Hide Articles List

8 articles on this Page

MORIAH, BEDLINOG.

ITELERAU RHESYMOL HE DOW CH.

News
Cite
Share

I TELERAU RHESYMOL HE DOW CH. I YR HYN A FED RUM YN RHESYMOL HI OFYN. j GAN E. T. JOHN, A.S. j (A ganlyn yw sylwedd erthygl a ysgrifeimwyd ar I ,ais i'r -Jrbi't;,(ttcr, ac a ymddengys yn rhifvn Awst o'r cylcligrawn.) Fel pleidiwr ar hyd fy oes o egwydxlor fawr Cyflafareddiad Rhyngwladwriaethol, yr wyf yn ei chael hi yn anawdd iawn i ffafru o gwbl barhad hawl ofnadvvy rhyfel i benderfynu cwestiynau mewn dadl rhwng gwledydd. Megis ag y teimlai cyfeillion heddwch inai eti dyledswydd ydoedd gwneuthur popeth yn eu gallu er rhagflaenu rhyfel, ymddengys i mi yr un mor rhwymedig aruynt i lafurio yn ddibaid dros adferiad buan teyrnasiad rheswm. Ni all adferiad heddwch, fel y cyfryw, fyth fod yn gynamserol, er, o bosibl, y geill amodau yr heddwch hwnnw gael eu trefnu ar linellau difEygiol a chamsyniol. Tra nas gellir auwyhyddu, mewn vmdrafod- aeth heddwch, nertholdeb sefyllfa filwrol well, gan nad pa mor ddrud y'i prymvyd-a geill v gost yn rhwydd orbwyso yr ennill—camgymer- iad sylfaenol yw tybied y geill rhagorbwys milwrol, ar y naill ochr na'r Ilall, fod yn ddigon ynddo ei hun i sicrhau heddwch parhaol. Yr oedd buddugoliaeth Prwsia ar Ffrainc yn 1870 yn sicr yn ddigon pendant; ond yr hyn a sicr- haodd oedd, nid heddwch parhaol, eithr 44 mlynedd o aflonyddwch yn Ewrop a gyrhaeddodd ei uchafnod yn y cydfflamiad arswydlawn pres- ennol. A geir, mewn gwirionedd, addewid a sicrwydd am ganlyniadau gwell na hynny yn y gorawydd cynhyrfus am weled goresgyn Ger- mani, ac yn y cydfradwriaeth rhyngwladwr- iaethol sydd mewn bwriad i foicotio masnach Germani ac i lethu ei diwydiannau ? Pan welir cyngor mor anffodus a hyn yn cael cefnogaeth swyddogol, nid syn fod dynion llai anghydbwys eu meddyliau yn barnu mai dynumol fyddai rhagnodi telerau rhesymol heddwch. Nid ydys yn awgrymu am foment y dylid caniatau i Germani ac Awstria sicrhau yr un droedfedd o diriogaeth drwy eu hymosodiad anghyfiawnadwy nac ychwaith y dylid can- iatau iddynt ddianc rhag y rhwymedigaeth gyf- iawn o wneud i fyny, cyn belled ag y bo hynny yn bosibl,' am y niwed anfesuradwv a wnaed ganddynt yn Belgium a Serbia yn arbennig. Rhaid amddiffyn cyfraith y gwledydd drwy gyd- nabod mewn modd ymarferol a theimladwy ei mawredd treisiedig. Ac ni ddylai fod yn amhosibl i gynnyg telerau, y rhai tra yn eithafol o annymunol gan benadur- iaethau Hohenzollern a Hapsburg (hynny yw, teuluoedd brenhinol Germani ac Awstria), a chan eu canlynwyr milwrol, a fyddent yr un pryd yn ddeniadol ac yn hudol i werin yr ymerodraethau hynny. Ac ol dwy flynedd o ryfel difrodol, byddai y syniad o weled sefydlu Gweriniaeth German- aidd Gynghreiriol ac egwyddorion Masnach Rydd a gwrth-filwrol, yn byw mewn heddwch dros byth a'i chymdogion, yn apelio yn gryf at werin Germani. Ceisiai yr hen ddiplomyddiaeth ranu a gorchfygu ei gelynion ceisia y wladweiniaeth newydd y moddion mwy grymus o'u huno yn annatodol, gan wneuthur eu gorchfygu yn drychinebus o anawdd a drudfawr. Nis gall Prydain Fawr ei hun, wrth gwrs, gynnyg telerau heddwch ar ei phen ei hun; rhaid iddi weithred.11 mewn cydundeb a'i chyngh- rheiriaid, a'r rhai hynny yn ddiddoredig, i fesur helaeth, ym mhroblemau Alsas-Lorain, y Tren- tino, Asia Leiaf, a Chaercystenyn problemau nad ydynt bob amser yn hanfodol, neu hyd yn oed yn gymhorthol i ddifodiant militariaeth Brwsiaidd. Ond perthyna gwir fuddiannan gwerin Ewrop i ddosbarth hollol wahanol. Iddynt hwy, yn ofer ac am ddim yr ymladdwyd. y rhytel hwn os na chanlynir ef gan heddwch a sicrha Fasnach Rydd gyffredinol awdurdodol ac effeithiol- elfennau hanfodol anwahanadwv gysylltiedig A'il. gilydd. Eithr ymha le ymhlith Canghellorau Ewrop y ceir prawf o'r bwriad lleiaf i sicrhau y fath derfyniad bendithfawr i'r Rhyfel ? Ymddengys hyd yn oed gwladweiniaeth Prydain fel yn gwrth- gilio oddiwrth ei thraddodiadau aruchelaf, ac oddiwrth amcanion honedig y rhyfel adfydus hwn-canys rhaid fyddai i barhad rhyfel traf- nidol neu fasnachol sicrhau parhad hefyd arfog- aeth a militariaeth. Sicr ydwyf mai da fydd i gyfeillion heddwch benderfynu parhau i amlygutnewn amser ac allan o amser, y llinellau ar y rhai y tybiant y dylesid trefnu dyfodol y cenhedioedd. Cyn hir bydd i werin pob gwlad ddarganfod moddion effeithiol i orfodi arosod eu hewyllys ar y brenhinoedd. a'r gwladweinwyr sydd yn awr yn trosglwyddo eu meibion mewn niferi mor arswydlawn i ddioddef- iadau anllhraethadw\i farwolaeth anaddfed a chyuaiuserol. _h -u

I Bryn Seion, Pencoed.

I CASTELLNEDD A'R CYLCH.

[No title]

Family Notices

Advertising

ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.