Hide Articles List

2 articles on this Page

,- -__d- H -I .<>-0...;>-<>-<><>--<>-<>-<>-o<>-<>-<>-<>-<>-<>-<>-<><>-ó-+…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

-d- H .<>-0.>-<> -<><>- -<>- <>-<>-o<>-<>-<>-<>-<>-<>-<>-<><>-ó-+ t Y WERS SABOTHOL. I A V t y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. i —- I A ? 4 Gan y Parch. D. OLIVER, D..D., ❖ TREFFYNNON. t 46 Awst i Jerusalem. Actau xx. 16-27. Y Testyst Btiraidd.—' Ac yr awron, frodyr, vr ydwyf yn eich gorchyTmyn i Dduw, ac i air Ei ras Ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yrnhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.Actau xx. 32. Rhagarweinioi,. I GADAWODD Paul Ephesus oherwydd y cythrwn a godwyd yn ei erbyn gan Demetrius, ac a aeth i Macedonia. Wedi ymweled i'r eglwysi yn y parthau hynny, daeth i Troas. Yn Troas, cyf- arfu a saith o frodyr y rhai oeddynt i fod yn gyd- deithwyr iddo i Jerusalem. Hwyliasant o Troas i Mitylene, a daethant gyferbyn a Chios drati- no eth,' a thiriasant yn Samos 'trad wy,' wedi aros o'r Hong noson yn Trogylium; yr ail ddydd daethant i Miletus. Yr oedd Paul yn awyddus i gyrraedd Jerusalem erbyn y Sulgwyn felly hwvliodd heibio Ephesus, er, y mae'11 amlwg, pe buasai amser yn caniatau, y carasai weled y frawdoliaeth yn Ephesus. Trwy ryw amgylchiad nad ydyw yn hysbys, bu yn rhaid i'r llong aros yn Miletus. Wedi deall hyn, pen- derfynodd Paul anfon i Ephesus, a galw ato henuriaid yr eglwys yno. Daethant ar unwaith yn ol ei gais, a chyrhaeddasant Miletus dran- oeth wedi iddo ef anion atynt. Tebyg mai y dydd Saboth ydoedd. Treuliodd Paul y dydd yn eu cymdeithas a chyn ymadael, traddododd iddynt anerchiad a gofnodir yn y bennod hon. Y maem amlwg fod Liic yn breseunol, a'i fod wedi cofnodi ymadroddion yr apostol fel eu llefarwyd. Teimlai Paul rwymau i fyned i Jeru- salem, er y gwyddai fod treialon yn ei aros. Yr oedd yn benderfynol o fyned, beth bynnag fuasai y canlyniadau. Cyn myned, y mae yn annerch yr henuriaid. Yr oedd ef ar ymadael, ac yr oedd yr holl ofal i ddisgyn arnynt hwy. Yr oedd yn awyddus iddynt deimlo pwysigrwydd eu cyfrifoldeb. Rhagwelai ddyddiau blinion i gyf- arfod yr eglwys, ac yr oedd am barotoi eu meddyliau ar gyfer y fath adeg. Edrychwch eich bod yn cwbl ddeall holl athrawiaethau, yn profi holl rasau, yn mwynhau holl fendithion, ac yn arferyd holl ddyledswyddau y grefydd Gristionogol.' Heb feddu'r nodweddion personol hyn nis gallasent yn effeithiol gyflawni eu dyled- swyddau. Bsboniadol. I Adnod 16. Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Fphestis, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl icldo, i fod yn Jerusalem erbyn dydd 3- Sulgwyn.' Cyf. Diw., I fod yn Jerusalem erbyn dydd y Pentecost.' Oblegid Paul a rodd- asai ei fryd ar hwylio heibio i Ephesus. Dyna oedd ei fwriad wrth gychwyri o Troas. Gwelai nad oedd gandclo amser i ymweled ag Bphesus 'os oedd am gyrraedd Jerusalem erbyn dydd y Pentecost. Wrth Asia yma, golygir Bphesus. Canys brysio yr oedd. Yr oedd wedi inethu cyr- raedd Jerusalem erbyn y Pasg, ac yr oedd ar ei oreu i gyrraedd yno erbyn y Pentecost. Diau ei fod yn awyddus i ddangos parch i'r wyl. Ond yr oedd ganddo gasgliad oddiwrth yr eglwysi Cenhedlig i'r saint tlodion yn Jerusalem, a diau ei fod yn gobeithio y buasai hynny yn dylanwadu yn dda ar yr eglwys yn Jerusalem i sicrhau undeb a chydweithrediad. Cawsai hefyd gyf- leustra i gymdeithasu a Christionogion amlwg o Jerusalem ac eglwysi pell, ac i wrthbrofi'r camgyhncldiadau a ddygid yn ei erbyn. Adnod 17.—'Ac o Miletus efe a anfonodd i Bphesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys.' Dinas borthladdol yn Asia Leiaf, tua 35 milltir i'r dehau o Ephesus, yn agos i enau'r afon Meander. Efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd alo henuriaid yr eglwys. Y rhai oedd yn gofalu am yr eglwys ac yn pregethu'r Gair. Gelwir hwy yn adnod 28 yn olygwyr neu esgobion. Nis gallasai ef adael Miletus gan nas g?vyddai pa bryd y buasai'r llong yn hwylio. Galwodd ato I yr henuriaid er cael gwybod am sefyllfa ysbrydol yr eglwvs a rhoddi anogaethau a chyfarwydd- iadau. Adnod IS.A phan'ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyutaf y deuthum i Asia, pa fodd y burn i gyd chwi dros yr holl amser.' Cyf. Diw., '.Chwi a wyddoch eich hunain, er y dydd eyntaf y gosod- ais fAr llhroed. yn Asia, pa fodo. yr oeddwii gyda chwi yr holl amser.' Y mae'r apostol yn bwrw trem yn ol ac yn apelio at eu hadnabyddiaeth o'i lafur yn eu plith. Ery dydd eyntaf y gosodaz's fy uhroed yn Asia. Proconsular Asia. Yn bennaf Ephesus y brifddinas. Pa lodd y-r oeddwn gyda chwi. Pa fodd yr ymddygodd a pha bethau a'i cyfarfyddodd. Yr holl amser. Y sbaid tair blynedd. Adnod 19. Yn gwasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynioll yr Iddewon.' Cyf. Diw., Yn gwasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyng- eiddrwydd meddwl, ac a dagrau, 'ac a phrofedig- aethau, a ddigwyddasant i mi trwy gynllwynion yr Iddewon.' Gwasanaethu yr~ Arglwydd. Dyma oedd ymdrech bennaf ei fywyd. Gostyngeidd- ywydd meddwl. Nid oedd yn ceisio dyrchafu ei hun trwy honiadau awdurdodol. Ystyriai ei hun yn was i'r Arglwydd Iesu, ac yr oedd ei feddwl yn hollol ar ei waith. A dagrait. Dagrau pryder dros eraill. Yr oedd yn ddyn o deimladau tyner. Yr oedd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr (Salm exxvi. 6).1 phrofedigaethau. Amgylchiadau a roddent brawf Ilym arno. Trwy gynllwynion yr Iddewon. Cyf- eiriad at yr erledigaeth yn Ephesus, ac ymgais yr Iddewon i'w lofruddio (adnod 3). Adnod 20. Y modd nad ateliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd, ac o dy i dy.' Nid ateliais ddim. Tynnu yn ol a thalfyrru. Buasai atal rhai pethau vn creu llai o ragfarn yn ei erbyn, ond ni fynnai er dim. Pethau bywiol. Athrawiaethau gras, a phob rhybudd a chyngor angenrheidiol er eu lleshad. A r gyhoedd, ac 0 dy i dy. Pregethu'n gyhoeddiis ac ymweled o dy i dy. Adnod 21. Gan dystiolaethu i'r Iddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuagat Dduw, a'r ffydd sydd tuagat ein Harglwydd lesu Grist.' Cyf. Diw., Gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid hefyd edifeirweh tuagat Dduw, a ffydd tuagat ein Harglwydd Iesu Grist.' Iddewon a Groegiaid. Iddewon a Chenhedloedd pawb yn gyff recliiiol. Edifeirweh a ffydd yr oedd Paul yn bregethu fel yr amodau angenrheidiol. Edifeirweh am bechod a ffydd yn yr Arglwydd Iesu. Hyn yn angenrheidiol ar bawb-Iddewon a Groegiaid. Adnod 22. Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddigwydd i mi yno.' Ac yn awr, wele. Y mae'r ddau air yn dangos grym ei deimlad. Yn rhwym yn yr ysbryd. Rhwym i'w ysbryd ei hun—-rhwymau cydwybod a dyledswydd. Heb wybod y pethau. Nid oedd yn gallu treiddio i'r dyfodol, ond gallai gasglu oddiwrth ei brofiad fod rhwymau a blinderau yn ei aros, Nid oedd ganddo sail i ddisgwyl yr yniddygai yr Iddewon yn Jerusalem ato yn well nag Iddewon Asia. Adnod '23. Eithr bod yr Ysbryd Glan yn tystio i mi ymhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros.' Eithr bod yr Ysbryd Glan yn tystio i mi. Tystiai yr Ysbryd Glan i feddwl Paul fod rhwymau a blinderau yn ei aros. Wrth rwymau' golygir carcharau a blinderau, trallodion o bob math. Adnod 24.—' Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy ein- ioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy law- enydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl gras Duw.' Cyt. Diw., Ond nid wyf yn cyfrif fy mywyd o un gwerth, megis yn annwyl gennyf, fel y gallwyf orffen fy ngyrfa a'r weinidogaeth a dder- byniais ggn yr Arglwydd Iesu, i dyst olaethu Bfengvl gras Duw.' Cyfrif 0 ddim) Prisio dim pa fath flinderau sydd yn fy aros. Nid oedd yn cyfrif ei fywyd o werth ond i'r graddau y galln- ogid ef i orffen ei yrfa a'r weinidogaeth a dder- byniasai gan yr Arglwydd. Yr oedd yn meddu ysbryd nierthyr. Gyrja. Tymor ei fywyd. A 'y weinidogaeth. Ei apostoliaeth a dderbyniasai efe oddiwrth Grist yn ei droedigaeth. I dystiol- aethu Efengyl gras Duw. Bfengyl gras Duw am ei bod yr amlygiad mwyaf o ras-newydclion am ymwneud grasol Duw a dynion tuagat eu cadwedigaeth. Adnod 25. Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi 011, ymysg y rhai y bum i yn tramwy yn pregethu Teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach-' Cyf. Diw., Yn pregethu y Deyrnas,' heb y gair Duw.' Ah a wn na chewch chwi oil. Yr oedd gan yr apostol argyhoeddiad, ar ol-sylwl ar bethau fel yr oeddynt, na ehaent weled ei wyneb mwyach. Dyma oedd ei argyhoeddiad personol ar y pryd. Ond cafodd ymweled ag Ephesus, er na chafodd, hwyrach. weled y per- sonau hyn. Gelwir yr Efengyl yn Deyrnas. am mai drwyddi hi y mac Duw i devruasu yn egwyddorion Ei ras ar y ddaear. Adnod 26.-Oherwydd paham yr yd\\yf 311 tystio i chwi y dydd liecklyw, fy mod i yn lau oddiwrtli wacd pawb oil.' Oherwydd pahani. Am ei fod wedi traethu iddynt holl gyngor Duw 311 ddidderbvn wyneb a gyda ffyclclloudeb. Yr oedd yn eu galw yn dystion ei fod yn lan oddi- wrth waed pawb oil. Yr oedd wedi bod yn wylied- ydd ffyddlawn. Hwyrach ei fod yn meddwl am eiriau Ezeciel (pen. xxxiii. 8, a iii. 18). Adnod 27.—' Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.' Canys nid ymateliais. Dyma y rheswm ti fod yn lan oddi- wrth waed pawb oil. Nid oedd wedi gadael unrhyw ddylanwad i effeithio arno i ymatal rhag traethu holl gyngor Duw. Cyngor Duw. Gelwir yr Bfengyl yn gyngor, am ei bod yn ddatgudd- iad o fwriadau grasol Duw gyda golwg ar iach- awdwriaeth y byd. Beth bynnag roddasai Duw o'i feddwl iddo ef am drefn yr iacliawdwriaeth a'i pherthynas a dynion, yr oedd wedi mynegi yr oil iddynt gyda ffvddlondeb. Yma tvngheda hwy i edrycli ar ol praidd Duw ond er mwyn gwncnd hyn yn effeithiol, rhaid iddynt yng nghyntaf edrych arnynt eu hunain. I Gofyniadau AR Y Wers. 1. I ba le yr aeth Paul wedi gadael Ephesus ? 2. Pa le yr oedd Miletus ? 3. Pa resyinau a allasai fod gan Paul i gyrraedd Jerusalem erbyn y Sulgwyn ? 4. Paham yr anfonodd am henuriaid Ephesus i ddyfod ato ? 5. Rhoddwch elfeniad o anerchiad Paul i henuriaid Ephesus. 6. Beth oedd yr Ysbryd yn dystio wrth Paul ? Pa fodd ? 7. Beth oedd penderfyniad Paul yn wyneb hyn ? 8. A yelyw yn debygol i Paul ymweled ag Ephesus ar ol hvn ? Pa fodd y gellir edrych ar ei dystiolaeth yn adnod 25 ? 9. Beth olygir wrth gyngor Duw ? Pa fodd y teimlai Paul ?

Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.