Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MEWVDNON CYMRU. I

News
Cite
Share

MEWVDNON CYMRU. _Y mae capel newydd i'r Bedydd- wyr wedi ei agor yn Nantgarw. —Y mae y Parch. R. A. Howells, Rhaiadr, wedi derbyn galwad gan eg- Iwys y Bedyddwyr, Builth Wells. _Cafodd E. Morris Jones, o GoIeg Aberhonddu, ei ordeinio yn weinidog ar eglwys Annibynol Berea, Blaina. —.Mae'r oil o adeiladau Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi eu gorphen, hyny yw, yr hyn y cytunwyd arno, a'r gost yn 110,563p. —Ar ol ad-drefnu'r etholaethau yn Nghymru bydd gan Forganwg 17 0 aelodau Seneddol. Felly rhaid fydd dweyd "Morganwg a Chymru" o hyn allan! -Bu raid i Arglwydd Rhondda ddianc o Whitehall i Llanwern am seibiant. Nid blinder yw'r unig achos. Mae cwestiynau dyrys yn peri mwy o boen na gwaith. —Dygir allan argramad arbenig ar gvfer Cymru o lyfr newydd Arthur Mee—"The Fiddlers," gan yr awdwr a.'r Parch. Gwilym Davies, M. A., Abergafenni. —.Hysbysir fod 6yr Ivor Herbert, yr hwn sydd wedi ei wneyd yn arglwydd, i gymeryd y teitl Arglwydd Llanofer. Bu un gwr yn dal y teitl hwnw o'r 'blaen, set y diweddar Syr Benjamin Hall. —Yn Mraiwdlys Caernarfon, anfon- wyd W. R. Williams, chwarelwr, Bben- ezer, i garchar am naw mis am ddefn- yddio i'w amcanion ei hun arian per- thynol i gyfrinfa Orwig o Urdd y Rechabiaid, i ba un y bu yn gweith- redu fel trysorydd. —Gadawodd Miss Mary Hughes, Tymawr, Mynydd, Caergybi. eiddo oedd yn werth 2.6.287p. Rhoddodd roddion bychain i ddau gapel, a sefydliadau elusenol, a'r gweddill i berthynasau. —Ar wahoddiad rheithor y plwyf, bu y Parch. Owen Foulkes, Bettws, yn .progethu yn eglwys Bettws yn Rhos. Dyna help pwysig i'r Milflwyddiant. —Yn Ilys ynadon Treffynon, dirwy- wyd Mrs. Anne Jane Hughes, Victoria Square, i ugain swilt, am gadw ei slop yn agored ar ol naw o'r gloch y nos, er gwerthu tybaco a melusion. —Swm yr arian a dderbyniwyd yn Eisteddfod Aberystwyth y llynedd O'Ll d d 3,383p. 2s. 9c. Treuliau, 2,166p. 4s. 7c. Y gweddill. 1,216p.- 15s. 2c. 0 hwn, aeth 373p. i Gym- deithas yr Eisteddfod, a'r gweddill— 8 2 3 p. 18s. 2c.—yn cael ei gynwyno i drysorfau y rhyfel. —Penodwyd H. R. Williams, arolyg- ydd Bwrdd Llywodraeth Leol, yn is- ddirprwywr yn Nghymru gydag ad- dretniant yr etholaethau dan Fesur yr Etholrestr. Y mae Mr. Williams yn Gymro, genedigol o Sir Ddinbych, ac y mae wedi gwneyd gwaith rhagorol fel arolygydd y Bwrdd Llywodraeth Leol. -Bu Lady Rowlands, gweddw y Cadfridog Syr Hugh Rowlands, V. C., Plas Tirion, Llanrug, farw yn Llun- dain, ar y Slain cynfisol. Dygwyd ei gweddillion i Gaernarfon, a chladdwyd yn meddrod y teulu yn mynwent Eg- lwys Llanrug. —Y mae Capten Carey Evans, dar- par-wr Miss Olwen Lloyd George, wedi cyraedd i Brydain. Priodir hwynt yn nghapel y Bedyddwyr Cymreig, Castle Street., Llundain. Gweinyddir gan fu- .gail yr eglwys, yn nghyd a Dr. Owen Davies, Caernarfon, a Dr. Clifford. —Cafodd yr Annibynwyr golled fawr yn marwolaeth y Parch. David Rees, Capel Mawr, yr hyn a ddy- gwyddodd yn ddiweddar, pan oedd o fewn dwy flwydd i fod yn bedwar ugain oed. Brodor o Geinewydd, sir Abertein, ydoedd, a derbyniodd ei addysg ar gyfer y weinidogaeth yn Ngholeg yr Annibynwyr, yn y Bala, pan oedd Michael D. Jones yn brif- athraw yno. Ordeiniwyd ef yn wein- idog eglwys Talybont, sir Abertein, yn 1863. —Yn ol adroddiad biynyddol y Rwrdd Addysg, mae awdurdodau Coleg Prifysgol Aberystwyth wedi cael eu hysbysu y gallent ddys-gwyl yn ystod y pum' mlynedd nesaf roddion gan gyfeillion a ddymunant gadw eu hen- wau yn ddirgel, o lOO.OOOp. yn ol 20,000p. y flwyddyn. Mae cronfa o 70,0'OOp. eisoes wedi ei chodi yn Aber- tawe a'r cylch gyda'r amcan o alluogi i Goleg Abertawe gael ei wneyd yn rhan o Brifysgol Cymru. fi —Dadleuir yn frwd mewn ami i eg- lwys pa. un ai priodol ai anmhriodol o dan yr amgylchiadau presenol ydyw rhoddi y wiedd arferol i blant yr Ysgol Sul. Yn herwydd priader rhyw fath ar nwyddau, dywed un dosbarth y dy- lid ar bob cyfrif wneyd i ffwrdd a'r wiedd, tra y dywed dosbarth arall fod prinder yn cynawnhau y wiedd, gan y bwytir llai pan fydd nifer fawr gyda'u gilydd na phe bai pob un wrth ei fwrdd ei hun. —Tra yr oedd geneth o'r enw Ceri Hughes yn chwareu ger Bont y Borth y dydd o'r blaen, syrthiodd i'r mor. Yr oedd y llifeiriant yn gryf yn y lie. Gwelwyd yr eneth gan Willie Wood, bachgen tua 15eg oed. Aeth i Gareg yr Halen, a neidiodd i'r mor, gan none .ati. Llwyddodd i gael gafael arni a <Iaeth a hi i ddyogelwch. Edmygir gwroldeb y bachgen, a hyderir y cailT ei gydnabod yn deilwng. —Y mae cryn lawer o siarad o hyd am y teitlau newyddion. Gwelaf fod y Parch. David Davies, Penarth, yn ofni y gall y teitl a roddwyd i Syr Beddoe Rees fod yn glwt ar wrthodiad y Llyw- odraeth i ystyried gwaharddiad! Pa- ham? Nid ydym yn tybio. Nid yw yn glir iawn pa wasanaeth mawr a wnaeth Syr Frederick Smith, sydd wedi cymeryd y teitl Arglwydd Col- wyn. Yn wir, dywed y "National News" nad oedd neb yn swyddfeydd papyrau newydd Llundain wedi dywed son am dano o'r blaen. -Yn Mrawdlys Sir Ddinbych, ger bron y Barnwr Avory, terfynwyd prawf John David Jones (36), cyf- reithiwr, Llanrwst, yr hwn a gyhudd- id o ddefnyddio at ameanion ei hunan arian personau oedd ganddynt fusnes ag ef. Eriynid gan Mr. R. Bankes, ac amddiffynid, gan Mr. Artemus Jones. Ymddangosodd manylion. yr achos eis- oes. Wrth symio yr achos i fyny, syl- wodd y Barnwr fod y cyhuddedig wedi bod yn gyfreithiwr am dair-'blynedd- ar-ddeg, a dylai sylweddoli yr hyn a wnaeth. Yr oedd yn aelod o alwedig- aeth anrhydeddus, ond, yn anffodus, yr oedd defaid duon yn mhob cylch. Nid oedd y cyhuddedig. ebai. wedi bod yn hollol wyneb-agored tra y tystiai. Caed ef yn euog ac anfonwyd ef i benydwasanaeth am dair biynedd. MARWOLAETHAU. Y Dehendir. Blaina.—Mai 31, yn y Darlla-wdy, Wm.' Griniths,yn61oed. Caerdydd.—Meh. 5, Keppoch St., John Wilkin Evans, priod Laura Amy Evans, gynt Clynderwen.—Meh. 3, Kincraig St., Lydia, merch Mr. a Mrs. D. W. Jones.—Mai 31, Kings- land Rd., Canton, John G. H. Owen, diweddar goruchwyliwr T. V. R.— Mai 30, Cathays, Thomas Thomas, diacon, yn 84 oed. Caerphili.—Mai 30, Mill Rd., James, priod Jane Williams. CasteIInedd.—Mai 31, Church Cot- tage, Tonna, John Morgan, yn 84 oed.. Cilfynydd.—Mai 30, William St., John Bvans, llyfrgellydd, priod Tamar Evans. Cwmcarn.—Meh. 4, Twyncarn, Charles Harris, yn 89 oed. Dinas Powis.—Mai 29, Fitzroy Cot- tage, Frances, priod y diweddar Thomas Watkins. Bnerglyn.—Meh. 1, Llwyn Onn St., William Johns, yn 68 oed. Gilestone.—Mai 28, Ystrad Manor, Elizabeth Agnes, priod Thomas Wm. Lewis, bargyfreithiwr. Llandaff. Mai 26, Cecilia Jones, merch y diweddar David a Cecilia Jones, yn 39 oed. Llantrisant.—Mai 28, Maggie, merch Wm. a Catherine Llywelyn, Cross Inn. Penygraig.—Crawshay Road, Evan William Jenkins, mab Eva'n Jenkins, Tynycae. Port Talbot.—Yn yr ysbyty, Willie Owen, mab William a Mary Jane Davies. York Place, yn 13 oed. Ton Pentre.—Meh. 2, Aelfryn, Eiluned Mary, merch Mr. a Mrs. W. D. Mor- gan. adeiladydd, yn 17 oed. Tonypandy.—Mai 26, Berw Road, Bertha Ann. priod Gwilym Evans. Tyiorston.—Meh. 4, Queen's Hotel, Morton H. Grimtbs, yn 39 oed. Ynyshir.—Meh. 5. Church Terrace, Wiiliam Thomas, Maesteg Tin Plate Co., yn 74 oed. Y Gogledd. Bala.—Mehefin 6, Hugh Thos Jones, yn 36 oed. Bethesda. Yn ddiweddar, Hugh Hughes, Tabernaci Terr. (Caer- IIwyngrydd gynt) yn 95 oed. Bettws G. G.—Mai 26, Robert Owen, Ty Newydd Isa, yn 43 oed. Bontnewydd.—Yn Ffrainc, Tommie Glynn Hughes, 9 Beuno Terr., yn 20 oed. Caergybi. Yn ysbyty Caernarfon, Mrs. S. :M. Davies, Forester's Arms, yn 38 oed.—Mai 29, Henry Roberts, 'blaenor yn Armenia. Caernarfon.—Mai 21, Wm. A. Huxley, Chapel St., yn 54 oed.—MeheSn 1, W. M. Roberts, Rhos Dican, yn 58 oed.—Grimth Parry, crydd, North Penrallt St. Cefnmawr. — Yn ddiweddar, Robert Pritehard, Feathers Shop, yn 74 oed. Colwyn Bay.—Mai 24, Mrs. Margaret Hughes, Abbey Grove, yn 103 oed. Conwy.—Mai 25, William Hughes, Awelon, yn 91 oed. Corwen.—Mai 25, Evan Roberts, Ty'nywern, Dinmael, yn 81 oed. Dinas, Lleyn.—Yn ddiweddar, Mr. Parry, Tynylon, yn 87 oed. Dinbych.—Meh. 5, John Wynne (Llan- rhaiadr), Henllan St., yn 57 oed. Dolgellau.—Mai 24, M.rs. Jane Jones, Llwyn View, yn 62 oed. Felinheli.—Meh. 1, Griffith Pritehard, Bangor St., yn 54 oed. GanIIwyd.—Mehenn 4, Mrs. A. Jones, priod Evan Jones, Dolgoed, yn 69 oed. Gwyddelwern.—Meh. 6, Mrs. Eliza- beth Jones, Ty Capel, yn 67 oed. LerpwI.—Drwy foddi. Sapper George G. Edwards, R. E., 34 Chetwynd St., Aig-burth.—Henry J. Williams, mab y Parch. J. 0. Williams (Pedrog). LIangynog.—Mai 19, Mrs. Mary Ro- berts, y Rheithordy, yn 64 oed. Uanrug.—Ar faes y frwydr, T. R. Grinlths, Tanybryn, yn 20 oed.— Grinith Parry, Bryn Elen, yn 78 oed. Maenan.—MeheSn 7, Mrs. Williams, Cefn Coed, yn 81 oed. Pencaenewydd.—Mai 26, Richard Ro- berts, Pantymoeliad, yn 69 oed. Porthmadog.—Mai 28. Mrs. Williams, mam Thomas Williams, Garth. Prestatyn.—MeheSn 2, Grace, priod J. E. Ellis, Cremlyn. Rhydymain.—Mai 29, Pte. Lewis Jones, Esgeiriau, yn 21 oed. Sarn.—Yn ysbyty Caernarfon, Willie P. Jrnes, Belle Vue Cottage, yn 12 oed. Trevor.—Meh. 5, Tom Cook, Lime St., yn 70 oed.

Advertising

BETHAMHYN?I

YMOFYNIAD AM I

I OWEN W. JONES. LLYWYDD UNDEB…

PHILADELPHIA. PA. I

MILWR YN DIANC I IFYNY'R I…

Advertising