Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

IGWLAD MARI JONES. i

News
Cite
Share

GWLAD MARI JONES. GAN BODFAN. Dylaswn fod wedi anfon yr hanes j'li gynt, j ond bu'r tywydd yn anffafriol i'r ymdrech. Mewn geiriau eraill, bll'n rhy braf. Ond gwell hwyr na hwyrach, gan nad hanes cyfarfod sydd gennyf. Teimlaf dosturi dros y gohebydd lleol a orfydd fod yn fyr, ac yntau yn adrod(I rheswm bob gair, er mwyn i mi ac eraill gael doniol- eiddio wrth ein hewyllys. Eto, buasai gennyf finnan wmbredd yn chwaneg i'w ddywedyd ped ysgrifenaswn yn y twymiad, a phe cymeraswn nodion. Tybiwn y byddai genny; bob manylion angenrheidiol wrth law gartref, ac y gallwn gyf- lawni diffygion fy nghof a'm gwybodaeth o lafur ymchwilwyr eraill. Os yw Mari Jones a'i Beibl' gennym, nid yw wrth law, ysywaeth. Llanfihangel y Pennant a olygaf wrth wlad Mari Jones. Buaswn heibio yno y llynedd, ar daith o Lanegryn i Dalyllyn, ond ni feddyliais am y lie yr adeg honno ond fel man i'w osgoi, er mwyn myned yn ddiogel i Abergynolwyn. Fel hyn y bu eleni. Drwy hynawsedd diball v Parch. Evan Evans, gweinidog Llanegryn, caw- swn Sul yn y pentref dymunol hwnnw. Yr oedd ef yn Abergynolwyn a Llanfihangel ei hun ar Sul fy nghyhoeddiad i, a chwanegodd at ei garedigrwydd blaenorol, geisio Sul i 111innau yn yr un man ar y Sul canlynol. Yn ffodus iawn byddwn yn Llanfihangel y prynhawn a'r nos Gyda phob dyledus barch i Abergynolwyn dlr capel a'r bobl-ac y maent yn rhagorol bob un-gwell gennyf y wlad o lawer, yn enwedig pan fyddaf yn bwrw gwyliaU'r haf. Tybiaf mai un Sul o bob pedwar y bydd yr odfa ddwywaith yn Llanfihangel, a damwain hapus iawn oedd iddi fod felly y Sul y bum i yno. Yr oedd y tywydd yn berffaith-tywydd teg ar ol glaw— a dywedyd tlawd iawn yw dywedyd fod natur yn ei holl ogoniant. Euthuxn i'r daith fel gwr bonheddig, peth lied ddieithr i mi, onid bonedd benthyg fyddo Felly y bu y tro hwn. Arhoswn yng Nghilsarn, Llanegryn, a mynnodd Mr. John Griffiths, ysgrif- ennydd diwyd a ffyddlon yr eglwys, esgeuluso ei gydgynhulliad ei hun am y diwrnod, a'm hebrwng i'r daith yn y car bach, heibio i Graig y Deryn. Gadawsom y car yng Nghae'r Ber- llan, am yr hwn y crybwyllaf yn nes ymlaen. Byddai'r un mor gyfleus yn y fan honno i'r Aber ag i'r Llan, er y buasai yn fwy mawreddog i yrru at ddrws y capel, er syndod a hyfrydwch i blant yr ardal. LIe taclus, twt, yw Abergynolwyn, a phobl dda, ddesant sydd yn byw yno. Os yw pawb fel gwr y ty y bum yn aros ynddo, y maent yn bobl ddarllengar hefyd, ac yn darllen lfyfrau da, buddiol ac adeiladol. Y maent gyda hynny yn bobl garedig iawn. Eithr y mae rhyw ramant a chyfaredd yn Llanfihangel nad yw i'w deimlo yn yr Aber. Tro hyfryd iawn fu'r tro yno, ar ol cinio a myfyrdod, ar hyd llwybr dros ysgwydd rhyw fryn. Daeth rhai o'r brodyr gyda ni ran o'r ffordd. Deallaf fod llawer o bregethwyr adnabyddus yn dyfod i'r daith, a diau y bydd darllen y geiriau hyn yn foddion i godi o'u blaenau olygfeydd y methaf a'u disgrifio i fod- lonrwydd. Y mae Llanfihangel 3,111 iiihendraw cwm pryd- ferth, ac wrth droed Cader Idris. Pan aeth Mari Jones, yn llances un ar bymtheg oed, i'r Bala at Tomos Charles i chwilio am Feibl, nid oedd ganddi ond dringo yn syth i'r mynydd. Byddai wedi cefnu ar y ffordd fawr, a byddai yn hir cyn y gwelai un arall. Bum innau yn cerdded o Lanegryn i Ddolgellau dros y Ffordd Ddu, a thebyg gennyf y deuwn i'r dref hyd ran helaeth o'r ffordd a deithiai Mari Jones ym mlwyddyn ddigwyddlawn 1800. Gan i'r wraig dda hoii farw yn 1864, yn 82 mlwydd oed, barnaf na bu'r daith bell yn niweidiol i'w hiechyd. Peth arall, pe buasai ganddi geffyl haearn, ni buasai o fawr o gymorth iddi-yn nechreu ei ffordd, beth bynnag. Bum yn gweled ei chartref cyn odfa'r nos. Nid oes ond llawr yr hen dy yn aros, a'r hen simnai. Y maent wedi murio'r drws i fyny, ymha le bynnag yr oedd, a chodi'r mur yn wastad, daclus at uchter ysgwydd dyn, a rhoi camfa i fyned i mewn. Ni allaf benderfynn pa un ai un ty ynte dau sydd yno, gan fod yno adfeilion eraill yn ymyl. Y mae fel pe buasai yno res o dai ar un adeg. Yn ymyl y simnai fawr y mae cofgolofn o wenithfaen, yn cofnodi'r amgylchiad yn Gymraeg a Saesneg. Dylaswn fod wedi codi'r arysgrifen. Os bydd y dar- llenydd rywle yn y cwmpasoedd, mynned fyned yno. Os yw cofebion Mari Jones braidd yn brinion, y mae'r lie yn lied debyg fel y gwelodd hi ef, ac yn swynol odiaeth. Lwc anghyffredin oedd i mi gael dyfod yno y Sul, onide y mae perygl na ddaethwn byth o hyd i'r capel, y cysegr bach delaf a welwyd yn unman. Y mae yn swil iawn, ac ar encil oddi- wrth y ffordd fawr, ond y mae o hynny'n anwyl- ach. Yr oedd un, o leiaf, yn mwynhau ei hiiii yn yr odfeuon, sef y pregethwr. Yll y pryn- hawn gwelwn fuvvch braf drwy'r ffenestr dry- loyw ):ll cyniwair o gylch yr adeilad. Cododd rhywiin, fel y tybiwn i, i'w hel i ffwrdd, ac erfyniais arno beidio. Cefais wybod wedi hynny mai ei drwg oedd ei bod yn brefu, a gallwn feddwl ei bod yn well ganddynt fy nghlywed i. Gwell fuasai gennyf fi, o'r ochr arall, glywed y fuwch, yn enwedig mewn amgylcliiadau mor swynol. Anaml iawn, ysywaeth, y byddaf yn pregethu mewn capel llawn ond yr oedd y capel bach felly, yn enwedig y nos. Hwyrach y gellid gwasgu rhyw ddan neu dri yn chwaneg iddo, ond byddai yn anghysurus wedyn. Clywais fod y Methodistiaid yn ymyl wedi cau eu capel hwy. Bendith arnynt am eu rhyddfrydigi-wydd a'u brawdgarwch. Y mae rhyw wefr yng ngwran- dawiad pobl Llanfihangel. Ni theimlais ei debyg ers llawer dydd. Cafodd Mr. Griffiths a minnau fwyd yn y Llechwedd-lle yn ateb i'w enw, a lie y mae arnaf hiraeth am ei weled eilwaith. Nid wyf yn bwriadu manylu ar bobl garedig y ty, ond rhaid i mi gael crybwyll am ddau ohonynt. Arweiniwyd fi i fyny gan fachgen graenus pedair ar ddeg a hanner. Efe ei hun a soniodd am yr hanner. Ychydig o gyfrif a wnaf fi fy hun o'r toriadau yn nifer fy mlynyddoedd Yr oedd wedi bod ym Mhontypridd ac Ynysybwl a'r Maerdy Yn yr oedran tyner yna, ac o Lan- fihangel y Pennant o holl leoedd y byd Yn y ty eisteddai ei nain, yn darllen ei Thestament heb wydrau, er ei bod ymhell dros bedwar lIgain oed! O yr hen chwaer annwyl! Enynnai fy nghariad ati oblegid fy mam ymadawedig i fy hun. Gem o wraig i'w mawrygu, A mwynaf fam o un fu,' ys dywed fy nhad ar ei charreg fedd, heb orliwio dim. Gallwn dybied fod yr hen wraig yn gryn awdnrdod ar Mari Jones a'i hamserau. Gresyn na fedrwn ei chlywed yn well drosof fy hun. Ar y ffordd yn ol, gelwais yng Nghae'r Ber- llan, a chefais olwg arno. Hen blasty ac amaeth- dy yn un ydyw, ac y mae dyddiad 1590 ar ei bared. Y mae gardd fonheddig hen ffasiwn o'i flaen, ac y mae'r ty oddifewn yn waith derw a phob crandrwydd. Gwelais yno beth nas gwelswn o'r blaen, sef ffwrn farwor. Ymddengys i'm brawd Edward fod yn gweld y lie un tro, ac iddo anfon Mr. Palmer, Gwrecsam, i'w gweled. Efe, os nad wyf yn cyfeiliorni, a ganfu beth ydoedd. Y mae wedi ei thorri yng ngharreg y ffenestr oddimewn, ac y mae fel pe buasai yno le i ollwng dau bot blodau, a bod eu hymylon yn gydwastad a'i top. Oddieithr i rywun ddangos i mi ei defnyddio, ni allaf ei disgrifio yn fanylach. Ni buaswn i byth yn dyfeisio beth ydoedd. Buasai'r brawd a chwaer caredig sydd yn byw yn y ty wedi dangos llawer mwy i mi onibai fod ein hamser yn brin. Sylwais fod yn y ty hwn eto gyflawnder o lyfrau Cymraeg da. Ni allaf derfynu'r hanes hwn heb ddatgan eilwaith fy niolchgarwch i'r Parch. Evan Evans,, Llanegryn, am ei garedigrwydd diball tuagataf, mewn llawer dull a llawer modd, a'm hedmygedd ohono fel un o'r gweinidogion cymhwysaf, teil- yngaf a hawddgaraf a gyfarfum erioed. Am fy nghyfaill ffyddlon, Mr. John Griffiths, Cilsarn, teimlai yn anghysurns pe dywedwn ddegAvm hynny amdano ef. Felly rhaid ymatal.

Advertising

I Jiwbili y Parch. D. A. Griffith.