Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Coleg Aberhonddu. CYNHELIR Arholiad i dderbvn Myfyrwyr i'r Coleg uchod ar y dyddiati a ganly" n— MEDI i6eg, i8fed a'r igeg. Cyferfydd Pwyllgor y Coleg dydd Mercher, j Medi 2ofed, am u.30 o'r gloch, T. LEWIS. LONDON MISSIONARY SOCIETY MISSIONARY CONFERENCE to be held. JULL at the English Congregational Church, Llandrindod, September 13th to 15th. President—Rev. H. Elvet Lewis, M.A. September 13th, at 6.30 p.m., a Sermon (in Welsh) on Christ and the Missionary Call,' by Principal T. Rees, M.A., Bangor, and an address on Wales and its Contributions to Foreign Missions,' by Rev. H. Elvet Lewis, M.A., London. September 14th, at 10 a.m., The Missionary Apologetic in the Church at Home and in the Mission Field '—Professor Miall Edwards, M.A., Brecon. At 11 a.m., The Call of Asia '—Thomas Cochrane, Esq., M.B., C.M., China (Secretary of Laymen's Missionary Movement). At 3 p.m., Methods of Missionary Education,' to be fol- lowed by discussion-Rev. Robert Griffith (Dis- trict Secretary for Wales and the Western Comi- ties). At 4 p.m., Conversazione, when Miss Muriel Evan Spicer and others will be at the services of friends desiring information. At 7 p.m., The Growth of the Church in the Mission Field '—Rev. Nelson Bitton (Home Sec- retary of London Missionary Society).; The Church and the Missionary Motive '—'Professor J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Carmarthen. September 15th, at 10 a.m., a Sermon will be delivered by Rev. Joseph James, B.A., Llan- dysilio also a Communion Service conducted by Rev. H. Elvet Lewis, M.A. [Mae'r Gynhadledd hon wedi ei threfnn vn arbennig ar gyfer Cymru, a disgwylir evi-itill- iadau lluosog.]
AT EIN GOHEBWYR. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. I I ilfewn Llaw.—Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb I Gorllewin Caerfyrddin — Trewyddel, Penfro- Glandwr Taf-J.T.P.-Bodfan-Ymneilltuaeth yn Kinmel Park—Priodasau—Marwolaethau— Galwadau—Cyfarfodydd, &c.
Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.…
News
Cite
Share
Y BRIFYSGOL A DIWINYDD- IAETH. GAN ANNIBYNNWR. I I.-Y GYFUNDREFN BRESENNOL. UN o r pethau rhyfeddaf yng Nghymru heddyw ydyw berw y Brifysgol ynghanol Armagedon y byd. Ar adeg yn yr hon y gosodir popeth o'r neilltu er mwyn ennitl y rhyfel, teflir Cymru i helbul Dirprwy- aeth Frenhinol. Gwyddys yr achlysur a'i dug i fod, ond ychydig a wyr yr achos o'i bodolaeth. Wedi cael y tail a'r crochan, rhaid bwrw popeth iddo, i Gymru Fydd gael y potes cymysg hwnnw sydd yn han- fodol i'w thyfiant. Nid arbedir Diwinydd- I iaeth a'r athrofeydd enwadol a addysgodd broffwydi'r Goruchaf cyn geni'r Brifysgol a'r oraclau a wyr fwy am grefydd a diwin- yddiaeth na phobl a roes eu hoes i'w myfyrio. Rhaid yn awr trosglwyddo gwaith mwyaf athrofeydd yr enwadau yng Nghymru, a'i osod o dan do awdurdodau y colegau cenedlaethol, a chyfyngu y blaenaf i roi rhyw flwyddyn o ddefosiwn ar addysg enwadol i'r myfyrwyr ar ol i .1 v athrawon y brifysgol eu porthi a llaeth teneu pynciau ar ffin Diwinydcliaeth-nid y pethau sylfaenol, cofier-am dair neu bedair blyuedd. Pan y sefydlwyd ochr ddiwinyddol i Brifysgol Cymru agos i ugain mlynedd yn ol gan T. C. Edwards, Viriamu Jones, A. M. Fairbairn ae Edward Anwyl-eoffa da am danynt—penderfyn- wyd gweithio'r cyfan drwy'r colegau diw- inyddol. Un achos o hyn ydoedd fod siarterau'r colegau cenedlaethol yn gwar- afun iddynt ddysgu Diwinyddiaeth. Ond yr oedd rhesymau eraill yn gweithio ym meddyliau'r cewri hyn. Hawdd fai symud anhawster y siarterau ped ewyllysid ond adnabuai'r gwyr hyn Gymru grefyddol, ei hanghenioll a'i delfrydau, a phender- fynasant sefydlu adran ddiwinyddol ar linellau cydnaws a syniadau'r genedl— y colegau diwinyddol i addysgu gradded- igion yn y celfau a'r gwyddorau ar gyfer gradd y B.D. y Brifysgol i'w arholi, ac hefyd i arolygu'r colegau diwinyddol eu hunain yn awr ac eilwaith, a gosod i lawr reolau a thelerau y rhaid iddynt gydym- ffurfio a hwy. Nis gwedir gan neb nad yw'r gyfundrefn hon wedi gweithio yn rhagorol. Cydnabyddir gan bawb nad oes odid un ochr i addysg Cymru wedi dat- blygu cymaint mewn pymtheg mlynedd a'r colegau diwinyddol. Mae rhai ugeiniau o'u myfyrwyr wedi cymryd y B.D.—gradd uchaf y byd mewn Diwinyddiaeth o'r hyn lleiaf, nid oes ball ar haeriadau awdur- dodau'r Brifysgol i'r cyfeiriad hwn. Amlwg yw manteision y gyfundrefn bresennol. Ar un llaw, sicrheir fel cynt gysylltiad y colegau diwinyddol a'r en- wadau a'r eglwysi a'u cynhaliant; ar y llaw arall, rhoddir iddynt le swyddogol mewn cysylltiad a'r Brifysgol, dont yn rhan bwysig ac amlwg o'r gyfundrefn genedlaethol, ac ymhellach, trwy radd uchel y B.D., gosodir o'u blaen o hyd safon uwch mewn ysgolheigdod nag unrhyw golegau diwinyddol yn y byd. Y can- lyniad ydyw fod gweinidogion y genhedl- aeth hon, o ran addysg a diwylliant, moes a chymeriad, ar flaen aelodau unrhyw alwedigaeth. Addefir hefyd fod y preg- ethu'n uwch nag erioed. Gellid enwi yn rhwydd ddwsin o weinidogion a urddwyd yn y pymtheg mlynedd diweddaf a saif yn rheng fiaenaf cewri'r pulpud. Os oes cwyn er hynny, y gwyn ydyw y dylid datblygu'r colegau diwinyddol i'r cyfeir- iad hwn gosod mwy o bwys ar bregethu, ar athrawiaethu ac addysgu. II.—CYFNEWIDIAD A CHWYLDROAD. Ond, atolwg, beth a awgrymir heddyw ? Sefydlu cadeiriau diwinyddol yn y colegau cenedlaethol, sef yng Nghaerdydd, Bangor ac Aberystwyth. Dylid, meddir, manteisio ar achlysur y Ddirprwyaeth" Frenhinol i symud gwarafun y siarterau i addysgu mewn diwinyddiaeth. Dadleuir inai sen i Gymru ydyw gwarafun dysgu Diwinydd- iaeth yn ei cholegau cenedlaethol tra y caniateir popeth arall. Mae'r ateb yn barod y dysgir Diwinyddiaeth yn awr gan y Brifysgol drwy'r colegau diwinyddol-y sefydliadau cymwys i'w dysgu, ac i'w dysgu i'r unig ddosbarth sydd mewn angen am yr addysg. Dadleuir ymhellach fod cau allan Ddiwinyddiaeth yn effeithio er drwg ar fyfyrwyr y colegau cenedlaethol— y myfyrwyr meddygol, addysgol, cyf- reithiol, &c. Syn gennym ddeall y gwesgir hyn. Ble buwyd cyhyd cyn darganfod hyn ? > Ble bu'r Prifathro Roberts ac efe yn bregethwr, Proffeswr J. E. Lloyd a'r Athro Tyssil Evans a Syr Edward Anwvl —caredigion crefydd Cymru-cyn gweld hyn ? Haerir hefyd ei bod yn bryd rhoddi i Ddiwinyddiaeth yr un lie ymysg pynciau y Brifysgol ag a roddir i Athroniaeth, Hanes, Fferylliaeth, &c. Os felly, rhaid ethol athrawon diwinyddol ar yr un tir ag athrawon eraill. Rhaid peidio holi dim ynghylch eu crefydd na'u credo. Deubeth yn unig y rhaid bod yn sicr ohonynt—eu gwybodaeth a'u cymeriad moesol. A ydyw Cymru yn barod i drosglwyddo ei haddysg ddiwinyddol i ddwylo felly ? Dylai y genedl roi sylw i eiriau tanllyd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, ar y mater hwn yn ddiweddar. Ond dywedir na fwriedir addysgu ymhob cangen o Ddiwinyddiaeth yn y colegau cenedlaethol, dim ond yn y pethau Ileiaf eu pwys, sef hanes yr Eglwys, iaith v Testament Newydd, crefydd gymharol, &c., gan adael y pethau mwyaf union- gyrchol i'r colegau diwinyddol. I ni, mae yr agwedd hon yn fwy peryglus lla'r llall. EfEaith y fiurf hon fydd gwanhau a lles- teirio'r colegau diwinyddol. Anodd, fel gwyr aelodau pwyllgorau y colegau, ydyw cael y bechgyn i aros yno dros eu holl dymor yn awr. Gwaeth fydd iddynt wedi cael Diwinyddiaeth arwynebol yn y col- egau cenedlaethol, fynd allan heb ddim addysg yn y pethau sylfaenol. Hefyd, lleiheir athrawon y colegau diwinyddol fel yr amlheir athrawon diwinyddol yn y Brifysgol, a theimlwn yn sicr yn y diwedd tnai marw o farwolaeth naturiol a wna'r athrofeydd enwadol. Bydd aelodau yr eglwysi yn gofyn pa wiw casglu atynt pan y dysgir Diwinyddiaeth yn y colegau cenedlaethol ar draul y Wladwriaeth. Beth ddaw o'r athrawiaeth wedyn ? Galwodd Iylywydd Undeb y Bedyddwyr sylw at yr angenrheidrwydd o gadarnhau'r colegau ac estyn gwell cymorth iddynt. Effaith y cynnyg wneir yn awr fydd eu gwanhau a'u difodi. Ble saif Ymneilltuaeth yn wyneb hyn oil ? A ydyw'n gyson a'i delfrydau hi i daflu baich addysgu ei phregethwyr ar gefn y Wladwriaeth ? Wele gyfle braf i'r EgIwys atal cerbyd Dadwaddoliad ac yn sicr, pan ddaw yr amser, ni fydd hi yn ol o fanteisio arno. Gwaddoli cadeiriau i addysgu myfyrwyr Ymneilltuol a dad- waddoli'r Eglwys oherwydd ni fydd ond myfyrwyr am y weinidogaeth yn man- teisio ar yr addysg, a dim ond myfyrwyr Ymneilltuol hefyd. A yr offeiriaid fel cynt i Lanbedr. A ydyw'r enwadau yn barod i hyn ? Credwn yn ddibetrus nad ydynt. Nid o gyfeiriad yr enwadau y gwesgir y peth, ond gan unigolion ar staffs y Brif- ysgol, a chan leygwyr na chymtychiol- ant yn hollol grefydd Cymru. Dywedir hefyd fod ambell i athro diwinyddol yn pleidio'r syniad, ond nis gallwn gysoni hyn a'u safle fel Ymneilltuwyr. Gad- awodd Undeb y Bedyddwyr y peth o dan sylw ym Mhontycymer, er ei bod yn amlwg fod y Flywydd yn ei araith yn gwrthwynebu'r syniad o sefydlu cad- eiriau diwinyddol yn y Brifysgol. Yn yr Undeb ym Mrynaman ni wnaethpwyd ond ethol pwyligor i wylio buddiannau'r Enwad yn wyneb y Ddirprwyaeth Fren- hinol, nid i ystyried y cwestiwn hwn yn arbennig. Aeth y Methodistiaid, er yn rhanedig, drosodd i wersyll y gelyn. Pen-