Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

SOAR, CWMPARC.

News
Cite
Share

SOAR, CWMPARC. Y sgot Chwarter—Ar y Sal cyntaf o Orffennaf y bu hyn, ac fel hyn y bu. Yn y bore am 10.30 dachreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan yr ysgrifennydd, yna cymerodd Mr John Rowlands at y gwaith o holi y plant yn y gwahanol safonau. Yr oedd y plant a'r holwr yn deall eu gilydd i'r dim, a gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy. Yn y prynhawn, wedi mynd trwy y rhannau arweiniol, cafwyd adroddiadau, unawdau, a deuawdau gan ddeil- iaid yr Ysgol Sul; ni wnaf enwi neb a gymerodd ran, gan eu bod yn lluosog iawn, ond cawsom gyfarfod nodedig o dda ymhob ystyr. Yn hwn cafodd y plant fu a'u cardiau allan yn casglu at y Genhadaeth eu gwobr-lyfrau. Fel y mae yn hysbys i'r cyfarwydd, mae Soar yn gwneud yn ardderchog tuag at yr uchod, ac y mae clod yn ddyledus i'r cyfryw am eu gwaith da. Cawsom gyfarfod evffe)yb yn yr hwyr-pawb ar eu goreu Cyflwynwyd i'r bechgyn a'r merched ieuainc fu yn casglu yr offrwm wythnosol lyfrau rhagorol, a hyderwn y gwnant ddefnydd ohonynt. Y farn gyffredinol oedd ein bod wedi cael cyrddau da ar hyd y dydd. Llywyddwyd yr holl gyfarfodydd gan arolygwyr yr Ysgol Sul. Cyrddau Blynyddol -Cynhallodd yr uchod ei ehyfarfodydd blynyddol nos Sadwrn, Sul a'r Llun, Gorffennaf 8fed, 9fed a'r lOfed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn E. Keri Evans, M.A., Caerfyrddiu, a T. E. Jones, Efailisaf. Cafwyd pregethau grymus, a melys fu y wledd. SOLFACHFAB

Advertising

❖ <><'>-<>. -<><>. ç.. -<>-…