Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

- AMRTWION O'RWASG I

News
Cite
Share

AMRTWION O'RWASG "Finite God," H. G. Wells.-Yn y IIyfr dhveddaf o'i eiddo, ceir ei syn- iadau am Dduw. Er ei fod yn mynegi llawer o wirionedd, a 'bod llewyrch ei athrylith gref ar y cyfan, ni fynem dderbyn ei holl syniadau ef am Dduw. Mae'n gosod Duw'n rhy bell oddi- wrthym, a'i sylw o honom yn rhy ddi- gysur o lawer. Mae gormod o frys a ffwdan yn ei olygiad o Dduw—rhy debyg i'w frys a'i ffwdan yn ei gynllun o Ewrop newydd. Yr un pryd, mae'n eglur fod yr amgylchiadau presenol wedi cyffroi dyfnderau ysbrydol llaw- er iawn nad oedd o'r blaen yn nodedig o effro yn y cyfeiriad hwnw. Dargen- fyad ami un ei natur ysbrydol am y waith gyntaf yn y cyffroadau hyn. Rhagorol yw'r cyffro a bair ysgwyd holl natur dyn, nes ei ddwyn i ymwy- byddlaeth o diriogaeth newydd ynddo'i hji:. Gt>c nid yn y cyffro hwnw bob amser y daw dyn i ddeall ei hunan oreu, ac i gymeryd golwg gywir a chy- mesur ar ei holl brofiad. Cythryblwyd A-sbiydcedd canoedd o ddynion yn Ni- wygiad 1904, a darganfu llaweroedd, am y tro cyntaf, fod ganddynt natur ysbrydol. Buont agos i ymddyrysu ar y cyntaf, gan ymgolli yn eu sylweddol- iad o'r diriogaeth newydd hono. Wedi iddynt. ymbwyllo, collasant frwdfryd- edd y newydd-deb dieithr a ddaethai i'w profiad. Brython., I "Y Cydwybodwyr."—Llawer iawn o ymdrin arnynt sydd yn y ffosydd, ac y mae pawb o honom yn unfrydol nad oes y fath beth a gwrthwynebiad cyd- wybodol i gymeryd rhan yn yr ym- drech fawr hon yn bosibl i ddyn sydd yn meddu ar ryw ychydig o synwyr cyffredin. Gwell genym ni alw y dosbarth hwn yn "amddifaid o gyd- wybod," na'u galw yn "Wrthwyneb- <wvr Cydwybodol." Y mae yn eglur i ni nad ydynt yn feddianol ar gydwy- bod, neu ynte fod y gydwybod sydd ganddynt wedi syrthio j drwm-gwsg. Yn sicr pe yn effro clywent lais Cyf- iawnder a Rhyddid yn galw arnynt i arfogi eu hunain i'w hamddiffyn. Yn ddiddadl brwydr yw hon rhwng cyf- iawnder ac annghyfiawnder, rhyddid a gormes. Y mae eu hymddygiad hwy yn gwrthod cymeryd rhan yn yr ym- drech yn eglur ddadguddio i ni, nad ydynt yn caru cyfiawnder, rhyddid, cyfeillion a rhieni, ac yn ychwanegol nad ydynt yn caru Creawdwr y rhai hyn. 0 ddechreuad y byd hyd yr awr hon son am frwydrau geir mewn han- esyddiaeth. Ac wrth 'ddarllen yr Hen Destament ceir hanes am frwydrau gwaedlyd, yn mha rai y cymerodd Duw ran, a safodd o blaid y fyddin oedd yn ymladd dros gyfiawnder, ac arferai roddi iddi fuddugoliaeth Iwyr ar ei gelynion.—D. 0. J. rywle yn Ffrainc. Gweriniaeth.—Un o'r pethau am- lycaf yn ystod yr wythnosau diwedd- af ydyw yr adnewyddiad yn yr ysbryd 'gwerinol yn nglyn a'r rhyfel. Y mae hyn i'w briodoli i raddau pell i ddy- fodiad yr America i'r cyleh, y chwyl- droad yn Rwsia, ac hefyd, ni a gredwn, i areithiau dynion fel yr Arlywydd Wilson a'r Cadfridog smuts. Y mae Jingoaid y gwledydd, er eu bod yn bod ac yn llefaru o hyd, yn cael eu gwthio i'r seddau cefn, a daw y werin yn mlaen i ddywedyd mai rhyfel dros ryddid a heddwch ydyw hon. Hyd yn nod yn Groeg y ma,e y peth i'w deimlo, ac oni buasai am ryw allu cyfrin, bu- asai Constantin oddiar ei orsedd erbyn hyn a Venizelos yn arlywydd. Gall hyny ddyfod eto yn gynt na'r dysgwyl. Mewn un wlad yn unig y pery y Jin- goaid yn oruchaf o hyd, a'r Almaen yw'r wlad hono. Nid awn yn awr i drafod y cri am beidio gwneyd hedd- wch a'r Hohenzollerniaid, ond gallwn ddweyd nad ydym yn credu y derbyn- ia pobl yr Almaen chwyldroad a ,wneir iddynt o'r tu allan. Gosodwn ein hunain yn eu lie, a gofynwn y cwest- iwn. Yr hyn y gellir gobeithio am dano ydyw y bydd i bobl yr Almaen eu hunain weled gwrthuni'r llywodraeth sydd, er mwyn ei dyogelwch ei hun, yn eu hyrddio hwy wrth y miloedd i'w dinystr. Pan ddaw ydiwrnod hwnw bydd yn ddydd du i'r Kaiser a'i deulu, ond peidiwn a chodi ein gobeithion yn rhy uchel. Cymer amser maith i wlad weled ffolineb ei harweinwyr ei hun. -Goleuad. Baich y Ffarmwr.—Yn Nhy yr Ar- glwyddi yn ddiweddar, dywedodd Ar- glwydd Milner, mewn araeth bur ddif- rifol ei thon, fod yn rhaid cynyrchu mwy o fwyd yn y wlad hon, a bod yn rhaid cael dynion i weithio ar y tir. Ni awn i holi paham y mae y fath brinder dynion ar y tir. Gwyr pob ffarmwr mor anhawdd yw cadw gwas neu fab mewn oed milwrol, pa mor anhebgor bynag y bo, a gwyr y wlad y bu'r dallineb a fynai dynu pawb i'r fyddin heb ystyried dim arall yn ymyl bod yn drychineb i ni. Ond beth yw'r safle heddyw? Dywedodd Arglwydd Milner fod Mesur yr Yd yn dyogelu y ffarmwr. Y mae yn wir ei fod yn sicr- hau pris iddo am ei yd, ond gofalodd plaid y meistri tir nad oedd ynddo sicrwydd daliadaeth na dyogelwch am rent resymol. Pa fodd y gellir dys- gwyI i ffermwyr wneyd eu goreu dan "ddyogelwch" o'r natur yma, yn en- wedig gan fod pob un yn gwybod fod pris yr yd eisoes lawer yn uwch na dim a sefydlir yn y Mesur? Heblaw hyny, hyd yn ddiweddar yr oeddis yn ystyried ffesantod yn fwy cysegredig na bwyd y bobl. Ni -chaniateir i ni fwy- ta mwy na dwy owns o fara gyda phob pryd, y mae llawer o honom yn gorfod gwneyd heb datws, ac y mae siwgr yu rhy brin hyd yn nod i blant ei gael- ac eto, yn wyneb y ffeithiau difrifol hyn, y mae dynion cvfrifol wedi cael eu dirwyo am saethu'r adar sydd yn dinystrio bwyd: y mae'r ffarmwr yn hau ac y mae'r ffesant yn dyf I etha.Y Goleuad. Dirwest yn Nghymru.—Tua'r flwyddyn 1835 yr wyf yn meddwl y ffurfiwyd cymdeithas cymedroldeb yn ein gwlad. Yr oedd y symudiad hwn yn gam pwysig yn mlaen yn ngoleuni argyhoeddiad y dyddiau hyny. Tybiaf mai rhywbryd cydrhwng y dyddiad uchod a'r flwyddyn 1859 ffurfiwyd y "Clwb Dwr" mewn rhanau o'r wlad. Yr oedd y symudiad hwn yn gam yn mlaen ar y llall, ac yn pwyntio yn yr iawn gyfeiriad. Ymunodd llawer ag ef, a gwnaeth les dirfawr. Y symbyl- iad nesaf oedd Diwygiad 1859. Yr oedd brwdfrydedd dirwestol yn amlwg iawn yn hwn. Trefnid gorymdeithiau trwy y pentrefi a chenid tonau bywiog ar eiriau dirwestol. Wele engraifft neu ddwy— "Wel unwaith eto ni rown dro 0 amgylch caerau Jericho." Un arall,— "Caiff Satan ffoi, Ei drin a'i droi, a'i glymu a'i gloi, Ei drin a'i droi, a'i glymu a'i gloi, Er maint ei ddigter ef." Yr oedd canu y pethau hyn ar hyd yr heolydd yn gosod ambell gymydogaeth ar dan. Cyn pen ugain mlynedd, neu hwyrach bymtheg ar ol hyn, daeth Temlyddiaeth Dda i'r wlad. Yr oedd hon yn gymdeithas ddirwestol reol- aidd, ond yn cael ei chynal dan nawdd yr eglwysi, a chanddi wasanaeth cref- yddol. Achubodd lu o feddwon a magodd do ieuanc o lwyrymwrthodwyr trwyadl trwy y wlad. Yn mhen rhyw deng mlynedd, fwy neu lai, cafwyd cliwygiad Byddin y Rhuban Glas. Fel hyn nid oedd ein gwlad byth yn cael ei gadael yn hir heb ryw symbyliad newydd i ddysgu a gwreiddio ac argy- hoeddi ar y pwnc hwn.—"Cymro."

GAIR 0 BATAGONIA. I

NODION 0 PHILADELPHIA, PA.I

I - WAR ATLASES. I

Advertising

MARWOLAETH MRS. LIZZIE PARRYI…

Advertising

ANRHYPEDD I GYMRO. I

Advertising