Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

1662-1916. I - I

Ponkey. I

Mount Stuart, Caerdydd.

I Severn-road, Caerdydd. I

News
Cite
Share

I Severn-road, Caerdydd. I Te ac Ynigo'mnos.—Bonheddwr parod bob amser i gynorthwyo'r achos goreu (fel y medr yr eglwys hon dystio) yw y brawd Mr William Morgan, Ryder-street. Pan fo ymlaen unrhyw fudiad o bwys cysylltiedig a'r eglwys, a galw am gasglu arbennig, mae ei ynni a'i weithgarwch a'i lwyddiant, fel y gwyr yr holl gylch, yn ddiar- hebol. Nid yn unig y mae'r Ilaw yn myned yn ddwfn i'w jlogell ei hun, eithr llwydda hefyd i gael pobl arianog eraill i wneud yr un modd. Mae yn swyddog yma bellach ers blynyddoedd, ac nid ydyiii yn tybied i weinidog erioed gael rhagorach a thrylwyrach cyfaill. Nid yw byth yn caniatau i'r aswy law wybod gormod am haelioni y dde. Do good by stealth' yw ei arwyddair; mae'n amheus gennym yn wir a wyr neb am a wnaeth i gyd yn y cyfeiriad hwn. (Bydded drugarog wrthyin am ysbeilio ohonom ei gyfrinach a datguddio fel hyn ei wendid clodwiw!—-mae gair yn ddyledus iddo yn sicr.) A ninnau weithian yn ddifugall, daeth i'w fryd beth amser yn ol i wahodd ei gyd-aeloda-Li at eu gilydd i de prynhawnol ar ei draul ei hun, modd y cafieiit gyfle i gydymgomio ar faterion eglwysig. Cam go newydd, hwyrach, ond un gwerth i'w efelychu. (No rights reserved.) Cymerodd hyn le yn yr ysgoldy nos Fawrth, Awst raf. Yr oedd hudoliaeth glannau'r mor wedi denu rhai i ffwrdd, ond eto cafwyd cwrdd, cryno o amgylch 3r byrddau am 7, a Miss M. Llewelyn, nith fwynaidd Mr Morgan, ynghydag ef yn llywyddu. Cawd hefyd help y chwiorydd Mrs W. Jones, Mrs C. D. Evans, Mrs Gwaunfa Thomas, Mrs T. Harries, Mrs Griffiths, Mrs Pike, Mrs Sparry a Mrs Morgan wrth y byrddau. Credwn a gobeithiwn y bydd i'r cydymgynghori a'r siarad fod o fudd i'r eglwys i symud ymlaen. Rhyfedd fel y mae y byd a'i bethau yn ennill tir o'n hamgylch, a llawer hyd yn oed o Gymry yn glaear ac yn ddifatet-a gwaeth. Cyn,gerdd.-Dyliiunol a hwylus oedd y cyfar- fod cerddorol a gynhaliwyd yma yn ddiw- eddar gan y Gobeithlu a chyfeillion. Diben yr wyl oedd ceisio cymorth i glirio ymaith y rhelyw o gost perdoneg newydd-yr ysgold3^. Da yw dweyd fod hynnv wedi ei wneuthur, a'r offeryn bellach yn eiddo'r Ysgol Sabothol a'r Gobeithlu. Gweithiwyd yii dra egnïol gan nifer o'r brodyr a'r chwiorydd, ac yn enwedig yr oedd y gwaith ardderchog a wnaed gan Miss Dolan Evans, arweinyddes a chynllunydd y gyngerdd, yn llwyr haeddu'r ganmoliaeth uchel a gafodd. Rhoddwydrhan gyntafy gyngerdd i amrywiaeth, a'r ail i ddatganiad o'r draethgan The Child- hood of Samuel '-Miss Dolan Evans yn arwain. Gwasanaethwyd yn rhad gan amryw o ddoniau cerddorol goreu'r lie, yn eu plith y Misses Gertrude Spicer, May Morgan, Minnie Morris, L. Tucker, B. Glossop a Maud Sparkes, a'r Mri T. Williams, Duddridge, Lindsay a Shackell. Yr unig resyn oedd fod yr hen Gymraeg (ys' truan ohoni!) drwy'r nos yn dioddef drymed oddiwrth annwyd fel y methodd a seinio'r un nodyn! Caed adroddiadau manwl wedi hyn gan Mr Thomas Hodges, trysorydd, a Miss Bessie Jones, ysgrifeiinydd-pob un o'r ddau, ynghyda Mr W. Evans, y lIywydd, wedi llafurio'n ddiflino. Pob clod i'r casglyddion hefyd. Oriel.- Y mae'r brawd Mr Thomas Harries, yr ysgrifennydd, wedi rhoddi i'r eglwys oriel o weinidogion yr Enwad wedi ei fframio'n odidog. Gwerthfawrogir y rhodd. GWAUNFA.

CYFARFODYDD.

IBethesda, Arfon.

Advertising