Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
12 2)r$cb. A WELSH WEEKLY RSTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. ProDrietor, UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
Y KAISER A'I DDUW.I
Y KAISER A'I DDUW. Gan Simon o Cyrene. William Hohenzollern sydd ddyn eithriadol, a ddodwyd mewn amgylch- iadau eithriadol, yn mha rai y gall wneyd wmbredd eithriadol o ddrwg, neu pe mynasai, o dda. Meddwl cryf, ewyllys wydn, hunan-hyder diderfyn; ac yna wrth ei gefn, ac at ei alwad, haner can miliwn o ddeiliaid gwasaidd, meddylgar, dyfeisgar, meistrolgar, ys- trywgar, gweithgar. Rhed yn ngwyth- ienau y Cesar hwn waed cenedlaethau o deulu hunangar Hohenzollern; nytha yn ei ymenydd syniadau oesau o fyfiaeth ucheldrem; canolbwyntia yn ei uchelgais ganrifoedd o falchder a hunan-ogoneddiad; crona yn ei galon ddiluw trochionog o hunan-addoliad. A'i farnu wrth ddywediadau o'i eiddo, penaf amcan bodolaeth y Duw Goruch- af yw mawrhau yr ymerawdwr her- feiddiol William. Gwrandaweg-a-sW. ef ei hqn: "0 her- r'.Iyfi ydwyf ymerawdwr yr Almaen, disgynodd arnaf Ysbryd yr Arglwydd. Myfi ydwyf ei ffefryn a'i offeryn ef; Myfi ei gleddyf, Myfi ei gynrychiolydd ar y ddaear. Un meistr sydd i ymerodraeth fawr yr Almaen, a Fi yw hwnw. Rhaid i ni oil fod ag un ewyllys, a hono fy ewyllys I. Nid oes ond un ddeddf i ni, a hono fy neddf I. Os gorchymynaf Fi i chwi ladd eich perthynasau a brodyr, ie, eich rhieni, rhaid ufuddhau i Mi yn ddiwarafun. Gwae ac angeu i bawb a groesant fy ewyllys I, neu a wadant fy nghenad- aeth 1. Dinystr i holl elynion y gen- edl Ellmynaidd. Myn Duw eu llwyr ddinystrio-Duw yr hwn trwy fy ngenau I, a'ch gwysiodd i gario allan ei arfaeth." Nis gwthiodd yr un pen- aeth na phab nac arglwydd nac ymer- awdwr gymaint o Hunan i gynifer o eiriau erioed. Ni all'sai yr un mogul, nabob, satrap nac emir; na'r un caliph, na sheik, na shah, na rajah yn y dwyr- einfyd wasgu cymaint o "Fi" i can lleied o eiliadau. Gan hyny, sicr yn fy meddwl yw, mai duw y Kaiser yw efe ei hun. Pwy yn fwy fflip nag ef i son am ei Gott, ond y Fi yw'r unig Gott adnebydd William. Bu y darllenydd fel finau yn ddiau, yn dyfalu ganwaith pwy yw Annghrist. Ni wn i am neb na dim wna ffitio y destgrifiad yn well na Hun- an, duw y byd hwn, sef y Fi Fawr. Dau dduw sydd ag y telir gwarogaeth a gwasanaeth iddynt, a'r ddau hyny ydynt y Duw Byw, a Hunan (self). Hanfod Duw ydyw cariad, hanfod pechod yw Hunan. Hunan yrodd Adda ac Efa o Eden; "chwi a fyddwch megys duwiau." Hunan handlodd y pastwn ac a loriodd Abel i'r ddaear yn gelain. Hunan, sef y Fi, ddatododd rwymau y cymylau ac a agorodd ddorau y dyfn- der nes boddi y byd a diluw. I Fi y rhaid i'r Sodimiaid ddiolch am y caw- odydd brwmstan a'u llosgodd yn gol- syn. Y Fi a achosodd i Jacob ac i Pharaoh, i Dafydd a Solomon a Manas- se, i Nero a Napoleon a Nicolas (Rwsia) helyntion a blinderau yn dorf fawr. Myfi a Hunan yw awdwr y Rhyfel Mawr, Myfi, yw Gott y gwr sy'n trochi Ewrop a gwaed ei gyd- ddynion, oblegid nid oes duw ond lMyfi! Arferir bwrw'r bai ar y diafol am bech- odau haerllug ac enbyd y byd, ond dy- wedodd Rhywun mai c'r "galon y mae meddyliau drwg yn dyfod, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau." Mor ami y gofynwn y cwestiwn paham na rydd y Duw sydd Hollalluog derfyn ar wae plant dynion trwy roi terfyn ar Satan. Ond ni wnelsai 'trin a throi, a chicio a chnoi y gwr drwg' helpu dim arnom, gan mai "allan o'r galon y maent yn dyfod." A chaniatau mai y diafol yw tad y drwg, Hunan ein calon yw mam y drwg. Lladd y fam sydd eisieu, sef y Fi hunangar a hunan-addolgar, ac ni wna un daioni i ladd y rhyfel hwn, nac o ddiafol, eithr o Hunan. Hunan wedi ei ddwyfoli yn nysg Bernhardi a Treitschke; Hunan yn uchelgais Bis- mark a theulu Hohenzollern; Hunan yn cyhoeddi, Might is Right; Hunan yn gweithio trwy Holl-weg, Zimmer- man a Bernstorff. Nod fawr meddyg wrth ymladd ag afiechyd yw taro ar antidote, gwrth- bair wna ladd y pryfedyn sy'n difa nerth y claf. Y gwrth-bair a gynygia Cristionogaeth i ladd pechod yw gwadu Hunan; "os myn neb ddyfod ar ol Mab y Dyn, ymwaded ag ef ei Hun." Codwch eich croes bob dydd, ac ar eich croes hoeliwch eich Hunan hyd nes byddo farw. Tri enw ar yr un peth ydynt, gwadu Hunan, croeshoelio Hun- an, aberthu Hunan. Perthyn i Bry- dain gryn gwrs o Hunan, cystal ag i Germani, ac i Ffrainc a Rwsia. Ac i'r Unol Dalaethau yr un modd. Y rhyfel hwn yw eu croes ar ba un y gallant, os y mynant, hoelio Hunan, eu duw hwy a duw y Kaiser. Aberthu Hunan yw y gwrth-bair, ac fe enilla America y rhyfel am ei bod ynddi o hunan- aberth. IAc ar ol y croeshoelio, caiff Ewrop ac America adgyfodiad gwell.
Y DINESYDD AMERICANAIDD. I
Y DINESYDD AMERICANAIDD. I Gan Thos. J. Roberts, Yorkville, N. Y. Traethawd Cyd-Fuddugol yn Eistedd- fod Utica y Calan, 1916. Penod II. Dyledswyddau y Dinesydd.—Mae pob gwlad o'r bron yn ceisio gan ei deiliaid gyflawni rhyw ddyledswyddau arbenig fel ad-daliad am y breintiau, a'r amddiffyn, sydd iddynt. Mae ein gwlad ninau yn galw ar bob dinesydd i'w chynorthwyo i drefnu ei materion yn gonedlaethol, gwleidyddol, a chym- "deithasol. Beth yn fwy na'r hawl i bleidleisio ag sydd yn ddyledswydd arbenig y dinesydd. Trwy ei bleidlais y mae yn penderfynu pa fodd y dylid trefnu gweithrediadau y llywodraeth. Edrychir arni fel braint, a chyfleusdra anmhrisiadwy, a dylid gofalu am beid- io ei hesgeuluso, na'i chamddefnyddio, oblegid y mae yn drysor gwerthfawr. Bu brwydro a cholli gwaed er ei ham- ddiffyn, gwariwyd miliynau o ddoleri, aberthwyd 'pob peth ag oedd anwyl yn ngolwg dynion er mwyn ei dyogelu, a chadw i fyny urddas ein gwlad. Cyn y gall roddi ei bleidlais—boed dlawd neu gyfoethog, dysgedig neu annysged- ig, Arlywydd, neu lafurwr—y mae yn cael ei osod ar yr un tir, cyfranoga yn gyfatebol i'w gyd-ddyn o ddyfarniadau materion gwleidyddol. Rhaid iddo fod yn ddinesydd rhyw un o'r talaethau, a thrwy hyny yn ddinesydd o'r Unol Dal- aethau, wedi ei eni neu ynte wedi ei fabwysiadu fel y cyfryw—yn un ar hugain oed, oblegid nis gall plant lyw- odraethu y wlad. Cofrestru.—Dyledswydd arbenig yw, a dylai ofalu mewn pryd am gofrestru ei enw, hyny ydyw, ymddangos mewn ystafell neillduedig ger bron swyddog- ion ag sydd wedi eu dewis ar gyfer y gwaith, a phrofi iddynt fod ganddo hawl i bleidleisio, ei fod yn un ar hugain oed, yn ddinesydd genedigol o'r wlad, neu ynte ddangos tystysgrif ei fod wedi ei fabwysiadu yn rheolaidd gan y wlad. Diffyg sel a chariad at y wlad sydd wedi bod yn rhai o ddiffyg- ion penaf y dinesydd yn y cyfeiriad hwn, rhaid gofalu am y pethau bych- ain cyn y bydd i'r pethau mwyaf gael ei hymddiried i ni. Dyddordeb a brwdfrydedd sydd yn enyn tan gwlad- garol yn mhob dinesydd o'r iawn ryw. Dewis.—Dyma ddyledswydd bwysig ag sydd i chwareu rhan bwysfawr yn mywyd y dinesydd, sef gofalu pwy i'w ddewis i gynrychioli y rhanbarth, tal- aeth, neu y wlad. Hawlia y mater hwn fwy o sylw nag a roddir iddo yn y dyddiau hyn. Canfyddir Iluaws yn ein gwlad yn barotach i roddi eu pleid- lais dros rai na wyddent ddim am dan- ynt, heb erioed eu gweled, na chlywed eu henwau o bosibl hyd ddydd yr eth- oliad, nag ydynt i ymgydnalbyddu a pethau gwleidyddol, ceisio deall beth yw dyben ac amcan y swyddogaeth yma, a'r swyddogaeth arall. Barna y gwir ddinesydd drosto ei hun, o gan- lyniad, caiff ei fod ar lwybr dyogel i ddewis y rhai mwyaf cymwys i lanw y gwahanol swyddau. Peidio treiddio i mewn i hanes a chyfaddasder yr ym- geiswyr sydd wedi bod yn siomiant ac yn ddinystr i lawer. Pe byddai pob dinesydd yn fwy gwyliadwrus yn ei ddewisiad ddydd yr etholiad, byddai gwedd fwy llewyr-chus ar y wladwr- iaeth yn gyffredinol. Gwylio.—Rhaid yw dynesu a gwylio yn fanwl symudiadau, a gweithrediad- au y iSenedd dalaethol, ar Gydgyngor- fa, er cael gweled beth yw y mesurau a'r cyfreithiau fydd yn cael eu trafod, a'u pasio ynddynt. Mae y Cyfansodd- iad sydd yn perthyn i ni fel gwlad yn cael ei esbonio, neu ei egluro yn ami gan rai dynion fel pe tae yn gyfnewid- iol o ran ei ansawdd, o ganlyniad rhaid i'r dinesydd gwladgarol ddeall beth yw yr egwyddorion hyny sydd yn annghyfnewidiol, egwyddorion syl- faenol ein llywodraeth, beth yw ystyr ein sefydliadau, a ffurfio barn bersonol pa fodd y dylid cario yn mlaen weith- rediadau mewnol ac allanol ein gwlad. Bywyd o wylio pob symudiad ydyw bywyd y dinesydd i fod, a dyna yr unig ffordd y daw i deimlo fod yntau yn cynal breichiau y wladwriaeth sydd yn ymgodymu a phroblemau dyrus ac an- hawdd. Os nad yw yn gwybod am y Cyfansoddiad, nac yn ceisio ei ddeall; os nad yw yn gwerthfawrogi y dull o dynu allan ddeddfau a chyfreithiau; os nad yw yn cymeryd poen a thra- fferth i ddewis ymgeiswyr cymwys, a rhoddi ei bleidlais dros yr egwyddor- ion y maent yn sefyll trostynt, byddai peidio a chyflawni y dyledswyddau hawdd, a goruchel hyn, yn rhwym o esgor ar ganlyniadau difrifol, a byddai, rhaid i'r dinesydd Americanaidd wyn- ebu y llywodraeth fwyaf bwdr fu yn hanes y wlad. Cawsai weled annhrefn yn teyrnasu na fu ei gyffelyb erioed. Nid yw y dinesydd yn cael ei gyf- yngu o fewn y cylchau gwleidyddol, gwladgarol a chymdeithasol yn unig, mae yn rhy fawr, a chylch ei gymwys- derau, yn nghyd a'i ddyledswyddau, a'i ddefnyddioldeb yn uwch, lletach, a dyfnach na'r amgylchedd a nodwyd. Bywiolaeth, o angenrheidrwydd, yw y mwyaf arbenig o'r holl gylchoedd ag y mae yn dal perthynas a hwy, set enill bywiolcC'h onest a theilwng. Ynddi a thrwyddi mae Hawer wedi dod i gymundeb agosach a ffeithiau mawr y bywyd cenedlaethol. Gofidus yw meddwl fod rhai yn gweithio er ceisio osgoi trengu o newyn, gan gredu eu bod yn llanw gofynion deddf bywiol- aeth hyd yr ymylon, heb ystyried, na cheisio ymgyraedd at y nod, nac enill camp uchel eu galwedigaeth. Bywiol- aeth resynus o wael yw os nad oes gan y dyn ryw amcan gwell mewn golwg. Llafur rhad sydd lafur drud, parod i ddisgyn i safn difodiaeth. Ac mae y dyn nas gall godi uwchlaw hyn yn am- ddifadu ei hun, ac yn graig rhwystr i eraill wasanaethu eu gwlad megys ag y dylent. Bywiolaeth onest a llawn sydd sylfaen annibyniaeth pob, dines- ydd yn ein gwlad, yn un o'r rhinwedd- au mwyaf ardderchog, yn fam gwrol- deb, hunanymddibyniad, goddefgar- wch, cynildeb, llawenydd, gobaith. Os heb y rhinweddau hyn trymha ei faich a daw yn hwyr neu hwyrach i deimlo fod ei nerth yn pallu. Caiff sicrwydd ynddo ei hun ei fod yn ogystal a'i deulu wedi eu hamddifadu o bob cys- uron, wedi colli yr urddas sydd yn perthyn i ddinasyddiaeth. Beth yw bywyd teuluol, ysywaeth, heb urddas a gweddeidd-dra; neu wleidyddiaeth heb addysg a diwylliant; a beth yw cref- ydd ynddi ei hun, er fod ganddi gen- adwri i'r tlawd, os heb glustiau gan- ddynt i wrandaw? Amrywiol y ffyrdd trwy y rhai y gall dynion wasanaethu eu gwlad, er iddynt fod yn mhell o wneuthur hyny yn uniongyrchol. Gwasanaethant ar linellau masnach, a llafur. Nid yr awyddfryd i. bentyru cyfoeth sydd wedi gwneuthur ein gwlad mor gymeradwy yn ngolwg ei deiliaid, ond llafur diflino, ac antur- iaethau llwyddianus ei dinasyddion. Gall y dinesydd deimlo yn rhydd i ddweyd ei fod wedi ceisio amgyffred yr hyn sydd yn gynwysedig mewn gwir ddinasyddiaeth, a chaniatau iddo fod heb wneuthur mwy na chynal ei hun, a'r rhai sydd yn dybynu arno am eu bywiolaeth. (I'w Barhau).
[No title]
Bu aelodau Dirprwyaeth yr Anes- mwythder yn Myd Llafur yn 10 Down- ing Street, y dydd o'r blaen, ac anerch- wyd hwy gan Mr. Lloyd George. An- ogai hwy i gario yn mlaen eu hym- chwiliadau yn drwyadl ac uniongyrch- ol. Dylent wneyd eu hargymellion eu hunain o berthynas i'r ffordd oreu o ddelio ag achosion yr anesmwythder, er nad oedd y Llywodraeth, o angen- rheidrwydd, yn bwriadu aros am eu hadroddiad hwy fel dirprwywyr cyn delio a rhai pethau. Yr oedd y Wein- yddiaeth wedi bod yn gwneyd ym- chwiliad i gwestiwn yr elwa an- nghyfreithlawn mewn ymborth, a bwriedid dwyn yn mlaen gynygion er gostwng costau bwyd. Anogai y dir- prwywyr i sylwi ar effaith hyn ar yr anesmwythder.
GWAREIDDIAD A CHRISTIONOGAETH…
GWAREIDDIAD A CHRISTIONOG- AETH YN NGOLEUNI Y RHYFEL PRESENOL Gan y Parch. David Jones, Scranton, Pa. Cyd-fuddugol yn Eisteddfod Utica, Calan, 1916. Penod n. A oes cyfathrach o ryw fath rhwng gwareidditd a tiiristlonogaeth a rhyfel? Pan ystyriom beth a olyga gwar- eiddiad a Christionogaeth ar un llaw, a rhyfel ar y llaw arall, nid rhyfedd genym fod cenedloedd nad ydynt Gris- tionogion yn gofyn mewn syndod ai gwir yw fod gwledydd Cristionogol a gwareiddiedig yn ymladd a'u gilydd? A ellir cysoni delfrydau gwareiddiad ac egwyddorion Cristionogaeth a'r dinystr a achosir gan ryfeloedd? Am- lwg i'r mwyaf arwynebol ei fyfyrdod- au fod rhyw annghysoiideb dybryd yn bodoli yn rhywle. i-fae wrth- -t ?'a e rhyw wrth- darawiad pendant rhwng proffes ac ymddygiad y rhai a yrr .ffrostiant yn eu gwareiddiad a'u d.:tv>Iliant pan yn cy- hoeddi rhyfel ac yn rhuthro i'w gilydd fel bleiddiaid rheib^is. M.ae yr an- nghysondeb yma ;■ h. wir am bob ym- ryson derfyna lrewn brwydr a thywallt gwaed, ond ymddengys yn amlycach yn y rhyfel presenol, ond odid, nag yn un arall yn hanes y byd. Ni ofynwyd y fath gv/estiynau, ac ni chynyrchwyd y fath ymholiadau i'r cyfeiriadau hyn gan y rhyfeloedd di- weddaraf yn hanes y gwledydd. Pan oedd Rwsia a China, a China a Japan yn ymladd, a phan oedd yr Amerig a'r Ysbaen yn brwydro, ni chlywsom neb yn siarad, ni welsom neb yn ysgrifenu yn ajneugar am ddy- lanwad gwareiddiad a ^hristjonogaeth, ond y mae fod gwlet'vj'? mv vaf diwyll-  ..ji? oyianJi- Ew.c?' .mlud ac .I.o.J. b \íJ u.1.L. rf"v: u,u, 0'. i'r fath eangder ac eithafion a'r rhyfel presenol wedi arwain dynion gyda llawer iawn o ddifrifwch i ofyn a yd- yw gwareiddiad a Christionogaeth wedi myned yn fethiant? Dysgwyd byd a chymdeithas, gan awdwr a syl- faenydd Cristionogaeth i bron pob peth wrth ei ffrwyth. "Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddiar ddrain, neu fligys oddiar ysgall? Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 0 herwydd paham wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt." Os mai rhyfeloedd Iel yr un presenol yw canlyniad gwareiddiad a Christion- ogaeth, tybed nad mantais i'r byd yd- yw gwneyd ymaith ag addysg a di- wylliant, athroniaeth, gwyddoniaeth a duwinyddiaeth Gristionogol a throi y byd yn ei ol i'r adeg pan nad oedd yn bosibl trefnu rhyfeloedd ar y fath raddfa eang a phan nad oedd gan ddyn- ion ond bwa a saeth, bidog a phicell yn arfau yn hytrach na defnyddio dy- feisiau a darganfyddiadau gwareiddiad uchel i ysigubo dynion wrth y miloedd i dragwyddoldeb. Onid mantais i'r byd fyddai cael gwared o bob peth sydd wedi eu dwyn i ddynoliaeth gan war- eiddiad a Christionogaeth os na fedr- ant atal ditrodau o'r fath yma i gym- eryd lie? Onid yw y golled yn fwy na'r enill? Nid ydym yn synu fod dynion mewn byrbwylldra yn cael eu harwain i gyhoeddi fod gwareiddiad a Christionogaeth yn fethiant, ac fod y naill a'r llall wedi cyfarfod a'u Water- loo yn nechreu yr ugeinfed ganrif. Arweinir llawer i ofni nad yw Cristion- ogaeth a'r gwareiddiad deilliedig o honi yn ateb angen cymdeithas, ac ar- weinir tyrfa fwy i ofidio fod y rhyfel presenol yn bosibl, am fod hyny yn an- fantais i lwyddiant gwareiddiad Cris- tionogol yn ngwledydd !paganaidd y byd. Tybed nad yw yn naturiol i ddys- gyblion Confucius a Bwdha ac athraw- on eraill i ddweyd fod eu dysgeidiaeth hwy yn rhagori ar eiddo Crist, os mai dyma ganlyniad dysgu, pregethu, credu a phroffesu yr egwyddorion hyn am ddwy fil o flynyddoedd. Credwn gyda miloedd eraill y bydd y rhyfel presenol yn rhwystr i ledaeniad yr Efengyl yn ngwledydd pellenig y byd, ac yn sicr o lesteirio gwaith y cenadon ydynt wedi myned allan i ddysgu eg- wyddorion a gwareiddiad Cristionogol, am y danodir iddynt mai un o ddylan- wadau yr egwyddorion ddysgant yw y rhyfel presenol. Er hyny, nid oes ynom bryder am lwyddiant eithafol Cristionogaeth a'r gwareiddiad sydd yn leilliaw o honi, ac nid oes arnom ar- swyd cyhoeddi ein barn nad yw gwar- eiddiad na Christionogaeth wedi cael llawer, na dim lie i arfer eu dylanwad yn rhyfeloedd mawrion y byd hyd yn hyn, ac yn arbenig yn y rhyfel presen- ol. Cyhoeddir yn groch ar benau tai ac ar y prif-ffyrdd gan y rhai nad yd- ynt ffafriol i Gristionogaeth, ei bod wedi profi yn fethiant, ond nid oes prawf teg wedi ei roddi arni, nac ar wareiddiad Cristionogol yn y cwerylon sydd wedi arwain i, ac wedi terfynu mewn brwydrau gwaedlyd, a difrodau annesgrifiadwy ar lawer cyfandir. Ychydig a chyfyng ydynt yr ar- brawfion sydd wedi eu gwneyd ar eg- wyddorion sylfaenol a mwyaf amlwg gwareiddiad a chrefydd mewn unrhyw gylch. Un o linellau amlycaf Cristion- ogaeth yw cariad. Dyma y gair am- lycaf ac anwylaf yn ei geirlyfr hi. Dyma yr egwyddor sydd fel llinyn eur- aidd yn rhedeg trwy eu holl gyfun- drefn. Duw cariad yw. Ymgnawdol- iad o gariad oedd Crist. Gweithred- oedd cariad oedd yr eiddo Ef. A phan symiodd i fyny ddyled dyn at ei Dduw, ac at ei gyd-ddyn, dywedodd "Car yr Axglwydd dy Dduw, a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac a'th holl feddwl. Hwn yw y cyntaf a'r gorchymyn mawr. A'r ail sydd gyffelyb iddo, Car dy gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r proffwydi yn sefyll. Ac y mae y rheol euraidd a roddodd i ddyn i weithredu yn ei hoi yn sylfaenedig ar yr un egwyddor. "Am hyny, beth bynag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwith- au iddynt hwy, canys hyn yw y gyf- raith a'r proffwydi. Ond anaml y gweithredir yn ol y rheol hon mewn cylchoedd teuluol, cymdeithasol, gweithfaol ac eglwysig. Mae lluaws achosion ein llysoedd yn ganlyniad an- wybyddiad o'r rheol hon, a mynych y ceir ein barnwyr yn ddigon gonest i geryddu pleidiau ddeuanr ger eu bron, am na baent yn ymgais at derfynu yr annealldwriaeth plentynaidd a fodolai rhyn^duvnt cyn dyfod i'r 1tys gwladolr Pe y gweithredid yn ol y rheol hon, darfyddai llawer o'r ymrysonau yn yr esgoreddfa, diiianai llawer o'r ysbryd cas fodola mewn llawer ardal, a glan- heid ein llysoedd o'r lluaws achosion sydd yn beichio y deiliaid a threthi, a cheid gwared ar lawer sydd yn gwyl- ied y math yma fel y mae cigfrain yn disgyn ar ysgerbwd. Yr un rhesymau sydd yn cyfrif am yr ymrysonau sydd yn cymeryd lie rhwng cyfalaf a llafur. Ceid gwared ar streics a'r cau allan, a'r caledi a'r cyni sydd yn canlyn y pethau hyn, pe y cawsid meisir a gweithiwr, y cyflog- wr a'r cyflogedig i weithredu yn ol rheol euraidd y Testament Newydd. Mae achosion sydd yn hawlio sylw ein heglwysi, luaws o honynt yn seiliedig ar anwybyddiad o'r rheol hon. Ter- fynid llawer cweryl cyn fod neb ond y pleidiau yn gwybod am dano, pe y ceid aelodau y gymdeithas grefyddol i weithredu fel y dysgir hwynt gan Grist. Os dyma yw hanes cymdeithas yn yr un ddinas a chymydogaeth, yn yr un plwyf a sir, pa ryfedd os mai dyma y modd y mae gwledydd a chyf- andiroedd a gwahanol genedloedd yn myned i ymrafaelio. Ymddengys yn rhwyddach i'r Iluaws o ddynoliaeth ddadguddio yr anifail na'r dyn. Y mae yr "hen ddyn" a'i nwydau aflyw- odraethus yn dyfod i'r wyneb yn bar- haus. Pan ddaw profedigaeth i gyfar- fod y rhai sydd wedi dyfod i addfed- rwydd oedran, hynod mor barod ydym i godi llais, ac udo, a chau dwrn a tharo. Mor ami y gwelir hyn yn mhlith plant bychain, mor rhwydd gan y bychan godi ei law i daro, a lluchia dyn ei law fel y gwna y gath ei phaw- en pan y cythruddir ef. Pa beth yw hyn? Pe bae y bobl yn iawn wrth ddweyd mai yr epa yw tad y dyn, gwelwn ar unwaith esboniad ar y weithred, oblegid yr ydym yn brad- ychu ein perthynas ag ef wrth ym- ladd. Yr afresymol a'r direswm sydd yn dyfod i'r wyneb. Myn dynoliaeth rywsut lynu wrth yr hen ffordd o ben- derfynu cwerylon. Goliath sydd yn ymddangos ar unwaith i roddi her i ymladd. Gallu a nerth corfforol sydd yn ami yn penderfynu yr hyn sydd iawn a theg, ac nid meddwl, a deall a rheswm. Ychydig o sylw a rydd y byd hyd heddyw i rinweddau tyner llednais nodir gan Gristionogaeth. Y cryf, y nerthol, y cawr, y rhedegwr, y codym- wr oedd yn cael anrhydedd a chlod yn y dyddiau gynt, ac er fod Crist wedi rhoddi arbenigrwydd ar rasau nad Deddent yn cael eu crybwyll gan ddoethion yr hen oesau, ychydig o fri a roddir arnynt. Synodd "Gwynfyd- au" pregeth y mynydd bawb a'u clyw- sant, ac nid yw y byd wedi rhoddi heibio ryfeddu, a digon prin y mae cymdeithas yn credu eu bod yn ymar- ferol hyd heddyw. Ychydig o fri roddir ar addfwynder, trugaredd, am- ynedd a thangnefedd llareidd-dra a chariad. Ychydig o ffydd sydd gan unrhyw wlad yn ei haddysg a'i diwyll- iant, ei hathroniaeth a'i chrefydd ar wahan i'w byddin a'i Ilynges. Chwal- er ac ysgydwer pob syniad a cheir allan fod pob gwlad i raddau yn credu mwy yn ei harfau nag yn ei rhinweddau, ac fod mwy o ffydd ganddynt yn y cledd a'r magnel nag sydd ganddynt mewn rheswm a gwirionedd a chyf- iawnder ei hachos. Os oes rhywbeth wedi methu yn y cyfwng hwn, syniad- au cyfeiliornus penau coronog a llyw- odraethau y gwledydd am wareiddiad sydd wedi methu. Ac os oes a fyno crefydd a'r rhyfet presenol, crefydd o darddiad dynol yw hi, ac nid crefydd y Testament Newydd. Y mae hyn yn ein harwain i gredu nad yw gwir war- eiddiad na Christionogaeth y proffwyd o Nazareth wedi cael prawf teg; ac yr ydym gyda'r holl nerth sydd ynom yn galw am brawf newydd cyn y collfern- ir hwynt, a chyn y delir hwynt yn gyfrifol am y trychinebau arswydus gymer le ar gyfandir Ewrop yn y dydd- iau hyn. (I'w Barhau). I
j DYSGYRCHIANT. I
DYSGYRCHIANT. I Gan ,Eiben P. Davies. I Adran III. Y mae Mr. Williams a Brymbo wedi gwneyd cryn dipyn o honiad eu dam- caniaeth mai canol y ddaear yw y man priodol i ddechreu mesur y pellder, am, meddynt, fod atdyniad y ddaear, yn y cyfanswm o honi, ar wrthddrychau y tu allan iddi, "yr un fath a phe bae ei holl allu atdynol wedi ei gasglu i un atom yn ei chanol." Nid gwiw dyfynu o'u by52:rifau, ond y rheswm am hyny, moddynt, yW o* eyfai ta'u ei rhau b J- af a'i rhan agosaf. Y mae yn eglur oddiwrth hyn fod y dysgyrchwr yn cyd- nabod yr angenrheidrwydd o 'gyfar- talu' gwahanol ranau o'r ddaear; ond y mae wedi gofalu peidio gwneyd sylw o un rhan o honi, ond y rhan hyny a'i galluoga i fyned i'w chanol i ddechreu ei fesuriad. Gellir meddwl oddiwrth hyn mai dim ond ei rhan bellaf a'i rhan agosaf sydd yn ofynol eu cyfrif, a bod cyfartalu y rhai hyn yn gyflawn gyfiawnhad dros ddechreu cyfrif y pell- der o'i chanol. Diameu y tybia y bro- dyr da uchod fod y ddamcaniaeth ddysgyrchiol, drwy y cyfartaledd hwn yn rhwym o fod yn sylfaenedig ar graig safadwy; ond a ydynt wedi ys- tyried am foment linellau gwrth- atdynol y ddaear? Nid yw cymeryd i ystyriaeth "y pellaf a'r agosaf" ond cyf artalu nerth ar linellau cyfochrog; ond cyn y gellir penderfynu y man i ddechreu mesur, a'r "unit" i'w ddefn- yddio, y mae yn ofynol cymeryd i ys- tyriaeth lawer mwy na'r pellaf. Wrth y llinellau gwrth-atdynol y golygwn y Ilinellau hyny sydd ar ongl o bump, deg, ugain, ac i fyny i bump a deugain o raddau, ie, a 70 a 80, i wrthrych sydd ar wyneb y ddaear. Yn wir, y mae llawer o ddefnydd y ddaear yn tynu gwrthddrych sydd ar ei hwyneb yn fwy i bob cyfeiriad o'r cwmpawd nag i gyfeiriad ei chanol, felly nid yw yn gywir i ddweyd fod ei hatdyniad fel corff "yr un fath a phe bae ei holl allu mewn un atom yn y canol." Ond gadewch i ni oegluro y gosodiad uchod. Meddyliwn am adran gylchog i lawr hyd ganol y ddaear, yn mesur mil o filldiroedd ar draws, neu bump cant o filldiroedd o bob tu i linell ddychymygol trwy ei chanol. Y mae yn eglur mai ychydig o'r llinellau at- dynol fyddai yn abl i osod eu holl nerth ar gareg sydd ar wyneb y ddaear i'w thynu tua'r canolfan, am y byddent yn gwahanu fel rhaffau ar fwrdd llong, a byddai yr ongl yn cynyddu yn radd- ol, fel erbyn cyraedd ymylon y cylch ar glawr canol y ddaear, byddai yr ongl yn bump neu chwech o raddau. Yn awr, gadewch i ni ddyfod i fyny o'r canol fil o filldiroedd gydag ymyl y cylch, a chawn fod swm anferth o'r ddaear yno yn tynu i bob cyfeiriad ar ongl o wyth o raddau. Deuwn i fyny fil arall a chawn swm yn tynu i bob cyfeiriad ar ongl o ddeuddeg o raddau. Fel y deuwn i fyny y mae yr ongl yn cynyddu, a'r atdyniad i gyfeiriad y canol yn myned yn wanach wanach yn barhaus. Ar bump cant o filldiroedd o'r wyneb y mae yr ongl wedi cynyddu 1 bump a deugain, ac oddi yno i fyny y mae y llinellau yn dyfod yn fwy gwas- tad, fel y tynant i bob cyfeiriad ond i gyfeiriad canol y ddaear. Felly, fe welwn, pan yn cymeryd ond mil o fill- diroedd o drawsfesur y ddaear, mai ychydig yw y llinellau sydd yn gallu cymwyso eu holl nerth i dynu y gareg tua'r canol, am fod llawer o'u gallu at- dynol yn cael ei wastraffu wrth dynu ar ongl. Pe cymerem adran o ddwy fil ar draws, byddai yr ongl yn fwy, ac felly fwy o'r atdyniad yn cael ei was- traffu; ar dair mil byddai yr ongl- dyniad yn fwy fyth, fel erbyn cyraedd yr wyth mil ar glawr haner y ddaear, y mae mwy na haner y gallu atdynol yn cael ei golli—nid o herwydd pell- der, eithr oblegid atdyniad ochrog. Fe gofia'r darllenydd mai yr haner agosaf yn unig a gymerir i ystyriaeth yn y cyfrifiadau uchod, felly nid oes a fyno'r pellder a'r mater o gwbl yn yr achos hwn, a gwel hefyd nas gellir gwneyd i fyny am y golled hon fel y gwneir trwy gyfartalu i'r canol yr haner bellaf a'r haner agosaf. Prawf mesuroniaeth fod llawn haner gallu atdyniad y ddaear ar gareg ar ei hwyneb yn cael ei golli trwy yr at- dyniadau ochrog hyn i bob cyfeiriad, ac felly, y byddai careg o un pwys ar wyneb y ddaear yn pwyso llawn dau bwys pe byddai ei hatdyniad "yr un fath a phe bai ei holl allu wedi ei gasglu i un atom yn el chanol." Nid yw ein hathrawon dysgyrchiol wedi cymeryd y golled hon i'w cyfrifiadau o gwbl, er eu bod wedi cymeryd i ystyr- iaeth beth llai ei bwys o lawer trwy gyfartalu yr haner bellaf a'r haner agosaf. a mesur o'r canol. Fel yr awgrymwyd, nid oedd gan- ddynt ddim i'w enill trwy gymeryd i ystyriaetk elfen sydd yn ysbeilio y ddaear o haner el dylanwad ar gareg sydd ar ei hwyneb, ond yr oedd gwir angen arnynt i gyfartalu yr haner bellaf a'r haner agosaf fel y' gallent ddechreu mesur o'r canol, a thrwy hyny greu yr units gofynol er cyfr; am yr hyn dybient yw lleihad gyrchiant y ddaear ar y lleuad. wyneb y ffaith nad yw ca--c-g ar ()- V ;3:) CLJl hp." bwysai pe byddai atdyniad ? yr un fath a phe bai ei boll ne..n canol, fe ddylai fod yn eglur hyu nod i fy ngwrthwynebwyr, nad y\. syrthiad careg sydd yn pwyso ond haner yr hyn ddylai, yn un safon i fesur lleihad dysgyrchiant oddiyma i'r lleuad, ac hefyd nad oes un gyfat- ebiaeth rhwng syrthiad careg yma, a syrthiad y lloer oddiwrth gyffyrddlin (fall of the moon from a tangent). Heblaw hyn, tra y mae agosrwydd careg ar wyneb y ddaear yn peri fod llinellau atdynol y rhan fwyaf o honi yn eithafol o onglog, eto y mae pellder y lleuad yn ei gwneyd yn bosibl i'r Ilinellau hyn fod yn union, ac i dynu yn gyfochrog, ac nid i dynu yn wrth- wynebol i'w gilydd fel y gwnant ar gareg ar wyneb y ddaear. Mae yn eg- lur felly, tra y mae y gareg yn colli haner atdyniad y ddaear mewn can- lyniad i'w hagosrwydd, y mae y lleuad yn enill llawer mewn canlyniad i'w phellder; ac eto, yr unig ffactor a gymerir i ystyriaeth yw pellder cvm- arol y gareg a'r lloer o ganol y ddae- ar" Beth feddylia Mr. W. a Brymbo am eu damcaniaeth erbyn hyn? Ond gadewch i ni ddylyn yr ymres- ymiad mesuronol hwn ychydig yn mhellach. Cyn belled, nid ydym wedi sylwi ond ar yr haner agosaf o'r ddae- ar. I'r haner bellaf, y mae ei Ilinell- au atdynol ar gareg ar y wyneb yn llai onglog, ac felly yn gwastraffu llai o'u nerth i dynu i gyfeiriad y canol, ac yn llai onglog yr ant yn gyson fel y neshawn at ochr bellaf y ddaear, am fod y pellder rhwng yr hyn sydd yn tynu a'r gareg a dynir yn mwyhau. Yn awr, ynte, yr ymresymiad yw hyn: Yn gymaint a bod y Ilinellau atdynol (the lines of attraction) yn unioni fel yr ymbellhant oddiwrth y gwrth- ddrych a dynir, nid yw haner bellaf y ddaear, o achos ei phellder, yn colli cymaint o nerth ag a gollai yn absen- oldeb uniondeb y llinellau. Ac hefyd, yn gymaint a bod llinellau atdynol yr haner agosaf yn myned yn fwy onglog pa agosaf y deuwn i'r wyneb, nid yw yr haner hono, drwy ei hagosrwydd, yn enill cymaint a enillai yn absenoldeb ongliad y Ilinellau. Y mae yn eglur felly, hyd yn nod i "novice" mewn gwyddoniaeth, nad yn nghanol-fan y ddaear y gorphwys cyfartaledd ei hat- dyniad, ond ei fod yn mhellach na'r canol oddiwrth y gareg sydd ar y wyneb, a'i fod yn agosach i'r canol o lawer yn ei hatdyniad ar y lleuad, am ei bod hi yn ddigon pell i'r Ilinellau atdynol i fod yn ymarferol union o bob man o'r ddaear. Fe welir felly fod man cyfartalol at- dyniad y ddaear yn symudol, ac yn