Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
University College of South Wales and Monmouthshire. (Coleg Prifathrofaol Deheudir Cymru a Mynwy.) SCHOOL OF MEDICINE. The Terms for the Session 1916-17 begin as follows:—Michaelmas Term, Tuesday, October 3rd, 1916; Lent Term, Tuesday, January 9th, 1917; Summer Term, Wednesday, April nth, 1917. STUDENTS both men and women, preparing for the Medical Degree of the University of Wales or for any other Medical qualification, spend in Cardiff under arrangements existing at present two or three years of their Medical Course atia cost which compares favourably with that of Medical Education in London or elsewhere in the provinces. Students have access to the Practice of King Edward VII. Hospital. Medical men wishing to prepare for a Diploma in Public Health can attend complete courses of in- struction in Public Health and Hygiene at the College. Further information and advice may be obtained from the Dean of the Faculty of Medicine. The Medical Prospectus can be obtained on application to DAVID HEPBURN, V.D., C.M., F.R.S.E., Dean of the Faculty of Medicine; or D. J. A. BROWN, Registrar.
I Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw.
News
Cite
Share
I Achos i'r Pwyntyn Nhroedyrhiw. Cymer Merthyr ddiddordeb yn llwyddiant trigolion Troedyrhiw. Er enghraifft, darllenir adroddiad a wnaed gan ddyn o Droedyrhiw ddeng mlynedd yn ol gyda mwy o fodlonrwydd ngg erioed pan y cefnogir ef gan ddeng mlynedd o brawf. Awst 2il, 1905, dywedai Mr. E. Ansell, 26, Cardiff-road, ger yr Orsaf, Troedyrhiw, ger Merthyr Tydfil :Arferwn ddioddef oddiwrth boenau llym yn fy nghefn, a dywedai y meddyg mai crydcymalau oedd yr achos o'r gofid. Byddai y poenau weithiau mor ddrwg fel y teimlwn hi yn fater caled i weithio, ac os plygwn byddai yn waith caled i mi ymunioni drachefn. Treiais amryw feddyginiaethau a phlasteri, ond Doan's Backache Kidney Pills oedd yr unig foddion a'm hesmwythaodd. Gwnaeth ychydig ddognau o'r pelennau hyn y byd o les i mi; yn wir, yr wyf yn ameu y gallaswn ddal at fy ngwaith pe na buaswn wedi eu cymryd. (Ar- wyddwyd) E. Ansell.' Yn agos i ddeng mlynedd. yn ddiweddarach, dywed Mr. AnsellNis gallaf byth ganmol gormod ar Belennau Doan, oblegid hwy a'm hiach- asant ddeng mlynedd yn ol, ac nid wyf wedi cael y cyfryw ymosodiadau byth er hynny. Nid ydynt byth yn ffaelu rhoddi esmwythad, ac yn ddiddadl y maent y feddyginiaeth oreu at yr arennau.' Pan y gadawa yr arennau sur troethol yn y cyfansoddiad, arhosa yn y cyhyrau a'r cyinalau. ac achosa boenau a chwyddiadau caled y cryd- cymalau. Dylai poenau a doluriau y cryd- cymalau pan mae'r tywydd yn ddrwg eich arwain i ddrwgdybio fod yr arennau yn gadael y gwaed wedi ei orlwytho gan sur troethol. Achosa Doan's Backache Kidney Pills i'r aren- nau a'r bledren weithredu'n rhydd, yna teflir ymaith y sur troethol cyn iddo gael amser i aros a chrisialu. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at y cefn neu'r aren- nau, ond gofynnwch yn eglur am Doan's Back- ache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Ansell. to
I Yr Undeb ym Mrynaman.
News
Cite
Share
I Yr Undeb ym Mrynaman. I MEHEFIN 13eg-16eg, 1916. I (Parhad o'r Rhifyn diweddaf). DYDD IAU. Yllg nghapel Gibea, am 7 o'r gloch, cynhal- iwyd Y CYFARFOD CYHOEDDUS Llywyddwyd gan Mr. W. R. Owen, Llundain, ac areithiwyd ar Y RHYFEL PRESENNOL A'l WERSI, GAN Y PARCH. J. L. WILLIAMS, M.A., B.Se., ABERYSTWYTH. i. Y Rhyfel yn ei berthynas a Chyflawiidey.- Hanfod pob symudiad i bawb sydd yn ei bleidio neu ei wrthwynebu yw deall ei berthynas a chyf- iawnder. Gwn fy mod yn sangu tir peryglus wrth gysylltu'r gair cyfiawnder a rhyfel. Y mae'r ddau yn elynion tragwyddol i'w gilydd yn syniad rhai, ond yn syniad eraill y mae'r naill wedi cynorthwyo'r llall ar adegau peryglus a phwysig yn hanes y byd. Ceir y ddau ddosbarth hyn yn gwahaniaethu yn eu barn ynglyn a'r rhyfel pres- ennol. Myn y pasiffist fod rhyfel, er i'w amcan fod yn dda, yn groes i gyfiawnder moesol rhwng dyn a dyn, a chenedl a chenedl. Y mae gennyf barch calon i basiffist gonest 8y'n gwrthwynebu rhyfel ar dir crefyddol. Da gennyf fod y Llyw- odraeth wedi cydnabod yr hawl yma, ac wedi rhoddi conscience clause yn ei Mesur Milwrol; a da gennyf pe buasai'r tribunals wedi ei defn- yddio'n fwy teg a charedig. Ond carwn i'r pasiffist roddi'r un parch i gydwybod pobl eraill sydd yn gwahaniaethu oddiwrth ei eiddo ef. Dysgwn barchu gonestrwydd ein gilydd pan yw ein barn yn croesi, fel ag y gwnaeth Oliver Cromwell, y milwr Piwritanaidd, a George Fox, y Crynwr Piwritanaidd. Y mae miloedd o gref- yddwyr gonest yn y wlad hon heddyw yn credu'n gydwybodol fod y rhyfel hwn o du Prydain dros gyfiawnder a rhyddid. Y mae miloedd o fechgyn yn y fyddin heddyw na fuasai'n agos ati onibai eu bod yn credu'n onest eu bod yn ymladd dros yr hyn sydd gyfiawn. Pan glywaf ddyn yn dywedyd fod bechgyn fel yna yn troi cefn ar Grist, er eu bod yn ymladd dros gyfiawnder, a bod yr Eglwys wrth eu cefnogi yn plygu i alwad y Wladwriaeth, buaswn yn caru gofyn i hwnnw ai dyn i ofni a phlygu i'r Wladwriaeth yw y gwrol Dr. John Clifford ? Ai dyn i droi ei gefn ar Iesu Grist yw'r duwiol Dr. Horton ? Dyna i chwi ddau ddyn sydd yn cefnogi'r rhyfel, nid am fod y Wladwriaeth yn eu galw, ond am fod ymdeimlad o gyfiawnder Duw yn eu calon yn eu gorfodi. Ond gwn mai nid enwau dynion benderfyna a yw rhyfel yn gyfiawn, eithr egwyddor ddisigl. Yn awr, y ddadl fawr glasurol ar y pwnc, ac un a glywir yn fynych yw, nad oes gan Gristion ddim hawl i ddefnyddio force. Ar bwys brawddeg fel yna cymerir yn ganiataol fod pob math o ryfel, er iddo fod dros gyfiawnder, yn anghrist- ionogol. Ond ystyrier am funud beth a olygir wrth y frawddeg defnyddio force.' Cofier, i ddechreu, mai'r hyn sydd yn gwneud unrhyw beth yn dda neu ddrwg yw amcanion moesol. Meddwl ac amcanion moesol dyn sydd yn rhoddi ei gymeriad moesol i bopeth. Mae peth yn mynd yn dda neu yn ddrwg yng ngoleuni'r amcan y'i defnyddir. Mae pobl yn siarad am force fel pe byddai'n rhywbeth moesol neu anfoesol ynddo ei hunan. Mae force ynddo ei hunan yn non- moral, ond y funud y byddwch yn dechreu ei ddefnyddio mae eich amcanion chwi yn rhoddi cymeriad moesol iddo. Pwysleisiwch felly y gair cyntaf yn y frawddeg—nid 'force,' ond defnyddio.' Y defnydd wnewch o force sydd yn penderfynu ai da ai drwg ydyw. Yn awr, y defnyddiwr mwyaf ar force yn y byd yma yw ei awdur, set Duw. A oes rhywun a amheua nad yw Duw'n defnyddio force yn Ei greadigaeth a'i lywodraeth i ddau gyfeiriad—i feithrin y da ac i lethu'r drwg ? Y mae force anianyddol yn llaw Duw yn cael ei redeg ar hyd llinellau deddfau natur, a'i ddefnyddio i amcan- ion moesol uchel-yn cosbi'r troseddwr, ac ambell waith yn ei ladd. Y dyn sydd wedi difa ei gorff trwy oferedd, ac yn marw o nychtod, y mae Duw yn Ei ddeddfau yn ei gwrdd. Ond y mae Duw yn defnyddio force i feithrin a chys- godi'r dyn sy'n parchu Ei ddeddfau. Melltith
LLYTHYRAU AT FY NGHYO-WLADWYR.
News
Cite
Share
cenedl sydd yn ymhyfrydu yn eu cyrddau, yn astudio diwinyddiaeth, ac yn rhoi ond cymharol ychydig o bwys ar gasglu cyfoeth, ar safle cym- deithasol, a'r hyn elwir gan y Sais yn ddod ymlaen yn y byd.' A chan nad ydynt yn ein deall y maent yn ein drwgdybio, canys y mae dyn erioed yn drwgdybio'r hyn nad yw yn ei ddeall. Y mae llawer Sais wedi ffurfio ei farn am Gymru o'i astudiaeth o lyfrau ar hanes Prydain a ysgrifennwyd gan Saeson. Ychydig geir mewn llyfrau o'r fath yn ami am Gymry ond hanes yr hen Frythoniaid a'r ddau Lywelyn. Dyma'r He, mae'n amlwg, y cafodd eich cyfaill ei syniad ef am danom. Ffurfiodd rhai eu syniadau am danom yn y blynyddoedd diweddaf oddiwrth y Perfidious Welshman,' er y bydd yn hapus gennych glywed mai ychydig werthwyd ar y llyfr hwnnw. Yn ddiweddarach byth ffurfiwyd barn wael gan lawer Sais oherwydd y llyfr hwnnw, My People.' Dywedodd adolygydd un o bapurau pwysicaf Llundain wrth adolygu'r llyfr ei fod erioed wedi tybio mai ychydig iawn yn uwch na'r anifail yr oedd y Cymro wedi codi, ond ei fod yn awr yn sicy, gan y dywedwyd hynny gan un o blant y genedl. Fe wyr pob Cymro mor ychydig o wirionedd sydd yn y llyfr. Dywed yr awdur ei fod wedi ysgrifennu'r llyfr i godi cywilydd ar ei gydgenedl. Yr unig gywil- ydd gododd ym mynwes gwyr goreu Cymru nad oedd yno o'r blaen oedd cywilydd am fagu ohonom wr yn carn ei wlad mor lleied fel y gallai ysgrifennu llyfr yn yr iaith Saesneg yn rhoddi camargraff mor ofnadwy am ei famwlad. Ffurf- iodd llawer Sais ei syniad am y Cymro oddiwrth un Cymro neu ddau a gyfarfyddodd rywbryd. Dyma'n harfer ni fel cenhedloedd erioed. Ymresyma Y mae A yn Gymro y mae A yn bopeth sydd yn wael. Felly y mae pob Cymro yn bopeth sydd yn wael.' Gallai plentyn deuddeg oed ddangos y camymresymiad sydd yma. 'Rwy'n cofio cyfarfod unwaith a dau frawd o Norway. Cymeriadau ardderchog oeddynt. Gwelais hwynt mewn gwesty yn codi ar eu traed, yn cau eu llygaid, ac yn dawel ofyn bendith ar eu bwyd. Bu gennyf feddwl uchel am bobl Norway am fisoedd wedyn nes i mi gael wy drwg mewn gwesty yn Llundain yng ngofal brodor o Norway. Wedi hynny dar- llenais a dysgais lawer am Norway, a chredaf fod gennyf erbyn hyn syniad lied deg am danynt —syniad sydd yn agosach i'r cyntaf ffurfiwyd nag i'r ail. Wrth gwrs, y mae syniad y Sais yn gwahaniaethu am danom o dro i dro. Flynydd- oedd yn ol, pan gurai y Cymro Lloegr a gwled- ydd eraill ar y bel-droed, cododd ei farn am danom i raddau mawr. Yn y blynyddoedd diw- eddaf gorffwys ein henw da i raddau helaeth iawn ar gymeriad Mr. Lloyd George. Pan fydd ef yn boblogaidd, adlewyrchir ei glod ar ei wlad pan yn amhoblogaidd, eglurir ei ffaeleddau ar sail ei haniad. Y peth pwysig i chwi yw gwybod pa beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau. Ynghyntaf peth, parhewch i fyw fel y daw clod i'ch cenedl o'ch bywyd chwi. Gwrthodwch gymryd i fyny bechodau'r Sais, a chadwch oddiwrth bechodau parod y Cymro. Fe fydd hyn yn fwy gwerth- fawr lawer nag ymresymu a'r Sais cyffredin. Ond pan gewch chwi Sais eang ei syniadau sydd yn wir awyddus i gael syniad cywir am danom, dylech wrth gwrs ddangos iddo fod ein hanes fel cenedl, er yn wahanol ac ar raddfa lai, mor glodfawr ag hanes y Sais ei hun. I wneud hyn, rhaid i chwi ymgydnabyddu ag hanes eich gwlad. Os nad ydych wedi eu dar- Uen yn barod, darllenwch The Making of Modern Wales' (1/6), gan Howell T. Evans, M.A. Self-made Welshmen (1/6),; Enwog- 1 ion Cerdd (5c.), gan Gwylfa Enwogion Can- rif (5c.), gan D. R. Jones, M.A.y pedwar yn gyhoeddedig gan y Cwmni Addysgiadol, Trade- street, Caerdydd Social Life in Wales (1/6), gan John Finnemore (A. & C. Black) Heroes of Wales,' gan W. Jenkin Thomas, M.A. The Welsh People,' gan Syr John Rhys a Brynmor Jones (Fisher Unwin, 2/6) a. 'A Short History of Wales,' gan Syr O. M. Edwards (Fisher Unwin, 2/6). Fe gewch chwi yn y llyfrau hyn ffeithiau l sylfaenu dadl gref arnynt. Ond cyn y gellwch argyhoeddi'r Sais ar y Jnater hwn, rhaid i chwi ei argyhoeddi ynghyntaf oil o dri pheth-ynghyntaf, fod mawredd yn gynwysedig nid mewn ymerodraeth eang, na phobloedd a chyfoeth lawer, ond mewn cenedl sydd a'u bywyd yn glod i'w Chreawdwr, bydded mor fechan neu dlawd ag y byddo modd; yn ail, fod y Sais erioed wedi camgymeryd enwog- rwydd am wir fawredd. Rhaid i chwi ddangos iddo fod yna lu o bobl fawr eu deall a'u gallu a'ucymeriad wedi byw na'fuont erioed yn enwog a llu o enwogion na fuont erioed yn ddynion mawr nac yn ddynion da. Ac yn drydedd, rhaid i chwi ei argyhoeddi fod cynnydd moesol ac ysbrydol yn bwysicach na chynnydd materol. Cymerai amser mawr i mi fanylu ar y tri gosod- iad yma. Meddyliwch am danynt drosoch eich hunan ni chewch yr un anhawster i'w credu, am eich bod yn Gymro. Gwnewch eich goreu wedi hynny i ddwyn eich cyfeillion Seisnig i gredu'r un fath, a rhowch wybod i mi faint o lwvddiant ddaw i'ch rhan. Nid tasg hawdd fycld gennych os Uwyddwch, fe wnewch ryw- beth i godi eu delfrydau ac i agor eu meddyliau ar rai o broblemau pwysicaf datblygiad dynol- ryw. Gyda dymuniadau goreu, I ATWEBYD.