Hide Articles List

2 articles on this Page

Hyn a'r Liall o Babilon Fawr.

News
Cite
Share

Hyn a'r Liall o Babilon Fawr. CAN EYNON. Cynhyrfus dros ben yw pethau yn y byd politicaidd o hyd. Meddyliwyd un- waith fod yr Archddewin Cymreig wedi gwneud yr amhosibl yn bosibl, ac wedi trefnu pennod newydd o hanes i'r Ynys Werdd ond er iddo dynu Redmond a Carson yn agos agos at en gilydd, dacw'r dyn bach, y Marciws Lalisdowne--liell Ryddfrydwr wedi troi ei got-yn codi baner gwrthryfel, a dyma'r cyfamod wnaed rhwng y ddwyblaid o dan arwein- iad Mr. Lloyd George yn myned yn chwil- friw man—am y tro, beth bynnag. Y mae peth fel hyn yn dorcalonnus i'r eithaf, ac y mae fel petase'r Toriaid yn gwneud ffwl o Lloyd George hefyd. Ar un 11a w, gofynant iddo ef-fel handy man y Llywodraeth bresennol—i wneud rhyw- fatb o drefn ar y Gwyddelod ond ar ol iddo lwydclo yn ei ymdrech, dyma'r brodyr a'i gwahoddddd i ymgymeryd a'r job yn troi arno ac yn ymwrthod a'r cynllun. Rhaid ei fod yn gynllun rhes- ymol, neu ni chawsid yr Orangeman o Belfast a'r Home Ruler yn ei fendithio. Unwaith eto y prif bechadur ydyw'r House of Lords. Y mae ganddynt eto allu i atal y cerbyd yn ei flaen a chan fod holl egnion y deyrnas ar hyn o bryd yn cael eu troi i gyfeiriad y rhyfel, nid oes hamdden i feddwl am yr Ynys Werdd. Fel y gwyr y darllenwyr, nid wyf erioed wedi credu yn y Coalition yma rhwng y gwahanol bleidiau politicaidd. Os n na ofelir, ceir talu yn rhy ddrud am y fargen. Ac eto, y nos o'r blaen, pan gyfeiriwyd gan rhyw siaradwr yn y Ty at Ddeddf Home Rule fel rhywbeth ameus, atebodd Asquith mewn moment fod y Ddeddf yn ddeddf. Yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrif- ennwyd.' Bydd yr un peth yn wir am Ddeddf Cymru y bu ymladd mor galed am dani am gryn hanner can mlynedd. Ac eto, peidiwn synnu dim os daw rhyw Lansdowne i'r maes i geisio galw ddoe yn ol. Gofaled yr aelodau Cymreig fod yn effro yn yr amser enbyd liwn, rhag i ni golli'r enedigaeth-rraint. Araeth fawr oedd araeth Asquith yn y Queen's Hall ar ben dwy flynedd o ryfela. Dyma ni ar drothwy y drydedd flwyddyn. Pan ofynwyd i Kitchener beth fyddai hyd y rhyfel, Tail- blyuedd oedd yr ateb. A dyma ni yn cychwyn ar y drydedd flwyddyn. Drwy drugaredd, y mae yr arwyddion yn dod yn fwy-fwy eglur fod nerthoedd y gelyn yn diffygio. Ar hyn o bryd, y mae'r bobl sy'n deall' yn dechreu gweled Canaan. Yr ydym wedi bod yn yr anialwch mwyaf ofnadwy welodd y byd erioed eto ond y mae y Pharoah mil- einig hwnna sydd yn cymerydtenw ei Dduw mor ofer o bryd i'w gilydd yn tynnu yn nes ac yn nes i'w gosb. Gan nad beth fydd y gosb honno, sicr yw na fydd yn gymesur a'i drosedd erchyll. Yn sicr, hwn yw prif scowndrel yr oesoedd. Bydd enwau gorthrymwyr penna'r gorffermol ynberarogl yn ymyl enw y creadur hwn. Annibendod mawr sydd yn y City Temple o hyd. Y mae'r Americanwr, Dr. Fort Newton, wedi bod yno ar fis o brawf. Y nos o'r blaen, rhoddwyd galwad iddo ond os ydyw yn ddyn call, bydd iddo ef, fel Dr. Hugh Black, wrthod yr alwad. Cyn ei ddyfod, yr oedd bechgyn y wasg yn llanw'r papurau o ddydd i ddydd a'r son am dano ac yna wedi ei ddyfod yn ei gadw o flaen ltygaid y byd, fel pe byddai yn llances o actress neu yn geffyl races. -Dusues acta yw creu enwogrwydd yn lie ei ennill, a rhyw newspaper reputationsycld fan yma. Nid wyf yn beio'r pregethwr, ond, yn hytrach, yr engineers sydd y tucefri —dynion ceiniog a dimai--ydynt am lywio'r Hong. Fel y dywedais o'r blaen droion, nid oes eglwys nac aelodau lawer yn y City Temple, a dyrnaid o nobodies yw y rhai sydd yn pleidleisio gyda'r mwy- afrif yn bresennol. Fel y dywedodd yr hen Dr. Vaughan hanner canrif neu fwy yn ol System braf yw Annibyniaeth, os ceir dynion braf i'w gweithio. Mewn byd o angylion, system berffaith. Ond yn y City Temple ar hyn o bryd, dyma Annibyn- iaeth yn annibendod. Mae yn dda gennym weled fod ein cyf- aill hyawdl, Mr. John Hugh Edwards, A.S., yn gwella. Gwelais ef y dydd o'r blaen yn ei nyth glyd yn Purley, ac, yn wir, yr oedd 61 ei ddolur arno ond y mae wedi cael tro. Synnwn i ddim nad y galw mawr sydd am dano ar y llwyfannau sydd wedi achosi yrafiechyd hwn ond diolch i Ragluniaeth y Nef, a medr y Cymro enwog, Syr Millsom Rees, y mae'r rhod yn troi. Gan fod ein cyfaill yn gallu ennill dust y Senedd, y mae ei absenoldeb yn golled i'r hen genedl. Bydd yn dda gan gannoedd a miloedd o Gvmrv Iltindain-heb son am Gvmrv yng Nghymru ac ar wasgar—glywed y newydd da fod ein hen gyfaill annwyl, Mr. Benjamin Rees, o Carthusian-street, yn gwella hefyd. Er ei fod braidd yn oed- rannus o ran dyddiau, y mae yn llanc per- ffaith o ran ysbryd a dyna un achos o'i ddamwain yn ddiweddar. Nid oes llety fforddolion yn y byd Fiundeinig yma i'w gyfielybu i Carthusian-street. Mrs. Rees yn cynrychioli elfennau goreu y Gogledd, a'r penteulu yn cynrychioli rhagoriaethau y Deheudir, fel y mae yn amheuthun treulio ambell i awr o dan eu haden glyd. Y mae gwasanaeth y ddeuddyn annwyl hyn i grefydd yn Kings Cross a mannau eraill yn ddiareb. Nawnddydd teg iddynt, a nawdd Duw a'i dangnef a'u cysgodo. ^ij Gaii fod gofod y TYST yn prinhau y d ddiau "In n, rhaid i mi beidio trespasu cymamt a chynt ar eich colofnau. Dawn werthfawr yw y ddawn i sychu'r ysgrif- bin ar ol clweyd y neges. Yr oedd gan y diweddar Samuel Morlev yn ei swyddfa apel fel hon wedi ei hargraffu ar gerdyn mewn man mor amlwg nes yr oedd yn rhaid i bawb o'i ymwelwyr ei gweled:- When you come—come on business. After you have come—state your business. When you have done-go about your business.' Y peth nesaf i mi yn awr yw cy mhwvso' r athrawiaetli.

Gwnewch ef yn Gyhoeddus.