Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

POB OCHR I'R HEOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

POB OCHR I'R HEOL. (1) Llongyfarchion yr Enwad i'r Parch. John Ellis Williams, Pendref, Bangor, ar ei waith yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Aberystwyth. Rhedodd yn dda am dani droion o'r blaen, a daeth iddi'r waith hon. Nid oedd neb a'i hadwaenai'n ameu am foment awen dawel ein hannwyl frawd, a'i fedr i gynganeddu yn Ian a chwaethus a chelfydd. Profedigaeth Mr. Williams yw gor-dawelwch, a chilio o'r golwg yn yswil. Y mae ar hyd y blynyddoedd wedi rhoi gormod o ffordd i'r ysbryd ymneilltuo- profedigaeth lied ddieithr i rai ohonom. Buasai cael y ddegfed ran o'r duedd hon fel y mae ynddo ef yn chwyldtöad aruthrol ym mywyd ambell un ohonom sydd yn llai ein gallu nag ef. Cafodd yn yr wythnosau ag y cadeiriwyd ef wraig ieuanc lednais o gyff da-cyff Dr. Roberts, Gwrecsam gynt. Gofaled Mrs. Williams mwy na chaiff ei phriod awengar ymguddio gormod, a bydd honno'n gymwynas a'r Enwad yn ogystal ag a'i phriod ei hun. (2) Ym mynwent Glanadda, Bangor, y mae bedd y diweddar Athro J. Morys Davies, M.A., o Goleg Bala-Bangor, heb ddim arno ond ty- warchen. Dechreua'r blynyddoedd gerdded er pan gladdwyd ef. Bu farw yng Ngorsedd y Beirdd, fel y cofir, pan gyhoeddid Eisteddfod Bangor dair blynedd yn ol. Dyn ynghanol ei ddyddiau ydoedd y Proffeswr Davies. Ar ei ol claddwyd ei briod cydorweddant yn y llecyn hwnnw yng Nglanadda. Yn awr, y mae'n chwith gweled bedd yr Athro cydwybodol ac egniol heb faen na chofnod o fath yn y byd arno. Gad- awodd fab a merch ar ei ol. Nis gwn a allant hwy o dan unrhyw amgylchiadau ddodi maen ar fedd eu tad yn fuan, a dweyd y lleiaf. Ac yn y gladdfa fawr hon, o gwmpas ac yn ymyl y Proffeswr Davies, y mae llu o athrawon y gwa- hanol golegau a gweinidogion y gwahanol cn- wadau'n gorwedd, a meini heirdd ar eu beddau oil. (3) Yno y mae Dr. Gethin Davies, pennaeth Coleg y Bedyddwyr gynt, ac Edward Evans, gweinidog Penuel (B.), Bangor. Yno y mae Vulcan a Glanystwyth a Dewi Mawrth a Samuel Davies a'r Dr. William Davies ac Owen Williams a Robert Jones—gweinidogion y Wesleaid, a cholofnau urddasol ar eu beddau. Yno y mae Dr. Herber Evans a David Williams, y Garth, a T. Gascoigne, M.A., ein gweinidogion ninnau, a'u beddau o dan gerryg heirdd. Yno y mae Eames-Williams a John Mostyn Jones ac eraill, Fethodistiaid teilwng, a'u gorweddfannau wedi eu trwsio'll deilwng. Eithr y mae bedd y Proff. J. M. Davies heb do iddo namyn y briddell, ac heb addurn iddo narnyn y glaswellt, ac heb ddim i ddweyd bedd pwy ydyw. (4) A gaf fi apelio at garedigion ein cymwynas- wyr ac at wyr tyner ,teimladwy a meddylgar en Henwad i wneud y diffyg i fyny ar fyrder ? Chwith gennym feddwl am beth fel hyn. Y mae'n ddolur i'r galon. Gwr tawel, gweithgar, sobr a dwys oedd y Proffeswr. Bu llu mawr o fyfyrwyr o dan ei hyfforddiant, ac nid oedd neb ohonynt nad aeth y gair am ei farw disyfyd fel brath drwyddo. Ychydig bach gan bob un ohonynt hwy ynghydag eraill a sicrhai faen gweddaidd. Nid oes eisiau rllodres-pell oddi- wrth ysbryd ac anianawd y ProfEeswr Davies fyddai hynny. Ond maen glanwaith a gweddus —-dyna i gyd. Pe y teimlai rhywrai ar eu calon roi ychydig at hynny, mi a'i derbyniwu yn ddiolchgar, ac a wnawn, gydag eraill, y trefu- iadau'u rhwydd i sicrhau coff ad am yr Athro. Yn ddiau efe a haedda hyn, a gwyn fyd yr Enwad sydd yn mawrhau coffa ei oreugwyr (5) Aeth Mrs. Towyn Jones i sefydliad iech- ydol yn St. Deonard's-on-Sea rai wythnosau vn ol bellach, a da gennym ei bod yn gwella, a bod pob arwyddion o adferiad sicr. Siriola hyn ei theulu oil—Mr. Towyn Jones, A.S., a'r ddwy ferch-a bydd y llu mawr a fwynliaodd lety- garwch dibrin Mrs. Jones yn falch o'r llewydd. Un o ragorolion y ddaear yw hi-gwraig ddi- ymhongar a diabseu hollol, ac un neges yn unig i'w bywyd gwasanaethu ei Harglwydd ac wrth Ofalu am hynny, gwneud pawb a phobeth o'i chylch mor ddedwydd ag y gallo. Ymhob dull a modd rhoes ei goreu i Mr. Towyn Jones a'r plant, a chofia pawb arall am ei thynerwch a'i pharodrwydd i roddi a gwneud gymaint allai er eu mwyn. Melys yn wir yw deall am bobl dda yn dod allan o afaelion cystuddiau. Bydd y wlad oil yn well ohonynt. (6) Troi eu golygon at Gymru y mae'r eglwysi Cymraeg sydd yn weigion yn America, gan obeithio gallu hudo brodyr oddiyma atynt yn weinidogion. Nid am nad oes frodyr da odiaeth eisoes yn y Taleithiau, ond am fod nifer y gwein- idogion Cymreig sydd yno yn fach. Y mae gweinidogion rliagorol yno, fel yr ysgrifennais o'r blaen lawer gwaith, ond mai ychydig yw rhif y Cymry sydd yno ar gyfer gwlad mor eang. Rhoes y Parch. Ifor Thomas ofal y ddwy eglwys Gymraeg ym Mangor a Bwlchygwynt (Wiudgap), Pennsylvania, i fyny, ac y mae'r eglwysi am gael brawd o Gymru drosodd, os gallant. Eglwysi cylines, caredig yn ardaloedd y chwareli llechi yw'r rhai hyn. Y maent o faint pur dda, ac mewn lleoedd tlysion, a chalonnau brwd yn y cynulleidfaoedd. Gweinidog cymharol ieuanc fyddai oreu. Nid wyf yn meddwl mai doeth fyddai i neb fynd i fyw i America wedi pasio canol oed rhyw lawer. Rhaid iddo hefyd fod yn ddigon o feistr ar y Saesneg i allu gweinyddu yn yr iaith honno yn awr ac yn y man; ond Cymraeg yw'r achosion. Welais i nemor i neb yn fwy dedwydd na Mr. Ifor Thomas, ac yr oedd yn un o'r brodyr anwylaf a inwynciddiaf yn y wlad oil. (7) Cydymdeimlir a Phedrog yn ei waeledd gan bawb, yr un modd ag y gwneir a Golygydd y TYS'C—Mr. H. M. Hughes. Mae rhyw hyrdd- iau o afiechyd yn dod o hyd i ni oil yn ein tro. ond ceir hynny allan yn lied fuan yn hanes dau ysgrifennydd medrus fel y brodyr hyn. Collir eu hysgrifau yn fuan, a bydd bwlch. Hyderwn mai rhyw hyrddiad am dro yw, ac y ceir eto nodion Pedrog a llithroedd arweiniol H.M.H. yn y Brython a'r TYST. (8) Y mae cymdeithas newydd semi ar gael ei ffurfio. Ei henw yn ddilol yw, Cymdeithas Siarad Cymraeg, a'i nod yw, cael pob Cymro a Chymraes i beidio siarad dim ond Cymraeg a phawb sydd yn Gymry. Lie bynnag y bont I-yn y coleg, ar yr aelwyd, yn y siop, yn nrws y capel, ar y fford.d fawr, mewn pwyllgorau— peidio siarad dim ond Cymraeg gyda Chymry. Os llwyddir i gael pobl ieuainc y genedl i ymuuo a'r Gymdeithas hon ac i gymryd y llw syml fydd yn eu gwneud yn aelodau ohoni yna bydd anhawster mawr y genedl ynglyn a chwestiwn yr iaith wedi ei Iwyr benderfynu, canys pobi ieuainc y wlad heddyw fydd ei rhieni yn fuan bellach ac unwaith y dechreuont siarad Cym- raeg a'u gilydd ac a phawb o'u cydnabod, daw y petli yn ail natur iddyut, a dygir ef ymlaeu yn ddidrafferth ar yr aelwyd gyda'u plant gan- ddynt yn y man. (9) Goreu po symlaf i'r Gymdeithas fod o ran enw ac amodau a phopeth. Ceisir cael rhywrai ymhob ardal i gymryd at gasglu enwau y rhai parod i ymuno a Chymdeithas Siarad Cymraeg, a cheir rhai felly yn y prif golegau a'r ysgolion uwchraddol a chanolraddol. Yr 1111 modd yn yr eglwysi. Disgwylir i'r peth gymryd a diau mai yn y lleoedd lie y tybir y bydd claiarineb— yno y ceir y brwdfrydedd mwyaf. Os sicrheir amcan y Gymdeithas hon, gwnaiff fwy o les na'r un gymdeithas wladgar arall sefydlwyd yng Nghymru ers cenedlaethau. Digwyddais son am dani mewn ambell fan yn ddiweddar, hyd yn oed mewn trefi Seisnig, a syndod mor frwd o'i phlaid yr elai pobl ieuainc ar unwaith. Yr oeddynt oil yn awyddus i ddodi eu henvvau i lawr. Gallswn fod wedi casglu cannoedd o enwau gyda'r rhwyddineb mwyaf. Os yw hyn yn wir am y wlad oil, dyma'r diwygiad a chwen- ychir ar fedr dod yn ffaith dan ein llygaid. Nid oes modd achub y Gymraeg heb fudiad fel hyn. (10) Yn y tri Choleg Cenedlaetliol y mae'r Gymraeg mewn bri, a'i dosbarthiadau yn cael S}dw mawr. Hawdd, gydag ychydig of al, fydd cael y Cymry ieuainc yno i ymuno. ac yn y colegau eraill yr un fath. Oddiyno gellir symud i sefydliadau eraill, ac y mae cymaint o eisiau hyn yn yr eglwysi ag yn unman. Gellir rhoi dadleuon yr orgraff heibio, a'r helyntion llen- yddol ac eisteddfodol oil. Un nod synil fydd i'r cwbl—achub y Gymraeg, a hynny drwy i ni oil ymrwymo i beidio siarad dim ond y hi a'n gilydd. Aed popeth arall o'r natur yma ffordd y myuno. Dyweded y Saeson a fynnont-dim o bwys i ni. Cael y Gymraeg yn iaith llafar hefyd, nid yn iaith llyfr nid yn iaith dosbarth mewn coleg ac ysgol, ond yn iaith ty ac heol a marchuad a gwaith. Dyna sydd eisiau. Y mae hyd yn oed adfer crefyddoldel- Cymru iddi yn dibynnu mwy ar yr iaith nag a feddylir fel rheol. Pwy, ynte, sydd am ymuno'n ddioed 3.'r Gymdeithas newydd ?—-CYMDEITHAS SIARAD CYMRAEG. GWYI,FA.

TREFFYNNON.