'i Briod ar en hymadawiad 0 Foriah, Bedlinog, i ymsefydlu yn yr Unol Daleithiau. ANNWYI, FRAWD,-Wrth ymadael a n gilydd dymunwn ddatgan ein hedmygedd ohonoch a'n gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth. Am bedair blynedd buoch yn ffyddlon i'ch ymrwymiad yn ein plith. 0 hyd yn ddiwyd dros Dduw yw'r frawddeg i ni osod allan eich sel a'ch gweith- garwch dros lwyddiant Teyrnas y Goleuni. Yn yr areithfa buoch ffyddlon i'ch argyhoeddiadau a dyfal i ddeol grawn gwirionedd oddiwrth us ofergoeliaeth, ac ni phetrusech dynnu hen furdd- ynod o syniadau i lawr er mwyn codi adeiladau gwell yn eu lie. Buoch yn gyfaill cywir i bobl ieuainc ein heglwys cawsant le mawr yn eich meddwl a'ch calon, a diau nad anghofia llawer ohonynt eich pryder a'ch gofal am lwyddiant eu dyfodol. Buoch chwi a'ch priod hawddgar yn engyl gwasanaethgar i lawer teulu pan oedd llwydrew'r glyn yn disgyn yn drwm arnynt yn nos angeu. Sychasoch ddagrau'r weddw, a briw- iau'r galon drom a gynnil driniwyd gennych. Bu eich wyneb yn erbyn pob gormes, a'ch dyrnod. ar gadwyni. Y mae i chwi gymwysterau diw- ygiwr cymdeithasol. Y mae eich calon gyda'r dyn o isel radd, ac awydd angherddol ynnoch am ei godi i fywyd gwell. Eich gweddi feun- yddiol yw, Duw gadwo'r Werin.' Yr ydych yn cefnu ar yr Hen Fyd, a Byd Newydd • yn ymagor yn ei ieuengrwydd a'i ehangder o'ch blaen. Da yw hyn, canys y mae eich serch ar yr eang, a'ch llygaid yn wastadol tua'r gorwel. Bellach bydd arian donnau'r Werydd yn ein gwahanu, a chwithau fu mor agos, ymhell; ond erys atgofion melys amdauoch i loywi aelwydydd yr Hen Wlad am flynyddoedd lawer. Duw a'ch bendithio, a bydded i chwi ran fawr yn y gwaith mawr o ddwyn i fewn y ddaear newydd y bydd cyfiawnder yn cartrefu ynddi. Arwyddwyd dros yr eglwys, EVAN THOMAS, RICHARD JONES, JOHN R. Owaft, DANIEL DAVIES, THOMAS WILIIAMS, THOMAS HARRIS, STAFFRON BOIAVFXI,, JOHN C. THOMAS, LEWIS GRIFFITHS, STEPHEN THOMAS, JOHN THOMAS (Ysg.), JOHN BEVAN (Trys.), RICHARD INGRAM (Cadeirydd). Cyflwynwyd drachefn i Mr. Jones gold albert hardd gan Mr. D. Davies ar ran y bobl ieuainc, a goli-mounted umbrella gan Mary C. Rowe ar ran y Gobeithlu, a ffon hardd gan Mr. Thomas Harris, diacon a chyflwynwyd i Mrs. Jones gold necklace a chodaid o aur gan Mrs. Daniel Evans ar ran yr eglwys a chyfeillion, a gold-mounted umbrella ar ran y gwragedd. b Yna galwodd y Cadeirydd ar y Parch. T. J. Jones i ddweyd gair. Yr oedd yn amlwg arno fod y gorchwyl yn un pur anodd. 1 Dymunai gydnabod yn y modd mwyaf diolchgar drosto ei hun a'i briod yr anrhegion gwerthfawr dderbyn- iwyd, a chyfeiriodd yn dyner a thoddeclig iawn at ei berthynas a'r plant a'r bobl ieuainc, ei syniad uchel am danynt, a'i hoffter ohonynt- ac hefyd yr un modd at yr eglwys a'r gynull- eidfa. Da oedd ganddo allu tystio fod ei ddel- fryd a'i fwriad yn hollol yr un wrth yinadael a phan y daeth yno, a disgwyliai eto gael gwlad y Gorllewin yn fanteisiol i'w datblygu ymhellach. Gadawodd ei eiriau argraff ddwys a dwfn ar bawb, a gwnaed llygaid lu yn fiynhounau o ddagrau. Parch. D. R. Williams, Penywern, a ddywedai ei fod yno er dangos ei barch i Mr. a Mrs. Jones. Gallai ddweyd yn awr fel y dywedodd yno ddydd ei sefydliada chredai ei fod yn dweyd y gwir- fod Mr. Jones yn ddarllenwr, yn fyfyriwr ac yn ddyn cryf a thrwyadl. Dymunai iddo ef a Mrs. Jones bob llwyddiant. Parch. H. Ellis (B.), Dowlais, wedi bod yn gyfaill i Mr. Jones, gan ei ddilyn yn yr un camrau ar hyd y blynyddoedd- Yn y Coleg yn cyd- letya cychwyn ar eu gweinidogaeth yr un adeg yn y Gogledd yn ymyl ei gilydd cymryd bob un wraig yr un adeg a dod ar ei ol drachefn i'r Deheudir i Ddowlais, yn ymyl Bedlinog. Dim lie ym Medlinog, neu buasai wedi ceisio dod yno. Wedi ei gael bob amser yn frawd a chyfaill uwchraddol, a chredai fod iddo ddyfodol disglair iawn. Parch. J. Jenkins, Nelson, fel cymydog agos a chyfaill i Mr. Jones, yn credu yr adwaenai ef cystal a neb yn bresennol. Wedi cael golwg ar amcanion a dymuniadau dyfnaf ei galon, a'i cael beunydd yn bur. Yn sicr nad oedd wedi cyfarfod a neb mwy cywir a thrwyadl ymhob dim-yn gyfaill heb ei well a brawd heb ddichell. Gwyddai amdano ei fod yn angherddol am fodloni dynion, ond bob amser yn fwy angherddol am eu llesoli a bodloni Duw. Hiraethai'n fawr wrth golli cyfaill mor hoif a gwerthfawr. Llawen- ychai wrth weled dau mor deilwng a Mr. a Mrs. Jones yn cael eu hanrhydeddu. Y brodyr Richard Jones a Staffron Bolwell, diaconiaid, mewn geiriau pendant a brwdfrydig, a ddygent dystiolaeth i'w hedmygedd diderfyn o'u gweinidog—ei wasanaeth mawr a'i ddylan- wad dyrchafol ar y cylch. Difyr iawn a der- byniol dros ben gan y gynulleidfa oedd dymun- iad Mr. Bolwell am weled Mr. a Mrs. Jones, ar ol tramwy ar hyd wyneb y ddaear, yn dych- welyd fel Abram a Sarah gynt ag Isaac bach gyda hwy. Yn ystod y Cyfarfod rhoddwyd datganiadau gan y cor clan arweiniad Mr. Blackwell, a chan gor y plant dan arweiniad Mr. W. Evans, ac unawdau gan Mr. D. J. Roberts, Nurse Jones, Miss Davies, Mrs. Jones a Mrs. Price. Cafwyd englynion gan y Cadeirydd a Mr. T. Thomas. Derbyniwyd llythyrau yn gofidio oherwydd absenoldeb, a darllenwyd un arbennig oddiwrth y Parch. W. Morton (B.), Bedlinog, yn gyf- oethog o deimladau da ac yn mynegi ei syniad nchel am Mr. Jones fel brawd, cymydog a chyf- aill. Dymunai bob llwydd iddynt ill dau, a gofidiai ei fod yng Ngogledd Cymru, ac felly yn analluog i fod yn y cyfarfod. Darllenwyd hefyd bellebyr oddiwrth y Parch. Huws Jones, Fochriw —yntau ar ei wyliau fel eraill. Mewn teimladau cymysgedig felly o brudd-der a llonder, hiraeth a gobaith, ,y dygwyd i'r terfyn ac yr ymwahan- wyd o gyfarfod ymadawol eithriadol dyner a chryf. Pregethwyd a gweinyddwyd y Cymundeb y Saboth dilynol am y tro olaf cyn ymadael gan Mr. Jones, a bydd i'r effeithiau dwys yn ddiau aros byth. Bore Linn daeth yr holl bentref allan, nes gorlenwi'r orsaf, er dal ar y cyfle olaf i ddangos eu parch a dymuno'n dda iddynt wrth ymadael gyda'r tren am Lynlleifiad. Ffarwel mewn ymdrech galed oedd hon, a theilwng o wr wedi cael ei adnabod fel gwr Duw, ac o briod llawn mor deilwng. Nodded y Nef fyddo drostynt, a bendith y Net a'u dilyno yng ngwlad fawr y Gorllewin. A chaffed yr eglwys ym Moriah lawenydd mawr wrth fedi o ffrwyth eu llafur, a gras mawr i barhau yn ffyddlon i'r Pen-bugail, a heddwch mawr i fwynhau llwyddiant maith. J.
I - CYFARFODYDD. !
News
Cite
Share
I CYFARFODYDD. SEVERN-ROAD, CAERDYDD. Ag Elfed (' a'i felled fin') ar ei uchel fannau, hyfryd a thrwm oedd y gwlith yn y eyfarfodydd blyn- yddol, Medi 3ydd a'r 4ydd Cadwodd yr anwydwst y Parch. S Dorfil Jones, B A, rhag cynorthwyo, a chaed gwasanaeth Mr Lewis ar hyd y gyfres. CEFNCRIB--Cynhaliwyd eyfarfodydd blyn- yddol eglwys Gynulleidfaol Capel-yr Ynys, Cefncrib, Pontypool, dydd Sul, Medi 3ydd, pryd y cafwyd gwasanaeth rhagorol y Parch, | D. Johns, Canaan, Maesteg. CAPEL SEION, GLAIS. Cynhaliodd yr eglwys uchod ei gwyl bregetha nos Sadwrn a dydd Sul, Medi'r 2il a'r 3ydd, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch Roland Evans, Llanelli. GLANDWR TAP.—Cynhaliwyd y cyfarfod- j ydd blynyddol Sul a Llun, Medi 10fed a'r lleg. Pregethwyd gydag arddeliad amlwg gan y Parchn Keri Evans, M.A., ac Ogwep Griffith. ETHARAN, BRYNMENYN.Gweinyddwyd yng ngwyl flynyddol yr eglwys hon, y Sul a'r Llun cyotaf ym Medi, gan y Parchn D. J. Moses, B A., Tycroes, a T. Gwilym Jones, B.D., Penybont. Cafwyd gwenau'r net ar yr odfeuon BETHAN1A, CWMOGWY.—Y Sadwrn a'r Sul cyntaf ym Medi bu y Parch J. Lewis Williams, M.A., B Sc., Aberystwyth, yn tradd- odi gwirioneddau a, min yr Ysbryd arnynt i dyrfaoedd lluosog.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENr, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. EDWARDS-DAVIEs.-Bore Sadwrn, Medi 2il, yn Ebenezer, Trelewis, Morgannwg, gan y Parchn Tawelfryn Thomas, Groes Wen, a T. Jones, Seng- hennydd, y Parch D. W. Edwards, B.A., Penmain, Mynwy, a Miss Lettice Davies, Maesybryn, Trelewis, merch y diweddar Mr a Mrs John Davies, Maesybryn. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr David Davies, a gwasan- aethwyd arni gan ei chwaer, Miss Bessie Davies. Y Parch J. Davies, Grangetown, Caerdydd, oedd y gwas priodas. Ar ol y boreufwyd priodas aeth y par dedwyddam eu gwyliau priodas i Ogledd Cymru. Derbyniasant nifer laosog o anrhegion. REKS-WILLIAMS.—Awst liieg, yn Gilead, Coity, ger Penybont-ar-Ogwy, gan y Parch G. R. Griiiitbs, y gweinidog, Mr J. D. Rees, Maesgwyn, Bryncethin, gweinidoEgd, ith Williams, ail ferch Mr a Mrs H. a Miss Williams, Bryncethin Fawr. Pan ar egwyl o'r wersyllfa yr unwyd y priodfab a'i gariad-ferch. Adnabyddir teulu Bryncethin Fawr trwy'r Enwad am eu sel frwdfrydig ynglýn a, Theyrnas yr Emanuel, a pha broffwyd i'r Goruchaf na wyr am eu lletygarwch a'u sirioldeb digymhar ? MARWOLAETHAU. EVANS.—Prynhawn Llun, Awst 21ain, ar ol misoedd o gystudd caled, Mrs Margaret Evans, gweddw y diweddar John Evans, Gernos, plwyf Llandudoch, Penfro, yn 61 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigol o blwyf yr Eglwyswen, ac yn aelod gwreiddiol o eglwys Penygroes. Dygwyd hi i fyny yn yr un awyrgylch a Chaleb Morris fawr o Lundain a'i brawd, sef yr Athro D. Tyssil Evans, M.A., gafodd y fraint o ysgrifennu coflant y dyn eithriadol hwnnw- Hanai Mrs Evans o deulu enwog am ei dalent a'i grefyddolder, ac yr oedd hithau yn deilwng iawn o draddodiadau goreu'r teulu. Nod- weddid hi er yn ieuanc gan wybodaeth Ysgrythyrol eang, barn dda, duwiolfrydedd ysbryd, ffyddlondeb diball i grefydd, a phurdeb cymeriad. Bu'n aelod crefyddol disglaer, yn ferch ufudd, yn chwaer garedig, yn wraig rinweddol a mam dyner a gofalus. Gwelodd golli ei phriod dair blynedd yn ol, a der- byniodd ei brawd, yr Athro Tyssil Evans, i'w chartref wedi i'w iechyd ballu. Gweithiodd yn galed, a diau i hynny fod yn help i'w darostwng yu gynnar i'w bedd. Tua deuddeg mlynedd yn ol daeth i fyw i fferm y Gernos, yn ymyl y mor, ar y Cipyn, ac ymaelododd yn eglwys Brynsalem. Teulu Ilawn ym Mrynsalem fu teulu'r Gernos am sawl blwyddyn. Nid ar frys yr anghofir gwreiddioldeb dywediadau ei thad, Stephen Evans, hyawdledd ei phriod a'i sirioldeb hithau. Colled i Frynseion fu marw y tri hyn. Aed a'i chorff i'w gladdu i Benygroes. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. W. H. Jones, (B), Gerazim, a'r Parch. T. E. Jones, gweinidog newydd Brynsalem a' Threwyddel. Yn y capel, gwasanaethwyd gan y Parchn. E. J. Lloyd, Llan- dudoch; H. T. Jacob, Abergwaun; T. E. Jones a D. Myddfai Thomas ac ar lan y bedd gan Mr. J. Lewis, ysgolfeistr, Trewyddel, a'r Parch. J. D. Evans, periglor Eglwyswen. Er fod y pellter o'r ty i'r fynwent yn fawr, a'r tywydd yn wlyb, trodd trigolion Cipyn allan yn hynod luosog i'r gladdedig- aeth. Y prif alarwyr oedd mab a merch, a Mrs. Forrester, Pontfaen, ei chwaer, yr hon a fu'n dyner wrthi pan yn rhodio'r glyn. Hyfryd yw gweled y mab a'r ferch yn harddu crefydd y teulu mor ddisglaer. Cysgod Duw a'i dangnef fo trostynt yn eu hamddifadrwydd.—Cyfaill y Plant.