Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ADGOFION HANER CANFJF YN!…

News
Cite
Share

ADGOFION HANER CANFJF YN AMERICA. Gan William Abercaseg. .I Llythyr 5. Addewais yn fy llythyr diweddaf y rhoddwn ychydig- adgofion am gerddor- ion a llenorion yr ardal. Mae'n ddi- ameu mai y diweddar William Griffiths (Gwilym Galedffrwd) oedd yr uwchaf ar ysgol cerddoriaeth yn y lie y pryd hwnw. Efe oedd arweinydd y gan gyda'r M. C., a Robert Parry, Rocar, gyda'r Annibynwyr. Ond Moses Jones sef Moses Bel, ydoedd y cerddor goreu yno, ac efe fyddai yn arwain y cor pan yn canu mewn cyngerdd. Eto am Gwilym yr oedd efe bob amser ar y blaen pa un bynag ai yn y capel ynte yn y cyngerdd. Dyn cyflawn ydoedd. Yr oedd yn dduwinydd trwm, yn gerddor da ac yn gyfansoddwr galluog. Mae genyf lyfr o ganigau o'i waith sydd yn dangos gallu uwchraddol ag ystyried can lleied o fant.eision a dder- byniodd. Gallwn ei alw yn self-made man trwy ddyfalbarhad i ddefnyddio ei oriau hamddenol. Darllenwr mawr, ond nid cymaint o feddyliwr, ac yr oedd yn meddu cof fel y byddai yr hyn a ddarllenai ganddo fel yn eiddo iddo; a lawer gwaith y clywsom ef yn ym- godymu a dynion galluog ac yn ami yn cael y trechaf arnynt. Ond fel cerddor, a phob amser yn barod i roddi cynorthwy gyda'i gor at unrhyw achos teilwng y rhagorai. Yr oedd iddo gyfaill boreu oes yn mherson Richard J. Jones oedd bron can uched ar ysgol cerddoriaeth fel cyfansoddwr. Y pryd hwnw byddai yn dynu torch lied galed rhwng y ddau yn ein Heis- teddfodau bychain, os byddai i'r ddau ymgynyg. Dyn tawel iawn oedd Rich- ard. Brvnderwen Bach. Mae'r ddau wedi tewi yn y dystaw fedd, ond mae eu coffadwriaeth i mi yn fendigedig. Aelodau cor Gwilym y pryd hwnw yd- oedd: sop., Mrs. Griffith R. Jones, Mrs. Griffiths, Mrs. E. J. Roberts, Miss Jennie E. Jones (Mrs. Thomas, Em- poria, Kas., yn awr) a Miss Mary Jane Williams (Mrs. Shaw, Pawlet). Altos, W. O. Williams a John Hum- phreys (jr.). Tenors, R. J. Jones, J. B. Williams a minau. Bassos, H. G. Thomas. J. J. Owens, Thomas Edwards, Henry Hughes, David Humphreys. Credaf nad oes ond pump yn fyw hedd- yw. Yr oedd Mrs. Griffith R. Jones yn gantores uwchraddol o ran meddu Ilais clir swynol, ond heb ddeall dim cerdd- oriaeth. Yr oedd yn rhaid ei dysgu. Yn y cor fyddai gan Moses Jones, yr oedd yno sop. ardderchog, sef Mrs. Robert Y. Jones, yr hon oedd yn chwaer i "Wil Mor y Canwr" o West Bangor; hithau wedi tewi a mynd i ganu mewn cor angylaidd. Wedi hyn, daeth Orwig Wyllt i'r ardal, ac yr oedd yntau yn gerddor pur alluog, ond dipyn yn hunanol fel mai anhawdd oedd cydweithio ag ef bob amser. Mae tipyn o'r ysbryd eiddigeddus a hunanol yn rhyw gydredeg yn ngwaecl y can- torion fel rheol, fel y mae "cythraul canu" yn derm teuluaidd. Ond ni bu dim felly yn hanes Mr. Owens yn Middle Granville. Wedi hyn daeth Mr. Robert W. Jones yno o Fairhaven: dyn mawr o gorff, calon fawr garedig, yn rhedeg drosodd mewn caredigrwydd a doniol- wch. Nid oedd gymaint fel cerddor ag ydoedd fel dadganwr. Yr oedd gan- ddo lais tenor ystwyth a soniarus. Bu ganddo gor o ddynion ieuainc am flyn- yddau, a phleser ydoedd gwrando ar- nynt. Efe oedd hefyd yn arwain yn y capel, a'i ferch, Mrs. Wheeler (yn awr), yna Mrs. Roberts, y ferch ieu- engaf wedi hyny; ond er's Hawer o flynyddau bellach fy nghyfaill Roland Whittington sydd yn arweinydd, ond ychydig amser y bu y diweddar Rich- ard G. Davies yn y swydd. LIawer yn rhagor o flynyddau a gaffo fy nghyfaill Whittington i arwain plant Duw mewn mawl. Bu ser bychain eraill yn ffurf- afen yr eglwys yn canu gyda'r plant sydd erbyn heddyw lawer o honynt yn deidiau 9 neiniau. Bu y llwchyn hwn yn arwain y Band of Hope am rai blynyddau yno. Cor y Plant oedd ein "Messiah" ni; llyfr bychan a gyhoeddwyd yn New York gan John Hughes. Plant da, plant di- reidus ac ambell i blentyn drwg yd- oedd hanes plant yr adeg hono fel yn bresenol. Nid yn ami y deuai plant drwg yno, ond byddai y plant direidus yno. Yr oedd genyf ddau felly, sef Ted Williams a Lizzie Lloyd. Oh! fel yr oedd bywyd yn ymweithio allan trwy bob modfedd o honynt fel nas gallent fod yn llonydd. Rhaid i fywyd gael dangos ei hun yn mhob man, ac felly gyda y ddau hyn yn arbenig, a phob amser gyda'u gilydd, ond weith- iau bygythid eu gwahanu, ond gwell fyddai ganddynt ymdawelu na hyny. Mae fy nghalon wedi vmglymu a hwynt byth er hyny. Bydd cyfrifol- deb plant haner canrif yn ol yn ofn- adwy os yn golledig o hen eglwysi Middle Granvile. 0, y gofal gan y rhieni duwiol a'r cyfarfodydd crefydd- ol a'r Band of Hope! Cofion atoch yn mhob man, blant. Yn y blynyddoedd hyny yr oedd John Owens, Glanmarchlyn, a Richard O. Pritchard yn Fairhaven, a brass iband yn Jamesville gan David Wil- liams; oil yn Gymry. Yn mysg y llenorion, mae'n ddiau, mai lonoron Glandwyryd oedd ar y pinacl uwch yr ysgol. Ni ddarllenais ddim erioed mwy enaid gynyrfiol na rhai darnau o'i farddoniaeth. Yr oedd wrth ei fodd yn y mesurau caethion. Bardd arall ydoedd 'John D. Jones, "Tanyfronllwyd," Middle Granville, enillodd lawer o wobrwyon yn yr am- ser hwnw. R. O. Pritchard, Fair Haven, a Richard Williams, "Die Doctor," ac os nad wyf yn camgymer- yd dyma lie y bu i awen D. R. Griffiths, (Granvillefab) ddechreu ymddadblygu. Mae'n debyg mai y Pareh. Samuel Jones ydoedd y gramadegau goreu yn yr holl ardaloedd. Efallai fy mod wedi gadael rhai enwau allan ddylas- ent fod i mewn; nid wyf wedi gwneyd hyny yn fwriadol, a phe byddai i rywun eu erybwylI eto ni thramgwydd- wn o g-wbl. Codwyd rhai pregethwyr yn yr ar- daloedd, ond yr unig un y cofiwyf am dano o Middle Granville oedd John Pritchard, Braichty Du. Yr oedd cyf- athrach agos iawn y pryd hwnw rhwng M. G. a Fair Haven, fel yr oedd hanes y naill yn hollol hysbys i'r Hall. Y Parch. R. L. Herbert sydd gyda'r A. a'r Parch. E. W. Brown gyda'r M. C. Un o arweinwyr Eisteddfodol goreu ydoedd Mr. Herbert. Wedi hyny, daeth R. Vaughan Griffith yno ar ol Mr. Brown; wedi hyn, maent yn llu fel nas gallaf eu cofio. Un o golofnau eglwys yr A. ydoedd fy nghyfaill ym- adawedig, John Edno Roberts, yn ddi- weddaf Oshkosh, Wis. Er fod yr eg- lwys yn y blynyddoedd hyny dan wein- idogaeth Mr. Herbert wedi ei gwen- wyno i raddau pell iawn, dyma un o'r ffyddloniaid a safodd fel dur dros y gwirionedd. Briw i'm calon oedd dar- llen am ei farwolaeth, oblegid arfaeth- wn ei weled o hyn i'r Hydref. Dir- westwr cadarn a Christion didwyll yd- oedd. Erbyn cofio, yr oedd yntau y pryd hwnw yn fardd, ac yn eistedd megys wrth draed lonoron i dderbyn ei addysg. Yr wyf yn dra diolchgar i'm cyfeillion sydd yn aros ac wedi cael tipyn o fwynhad wrth ddarllen yr adgofion, am eu cymeradwyaeth. Efallai y bydd i mi eto barhau trwy roddi penod neu ddwy ar hanes Lewis County, New York.

ABERDEEN. S. DAKOTA. I

Y DYRCHAFIAD CYNTAF YN Y FYDDIN.

Advertising

- BOSTON, MASS. I

[No title]

Advertising