Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

RHYFEL YN EWROP-

News
Cite
Share

RHYFEL YN EWROP Y FYDDIN BRYDEINIG A LENS.—Y i FYDDIN AMERICANAIDD YN CYRAEDD FFRAINC. A'R J W N K E R CYNLLUN WILSON A'R .TWXKER- IAID.-Y NEWYN YN GERMANI. Awstria am heddwch.—Y Cymdeithas- olwyr a heddwch.—Groeg ar droi. ■ Y gweithwyr Rwsiaidd a'r rhyfel. Fel y sylwasom yn ein rhifyn di- weddaf, yr oedd y fyddin Brydeinig yn symud yn mlaen gyda'r amcan o gau am Lens, canoldref y parth glofaol yn Ngogledd Ffraine, a dinas werthfawr i Germani yn ei hymdrech bresenol. Os y cyll hon a'i hamgylchoedd, bydd yn golled dirfawr iddi. Y ddinas bwysig nesaf yw Lille, dinas weithfaol, ag sydd yn meddiant y Germaniaid er's dwy flynedd a haner. Hysbysid ddydd Mercher fod y Canadiaid o fewn milldir i Lens. Ni phrydera y Germaniaid danbelenu dinas a'i dinystrio yn llwyr tra y mae y byddinoedd cyngreiriol yn ceisio arbed hyny gymaint ag a allont. Dinystriwr digydwybod yw y Bosh, ac y mae ganddo hoffder neillduol i ddin- ystrio eglwysi a rhai gwerthfawr iawn hefyd. Ceisia pob byddin war ac an- war arbed eglwysi ac addoldai, ond y tai a arbedir gan y Germaniaid yn ar- benig yiw'r darllawdai. Ni ddinystr- iant ddarllawdy neu dafarn os y gall- ant. Pwnc a ga sylw yn Mhrydain y dyddiau hyn yw a ddylid talu drwg am ddrwg i'r Germaniaid. Yn eu hymosodiadau ar lanau Lloegr, y mae! y Germaniaid yn taflu ffrwydryddion ar ben trefi a phentrefi heb ofalu pwy a leddir, ac y mae yn Lioegr igefnog- wyr pybyr i'r cynllun o wneyd yr un fath a hwythau, ond ymddengys mai teimlad y llywodraeth yw peidio myn- ed i gystadleuaeth a'r ynfydion o Ger- mani. Derbyniwyd y newydd brydnawn Mercher am gyraeddiad dau gorff o fil- wyr Americanaidd i Ffrainc. Ym- adawsant o glanau America Mehefin 14, ac ni wyddai neb am danynt, ac os y gwyddai y newyddiaduron, tawsant yn ei gylch. Ar eu glaniad yn Ffrainc cawsant y derbyniad mwyaf brwd gan y trigolion. Gyfla'r fyddin hon yr oedd ei CTiadfriddg, William L. Sibert. Y mae y rhai hyn oil yn filwyr rheol- aidd, dysgybledig a phrofedig, a'r dys- gwvliad yw y cyraedda cyrff o filiwyr yn gyson yno bob wythnos hyd nes y ■byddo yno fyddin fawr. Gwnaeth y llynges yn rhagorol i'w cludo draw mor llwyddianus heb gyfarfod a'r un anffawd. Bydd y cyfrifoldeb yn fawr i gludo y milwyr drosodd, ond hyderir y cyflawnir y gorchwyl i foddlon- rwydd. Yn ol yr adroddiadau o'r Dwyrain y mae Venizelos wedi ei alw gan y Brenin Alexander yn Groeg i gymeryd blaenoriaeth y llywodraeth, a dysgwyl- ir y bydd i Groeg ymuno a'r gwledydd cyngreiriol yn ddioed a chymeryd rhan yn y rhyfel yn erbyn Germani. Cym- erodd y weinyddiaeth hewydd ei llw ddydd Mercher. Yn ol y newyddion o Germani ca cynllun yr Arlywydd Wilson i newid, ffurflywodraeth fewnol y wlad gyda'r amcan o symud am heddwch gryn sylw yn y wasg Germanaidd, ond ym- ddengys fod y blaid Jwnkeraidd fel Pharaoh gynt yn ymgaledu ac yn gwrthod pob dymuniad am wellhad yn v llywodraeth. Ymddengys yn galed ar y Kaiser roddi i fyny ei unbenaeth yn ei wlad ei hun, darawodd allan yn 1914 i sefydlu unbenaeth dros y byd. Nid tebyg y plyg y Kaiser a'i gym- deithion, y Jwnkeriaid i hyny. Gelwir y rhai sydd am fwy o werinlywodraeth yn Germani yn ddyhirod gan y Jwn- keriaid. ond eto, hon yw y blaid sydd i gael yr uwchafiaeth ar ol y rhyfel, os nid cyn hyny.. Argoelia yn ddrwg eisoes ar dri,gol- ion Germani y gauaf nesaf, a rhybudd- ir hwy yn barod i ddysgwyl llai o ym- borth, yn enwedig o "frasder" nag a .gant yn 'bresenol. Bygythir hefyd y bydd yn rhaid i Germani ar fyr godi arian i gyfarfod a'r treuliau enfawr drwy orfodaeth. yr hyn a ddaw a Jwnkeriaeth i fwy o adgasrwydd nag ydynt yn awr. Feallai hefyd, yr add- feda hyny y goludogion i gashau y gyfundrefn Gaiseraidd sydd wedi dwyn y wlad i'r fath igyfyngder a thrueni. Daw y rhyfel at groen y Jwnkeriaid a'r Kaiser ei hun cyn y diwedd. Daw igair o Amsterdam fod gan Dr. Constantin Duma, y llysgenadydd AWs- triaidd a anfonwyd yn ol o. Washing- ton, o herwydd ei frad yma, ei gynllun. heddwch, ac y mae yntau am heddwch p heb ychwanegiatl tir na iawn; fod Awstria i gael ei thir yn ol; Servia i gael ei hannibyniaeth; Rwsia i gael mynediad rhydd drwy y Dardanelles, a phawb i ddianc yn ddigosb a didraul. Brazil yw yr olaf i ymrestru yn er- byn Germani, a igwelsom ddyfyniad o newyddiadur yn Germani yn croesawu pob gelyn newydd—"Miwy o elynion, mwy o ogoniant," ebe y Bosh anystyr- iol. Ymddyga y German bob dydd fel gwirion; a gorfoledda yn ei weithred- oedd drygionus. Daw hyn oil a'i natur ddieflig i'r golwg, a C'ha y byd weled- igaeth gyflawn ar y ddiangfa ga o orchfygiad y Nero hwn sydd yn rheoli Germani. Nid yw Germani ond par- had o ymerodraeth Rhufain igynt, a bydd ei chwymp yn ddiau yn ddiwedd ar y gorthrwm henafol hwnw. Dechreua y Cymdeithasolwyr flino llywodraeth Awstria yn nglyn a'i thel- erau heddwch, ac anogir hi i gyhoeddi ei thelerau, ond gan ei fod o dan fawd Germani, nid tebygol y gwna, gan y palla y Cangellydd Bethmann-Holl- weg. Nid oes gan Germani nac Aws- tria delerau heddwch hyd nes y gwel- ont beth ddaw o honi. Aros y mae Germani am rywbeth i droi i-fyny; os yn ffodus iddi hi, 'bydd ei thelerau yn drymion i'r byd; os y ffordd arall, dys- gwylia i'r byd fod yn dyner wrthi. Y mae yn rhy gynar eto i Germani far- geinio. Cafodd Cymdeithasolwyr Awstria un awgrym a ddengys nad ydynt hwy neb, oblegid dywedid wrthynt mai yr Ymerawdwr yn unig all benderfynu heddwch. Nid yw y bobl yn ddim. Chwyldroad yw yr unig feddyginiaeth yn Awstria. Yn ol adroddiadau y Cymdeithasol- wyr ymwelasant a'r gynadledd hedd- wch yn Stockholm, trodd y cwbl allan yn fethiant. Dyna brofiad Cymdeith- asolwyr Germani hefyd; a dechreuant sylweddoli mai chwyldroad yn unig yw y feddyginiaeth hefyd yn Germani. Y mae y Kaiser a'r Jwnkeriaid ar ffordd heddwch yn Germani. Y dysgwyliad yn awr yw y gwna Groeg rywbeth sylweddol o blaid y gwledydd cyngreiriol, wedi bod yn hir ar y clawdd. Gwaith da oedd alltudio y Brenin allan o Groeg, oblegid nid oedd ond gorchwyliwr y Kaiser am yn agos i dair blynedd. Edrycha y dyfod- ol yn flwy gobeithiol i iGroeg, Y newydd gyraeddodd ddechreu yr wythnos oedd fod y fyddin Rwsiaidd wedi cychwyn ymosodiad grymus ar Awstria a'i nod am Lemberg, ar ffrynt o 18 milldir, ac y gwnaed ymosodiadau llai mewn manau eraill. Cyhoeddodd Berlin yn y man iddynt fethu. Deil y fyddin Brydeinig i gau am Lens yn raddol, a'r dysgwyliad yw y syrth y ddinas ar fyr i afael y Prydeinwyr. Ddiwedd yr wythnos cymerodd y fydd- in Brydeinig amryw leoedd oddiar y Germaniaid. Gwnaeth y Germaniaid ddiwedd yr wythnos ymosodiad eto ar Verdun, ond yn ofer. O'r dechreu y mae y fyddin Germanaidd o dan y Tywysog Coronog, wedi aberthu 500,000 yn ofer i gyraedd y ddinas. Ffol iawn yw ymddygiad y gweith- wyr yn Rwsia, oblegid cynorthwyant y gelyn yn fwy na'u gwlad eu hunain drwy eu gofynion afresymol. Gofyn- ant am chwech awr y dydd a chyflogau disynwyr. Iddynt hwy y dylid priod- oli eyflwr truenus Rwsia, a'i meth- iant i wneyd ei rhan. Ymdrechant eu goreu i ohirio buddugoliaeth y gwled- ydd cyngreiriol ar Germani.

Advertising

I ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIGk…

MARW YN NGHYMRU.

Advertising

INEW YORK A VERMONT I

[No title]

Advertising