Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

KINMEL PARK.

News
Cite
Share

KINMEL PARK. Er clywed ohonom yn fynych dipyn o hanes y gwersylloedd milwrol lie y mae cymaint o'n eydwladwyr bellach yn byw, rhyfedd mor wahanol yw'r gwersyll i'r hyn ddychmygem am dano. Y mae dieithrwch y bywyd milwrol inni hyd yn hyn yn peri ein bod yn darllen gydag awch hynny o hanes gawn am dano. Ceir pryder ar lawer i aelwyd, ac holi sut, tybed, yr ymdery'r bechgyn ynghanol y fath fyd newydd iddynt; a mawr yw'r awydd hefyd yn eglwysi'r wlad am fod o rhyw gynhorthwy i'r milwyr ar eu gyrfa ysbrydol. Nid gwiw dodi honno heibio hyd yn oed i redeg gyrfa filwrol. Efallai mai pechod parod y crefyddwyr sydd adref yw dodi achos crefydd yn y siding er mwyn i dren rhyfel fynd yn ei blaen. Ond (a dioch am hyn) cofir gan yr eglwysi am enaid y milwr; a'r hyn sydd yn werthfawrocach fyth, nid yw'r milwyr, gannoedd ohonynt, yn anghofio eu henaid eu hunain. Ac yn y gwersyll y mae'r eaplaniaid yn eu cynorthwyo ac yn eu cysuro. Ni ellir prisio'r gwaith ardderchog wneir gan y eaplaniaid, er ynghanol anawsterau. Un anhawster yw fod y milwyr gyda'u dyledswyddau yn y bore ac yn y prynhawn hyd 4.30 o'r gloch. A hawdd credu y byddant yn falch o'u rhyddid ar ol hynny, fel nad rhwydd yw dod o hyd iddynt. Anhawster arall yw y symudir hwy'n ami o un hut i hut arall, ac o un gwersyll i wer- syll arall. Wedi i'r caplan fod yn brysur yn casglu cnewyllyn cynulleidfa, dyna symud nifer ohonynt i rywle yn Lloegr. Y mae'r tri caplan Ymneilltuol sydd yn Kinmel yn cydweithio'n ddifefl, fel na wyddys i ba enwad y perthynant, sef y Capten Edward Jones, M.A., B.D., Rhyl, gyda'r Annibynwyr; Capten W. G. Owen (Iylifon), gyda'r Bedyddwyr; a'r Capten W. Llewelyn Lloyd gyda'r Methodistiaid Calfin- aidd neu, yn gywirach, o'r diadelloedd yna y daethant i'r gwersyll. Y mae'r Wesleaid ar eu pennau eu hunain; gresyn hynny. Yn hut Mr. Edward Jones gwasanaeth Saesneg fydd bob amser, a Chymraeg bob amser yn y ddwy hut arall, fel y gwyr y bechgyn sydd am Saesneg lie i'w gael. Nid yw'r caplaniaid yn cyfyngu eu hunain i Gymraeg na Saesneg cymerant y naill a'r llall yn eu tro. Yn unig yr Iiiii-iieu, ys gel- wir hwy gan fechgyn Mon ac Arfon—y ewt, sydd wedi ei neilltuo i iaith arbennig, rhag peri dyrySB'ch. Ynglyn a'r hut Seisnig y bum i fwyaf. Dyma gyfarfod gweddi—y cyfarfod gweddi wythnosol -wedi ei gyhoeddi. A oes eisiau holi, Tybed ddaw rhywun iddo ? I'r munud amser dechreu wele gynhulliad da wedi dod ynghyd. Un ohonynt yn darllen ac yn mynd i weddi; eraill -bump neu chwech yn dilyn heb eu gofyn- yn barod i gymryd rhan wedi i'r cyfarfod gael ei roddi'n agored. Ac O y gweddio taer, ac fel y dyfynnent yr Ysgrythyr! Dynion ifanc iawn, bechgyn ydynt, ond yn hen gyfarwydd a gorsedd gras. Gweddiant yn arbennig am nerth i sefyll dros Dduw yn y gwersyll i ddweyd gair dros Grist, dros yr eglwysi adref, a'r gweinidog- ion, a'u rhai annwyl. Gweddiau byrion, gwresog, yn nefoleiddio'r hut, a dim i'w weld ond y Duw mawr.' Dyna'r cyfarfod gweddi milwrol' cyntaf erioed imi fod ynddo, ac nid a byth yn axigof. Cyfarfyddais ag amryw o weinidogion yno. I Dyna un gweinidog M.C. newydd ei wneuthur yn rhingyll un arall, gweinidog yr Annibyn- wyr, yntau'n rhingyll. Dyma un arall, gwein- idog yr Annibynwyr private yw eto, newydd ddod o Forgannwg, a phan oedd un neu ddau o'r milwyr yn hwylio gamblo yn yr hut, cododd i brotestio, a'r bechgyn eraill yn ei gefnogi—ac ni chlywyd mwy son am gamblo yn yr hut honno. Oni chwynwyd droion fod yr Eglwys yn cael ei chyfyngu rhwng pedair wal i raddau gor- modol ? Wele'r Eglwys yn y byd—gweinidogion, diaconiaid ac aelodau yn meddwl am Ei enw Ef ymhell o bob capel. Ac ant i'r cyfarfodydd crefyddol gynhelir yn huts y caplaniaid, er cael nerth ac i loywi eu harfau i gymryd rhan yn y rhyfel ysbrydol, a gwnant eu rhan yn wych o blaid y Meistr. Dyna wr priod ynghanol twr o fechgyn ifanc: Gwell fuasai petai fodd rhoi'r gwyr priod gyda'u gilydd, a'r clibriod gyda'u gilydd, mewn huts gwahanol. Dyna'r gwr priod yn dweyd gair heb fod yn dda; ar unwaith a dyn ifanc ato, a dywed That's low.' Pregethwr cynorthwyol yw'r dyn ifanc, ac meddai Ni fyn y gwaethaf fod yn low, os medr beidio.' Bwriedir adeiladu hut at wasanaeth y tri enwad Ymneilltuol grybwyllwyd eisoes, ac y mae ei llwyr angen. Bydd mewn lie cyfleus, ac yn ddigon eang i'r gynulleidfa bore Sul. Nid oes yr un ystafell yn y gwersyll ddeil y gynulleidfa o Gymry bore Sul. Cefais y fraint o bregethu ar fore Sul yn ddiweddar i tua 1,200 -llond yr ystafell, a rhai wedi methu cael lie. Bydd yn ddigon amlwg i bob milwr ddod i wybod am dani. Rhyfedd son y ceir ambell i filwr wedi bod yn y gwersyll am fis, ac heb gymaint a chlywed fod caplan a gwasanaeth Cymraeg Cyn yr ymddengys y brasnaddiad hwn o lythyr, bydd pob eglwys yng Nghymru wedi derbyn cylchlythyr yn erfyn am gymorth' i adeiladu'r hut Ymneilltuol. Na fydded eglwysi Annibyimol Cymru yn ol i eglwysi'r enwadau eraill yn hyn. Cofiwn eneidiau'r milwyr. Mi hoffwn argraffu ar feddwl pob milwr a'u teulu mai'r cyfaill pennaf sydd gan y milwr yn y gwersyll yw'r caplan. Mae drws ei hut yn agored bob amser, a chroeso i bob milwr fynd iddi pryd y myn. Chwi, rieni, gyrrwch enwau a chyfeiriad eich plant i'r caplan. Rhoddaf ei gyfeiriad i chwi-Capten Edward Jones, M.A., B.D., Chap- lains' Hut, Camp 6, Kinmel Park. Ni theimlais erioed fwy o werth cartref cref- yddol nag a wnes yn y gwersyll. Cafwyd math ar seiat profiad un nawn Sul. Saseon oeddynt, a phob un wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol. Rhai wedi crwydro dipyn, ond wedi dod yn ol i'w lie. Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy a hi.' A phan fo eglwysi'n gweddio dros y bechgyn sydd filwyr, na fydded iddynt anghofio anfon eu cyfraniad at dalu am yr ystafell cwrdd. Bydded i'w helusenau a'u gweddiau ddyrchafu at yr Ar- glwydd. I Brymbo, I Brymbo, J. TAI,WRN JONES. I Mehefin gfed, 1916.

Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth.

GAIR 0 EGLURHAD.

Cadeirydd An nibyn nol y Bwrdd…

[No title]

Advertising