Hide Articles List

8 articles on this Page

Cyflog y .-Glowyr.-

News
Cite
Share

Cyflog y Glowyr. Gan Burl a is. Dydd Iau diweddaf, cyfarfu'r Bwrdd Cymodi unwaith eto i ystyried cwestiwn y gyfiog. Mae'r gbwyr yn gofyn am vchwanegiad o 121 y cant ar safon newydd 1915, a'r perchenogion yn gofyn am ostyiigiad o 15 y cant. Ar ddec.hreu'r rhyfel derbyniai'r glowyr drigain y cant ar hen safon 1879. Ym mis Mai, 1915, trwy gyfrwng y IJy- wodraeth, rhoddwyd i'r gweithwyr war bonus i gwrdd a chost uwch angenrheidiau bywyd, a'r ■ diweddar Arglwydd St. Aldwyu a ddvfarnodd 171 y cant at y pwrpas hwnnw. Ryw dri mis wedyn daeth y cytundeb newydd i fod, eto trwy ymyrraeth y Llywodraeth. Ymhlith effeithiau uniongyrchol y cytundeb newydd hwn y gweith- wyr a dderbyniasailt godiad ychwanegol, ar Awst 2iain, o I8- ar safon 1879, yr hyn a wnai'r gyflog yn 96l ar y safon hwnnw, lieu yn jo.83 y cant ar y safon newydd. Ym mis Tachwedcl rlioes cadeirvdd annibynnol y Bwrdd Cymodi ostyngiad o bump y cant ar y safon newydd (neu saith a banner y cant ar yr hen) eithr chwe mis yn ddiweddarach y Llywodraeth eto a gyfryng- odd, ar gais y mwnwyr, gan roddi iddynt, heb ystyried na barn na hawliau'r perchenogion, godiad o bymtheg y cant ar y safon newydd. neu 22 J y cant ar safon 1879. Felly saif y gyfiog heddyw yn 40.83 y cant ar safon 1915, neu III y cant ar hen safon 1879. Yr wythnos hon v mae'r glowyr yn gofyn am godiad a wnai'r gyilog yn 53.30 y cant ar y newydd, ac yn gant a deg ar hugain ar yr hen safon. Ar y 11a w arall, y mae'r perchenogion am ostwng y gyflog fel y byddo'n 25.83 y cant, neu yn 88.75 y cant ar y gwalianol safonau. Anodd ia*vn i'r cyffredin o ddyn na fO'11 cymryd diddordeb arbennig yn y mater astrus hwn yw deall paham y mae'r ddwy ochr yn gwahaniaethu cymaiut y,1 eu hawliau yn wyneb y ffaith fod cynrychiolwyr y ddwy blaid yn cyd- xircliwilio.'r llyfrau, gan fanwl ystyried pris y glo yn ystod y tri mis diweddaf, a'r cyflenwad ohono a werthwyd. Tebyg i hyn oedd y sefyllfa ryw dri mis yn ol, pan liawliai'r perchenogion ostyng- iad o 71 y cant, tra'r gweithwyr, ar yr unrhyw achlysur, ac ar sail yr un ffeitbiau, yn hawlio codiad o bymtheg y cant. Ceir yr esboniad yn y ffaith fod y gweithwyr yn cadw'u llygaicl yn fwyaf neilltuol ar bris cyfartal y glo yn ystod y tri mis blaenorol, tra y seilia'r perchenogion eu cais am ostyngiad yn y gyflog ar yr ychwanegiad dirfawr yn y gost o gynyrcliu. Ni amheuant am f oment fod pris y glo wedi codi, a'r gweithwyr, hwythau, ni amheuant fod costau'r nwyddau at gynyrchu'r glo wedi myned rhagddynt. Ivitlir ni allaut ddod o hyd at ddealltwriaeth pa faint o'r naill a'r Hall sydd gyfartal a'u gilydd. Dyma'r anhawster mawr o hyd, a hvnVlla isvdd wrth wraidd y cyffro beunydd a welir yng nglofeydd Deheudir Cymru a Mynwy o leiaf, cyn belled ag y mae a fynmo hynny a'r gyflog, oddiar y dydd y daeth y cytundeb newydd i ryw flwyddyii yn ol. Gellid arbed y perygl hwn o dan yr hen gytundeb i raddau pell, gan fod yn hwnnw yr hyn a elwid yn bris cydwerth (equivalent selling price). Pan werthid tunnell o lo, ar gyfartaledd, am ryw bris neilltuol, derbyniai'r .glowr hyn a hyn o gyflog fel minimum., ac yr oedd y gyflog honno a'r pris hwnnw yn safon neilltuol y gweithredai'r cadeirydd annibynuol wrtho pan yn rhoi ei ddyfariiiad o bryd i gilydd, wedi methu o'r pleidiau gydweld. Ysywaeth, nid oes y fath beth a phris cydwerth yn y cytundeb newydd, a'r Llywodraeth, yn bennaf, sydd i'w beio am hyn, Hyd yn ddiweddar, cynrychiolwyr y glo- wyr hwythau a wrthwynebasant yr egwyddor o sefydlu pris cydwerth. Yn y dyddiau. diweddaf hyn, 'gwelwyd yn eu mysg arwyddi:>u o newid barn, a'u bod yn barod i ail-ystyried y cwestiwn. Ond y mae'l1 amheus a fyddant yn unfarn a'r meistri ar fater y pris, ac a ymfoddlonant i osod y cwestiwn yn nwylaw barnwr lien gyfryngwr anuibynnol. Rhwng y ddau bris a awgrymwyd hyd yn hyn gan gyaiiychiolwyr v ddwy blaid y mae Y113 wahaniaeth o ryw chwe swllt y dunnell. Awgrymwycl o 22 swllt i 23 swllt gan y perchen- ogion, ac un swllt ar bymtheg a chwech gan y glowyr. Pedwar swllt ar bymtheg oedd y pris a awgrymwyd gan Arglwydd Muir Mackenzie, a gorfodwyd ef i ymddiswyddo oherwydd yr awgryin. Hyderwn y bydd llwybr Arglwydd Ustus Pickford yn esmwythacb ac ofnwn rnai anesmwylliter a fydd yn y glofeydd oni ddel rhywbeth tebyg i bris cydwerth i lywodraethu'r gyflog.

CYFUNDEB AGOGLEDD MORGANNWG.I

COLLEGIATE SCHOOL, PONTYPRIDD.

UNDEB YR AN NIB YN WY R CYMREIG.

BARGOED.

[No title]

I J IWBIIXR PARCH. D. A. GRIFFITH.

YR YSGOL. SUL.