Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLANDEILO A'R CYLCH. ,

News
Cite
Share

LLANDEILO A'R CYLCH. Saboth y Drysorfa Gynorthwyol. -Nolifituwyd Saboth, Mehefin 4ydd, i gasglu addewidion at y Drysorfa uchod yn eglwys y Capel Newydd, Llandeilo. Wrth ystyried fod baich dyled yr eglwys yn drwm, gwnaed yn dda ar y cyfan. Addawodd ein parchus weinidog a chyn- Lywydd yr Undeb Cymreig bum gini; Mr G. Gwyn Jones, B.A., Bryntywi, dair gini; ac eraill symiau o bant i lawr, fel erbyn pum mlynedd i eleni bydd yma swm da wedi el gyfranu. Bydd eglwys fawr a chyfoethog y Tabernacl yn gwneud ei rhan hithau cyn bo hir. Tabor, Llanwrda.—Y Parch Jacob Jones, Bethesda, Merthyr, Cadeirydd Undeb yr Anni- bynwyr Cymreig, fu yn pregethu yng nghyfar- fod blynyddol yr eglwys uchod eleni. Cafwyd gweinidogaeth afaelgar iawn, cynulliadau Ilawn, a chasgliadau da. Mae golwg lewyrchus iawn ar yr eglwys yn Nhabordan weinidogaeth y Parch John Davies. Gymanfa Ganu.-Cynbaliodd eglwysi Hermon, Ebenezer (Bwlchyfflo), Tabor, Salem, Myddfai, Bethel, Cefnarthen, a Phentretygwyn, eu cymaLfa eleni yn Salem, Llanymddyfri, dydd Iau, Mehefln 15fed, o dan arweiniad Dr Caradog Roberts. Cychwynwyd yn hapus iawn gan y plant yng nghyfarfod y bore o dan lywyddiaeth Mr Daniel Jones, A.C., Llwynyreos, a chanas- ant yn swynol niter o donau. Cafwyd cynull- iadau gorlawn yn y cyfarfodydd 2 a 5 30 Dechreuwyd y cyrddau hyn drwy ganu 4 Gweddi Wladgarol' nes gwefreiddio pawb. Yna aed trwy y rhaglen a chanwyd yr anthem I Ban- digedig fyddo Arglwydd Ddaw Israel' Llyw yddwyd yn y naill gyfarfod gan Mr Davies, Ffoshwyaid, ac yn y Ilail gan Mr Jones Dan- yparc, Cynghordy. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr W. Williams, Llanymddyfri, yn cael ei gynorthwyo gan Gerddorfa Capel Als, Llanelli, dan arweiniad Mr W. Richards. Cymanfa Ganu Aral l.-Cynbalioddd Anni- bynwyr Dyffryn Cothi eu Cymanfa hwythau yng Ngharmel, Llansadwrn, dan arweiniad Dr Caradog Roberts eto, yr hwn sydd wedi eu gwasanaethu yn eu gwyl flynyddol am saith mlynedd, yr hyn dysbia i werthfawrogiad y cylch ohono. Cynhwysa eglwvsi Siloh, Llan- sawel. Crugybar, AbergorJech a Charmel Fe erys gweinidogion y cylch i gefnogiy Gymanfa, sef y Parchn D B. Richards ac E G Raes Canwyd yn swynol dros ben niter o dona.u gan y plant. Holwyd y plant yn y seithfed bennod o'r 4 Fam a'r Plentyn' gan y Parch D B Richards, a chafwyd atebion parod ganddynt. Awd trwy'r tonau ar y rhaglen yn ystod cyfar- fodydd y prynhawn a'r hwyr, a chanwyd yr anthem ♦ Huna, Huna.' C,vmanfanadil In angof yn hir oedd hon. Llywyddwyd y ddau gyfartod olaf gan y gweinidogion lleol, a dechreuwyd yr odfeuon gan y Parchn John Davies, Tabor, a D. Evans (M C), Tally. Chwareuwyd yr organ gan Miss Parry, Froodvale Diweddwyd y gweithrediadau am y dydd gaD y Parch E. G Rees. Cyfarfodydd Blynyddol y Tabernael.-Y Parchn Vernon Lewis. M A., B D. Lerpwl, a H. T. Jacob, Abergwaun, oadd gwahoddedigioo. yr wyl eleni, nos Sadwrn a'r Sul cyn yr Undeb, sef Mehefin lOfed a'r Hag. Doaiau dieithr oedd y ddau fonheddwr i'r rhan fwvaf o bobl y wlad a'r cylch, ond nid mor ddieithr ar ot yr wyl. Pregethwyd gauddynt yn ardderchog lawn 1 gynulleidfaoedd mawrion, yn enwedig nos Sul. Trefnwyd yr holl wasanaeth gan y Parch W. Davies cyfeiliwyd gan yr organydd tra yr oedd y cana dan arweiniad y gwr fIydd- lon a da, Mr Joseph Williams. Adferiaft.—Da gennym am adferiad Isabel, unig bleatyn Mr a Mrs W. J. Thomas, 2. Lewis terrace, Llandeilo. E. nad yw Isabel ond dwy flwydd oed, bu yn ddiwyd iawn 4'i cherdyn at gynnal y llongau Cenhadol, a chasglodd Pl Ils. Rhagorol, onide ? Claddedigaeth Mr James Jamep. Pantycelyn, Rhosmaen.-Bu farw y gwr da. a duwiol uchod canol dydd Mercher, Mehefin 21ain, yn 68 oed Goddefodd gystudd caled am yn agos i flwyddyn, a hynny 4 fel milwr da i Iesu Grist.' Claddwyd ef brynhawn dydd Sadwrn, Mehefin. 24ain, ym mynwent y TabernacL Cafodd gynhebrwng lluosog a pharchus. Yr oedd yr holl drPrfoiadau yn llaw ei annwyl weinidog, y Parch W. Davies Ba yn aelod ffyddlon yn y Capel Newydd am flynyddau, a mynychai yr holl odfeuon nes paUodd ei nerth. Gweinydd- wyd yn y tk drwy dd "rllen a gweddio gan y Parch W. Davies, ac ar ol hynny awd yn orymdaith fawr i'r Tabernacl, lie y cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol Ar ol canu, darllen- wyd gan y Parch D. Rhydderch (M.C), ac offrymwyd gweddi gan y Parch G. G. Williams, Gwynfe. Yna cymerodd Mr Davies, y gwein- idog, destyn gweddus a chydweddol iawn o nodwedd bywyd a chymeriad Mr James, sef Dan. x. 11: Wr annwyl,' gyda'r bwriad i draddodi pregeth angladdol iddo ond gan fod cynifer o frodyr yn y weinidogaeth yn bresennol, a'i fod am iddynt oil gymryd rhan yn y gwasanaeth, ni wnaeth ond braidd awgrymu cyfuniad ei feddwl a'i sylwadau. Dywedodd fod dynion yn amrywicQk gwahan- iaethu yn fawr yn eu meddwl. eu hysbryd a'a cymeriad. Er yn perthyn i'w gilydd ac yn dwyn nodweddion perthynasol teulu DIlW, eto meddant arbenigrwydd personol. Dyma sydd yn cyfrif am y gwahanol enwau roddir iddynt a'r gwahanol ddisgrifiadau geir ohonynt yn y Beibl. Mae'n werth coflo'r enwau a'r disgrif- iadau hyn er mwyn deall y bywyd a'r cymeriad duwiol, a'r nodweddion gwahaniaethol fodola cydrhyngddynt. Mae iddynt eu nodweddion cyffredin sydd yn eiddo pob cymeriad duwiol, megis credinwyr, saint, disgyblion, &c.; ond y mae i'r rhai hyn eilwaith eu nodweddion arbenigol a gwahaniaethol, a dyma un o'r rhai hyn yn y testyn-I Gwr annwyl.' Anwyldeb yn nod gwahaniaethol ei ysbryd a'i holl ymddyg- iadau. Nid yw pob duwiol yn 4 wr annwyl.' Diolch am y nodweddiad yma. Mae yn pryd- ferthu duwioldeb. Yna danghosodd fod y cymeriadau annwyl yma yn bod o hyd ymhlith rhai distaw bywyd-dyoion aughyoedd yn yr eglwys, ond annwyl Nid oes dim yn feirniadol nac yn gondemniot yn y cymeriadau addfwyn, llariaidd, a boddlongar hyn. Hoffant helpu, llesoli, a chynorthwyo, fel y teifi blodau'r ardd eu perarogl i'r awyr o'u hamgylch. Un felly oedd loan y disgybl annwyl, Luc y ffisigwr annwyl, a'r annwyl Gaius. Annwyl gan ddyn- ion, ae annwyl gan Dduw. Amen. Wedi i Mr Davies orffen y geiriau hyn, galwodd ar y Parch J. Towyn Jones, A.S, a'r Parch D. J. Moses, 8 A Tycroes, i siarad, a gorffennwyd y gwas- anaeth angladdol yn y capel drwy weddi gan y blaenaf. Gwasanaethwyd ar lin y bedd gan y Parch D. Williams, B.A., Ffaldybrenin, ac ym- adawyd a'r llecyn cysegredig lie gorwedd ein cyfaill hoff yn swn yr emyn 'Bydd myrdd o ryfeddodau' mewn teimladau cymysg o alar a llawenydd Gadawa briod, merch, a dau fab i alaru ar ei ol, ynghyda llu o berthynasau a chyfeillion. Nodded Duw fyddo dros y weddw a'r amddifaid yn eu dydd blin. yn enwedig dros y mab. D. Morgan James, sydd rywle yn yr Aifft gyda'r milwyr. Chwareuwyd yr organ gan Miss Mary Williams, ac arweiniwyd y gin gan Mr Joseph Williams. Teimla'r teulu'n ddiolchgar i bawb am bob cydymdeimlad ddanghoswyd tuag at nt trwy lythyrau, cfec., yn nydd eu trallod a'u hiraeth, y rhai fu'n gymorth mawr iddynt yn yr ystorm. TYWIFAB.

Cymanfa Unedig Brycheiniog…

Advertising