Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw -Cyfarfod Chwarterol Cyfimdeb Bryclicil-liog-D. C. Iyloyd—D. Davies—Gair oddiwrth Dyfnallt—Ein Diwydiannau Cenedl- aethol-Ein Henwad yn Sir Pflint --kberhoii(!(Iti —Moriah, Bedlinog--Gloyw'r Gymraeg (yn ein nesaf) -Cyfarfody(ld, &e.
Y TEIMLAD CYMREIG A'R ,RHYFEL.
News
Cite
Share
Y TEIMLAD CYMREIG A'R RHYFEL. GAN O.L. ERYS Awst 4ydd, 1914, yn fyth-gofiadwy ym mhrofiad ein cenedl fel y dydd tywyll ar yr hwn y torrodd y rhyfel erchyll yr ydys yn ei ganol heddyw allan. Cofiwn yn dda ei fod yn un o'r Sabothau mwyaf hyfryd o ran hin, a phawb yn teimlo eu bod yn dechreu ar wyliau haf o'r fath fwyaf dymunol. Ond wele gwmwl trwchus yn gorchuddio'r awyr, a phrudd-der yn ymdaenu dros wyneb pob gwr. Y mae Prydain Fawr wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y gallu milwrol cryfaf yn y byd Daeth y peth mor sydyn fel yr oeddym oil wedi ein syfrdanu. Treuliem y Saboth byth-gofiadwy hwnnw yn gwasanaethu'r eglwys yn Ebenezer, Abertawe, a ehofiwn yn dda ddarfod i un o ddiaconiaid ffydd- lonaf yr eglwys honno ein cysuro oil yn y Gyfeillach trwy geisio ein darbwyllo mai ffug oedd y cyfan. Ond prin yr oeddym allan o'r capel cyn bod y dref yn ferw gwyllt gan y newydd fod y bout wedi ei chroesi/ ac fod Prydain Fawr yn galw ei byddinoedd ynghyd i amddiffyn iawnder a thegwch unwaith eto. Y rhyfel oedd bellach yng ngenau pawb, ac yr oedd agos bawb ohonom ni, y bobl gyffredin beth bynnag, yn rhyw feddwl mai cwestiwn o ychydig fisoedd, os nad yn wir ychydig wythnosau, fyddai dygiad yr holl helynt i derfytriad. Y m h e n ychydig amser byddem ni a'r Rwsiaid wedi cyrraedd Berlin, a byddai popeth drosodd. Onid oeddym fel rhai yn breuddwydio Yn ystod y misoedd dilynol daethom oil i ddysgu 11awer o'wersi nad oedd gennym ar y pryd ond y syniadau mwyaf arwyn- ebol am danynt. Cymerodd beth amser i argyhoeddi llawer ohonom fod y rhyfel yn anghenraid anochela dwy, ac i sylweddoli fod y buddiannau pwysicaf yn y fantol. Cymerodd ychwaneg o amser drachefn 1 ni sylweddoli mai nid chware fyddai 'r gorchwyl o ddwyn barn i fuddugoliaeth. Can belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, y mae'n sicr mai'r safle a gymerodd ein cydwladwr, Mr. Lloyd George, yn yr amgylchiadau fu'r gallu cryfaf i gynhyrchu a chyfleu'r naill argyhoeddiad a'r llall. Nid gorchwyl hawdd ydoedd cynhyrfu brwdfrydedd y Cymro ymhlaid rhyfel o gwbl; ac yn yr ystyr oreu, dylai hynny gael ei gyfrif iddi yn gyfiawnder, oblegid yr oedd ei holl draddodiadau yn erbyn milwriaeth, ac nid gorchwyl bychan oedd cael ganddi hi i edrych ar ryfel yn ffafriol dan unrhyw amgylchiadau. Modd bynnag, wedi cael yr argyhoeddiad o iawnder y rhyfel, a pherygl y wlad yn yr argyfwng, danghosodd Cymru ei bod mor deyrngarol ag unrhyw adran yn y devrnas a chyn pen ychydig wythnosau yr oedd y nifer oedd yn wirfoddol wedi ymrestru o Gymru yn gyfartal—yn wir, yn lluosocach ar gyfartaledd—nag unrhyw ranbarth arall o'r devrnas. Daeth miloedd o'n cenedl i deimlo eu cvfrifoldeb, gyda'r canlyniad i filoedd ar filoedd o ddynion ieuainc goreu ein heglwysi—dynion ieuainc na ddaethai rhyfel erioed i feddu unrhyw atyniad iddynt, ac na bu dryll erioed yn eu dwy- law—ymrestru, a hynny gyda dymuniadau a gweddiau'r holl eglwysi am fendith Duw ar eu gwaith. Am y rhai hyn gellir yn onest hawlio na fusaent byth wedi cymryd arf yn eu dwylaw ond yn unig oddiar yr argyhoeddiad dyfnaf fod hynny yn ddy- ledswydd gysegredig arnynt. Nid rhai yn caru ymladd ar ei fwyn ei hun ydynt, ond rhai yn caru iawnderyn fwy na bvwyd ac nid rhyfedd fod yr eglwysi trwy'r wlad Y11 teimlo'r fath edmygedd ohonynt, ac yn teimlo'r fath ymffrost ynddynt. Erbyn hyn v mae miloedd lawer ohonynt wedi gwneud yr aberth mawr, ac wedi rhoddi eu bywyd i lawr dros eu Brenin a'u gwlad —ie, dros eu Duw a'i Devrnas. Clywsom lawer yn ystod y misoedd diw- eddaf yn ymffrostio ynddynt eu hunain ac eraill fel gwrthwynebwyr goddefol, a gallesid tybied wrth yr honiadau a wneid mae'r rhai oedd yn aros gartref ac yn gwrthod ymuno a'r Fyddin oedd unig berchenogion cydwybod yn y wlad. Y fath ffiloreg A ydym i gasglu mai diffyg argyhoeddiad a chydwybod oedd wrth wraidd ymddygiad ein bechgyn glewion yn ymrestru yn y Rhyfel Mawr ? Na, meddwn filwaith drosodd, ond yn hytrach dyfnder eu hargyhoeddiad a dewrder eu cydwybod a'u galwodd hwy allan, ac am hynny y teimlwn y fath barch ac edmyg- edd ohonynt. Nid yw hyn o gwbl yn eu gwneud yn llai byw i ddrwg rhyfel ynddo ei hun, nac yn llesteirio dim ar ein gweddi am heddwch ac ewyllys da rhwng teyrn- asoedd y byd a'i gilydd. Yr ydys yn gweddio heddyw mor daer ag erioed am heddwch, ac na byddo rhyfel mwy ond gwyddom mai gau a diwerth ydyw pob heddweh a'r nad yw'n ffrwyth cyfiawnder. Un o'r symudiadau pwysicaf ynglyn a'r rhyfel yng Nghymru ydoedd apwyntiad y Cadfridog Owen Thomas yn ben y fyddin Gymreig. Teimlid ar y pryd nas gallesid byth wneud, apwyntiad mwy poblogaidd, a chyflawrtodd yntau ei waith ymhob ystyr gyda bodlonrwydd mawr i'r holl genedl. Teimlid ei fod yn un ohonom, ac enillai ei safle a'i gymeriad fel Cymro ymddiried- aeth rhieni Cymreig pan yn anfon eu bechgyn i fod dan ei ofal. Pan y sibrydid ychydig wythnosau yn ol fod ym mwriad yr awdurdodau i'w symud o Kinmel, cyn- hyrfwyd y wlad drwyddi, a gwnaed y protest cryfaf yn erbyn hynny fel camwri cenedlaethol. Ond er hynny oil, ei symud wnaed, ac y mae'r ffaith yn aros yn ddir- gelwch poenus ac anesboniadwy i'r holl genedl. Hyderwn nad ydym wedi gweled diwedd y mater hwnnw eto, ac y gofelir gan ein cydwladwr, Mr. Iyloyd George, fod ymchwiliad llawn yn cael ei wneud i'r holl helynt. Yn sicr y mae gan Gymru fel cenedl hawl i hynyma ar wahan i bob ystyriaeth bersonol. Wrth edrych yn ol ar y ddwy flynedd ddiweddaf nis gallwn ar lawer cyfrif lai na theimlo'n ofidus a galarus. Y mae ein colledion mewn bywydau gwerthfawr ar dir a mor wedi bod yn fawr. Y mae ein haelwydydd wedi colli rhai o'r dynion ieuainc goreu a feddem, ac y mae llawer cartref wedi ei anrheithio'n ddirfawr. Y mae ein gwlad a'n heglwysi wedi colli rhai o'r dynion ieuainc mwyaf addawol, dewr a gwrol a feddem, heblaw y llu ohonynt sydd wedi eu hanafu am eu hoes. Cyf- lwynwn ein cydymdeimlad dyfnaf a'r rhieni a'r teuluoedd sydd mewn dygn dristwch a galar trwy hyn oil. Ar lawer cyfrif, modd bynnag, y mae gennym hefyd achos i fod yn ddiolchgar, ac yn hyderus wrth edrych ymlaen i'r dyfodol. Mynegir i ni gan ein harweinwyr fod gennym y seiliau cryfaf dros ddisgwyl buddugoliaeth lwyr a llawn yn y dyfodol. Meddai Mr. Lloyd George-ac nis gall neb fod yn deall yr amgylchiadau yn well nag ef- Y mae cyfle olaf y gelyn i gael buddugol- iaeth wedi myned heibio. Gall y fuddug- oliaeth olaf ddod yn fuan neu yn hwyr ond gan belled ag y medr rhagwelediad dynol amgyffred, y mae'n dyfod gyda sicrwydd llawn.' Fe dyr y wawr yn y man. Hyd hynny ymwrolwn a byddwn wyr
Hyn a'r Llall o Babilon Fawr.
News
Cite
Share
Hyn a'r Llall o Babilon Fawr. I GAN EYNON. Ar ol teithio gwlad a gorwlad dyma fi eto'n gyrru gair i'r TYST. Nid wyf wedi gweled ei wyneb glan ers wythnosau, ond mi wn ei fod yn fyw ac yn iach, neu buaswn wedi clywed y newydd. Gorchest go fawr y dydcliau hyn yw cadw papur newydd i redeg ei yrfa, pan y mae cymaint o rwystran ar y ffordd. Dyma ni fel Enwad yn Lloegr yn methu'n deg a chadw papur ceiniog yn fyw. Y mae yn ei fedd bellach ers dros flwyddyn, heb fawr gobaith adgyfodiad gwell na gwaeth. Mae'r Annibynwyr Cymreig yn fwy loyal na'i frawd y tu yma i'r Clawdd. Wrth son yn y fel yma am y Cymro a'r Sais, cof gennyf ddarllen bore heddyw fod yna ddau bwyllgor newydd en penodi i ystyried cwestiwn pwysig addysg—addysg ein plant ar ol y rhyfel. Y mae un o'r pwyllgorau (yn cynnwys 15 o aelodau) yn cael ei alw yn Science Committee. Y pwyllgor arall (15 aelod eto) yn cael ei alw yn Modern Languages Committee. Ond y syndod yw nad oes ymhlith y deg ar hugain hyn yr un Cymro na Cliymraes Beth yw'r rheswm, ar adeg fel lion ac ar gwestiwn byw fel hwn, nad oes yr un o'r deg ar hugain yn cynrychioli ein gwlad fechan ni, sydd wedi gwueud mor ardderchog yn y blynyddoedd diweddaf hyn dros addysg ei phlant ? Lie mae'r Aelodau Cymreig ? Y mae rhyw ychydig o alabalw wedi bod yn ddiweddar yn y gwersyll Eglwysig ar y cwestiwn o ganiatau i'r merched gael siarad yn yr eglwysi. Y mis Hydref nesaf ceir cenhadaeth yn yr Eglwys Wladol i alw'r genedl i weddi ac edi- feirwch. Bu ambell esgob yn ddigon gwrol i addaw y cawsai'r merched arfer eu dawn o fewn y muriau cysegredig ond cyfododd storm, ac y mae'r cynnyg wedi ei dynnu'11 ol, ac felly ni ddaeth yr awr eto i'n hannwyl chwiorydd gael ffordd rydd i bulpndau'r Eglwys Sefydledig. Un peth sydd mor amlwg a'r dydd, sef y rhaid i'r merched gael votes wedi eu llafur ardderchog dros eu gwlad y dyddiau hyn. Mae'r Senedd yr wythnos hon wedi torri fyny am eu gwyliau. Nid yw eu llafur wedi