Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

 O?FRYM I FRYN. j 1>1 -

News
Cite
Share

O?FRYM I FRYN. 1>1 DYWEBIR fod hon i'w chael heddyw hyd yn. oed ar hyd Cymru. Gwelir hi 1 Y r Y stlumiaeth Germanaidd Hon. rhwllg dau oleu yn ystluiil- aidd wibio ar hyd y wlad. Nid heb graffter y gwelir hi, ac nid hawdd ei dal. Eheda yn ddistaw, a cliadwa yng nghysgod coed, ac y mae lliw'r 1108 drosti hi. Try rhai o'i harddelwyr allan yn lied offeiriadol, a siaradant yn uchel am rad ras, ac am rywbeth a alwant yn solidarity yr hil ddynol, ac am ddynion mawr Germani, a dyled y wlad hon i'r wlad honno. Edrychant ar Germani fel yr edrych mam ar ei mab mawr, direidus, yn rhyw lun o hogyn mawr, a gwanwyn bywyd yn torri dros ei ymylon, ac yntau'n tyfu yn fwy na'i wisg a'i le. Eithaf gwir,' meddent, ei bod yn lied afreolus yn awr ond pa le gwell na hi yn Ewrop a'r byd o'r blaen ? Ac yr ydys i gofio ei bod yn prifio'n gyflym, a bod ei del- frydau'n uwchraddol, a'i dysg heb ei fath.' A'r adnod sydd ganddynt i gyfiawnhau'r wlad yw, Canys byrrach yw'r gwely nag y galler yniestvii ynddo, a chul yw'r cwrlid i ymdroi ynddo.' Felly y sieryd rhyw lobiaid o ddynion am y wlad galed a chreulon hon. Hwynt-hwy yw y dynion a ddywedai yn nechreu'r rhyfel; Twt, gadewch iddynt ddod i'r wlad hon ni bydd yn waeth arnom nag ydyw yn awr.' Ac yr oeddem yn eu credu, a'u cymryd hwy yn safon ein beirn- iadaeth. Arhoser am eiliad, a sylwer ar y cudd- garwyr hyn. Y rheol yw eu bod oil yn elynion rheol a threfn. Y mae eu hunanoldeb y fath fel nas gallant oddef dyrchafiad a llwyddiant hyd yn oed un o'u dosbarth hwy eu hunain. Os na wna pobl gydweld a hwy, danghosant yn lied fuan eu hannibyniaeth arnynt a'u gwrthodiad ohonynt. Pregethant yn ol eu cyfle a'u dawn a'ti doethineb ar garu'r Gennaniaid, ac eto maent heb siarad a lliaws o'u cydweithwyr yn y gwaith ac a'u cyd-aelodau yn yr eglwys. Ceir y rhai mwyaf dysgedig ohonynt yn fawr eu son am y Bregeth ar y Mynydd ac. am Gydwybod, fel petai'r rhai sydd yn y rhyfel yn rogs digyd- wybod. Un o'r rhai hyn, yn arucheledd ei ysgol- heigdod a'i dduwioldeb, a ddywedai y dydd o'r blaen Love them by trying to understand them ac ychwanegai We insist upon the duty of compassion towards Germany.' Defnyddir mwy nag a ddylid, tybiwn, ar eiriau'r Iesu oddiar y groes, 0 Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth maent yn ei wneuthur.' Y mae'r fath ddefuydd o'r fath weddi yn gam hyd yn oed a'r rhai a groeshoel- iasant yr Arglwydd Iesu. Ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur/ yn wir. A dyma'r deyrnas fwyaf aruchel ei dysg a chryf ei deall dan haul; ac eto meddir, Ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.' Na sonied y cudd- garwyr hyn am anwybodaeth Germani. Gwell gan Germanydd i un ddweyd fod ei galon yn ddrwg na bod ei beii yn dywyll. Dywedai'r Kaiser ar Awst 25ain, 1910, fod ei hawl ef i lywodraethu, nid o gorff o ddynion, nac ychwaith o bleidlais y bobl, ond ei bod yn dod iddo yn unien o Dduw; am hynny ei fod yn ystyried ei hun yn brif gennad Duw a.'i gynrychiolydd pen- naf. Yn herwydd hyn y dywedai ei swyddogion ef yn ddiweddar This war is conducted by the Kaiser with all the authority of an infallible church, and this infallible church is backed by militarism.' Caru Germani, yn wir Y mac'11 hen bryd i bobl grefyddol ac eglwysig wynebu'r pwnc hwn gydag eglurder a chysondeb. Caru Germani Y fath gyboli wneir p gariad a char- iad brawdol A pha ryfedd ? Y rhai salaf eu cariad, a'r rhai diserch, yirwiv, a sonia fwyaf am garu eraill; a bid sicr, mae'r eraill hvuny yn debyg iddynt hwy. Y mae'r hyn a elwir yn ddyledswydd i garu Germani yn beth i'w gymryd gyda llawer o bwyll, os nad gyda gwrthodiad, oblegid yr ydys wrth dolach hefo cariad a geiriau yr Arglwydd lesu Cerwch eich gelynion, yn rhoi pechod ar ei fantais, a daioni ar ei anfantais ac yr ydys yn gwneud y gwahaniaeth rhwng da a drwg yn ddibwys iawn. Nis gall y meddwl syinl a gwer- inol, ffordd bynnag y mae gyda'r meddwl ysgol- heigaidd, wahaniaethu rhwng cariad at Germani a chariad at bechod. Nid oes yr un athrom-dd a wahaniaetha, neu a eid wahaniaethu, rhwng y Kaiser a'r cythraul. Os ydyw'n ddyledswydd i garu'r naill, yr un modd mae'n ddyledswydd i garu'r llall. Nis gellir caru teyrnas mwy 11a pherson heb sail (basis) caradwy, ac mae rheiny mewn edifeirwch am ddrwg ac ymadawiad a drwg. Hawdd caru'r diafol a chael y ddeubeth hyn ynddo, ac amhosibl caru'r Kaiser a'i wlad heb y ddeubeth hyn ynddynt. Heb hyn, mae son am garu Germani yn gellwair a sancteidd- rwydd a chyfiawnder ac a Duw Ei Hun. Ymgnawdoliad o ormes a thywallt gwaed ydyw Germaniaeth. Hynny yw Germani wedi bod ar hyd y chwarter canrif diweddaf, sef gwlad yr hanner nos. Y mae'n syn gennym fod y rheiny fu yn ei hysgolion yn gweld cystal. Honna lioli uchafiaeth ar bob gwlad arall, a chymhwyster rhagorach i orseddau eraill, a chydnebydd fod rhyfel a'i ganlyniadau duaf yn ainod ei gor- esgyuiadau. Yn ddiweddarach dywed: Y mae heddwch gerllaw. Yr ydym wedi bod yn bobl heddychgar ar hyd y cenedlaethau, ac er de- chreu'r rhyfel nid oes gennym mewn golwg ond heddwch. Ni chymerasom y cleddyf er mwyn concwestau, ond er mwyn heddwch.' Yn wir, dyna i chwi bobl fach anmvyl. Y fath ddawn a fedd y bobl hyn i fod yn gas ac yn gelwyddog Hwynt-hwy ar hyn o bryd ydyw'r bobl fwyaf amharchus a diymddiriedaeth ar v ddaear. Da gennym am eiriau Mr. Hughes, iUywydd Aws- tralia In whatever else we fail, I hope we will | not fail in making the Commonwealth free from ,German influence of any kind as heaven is free from the demons of hell.' Diolch i Dduw am y fath Gymro yn dweyd y fath wir yn y fath fodd. The demons of hell.' Dacw nhw a Hun yr eryr ar eu cwcellau. Ni bu'r eryr yn is erioed o'r blaen. Chware teg i eryrod hefyd. Caru Germani, yn wir Ei charwyr goreu ydyw ei gwrthvyfelwyr ffyrnicaf. Y mae gwir gariad yn ymladdwr. Y ffordd neu y math cyntaf ar gariad at Germani ydyw ei gorchfygu yn hollol drwy arfau a gwaed. Ar delerau o'r fath yn unig y gellir dclio a hi yn foesol a chref- yddol. Y mae'n rhaid i gariad ei chwipio i'r llawr ar dir cyfiawnder noethlym cyn y geill ei hymgeleddu ar dir maddeuant. Am hynny, ystyriem frawddeg o weddi Dr. Jowett yn un nodedig o briodol, sef Lord, send us the vic- tory, that we may use it for the right.' Caru Germani fel yr ymddengys mor bell yn ei haues a'i rhyfel t Heriwn unrhyw Gristion i wneud hyn lieb ar yr un pryd wneud llong- ddrylliad am y ifydd. Mae'r peth yn amhosibl. Buasid yn llofruddio serch, ac yn poeri i wyneb cydwybod wrth ei wneud. Y mae'n ddyled swydd arnom i ddweyd hyn yn groyw a chlir, pe qnd er mwyn ein pobl ieuainc a chrefydd y dyfodol. Y mae cenhedloedd a tlieyniasoedd, fel unigolion, i'w marcio allan, fel Cain gynt, am gamymddygiadau. Nid yw llyn o angen- rheidrwydd yn cau allan eu cadwedigaeth ger broil Duw, ond y mae hyn yn cau allan eu hawddgarwch a'u defnyddioldeb ger bron dyn- ion ac i ddynion. Un wedd yw hyn ar y ddeddf a elwir yn gosbedigaeth dragwyddol. Saif Germani heddyw ger bron yn golledig am ei phechod yn erbyn dynoliaeth. Gwnaeth ar hyd ei hanes o'r blaen, a gwna yn awr, fwy o'i Germaniaeth nag o'i Dynoliaeth ac wrth fynd ar ol y ddelfryd wrthun hon, aeth bendramwnwgl dros y diffwys mawr a diwaelod, ac nis gall ddychwelyd mwy. Ac eto ffolebir gan rywrai, Cerwch, cerwch,' Heddwch, heddwch,' a hwythau yr 1111 pryd a'u sang ar un o ddeddfau digyfnewid Duw. Dyma beth yw Satan yn ymrithio yn angel goleuni. Y mae'n ddyledswydd arnom i siarad fel hyn, pe ond er diogelu ein pobl ieuainc i grefydd. IJacia eu ffydd mewn Dynoliaeth a Duw. Aiff dyn a. Duw i lawr yn eu golwg yn herwydd y cam ofnadwy a roddodd Germani i'r rhyfel hwn, a cheisiant ymhoywi allan o afaelion rhwymed- igaeth foesol. Ar waethaf Germani a'i militar- iaeth a'i gorfodaeth, fe erys dynoliaeth yn bur fel yr haul; a hynny a welir yn hunallaberth miliynau o bobl ieuainc a'u hyn. Ni welwyd dynoliaeth yn well nag ydyw heddyw. Ni raid i'r dyn ifanc golli ei ffydd mewn dyn, ac wedyn fe ddeil ei ffydd yn Nuw. Os methaf gredu mewn dyn, nis gallaf gredu mewn Duw. Caru Germani Pwy sydd yn ei chashali ? Onid ydys ar y ffordd oreu i garu Germani ? Ac heb hyn, beth da fuasai cariad at wlad o'r fath ? Caru Germani yn wir Lol i gyd.

Advertising

[No title]