Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Ebenezer, Caerdydd.

CVFROL JIWBILI.

IY BLWYDDIADUR. ;

News
Cite
Share

Y BLWYDDIADUR. At Olygydd y Tyst. SYR,—Wrth ddarllen cais y Parch. D. H. Williams, Barry, parthed dygiad allan y Blwydd- iadur Cynulleidfaol, daeth imi awydd i daflu allan yr awgrym a ganlyn. Y mae'n amlwg fod cryn gwyno ar droad allan y Blwyddiadur yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd y gwaith o wahanu'r dail oddiwrth ei gilydd y fath boen a thrafferth, nes digio ohonom wrth y llyfr cyn ei ddarllen. Hawdd yw beirniadu a chwyno. Beth am y fecldvgiiiiaeth ? Tybiai, syr, ei fod yn fwy na chwestiwn o well papur a dau olygydd, ac na cheid y gwelliant angenrheidiol pe ceid hynny, a dim ond hynny. Ai nid un achos o'r drwg yw hyn—ein gwaith yn cerdded ar hyd yr un llinellau o hyd, pan mae amgylchiadau newyddion a chynnydd y gwaith yn hawlio cyf- newidiad ? Rhennir y Blwyddiadur i ddwy ran (I) Y dyddiadur, (2) Y croniel o wybodaeth Enwadol. Oni ddaeth yr adeg i ysgaru'r ddau hyn oddi- wrth ei gilydd, neu i gyfyngu ein sylw at un ohonynt ? Ai nid ofer ydyw cynnyg cyflawni'r ddau waith hyn mewn llyfryn digon bach i fynd i'r llogell ? Am y Blwyddiadur Cynulleidfaol fel dydd- iadur, nid ydyw y goreu heddyw am ei fod yn rhylfawr i'w gario'n esmwyth yn y llogell. Hefyd y mae cymaint o ddewis heddyw o ddyddiad- uron bychain a defnyddiol. Casglaf fod nifer y rhai brynant y Blwyddiadur er mwyn y dydd- iadur sydd ynddo yn mynd yn llai o hyd. Hyd y sylwais, rhai eraill sydd gan weinidogion ac ysgrifenyddion yr eglwysi gan mwyaf yn eu llogell au. Am y Blwyddiadur fel cronicl o wybodaeth Enwadol, onid yw'r Enwad a'r Undeb wedi tyf:u'n fwy nag y buont, a'u llwyth wedi trym- hau ? eto ceisir croniclo pob gwybodaeth yn eu cylch mewn Ifyfryn o'r un faintioli a phan oedd yr Enwad a'r Undeb lawer yn llai. Tyfodd yr Eirwad yn rhy fawr i'w wthio i'r boced. Beth am gyhoeddi dau lyfr blynyddol-un ohonynt yn ddyddiadur hylaw, gan gynnwys ychydig gofnodion o brif ffeithiau ynglyn a'r Enwad, a'r llyll—-yn debyg i'r Congregational Year Book neu Flwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd-yn cynnwys pob rhyw wrybodaeth am ac er mwyn yr Enwad ? Neu, os mai un yn unig ellir ei ddwyn allan, ar bob cyfrif bydded i hwnnw fod y cronicl Enwadol o fiaen y dydd- iadur. Trefnir dyddiaduron gan eraill, tra mai CYllgor yr Undeb yn unig ddarpara gronicl o'r eglwysi a'r Unneb. Onid oes llawer o wybodaeth Enwadol yn cael ei guddio oddiwrth y darllenydd Cymreig ? Ceisir llanw y diffyg i fyny mewn rhai cyfun- debau drwy Adroddiad Cyfundebol yn cynnwys pob manylion posibl am bob eglwys yn y cyf- undeb. Ai ni ellir cael un llyfr felly i'r Enwad i gyd ? Gallasai fod yn ddarllenadwy, yn ddi- ddorol, yn awdurdod cywir ar faterion yr Enwad, ac yn rhad. Oni cheir mwy o fanylion am eglwysi Cymraeg yn y Congregational Year Book nag yn y Blwyddiadur ? Clywais rai yn dweyd o dro i dro iddynt roi fyny y Blwyddiadur am yr Year Book er cael y manylion hyn. Paham y gwasanaethwn y Saeson yn well na ni ein hunain ? Mae i hyn ei ddylanwad. Mewn teuluoedd enwadgarol diorseddwyd y Blwydd- iadur gan yr Year Book, a hynny ar y cyntaf er mwyn helaethach gwybodaeth am yr eglwysi Cymraeg, ond gyda'r canlyniad terfynol fod diddordeb y plant a'r teulu ymhen amser yn troi yn bennaf o gylch yr Enwad yn Lloegr. Gwas yr Undeb Seisnig yw'r Year Book wedi'r cwbl. Beth amser yn ol, a mi ar daith, tarewais ar gyd-Enwadwr yn aelod selog o eglwys Gymraeg. Wrth ymddidclan ag ef deellais y cymerai ddi- ddordeb arbennig yn ei Enwad, gan feddu gwyb- odaeth fanwl am yr eglwysi a'u hanes. Cefais achos i ofyn iddo am esboniad ar ei wybodaeth fanwl. Atebodd Yr wyf wedi dod o hyd i lyfr newydd sydd wedi agor fy llygaid ac wedi fy symbylu i gymryd ddiddordeb newydd yn fy Enwad a'm heglwys.' Beth ydyw ? gof- ynnais iddo. Atebodd yn ol: Y Congrega- tional Year Book.' Caiff y ffaith hon ategu'r awgrym a roddaf. Yr eiddoch yn bur, Penrhiwceibr. DANIEL DAVIES.

I DIOLCHGAR WCH.

[No title]

Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.…