Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

I Yr Undeb ym Mrynaman.

News
Cite
Share

yr Arglwydd sydd yn nhv [ie, yng lighorff ac yn enaid] yr annuwiol: ond Efe a fendithia drigfa y cyfiawn.' Dyna swn force yn llaw Duw yn cael ei redeg i bleidio cyfiawnder moesol. Duw yw hwnna, ond lie mae dyn ? Cyd- weithwyr Duw ydym ni.' Dyn yw partner Duw yn Ei lywodraeth, ac y mae'r bartneriaeth yna yn rhoddi hawl foesol iddo i ddefnyddio force, fel y mae senior partner yn gwneuthur, i amddi- ffyn y da ac i lethu'r drwg. Os oes rhyw berson neu gyfundrefn yn llethu daioni, yn difa breint- iau bywyd, ewch yn eu herbyn gyda holl forces Duw yn anianyddol a moesol. Y mae siarter Duw Ei Hun yn Ei gread, yn Ei Feibl, yn Ei Fab, yn hanes y byd, yn rhoddi hawl ddwyfol i chwi. A oes rhywun a amheua nad oes yna gyfundrefn gref, feiddgar ar Gyfandir Ewrop dan yr enw German Empire, sydd wedi profi ei hun yn farn ac yn felltith i hawliau gwladol teyrnasoedd bychain fel Belgium, i hawliau cysegredig merched a phlant a hen bobl i gael eu harbed rhag creulonderau barbaraidd ? A oes rhywun a feiddia gyfreithloni bwriadau dichellgar a rhyfelgar Germani am y 40 mlynedd diweddaf, a'i 'gweithredoedd erchyll yn Belgium a Poland ? Y mae amcanion a gweithredoedd Germani yn y rhyfel presennol wedi eu coll- farnu gan y byd, ie, a chan Dduw, am Ei fod yn Dduw cyfiawn a charedig. O'r goreu, defn- yddier holl forces Duw mewn calon a braich i atal taith y Llywodraeth Germanaidd, nid er mwyn Prydain, ond er mwyn cyfiawnder a dyn- oliaeth a Duw. Nid dwy fyddin sydd yn ymladd yn Ewrop heddyw, ond dau amcan—amcan da ac amcan drwg. A chan, fel y credaf, fod Prydain dros y da, rhwydd hynt iddi fel Duw i ddefn- yddio force fel Duw i orseddu'r da. God is always on the side of the strongest battalion,' meddai Napoleon. Ie/ meddai Lincoln, but the good battalion is always the strongest.' Ond mae y Testament Newydd yn eich erbyn ar bwnc rhyfel, meddir. Gellwch ddyfynnu adnodau o'r ochr yna, a minnau o'r ochr arall, o'r un llyfr. Chwiliwch am yr egwyddor sydd odditanynt. Mae dau air yn y Testament Newydd mewn perthynas a brenhiniaeth Crist ar ein byd —' cyfiawnder' a heddwch.' Pa un o'r ddau yna ydych am osod ynghyntaf ar y rhestr ? Pa un ai cyfiawnder sydd yn sylfaen heddwch, ai heddwch sydd yn sylfaen cyfiawnder ? Ai nid i greu byd cyfiawn y daeth lesu Grist ? Mae can angylion Bethlehem yn adeg Ei ened- igaeth yn dweyd hynny Gogoniant yn y gor- uchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.' Nid yw tangnefedd yn ol lesu Grist i'w gael gan neb ond y dyn sydd a'i ewyllys yn llinell daioni. Disgrifir brenhin- iaeth Crist gan awdur yr Epistol at yr Heb- reaid: Ynghyntaf Brenin Cyfiawnder, ac yna Brenin Salem, sef Brenin Heddwch.' Dyna lais y Testament Newydd dyna briffordd Teyrnas Crist cyfiawnder yn sylfaen i heddwch.' Ni cheir heddwch fel yr afon oni cheir cyfiawnder fel tonnau y mor.' Beth bynnag ddywedwch, meddai rhai pobl, yr un farn a'r Crynwyr ydym ni ar bwnc rhyfel. Da iawn, ond byddwch yr un farn a'r Crynwyr goreu—George Fox, y sylfaenydd, a John Bright y Crynwr Seneddol. Mae Fox ei hunan yn dweyd y dylid defnyddio'r cleddyf at y criminal, a thraddododd John Bright araith odidog yn v Senedd o blaid rhyfel America i ryddhau'r caeth- ion. Mae awdur safonol y Crynwyr heddyw yn canmol gwaith y fyddin Brydeinig, yn amser yr Indian Mutiny, yn ymladd ei ffordd i Lucknow i amddiffyn ac achub merched a phlant. Mae cyfartal l greulonderau Lucknow yn Ewrop heddyw. Mae gwaed a gwarth Poland a Bel- gium yn dystiolaeth i farbareidd-dra y German- iaid, ac nis gallaf ddeall y dyn na'r Cristion na wel gyfiawnder y rhyfel yma sydd yn amddiffyn dynoliaeth rhag y cenllif barbaraidd sydd wedi llifo dros y Rhine. Bron na feiddiwn ddweyd fy mod yn credu yng ngeiriau'r pregethwr godidog hwnnw, Frederick Robertson o Brighton It would give me a great pleasure to put my sword to the hilt in the heart of a villain.' Cyn condemiio rhyiel fel hwn yn anghyfiawn, cofier faint yw dyled gwareiddiad, dynoliaeth a daioni i rai o wroniaid y byd. Oni bai am wroniaid brwydr Marathon, drodd far- bariaid Asia yn ol, tebyg y buasent yn dysgu y Koran yn lie y Beibl yng ngholegau ein gwlad heddyw. I mi mae enwau Cromwell, Garibaldi, y Cad- fridog Gordon, a Brenin ieuanc Belgium yn cadw egwyddor rhyfel allan o'r llaid. Gwelwyd hynny yn y cartoon enwog, pan y mae Ymher- awdwr Germani yn gorchymyn i Frenin ieuanc Belgium blygu am ei fod wedi colli ei wlad. No,' meddai y brenin ieuanc, I am still the captain of my soul.' Capten ei enaid am ei fod wedi sefyll dros bethau cysegredig, ag sydd wedi gwneud ei ryfel ef a'r eiddom ninnau yn rhyfel cyfiawn. Er y cwbl ddywedwch,' meddai rhywun, nis gallaf weled pa fodd y gall pethau croes fel rhyfel a chrefydd gydweithio a'u gilydd a chynorthwyo dynoliaeth:' Gofalwl1 rhag rhoddi mesur rhy fyr ar Ragluniaeth Duw. Mae Ef yn gwneud i lawer o bethau croes gyd- redeg at Ei wasanaeth uchel Ei Hunan, fel y dywedodd Williams, Pantycelyn, wrth ganu ar Ragluniaeth :— A wheel mewn wheel yn cerdded yn gYSOll a diball, Yn troi yn groes i'w gilydd, a'r naill vn helpu'r llall.' 2. Y Rhyfel yn ei berthynas ag Addysg. 3. Y Rhyfel yn ei berthynas a Moeseg. 1 4. Y Rhyfel yn ei berthynas a Chrefydd. I Yn nesaf, cafwyd araith ar I GRIST A CHYFADDAWD, I I GAN Y PARCH. H. JONES, TREFRIW. Dibynna ein hymdriniaeth ar y testyn hwn ar. y saile gyinenvn mewn perthynas a Christ a Moeseg Gristionogol. Amrywia dynion yn fawr yn eu barn am Grist a'i Foeseg. I Nietzsche a'i gyffelyb, prif felltith dynoliaeth ydynt, ac y mae pob cyfathrach a. Christ iddynt o natur cyfaddawd. Y mae eraill a wadant awdurdod derfynol i'w Foeseg, ac nad ojes iddi werth na J diddordeb i ni heddyw. Prin y mae ystyr i'r testyn i'r dosbarth hwn. I'r mwyafrif ohonom, fodd bynnag, Crist yw Arglwydd ein bywyd a safon ein moes, ac Efe ?,w maen-prawf pob cyf- addawd. Deffiniwn gyfaddawd fel cytundeb rhwng dwyblaid wrthwynebol ymha un y maent yn rhoi i mewn i'w gilydd.' Pel egwyddor gyff- redinol, golyga pob cyfaddawd ein bod yn gwyro o linell ein hargyhoeddiad o'r hyn sydd iawn. A all Crist wneud hynny ? A oddef Efe hynny i'w bobl ? Pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder ? a pha gyimuideb sydd rhwng goleuni a thywyllweli ? a pha gysondeb rhwng Crist a Belial ? Mae Crist mor eiddigus a Jehofa yr Hen Destament yn hvn ni fyn gyfaddaw a'r un gwrthwvneb- ydd. 1. Derbynnir safle Crist gan bob dosbarth fel egwyddor gyffredinol; ond mewn ymarfer- iad, cydnabyddir fod rhyw fath ar gyfaddawd yn anocheladvvy ac yn angenrheidiol. Ystyria cymdeithas y dyn na fyn gyfaddaw yn ystyfnig ac anymarferol. Mae bod yn rhy gydwybodol, yn annerbyniol iiiewn oes y cymhwysir y safon wleidyddol at bopeth, ac y bernir pob cwestiwn wrth gyfleustra (expediency). Fel egwyddor gyffredinol, ein dyledswydd bob amser a than bob amgylchiad yw gwneud yr hyn sydd iawn; ond mewn cymdeithas gy- mhleth, amherffaith, nid yw gweithredu ar yr egwyddor hawsed ag yr ymddengys. Mae'n ddyledswydd gydnabyddir gan bob dyn i gadw y gorchymyn Na ladd ond y mae'n ddyled- swydd gydnabyddir yr un mor gyffredinol i amddiffyn ein gwlad pan beryglir hi gan elyn creulawn a chyfrwys. Ond beth yw ein dyledswydd heddyw ? Cadw'r gorchymyn ynte gwisgo'r cledd ? Ac ni fedrwn ateb y cwestiwn oddiar ystyriaethau personol yn unig; fel aelodau i'n gilydd, rhaid i ni ystyried hawliau eraill arnom hefyd. II. Ond pa ie y satwn yn wyneb ysbryd di- gyfaddawd Crist ? Gall disgyblion y perth- ynasol (relative) gyfaddaw, ond disgyblion v diamodol (absolute) byth,' inedd Arglwydd Morley. Golyga Crist lawer mwy i'w ddisgybl- ion nag a olyga yr absolute i'r athronydd. Iddynt hwy, y mae Crist yn berson byw, sydd mewn perthynas bywydol a hwynt, a phender- fynant beth yw Ei ewyllys, nid yn gymaint drwy ymgynghori a'i eiriau yn yr Efengylau a thrwy wrando tystiolaeth Ei ysbryd yn eu calonnau. Mae'r cwestiwn o gyfaddawd felly i'w benderfynnu, nid wrth nifer o wirebau nen o reolau manwl, caeth, ond wrth oleuni a chyfar- wyddyd Crist yng nghydwybod. yr unigol. Cwestiwn cydwybod ydyw. III. Beth a ddywed Crist ? Credwn y dywed yn bur bendant wrth bob cydwybod dynion na ellir cyfaddawd a olyga yn- 1. Anffyddlondeb i wirionedd yn ein hargy- hoeddiad _I Ti oddef Crist y cwestiwn Beth I sydd yn gyfleus neu boblogaidd ? ond Beth sydd wir neu iawn ? Rhaid dilyn gwirionedd i ba le bynnag y'n harweinia. Gofynna hyn wroldeb a beiddgarwch, yn enwedig pan ar- weinir ni ar draws hen ragfarnau ac ofergoelion parchus. Dyma gyfle cyfaddawd, a chyfyd o lvvfrdra a diogi meddyliol, a gamenwir yn eang- frydedd, meddwl agored, a goddefgarwch. Mae'r gwir weithiau yn rhy ddrud yn ein golwg rhatach ar y pryd yw'r meddwl agored sy'n anwybyddu pob gwahaniaeth. Dyma un o nod- weddion amlvvg ein dyddiau ni. Yr ydym yn rhy lwfr i fod yn bendant ar ddim yn y nef nac ar y ddaear. Ond ni fyn Crist i ni fodloni ar ddilll llai na'r gwirionedd. Pa ansicrwydd deallol bynnag a'n blina, ni ddylai ansicrwydd moesol a chrefyddol ein blino. Mi a wn i bwy y. credais yw iaitli pob gwir ddisgybl, ac ni adnebydd neb arall. Yna y saif, nis gall yn amgen,' fel Martin Luther. Ni oddef Crist unrhyw gyfaddawd a olyga yn 2. Anffyddlondeb i'n hargyhoeddiad yn ein pyoffes.-I Dduw yn unig y mae dyn yn gyfrifol am ei argyhoeddiad ond mae ei broffes yn fater o bwys i'w gyd-ddynion hefyd. Daw ein hargyhoeddiad a ni ar brvdiau i wrthdarawiad ag argyhoeddiadau cysegredicaf y rhai anwylaf gennym, a phrydiau eraill a'r farn gyhoeddus. Beth yw ein dyledswydd mewn amgvlchiadau fel hyn ? A ydyw yri gyfreithlon i ni broffesu yr hyn a wadwn yn ein calon er mwyn ysgoi pob diflasdod a drwgdeimlad ? Saif Crist am un- plygrwydd cymeriad, ac eto fe broffesir yn ami yr hyn sy'n hollol groes i'r argyhoeddiad .per- sonol. Mae pob cylch o fywyd yn llawn o'r ffurf yma ar gyfaddawd, yn arbennig yr alwedigaeth newyddiadurol, gyfreithiol, fasnachol a'r filwrol. Ond ni cheir mwy temtasiwn i'r fath yma ar gyfaddawd yn yr un cylch nag yn yr eglwysi y gorffwys llaw farw y gorffennol yn drwm ar eu leiliaid mewn cyffes a chredo ag y mae cyd- jyniad ohonynt yn amod derbyniad i'w cymun- deb. Yn Eglwys Loegr, ceir dynian o opin- jynau y gellir o'r braidd eu gwahaniaethu oddi- wrth Deistiaeth noeth neu Undodaeth, a dynion .1 ymwrthodant a'r enw Protestant, ac eto pro- ifesa yr oil eu bod yn cydsynio a'r un erthyglau. Cellwair a gwirionedd yw hyn. Aberthu y mwyaf—gwirionedd—er mwyn y lleiaf—elw a chyfleustra. Ha, nid dymalwybry Gwr ddywed- odd, Yr Arglwydd Dy Dduw a addoli, ac Efe yn unig a wasanaethi.' Dysga Crist eto nas gellir cyfaddawd a olyga yn 1 3. Anffyddlondeb i'iz proffes yu ein bitcliedd.- Os yw ein hargyhoeddiad yn werth rhywbeth, mae'n werth ei sylweddoli ym mywyd cym- deithas. Fel disgyblion Crist, dyma ein neges. Ufudd-dod diamodol i'n gweledigaeth a ofynnir oddiar ein llaw. Dyma amod cynnydd gwar- eiddiad a chrefydd. Nid oes y fath beth a datblygiad hunan-gynhyrfiol. Ni ddatblyg- odd yr un Fadagascar baganaidd erioed yn Fadagascar Gristionogol heb i ryw Thomas Bevan a William Jones ateb galwad y nef, gan ddiystyrru yr anhawsterau a'r peryglon a phob dioddef. Gwrtaith oreu cynnydd vw gwaed y merthyron. Yn nerth dynion anhyblyg y mae'r byd yn mynd rhagddo. Ni enillir bliddugoliaethati, ac ni chyfiawnir gwrhydri wrth roddi ffordd i arferiad, gwendid., llwfrdra a rhagfarn. They enslave their children's children who make compromise with sin.' Drwy gydol yr oesau, mae'r frwydr wedi ei chario ymlaen rhwng y gwan a'r cryf, yr ychydig a'r llawer, drwy y grym anorchfygol sy'n codi o ffyddlondeb i argyhoeddiad. Dacw'r Waldens- iaid yn sefyll eu tir yn nyffrynoedd yr Alpau; y Crynwyr yn nhreli a dinasoedd Ewrop; v Cyiamodwyr 3-11 Ysgotland, a'r oil yn enniil buddugoliaethau ymddanghosai yn amhosibl yngrym sefydlogrwydd anhyblyg, ie, sefydlog- rwydd hyd farw, a hynny dros bethau a ym- ddengys i ni heddyw yn ddibwys. Ond iddynt hwy, yr oeddynt yn fater cydwybod ac argy- hoeddiad. Ac yn eu hysbryd digyfaddawd ben- dithir yr holl genedlaethau. Yn nesaf cafwycl yr araith ganlynol ar PRYSE, CWMLLYNFELL, AT AMSERAU, I GAlS" Y PARCH. RHYS WILLIAMS, BRYCHGOED. Ychydig fisoedd yn ol bum yn sefyll uwchben bedd mam dduwiol ym mynwent Tibanus, ger Aberhonddu, ac ym mhresenoldeb ychydig gyf- eillion mynegais fy nheimlad yn y geiriau liyjl 0, fam yn Israel, cefaist y fraint o fagu mab fu'n anrhydedd i'th wlad, yn addurn i'w phul- pud, ac yn was enwog i zesu Grist.' Enw y mab hwnnw yw'r Parch. Rhys Pryse, Cwmllyn-