Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. CAN EYNON. Pan oeddwn i yn nhawelwch a diogelwch Llandrindod y Sul diweddaf, yr oedd aelodau y teulu yma yn cael amser bywiog dros ben yn herwydd dyfodiad y Zepps i dorri ar ein hedd. Rywfodd y mae Llundeinwyr yn cyncfino a'r creaduriaid cas hyn sydd yn ehedeg ar adenydd y nos o'u llochesau yn Germani i dyVallt bombs ar hen wragedd a phlant yn y wlad lion. Gwel- som Zepps o'r blaen lawer tro yn hedfan uwch ein pennau, clywsom dwrf en peiriannau yn nyfnder nos, a gwelsom hwy yn tywallt bombs ar Croydon a Greenwich ond bore Sul diw- eddaf cafwyd golwg ar un ohonynt yn disgyn fel Lucifer o'r uchelder i lawr. Aeth un o'n bechgyn ni i fyny ar aden peiriant bychan— hornets yw'r enw poblogaidd arnynt-a dacw hi yn ornest fry tua deg mil o droedfeddi uwch- law'r ddaear—a'r hogyn un ar hugain oed a orfu Rhoddodd y concern melltigedig ar dan, a daeth i lawr yn ffagl i'r ddaear gerllaw Enfield. Collodd rhyw bymtheg o'r gelynion eu bywydau mewn ffordd arswydus iawn. Rhwygwyd yr awyr ganol nos gan fanllefau'r torfeydd am fod gwyr y Zepps o'r diwedd wedi cael eu haeddiant. Yr oedd capten y llong hon wedi hen haeddu ei dynged, am ei fod droion wedi ymweled a ni ar ei negeseuon melltigedig. Bu efe a'i griw yn angeu i lawer mam ddiniwed a llawer o blant bach. Drannoeth y gyflafan hon croch- lefai llawer drwy gyfrwng y wasg am roddi iddynt gladdedigaeth cwn; ond, er mawr an- rhydedd iddynt, trodd yr awdurdodau glust fyddar atynt, a chafodd y pymtheg eu claddu yn barchus,. er, wrth reswm, nad oedd fawr dagrau yn yr angladd. Ac felly gorffwysant oddiwrth eu llafur creulawn, druain ohonynt, ym mynwent fechan Potter's Bar hyd y dydd pan fo'r Kaiser a'i luoedd gwaedlyd yn sefyll ger bron y frawdle. Hoffwn i ddim sefyll yno yn ei le. Bydd gwaed gwirion miliynau yno'n llefain am ddialedd y bore hwnnw, ond fe wyr yr Hwn fydd ar yr orsedd sut i wneud cyfiawn- der. Mae'r Babiloniaid yn falch iawn ein bod o'r diwedd wedi cael un o'r adar duon yma i lawr. Hwnna yw ein teimlad pennaf ar hyn o bryd. Prawf ein bod yn byw mewn amseroedd enbyd yw'r ffaith fod y pwerau mawr wedi awdurdodi rhywbeth fel yr hen press gang yn y dyddiau diweddaf hyn. Gwyddys yn reit dda fod yna lawer creadur slim wedi gallu osgoi'r rhwyd ac heb ei ddal, gan adael i bobl eraill ymladd drosto. Bellach gosodir rhwyd wrth enau y sach, a phan fydd torf yn cyfarfod i ymddi- fyrru yn y ddinas hon, gofviinir i bawb ddangos ei gerdyli--fod ei enw i lawr ar y memrwn. Yn y fel hyn ca ami un ei ddal. Ar yr un pryd, pwy feddyliasai y gwelsid dim o'r fath beth mewn gwlad rydd fel hon ? Ond dichon, gan fod tynged y ddynoliaeth yn y glorian, nad yw iawn achwyn a gwrthdystio. Digon yw dweyd ar hyn o bryd fod y llanw milwrol wedi troi mewn ffordd ddigamsyniol. Mae lluoedd y fall yn digalonni, er nad yw'r diwedd eto, y mae'r diwedd yn y golwg. Mae dyfodiad Roumania—Roumania ofnus a goiallis-yn dangos ei bod hi weithian yn gweld yn bur eglur sut y mae'r fantol yn troi. Mae Groeg yn cloffi rhwng dau feddwl o hyd, a'r brenin yn anghytuno a'i bobl. Venezelos yw dyn y bobl, a dichon mai un o ganlyniadau'r rhyfel fydd hyn y bydd pobl Groeg a mannau eraill yn dechreu holi pwy sense sydd mewn rhoddi awenau gwlad mewn dwylaw fel dwylaw Tino, brenin Groeg. Mae'n bryd iddo gael notice to quit rhag blaen cyn i bethau fyned yn anobeithiol. Nid oes neb sydd yn adwaen Ben Tillett yn synnu dim at ei araith flagardus yn y Trades Congress. Nid oes fawr gyclyrndeimlad erioed wedi bod rhwng Tillett a'r galluoedd crefyddol. Nid sant mohono. Un bychan o ran corff ydyw, ond y mae ganddo dafod-a siarad yn ffigyrol-- fel trwnc elephant. Ymosod yr oedd ar weinid- ogion crefydd am eu bod yn cael eu hesgusodi rhag trin arfau, ac yr oedd am eu hanfon allan ar unwaith pe cawsai ei ftordd. Ni ddywedodd hanner gair am y cannoedd sydd yno eisoes— yn wynebu angeu, ac amryw wedi myned i fewn drwy'r porth cyfyng. Bu Ben Tillett yno y dydd o'r blaen fel arweinydd Llafur, yn cael ei gario o fan i fan mewn motor a'i dderbyn fel pendefig. Nid oes hanes ei fod ef wedi cael unrhyw fedydd tan. Na rhedeg yn ol wnaeth i areithio ar weithredoedd gwrol pobl eraill. Os yw'r angen mor fawr, paham na wna'r gwron dewr hwn ymrestru rhag blaen, ac ennill ei Victoria Cross ? Dyna iddo wedyn hawl i dafodi pobl ydynt gan mil o weithiau yn well dynion na Ben ei hun. Credyd mawr i weith- wyr y deyrnas hon nad ydynt erioed wedi rhoddi iddo siawns i chware pranks yn y Senedd. Meddylier am Senedd o Ben Tilletts Bobi annwyl Wrth deithio Cymru yn ddiweddar sylwais, fel y pryderai llawer am ein dyfodol fel gwlad. Beth am Ryddfrydiaeth Cymru ? Ddaw yr hen Aelodau Seneddol yn ol i Sant Stephan ? Beth fydd y programme newydd ? Mae'r hen ffiniau wedi eu dileu lawer ohonynt gan y rhyfel mawr. Bydd Home Rule a Datgysylltiad allan o'r ffordd, oblegid nid yw'n debyg yr adgyfodir hwy o'r bedd gan nad beth yw bombast y gelynion. Un o bynciau mawr y dyfodol fydd pwnc y tir. Ni chaniateir i'r hen ddeddfau gorth- rymus ydynt wedi cloffi a llyffetheirio ffermwyr y gorffennol wneud yr un trie efo flermwxT y dyfodol. Yna rhaid talu sylw i bwnc yr Income Tax. Ar hyn o bryd y mae'r baich yn pwyso'n annheg iawn. Diolch i'r hen gawr, Syr Vernon Harcourt, fe agorodd ef gil y drws ond bydd galw yn y dyfodol agos agos am ragor o gyf- iawnder yn y mater yma. Nid oes sjmnwyr fod y gwr sydd a chanddo fryniau o aur coeth ,yn cael hawl i'w pentyrru ar ei gilydd pan y mae angen a thlodi lond y wlad. Mae yna lawer i apostol eithafol fel Mr. Sydney Webb yn cynnyg treth o rhyw un swllt ar bymtheg y bunt ar bobl fel hyn ond hef yd, ar dir chware teg, yn hawlio fod i'r dyn tlawd hefyd dalu ei geiniog y bunt, mwy neu lai, fel danghoseg ei fod yn cario ei ran o'r baich fel dinesydd gonest. Ar ol i'r rhyfel ddarfod cyst i ni flynyddoedd maith i osod trefn ar ein ty. Mae yna amryw Bwyllgorau ar waith 3m breseunol yn ceisio trefnu ar gyfer y dydd pan fyddo ein dewrion yn dod yn ol i ail-gydio yn eu gwaith. Bydd eisiau lleoli rhyw bum miliwn ohonom rhwng popeth Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn ? Lloyd George, medd y mwyafrif. Efe yw dyn Rhagluniaeth. Wel, 'Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ac ond i ni fel teyrnas gofio hyn, a dilyn y golofn, nid oes raid i ni ofni. Hen- ffych i'r dydd, medd pawb, pan fyddo angel heddwch yn cyhoecldi dros Jwrop a'r byd fod y wawr yn torri a'r dydd gerllaw. Diolch fod y Llaw anweledig yn ysgrifennu ar galchiad y pared y dyddiau hyn fod dyddiau'r Kaiser ymron ar ben.

I CYFARFODYDD CHWARTEROL