Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Bethesda, Ton Pentre.

[No title]

Advertising

r Heol Undeb, Caerfyrddin.I

I Hermon, Ptasmarl.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I Hermon, Ptasmarl. I I HANES A JIWBILI YR ACHOS. I Rhoddir isod grynhodeb byr o banes ariannol yr eglwys uchod oddiar ei sefydliad hyd ei Jiwbili. Sefydlwyd yr aohos yn y flwyddyn 1875, a cheir yn Awst a Medi y flwyddyn houno hanes cyntaf ei chasgliadau, sef at y weinidogaeth, tlodion, seddau a threuliau. Cyfanswm yn y pum mis, £65 19s lie. Yn y flwyddyn 1876 casglwyd y swm o JE143 10s 8Jc at bob achos. Yn 1877 a 1878 adeiladwyd y capel. Costiodd y capel yngbyda threuliau ychwanegol y swm o £2,320 4s 7ke. Wedi hynny aethpwyd ymlaen i ddodrefnu'r capel, adeiladu .muriau terfyn, a phrynu ty'r capel ar y gost ychwanegol o £505 4s 61. Gwel- wch felly mai cyfanswm y draul gychwynnol oedd Y,2,825 9s 2e. Galluogwyd yr eglwys i gyfarfod a'i gofynion cyntaf trwy iddi yn 1877 a 1878 fenthyca y swm o 12,519 12s 5c, a thrwy roddion cyfeillion haelfrydig o'r tuallan yn cyrraedd X205 12s 2c, a'r arian oedd ganddi mewn llaw. Talai log blynyddol o EIOO. Yn y flwyddyn 1879 sefydlwyd y gweinidog cyntaf ar yr eglwys, sef y diweddar Barch T. Dennis Jones. Trwy ymdrech arbennig, yn y flwyddyn 1883, sicrha- wyd y swm ardderchog o JE251 8s tuag at y ddyled, a chyrhaeddodd cyfanswm casgliadau y flwyddyn honno y swm sylweddol o 1406. Yn 1886 cynhaliwyd cyngerdd er lleihau'r ddyled. Ffurfiwyd pwyllgor o'r eglwys, o dan arweiniad y diweddar Mr Rhys Jones, yr hwn fu mor ffodus a sicrhau gwasanaeth cantores fwyaf ei hoes, Madame Trebelli. Yn yr Albert Hall, Abertawe, y bu'r gyngerdd, ac fe drodd yn llwyddiant perffaith, pan y cafwyd elw clir o Y,90 10s 5c at leibau r ddyled. Yn ystod y flwyddyn 1890—ail flwyddyn gweinidog- aeth y Parch R. O. Hughes, yn awr yn Burry Port- casglwyd y swm ardderchog o £ 300 8s 2c tuag at y ddyled. Dyma y swm mwyaf dderbyniwyd at y drysorfa hon yn holl hanes yr eglwys, a gwnawd y oasgliad heb dolli dim ar hawliau eraill yn yr eglwys, oblegid cawn fod cyfanswm y flwyddyn yn 448819s 3c. Dyma record yr eglwys mewn ystyr ariannol. Yn 1896 adeiladwyd ty i'r gweinidog ar y gost o J6513 9a 5ic. Y n y flwyddyn 1904-05 oychwynnwyd dau fudiad gyda'r amcan o hyrwyddo buddiannau ariannol yr eglwys. Un oedd Pwyllgor Trysorfa'r Ddyled (pobI ieuanc) a'r Hall y Pwyllgor Ariannol. Llafuriodd y ddau am rai blynyddoedd yn llwydd- iannus dros ben, a haeddant gymeradwyaeth am y gwaith da wnaed ganddynt yn ddirwgnacb at ddileu y ddyled a chynnal y weinidogaeth- Yn y flwyddyn 1909-ail flwyddyn gweinidogaeth y Parch Ben Davies, yn awr o Landysul—ymgymerodd yr eglwys a glanhau y capel am y tro cyntaf. Costiodd hynny 2320 Os lie. Saif hono eto'n flwyddyn arbennig mewn ystyr ariannol. Cyrhaeddodd y cilsgliadau y swm o £305, yn cynnwys L222 16s He at y ddyled. Haedda 1911 hefyd sylw fel blwyddyn ariannol neill- tuol. Casglwyd at bob achos y swm o £ 393, yn cynnwys £ 212 3s 6c at y ddyled. Yn y flwyddyn honno cofir i Mr Joseph Rees, grocer, roddi hfer i'r eglwys, gan addaw 25 y cant at yr holl gasgliadau tuag at y ddyled y flwyddyn honno. Casglwyd £ 161 Is 6c, ac ychwanegodd Mr Rees yn galonnog y swm o £ 40 5s 6c. 1 symio i fyny, wele restr o brif gasgliadau yr eglwys am y 40 mlynedd :-Cyfanswill benthyciadau X2,969 12s 5c; llogau, £ 2.235 16s 10c; dyled a Hog, 1-5,205 9s 30. Casglodd yr eglwys fel y canlyn at ei gwahanol drysorfeydd :— n Jb c. At y Ddyled. 4,632 11 1 £ At y Weinidogaeth. 4,363 4 1 At y Seddau. 1,250 19 6-21 At y Treuliau Cyffredin 530 14 lIt At y Tlodion 383 5 10J Cyfanswm Casgliadau'r Eglwys £ 11,159 15 7 Trwy gyfrwng Darlithiau a Chyngherddau 770 11 6! Casgliadau at achosion eraill a'r Gen- hadaeth 1,920 8 1 Y derbyniadau tuag at bob achos .< £ 13,850 15 2k Wedi deugain mlynedd o waith caled a phrysur, eto pleserus a bendithiol, cynhaliwyd ein Jiwbili ym mis Mai diweddaf, yn yr un mis ag y sefydlwyd yr eglwys. Gwelwch felly fod yr eglwys yn ddiddyled yn gymharol ieuanc. Dan yr amgylchiadau presennol, pasiwyd mai gwell fyddai i ni gyndal ein Jiwbili mor ddidwrw ag oedd bosibl. Eto gyda llawenydd mawr gwahoddwyd yr eglwys yn gryno i wledd o de ac ymgomio yn y prynhawn, ac yn yr hwyr cafwyd cyfarfod i siarad ac adrodd hanes yr eglwys' o'r cychwyn. Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan y Parch T. P. Gough, gweinidog yr eglwys. Siaradwyd ar hanes boreol yr eglwys gan Mri W. Williams a Thomas Williams, dau o ddiaconiaid a sefydlwyr yr eglwys. LIenwid pawb a tbeimladau rhyfedd iawn pan fynegai y ddau am dreialon y daith, ond trwy ffydd yn Nuw wedi dod allan yn fuddugoliaethus. Siaradwyd ar ran yr Ysgol Sul gan Mr Joseph Rees, diacon. Gellir dweyd ei fad wedi ei fagu yn yr Y sgol ac wedi caru'r lie a'r gwaith mor angherddol nes rhoi ei hall fryd ar y gwaith da o addyagu to ieuanc yr eglwys mewn llawer cyfeiriad i dir moes a'r bywyd goreu- Siaradwyd hefyd gan Mr John Jones, ein harwein- ydd cerddorol, a Mr W. R. Thomas ar ran y Gobeithlu. Eraill a lafnriasant; chwithau a aethoch i mewn i'w Ilafur hwynt.' Gwyliwn rhag diogi- Bydded i Ysbryd yr lesu feddiannu'r eglwys, a dymunwn am fendith y nef ar y bugail a'r praidd, fel y byddo yma le i gorlannu llawer o'r defaid sydd ar ddisberod. W. K. T., Ysg.