Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

Advertising

Y Parch. Robert Griffith a'r…

Advertising

Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

egau Cenedlaethol o gwbl. Mae Saesneg a Chymraeg, Groeg a Lladin, Haiies a Moeseg, Mesuroniaeth a Meddyleg, yn rhan o gwrs pob pregethwr sy'n graddio, ac felly yn rhan, hanfodol o'i baratoad at y weinidogaeth ac os am beidio codi ein pregethwyr ar draul y wlad, rhaid rhoi stop bnan; ar hyn i gyd. Y fath fetish ffol ydyw gau-gysondeb, onide ? Byddai'r peth yn chwertliinllyd oiiibai fod yr amcan y defnyddir ef i'w gyrraedd mor bwysig a difrifol. Beiddiwn ddywedyd na chlyw- sid son am ffiloreg o'r fath onibai yr ystyrrir unrhyw fath ar bastwn 3-11 gy- mwys. os helpa i gario'r dydd. Ac wedi'r cyfan., oni thelir y pris rheolaidd gan ein myfyrwyr diwinyddol am liyn oil, yr un fath yn union ag y gwnafmyfyrwyr am alwedigaethau eraill ? (2) Ond sut y penodir athrawon yn y canghennau hyn heb roi test crefyddol arnynt ? Yr un fath yn union ag y pen- odir athrawon Hebraeg yn awr. A dylid cofio mai nid ynfydion digrefydd sydd yn penodi athrawon. Mwy na hynny, nid yw yn debyg y bydd byth ymgeisydd digrefydd am y fath gadeiriau. Ac' os bydd, buan y canfyddir hynny, hyd yn oed dan yr amodau presennol. Eithr nid oes dim a rwystra ffurfio trefniant ne-wvdd i wneuthur penodiadau o'r fath. Gellid defnyddio'r Bwrdd Diwinyddol i'r diben yn dda. Anhawster dychmygol ydyw lawn i gyd, ac ni theimlir dim oddiwrtho ym mhrifysgolion yr Alban ac America a gwledydd eraill. (l'w barhau.)