Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-- - - - -CYFUNDEB GORULEWIN…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFUNDEB GORULEWIN MORGANNWG. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn. Baran dydd Iau, Mehefin iaf, 1916. Y GYNHADEEDD. Yn absenoldeb yCadeirydd oherwydd afiechyd, I cymerwyd y gadair am 10.30 bore Iau gan y Parch. D. M. Davies, Waunarlwydd. 1. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. 2. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn ol y gylchres yn Ebenczer, Cwm- twrch, ym mis Medi. (a) Fed y Parch. D. Morgan, Killay, i bregethu yno ar y pwnc. IArfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr,' 2 Cor. x. 4. (b) Fod y Parch. W. J. Rees, yr Alltwen, i ddarllen papuryn y Gynhadledd ar Werth yr Addoliad Cyhoeddus yn yr Ar- gyfwng Presermol.' 3. Fod yr un brodyr i gael eu hail-benodi fel cynrychiolwyr y Cyfundeb ynglyn a Chyrn- deithas yr laith Gymraeg, ac i fyned i'r Gyn- hadledd a fwriedir ei chynnal ym' Mhontypridd i drafod pwysigrwydd y Gymraeg yn llwydd- iant yr Ysgol Sul. 4. Derbyniwyd i'r Cyfundeb yii uufrydol y Parchn. Alfa Richards, Carmel, Clydach, a D. T. Rees, Godre'rgraig. Hefyd, cymeradwywyd Mr. J. H. Moses, Brynawel, Ystradgynlais, fel brawd ieuanc gobeithiol a da, ac sydd wedi ei godi'n rheolaidd i bregethu'r Efengyl. fc-<5. Etholwyd y rhai canlynol fel cynrychiol- wyr y Cyfundeb ar y Cyngor, Pwyllgor y Gronfa, I y Llyfr Emynau, y Genhadaeth, ac ysgrifenydd- ion y gwahanol bwyllgorau Cyfundebol—yr oil J yn cael eu hethol am dair blynedd yn ol y rheol. Cadarnhawyd fod dau o'r pedwar aelod ar y Cyngor i fod yn lleygwyr. Aelodau'r Cyngor Parchn. J. H. Hughes, Soar, Abertawe; W. R. Lloyd, Siloh, Pontardawe Mri. J. G. Harries, Pontardawe, a W. Morgan, Ynyswen, Godre- rhos. Y Gronfa Parch. D. M. Davies, Waun- arlwydd. Y Caniedydd Parch. G. Richards Trebanos. Y Genhadaeth: Trysorydd—Mr. J. Williams, Waunwen, Eaton Crescent, Abertawe Ysgrifennydd—Parch. J. Hywel Parry, Llan- samlet. Yr Ysgol Sul: Parch. J. Rhys Price, Rhydyfro. Dirwest Parch. W. D. Roderick, Rhiwfawr. 6. Derbyniwyd adroddiad ysgrifennydd Dir- west (Parch. W. D. Roderick), ac archwyd arno ei gyhoeddi. 7. Rhoddodd Mr. James Hinkin, Alltwen, adroddiad o sefyllfa'r Drysorfa Gynorthwyol, ac anogwyd yn daer am i'r eglwysi oil ddanfon cyfran o'r casgliad i mewn erbyn Cyrddau'r Undeb ym Mrynaman. 8. Cafwyd adroddiad ysgrifennydd yr Ysgol Sul (Parch. J. R. Price), a diolchwyd iddo am ei lafur gwerthfawr. Darllenwyd papur cynhwysfawr ar Yr Aelod Eglwysig gan y Parch. J. Rhys Price, a chaf- wyd ymdrafodaeth adeiladol ar y papur. Cafwyd cynhulliad da a Chynliadledd ragorol er fod y tywydd yn wlyb. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd yn y prynliawn gan y Parclm. Ellis Parry (ar y pwnc), sef Dirwest, ac Urias Phillips, B.A., Godrerhos; ac yn.yr hwyr gan y Parch. T. M. Roderick, Cwmgors. Diolchwyd yn wresog i Mr. Parry am ei bregeth ragorol ar y pwnc. Er fod yr hin yn wlyb iawn, daeth tyrfa ynghycl i'r lanerch gysegredig ar y mynydd. Rhoddodd y frawdoliaeth fechan yn y lie dderbyniad croesawgar iawn, a darparwyd yn helaeth a chwaethus ar gyfer y dieithriaid. Diolchwyd yn frwdfrydig i'r eglwys yn Baran, a theimlem oil yn falch o gael adnewyddu ein cydnabyddiaeth a hi. J. ELYWEE PARRY, Y Sg I

CVFUNDBB ARFON.I

GAIR ODDiWRTH DYFNALLT.

Advertising