Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Mae un eto o'n brodyr Cymreig yu ymadael a Babilon, sef ein cyfaill annwyl Mr. Sirhowy Jones, sydd wedi gwasan- aethu'r achos goreu ym Maze Hill, Green- wich, am lawer o flwyddi bellach yn llwyddiannus dros ben. Pan soniodd am symud, cafwyd cwrdd eglwys rhag blaen, a gofynnwyd iddo ail ystyried y mater ac aros ymhlith y praidd. Compliment da dros ben ar ol eu porthi mor hir. Dengys nad oeddent yn newynnu o dan ei ofal. Y mae'n lied debyg, er hynny, mai symud wna i'r Isle of Wight (New- port), a gobeithio y bydd y symudiad yn adnewyddiad iechyd iddo. Un o'r gor- euon yw Sirhowy. Hongian y mae pwnc Iwerddon hyd yma. Y mae Arglwydd Selborne wedi cilio o'r Weinyddiaeth, ac y mae son fod Lansdowne i ganlyn. Ond gwell peidio coelio hyn nes bydd raid. lawn yW bech- gyn Fleet-street yma am broffwydo ond y peth goreu ynglyn a phroffwydo yw cofio cyngor ein hen gyfaill Josh Billings Don't prophecy unless you know.' Da iawn fod y prif bartion yn cydweled. Y mae John Redmond a Carson yn cyd- dynnu Rhaid diolch am hynny i'r dewin o Gricieth. Efe yw'r heddychwr, ac y mae ganddo rhyw swyn sydd yn gwneud yr amhosibl yn bosibl. Os llwydda yn y mater hwn, bydd nid yn unig yr Ynys Werdd, ond pob ynys arall yn llawenhau ac yn gorfoleddu. Bendith ar waith y Cymro dewr. I Mae Cynadleddau diweddar yr Eglwys Sefydledig yn talu cryn sylw i bwnc y gwasanaeth cyhoeddus. Lleygwyr sydd yn dweyd y pethau cryfaf, a'r bregeth sydd yn ei chael hi waethaf o gryn lawer. Dywedir ei bod yn rhy hir, ac yn rhy ddiflas, ac yn rhy bopeth braidd. Mewn amider cynghorwyr ceir doethineb fel rheol, ond yn yr amgylchiad hwn y mae amlder cynghorwyr yn arwain i'r anni- bendod mwyaf fu erioed. 'Does yr un dau o'r frawdoliaeth feirniadol yn cyd- olygu, ac am rai ohonynt gellir dweyd yn onest eu bod yn deall tua'r un faint am bregethu ag y mae'r ysgrifennydd presennol yn ddeall am hwylio'r Channel Fleet. Diau fod lie gonest i feirniadaeth -beirniadaeth deg—ond wfft i'r crintach- wyr. At yr un pryd gadawer inni fel pregethwyr dalu sylw gwell nag erioed i'r bregeth. Tuedd y beirniaid yr wyf fi yn son am danynt yw ffafrio pregeth ddeg munud, a honno yn rhyw tit-bit ddiniwed. Rhaid iddi beidio taranu am gyfiawnder a dirwest a'r farn a fydd.' Mae tuedd mewn pethau felly i anafu'r nerves Preg- ethau o laeth a mel sydd yn eisiau ar y genhedlaeth hon. Mewn geiriau eraill, soothing syrup. Iylawdrwm hefyd ydynt ar bwnc y Llyfr Gweddi Cyffredin. Y mae grym yn y ddadl hon, yn ddiameu. Ers blynyddau lawer y mae plaid gref o ddiwygwyr yn yr Eglwys yn galw am ddiwygio' y Llyfr Gweddi, a'i d d w y n up-to-date. Cwynir-ac y mae'n gwyn resymol hefyd —fod hen weddiau argraffedig dros dn chant oed, er eu holl brydferthwch, yn annigonol i ddiwallu anghenion yr oes hon. Y ddadl yw y dylai gweddi fod yn rhydd i siarad yn ei ffordd ei hun, heb orfod dilyn y ffurfian ystrydebol ac ar- graffedig. Ond y pwnc mawr yw, sut i wneud y cyfnewidiad gofynnol heb ddigio y gwahanol bleidiau diwinyddol. Anodd fydd cael Uchel Eglwyswr, a Llydan Eglwyswr, ac Isel Eglwyswr (heb son am y Cul Eglwyswr) i gytuno ar yr un ffurf, ac yn y fan yna y mae'r hitch er's blyn- yddau. Yn y cyfamser, rhaid glynu wrth yr hen ffurf. Ac eto y mae'r alwad am wasanaeth mwy syml a phoblogaidd yn cynhyddu o ddydd i ddydd. Tebyg mai symlrwydd cyfarfodydd llwyddiannus y Y.M.C.A. ar faes y frwydr sydd wedi arwain i'r ddadl hon. Un peth sydd yn sicr ddigon—mai'r gwasanaeth diaddurn, syml, dilol sydd yn apelio at ein bechgyn dewrion draw ar y gwaedlyd faes. Mae ffurfiau a seremotfiau diangen yn diffodd yr ysbryd. Y mae hyn yn arwain y meddwl at Dr. Orchard a'i ddefodaeth yng nghapel y Weigh House. Yno y bu Dr. John Hunter am dymor yn pregethu, a chroes felen fawr y tucefn iddo ond, rywfodd, nid oedd yr experiment defodol hwnnw yn llwyddiant, ac fe aeth Dr. Hunter yn ei ol am dymor arall i Glasgow, er ei fod bellach wedi dychwelyd eto i'r Brifddinas, lie y mae'n pregethu am ddeuddeg bob Sul i ddyrnaid o etholedigion' yn yr Aeolian Hall. Ond dyna oeddwn yn ddweyd, fod Orchard, yr hwn ddaeth atom oddiwrth y Presbyteriaid dro yn ol, yn defodi'n llawer mwy eithafol na Hunter. Ac y mae'r olew bellach yn y tan. Mewn rhai pethau y mae'n Babyddol hollol, er ei fod yn Ymneilltuwr cryf hefyd, ac, am a wn 1, yn iinnibynnwr hetyd o rhyw ffasiwn newydd. Ond fel y dywedai'r hen dywysog hwnnw, Dr. Maclaren o Man- chester, pan yn son am yNew Theology- Nid yw pethau odd yn byw yn hir.' Ond y maent yn tynnu sylw am y tro, ac efallai mai dyna, fynychaf, yw'r amcan mawr mewn golwg. Mae Orchard yn ddyn gwir alluog ond os darfu i'r Brenin Mawr, ar ol ei greu, dorri'r mould, ni raid gofidio llawer iawn. Gresyn na chawsai'r Weigh House am unwaith weinidogaeth efengyl- aidd gref. Y mae'r eglwys hon wedi bod o dan y tonnau oddiar pan y symudodd i'r West End. LIe llwyd i grefydd yw'r West End, fel rheol, a llwyd yw hanes y Weigh House hyd yma. Codir cri cylfredinol yn erbyn y lladron sydd yn codi toll mor drom ar fwyd y bobl. lawn y gelwir hwy yn y wasg yn brigands, oblegid lladron pen-ffordd ydynt. Mae'r dorth bedwar pwys yn naw ceiniog ffordd yma o hyd, a chig eidion tua dau swllt y pwys. Mae yna bwyllgor' yn eistedd ar y pwnc, a thra y mae'r aderyn hwnnw ar ei nyth yn eistedd,' ysbeilir y dyn tlawd. Yn y cyfamser, mae'r brigands yn yr Amerig a mannau eraill yn pentyrru eu miloedd a'u miliynau o fudr elw. Ie, yn sicr, budr iawn hefyd. Paham na wna'r lylywodraeth esiampl o rai ohonynt ? Mae'n hen bryd gofalu am fara'r dyn tlawd, neu fe gawn bread riots yma fel yn Berlin. Mae yna arwyddion eglur fod y llanw'n codi. Mae'r Twrc wedi collijMecca 1 Ac y mae colli Mecca yn golled nas gwelir y canlyniadau ar hyn o bryd. Dyma ben- cadlys Mahometaniaeth. Felly nid y Swltan fydd y pennaeth ysbrydol bellach. Bydd gan hyn ddylanwad pwysig ar wlad sanctaidd Palestina. Un o'r canlyniadau fydd y daw Jerusalem a JVlynydd yr Olew- ydd a Chalfaria yn rhydd Nid olynwyr y gau-broffwyd fyddant yn warcheidwaid ein mannau cysegredig ar ol hyn. Ys dywedai Lloyd George y Sul o'r blaen Yllg nghapel Castle-street, Mae'r wawr yn torri.' Un prawf o hynny ydyw fod haul y Twrc yn suddo i'r gorllewin, i beidio codi byth mwy. A fe ddywed yr holl fyd, 'Amen/

Tysteb y Parch. W James, Sarn…

Hirwaun.