Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

IMARWOLAETH CYMRO YN CHI-I…

News
Cite
Share

MARWOLAETH CYMRO YN CHI-I CAGO, ILL. Gan Gymraes. I Gorchwyl prudd yw cofnodi marwol- aeth a chladdedigaeth y brawd a'r Cym- ro pybyr Wm. Botham, 4321 Gladys Ave., o'r ddinas uchod, yr hwn a hun- odd yn yr lesu Ebrill y 23ain yn ddeu- ddeg a. deugain mlwydd. Cafodd gys- tudd blin o wyth mis o'r afiechyd poen- us y dropsy. Dyoddefodd yr oil yn daw- el a dirwgnach i drefn Rhagluniaeth. Wm. Botham. Brodor ydcfedd Mr. Botham o Amlwch, Mon, G. C.; enwau ei rieni, Abram a Sarah Botham y rhai sydd wedi huno I yn dawel yn angeu er's llawer blwydd- yn. Hefyd mae iddo frawd a chwaer o'r enwau Hugh ac Alice Botham yn Lerpwl, a llawer iawn o gyfeillion yn y Talaethau. Gadawodd Gymru yn wr ieuanc tua deng mlwydd ar hugain i Mawrth diweddaf. Gydag ef yn dyfod drosodd yr adeg hono, yr oedd y Parch. Robert Humphreys, ei frawd-yn-nghyf- raith, a deallaf oddiwrth y "Drych" Ebrill 27, ei fod yn bugeilio eglwys y Presbyteriaid yn Lowellville, Ohio, a'i fod yn un o'r etholedigion i gynrych- ioli y Presbytery yn y Gymanfa Gyff- redinol a gyferfydd yn Dallas, Texas, y mis hwn, sef Mai, ac hefyd eu bod yn brysur yn adeiladu capel newydd iddo. Gallwn ysgrifenu llawer mwy am dano ef; gan ein bod yn hen gymydogion. Cafodd ei freintio ag aelwyd grefyddol, ac mae ei anwyl dad, sef Humphrey Humphreys, yn fyw eto mewn gwth o oedran, ac un ferch Maggie, yn cadw cartref iddo yn Brynteg, Llanfairfech- an. Y mae hefyd yma dair o ferched, sef Mrs. Botham, yn weddw yn awr; Mrs. Edward Hughes, hithau yn weddw ac un ferch adref, a'r mab Henry yn briod, a Mrs. Richard Williams, a'i mab bychan pert, Ritchie, a'r oil mewn am- gylchiadau cysurus, yn ymyl eu gilydd i gysuro y naill y Hall mewn gwlad bell. Cafodd y brawd Mr. Botham angladd tywysogaidd. Yr archgludwyr oeddynt John R. Williams, Lincoln Park; Rich- ard T. Hughes (Breichiau), dau frawd o Lanfair; Arthur Chester, John Har- roll, M. Lehman, A. Lockwood. Yr oedd quilt o flodau hardd iawn gan Lodge Tacoma, 594, K. of P., a wreath o'r ffirm He y gweithiai y mab, a llawer iawn eraill gan rai na chefais eu cyf- eiriad. Canwyd gan gor eglwys Heb- ron, o dan arweiniad y brawd poblog- aidd Wm. R. Jones; hefyd solo gan Mrs. A. E. Davies, yn hynod swynol, a chanwyd rhai emynau. Hawdd gweled fod gwr caredig a hoff wedi mynd. Gwasanaethwyd gan Dr. John C. Jones a'r Parch. John E. Jones, South Side. Siaradodd y ddau frawd yma yn fendi- gedig. Yna gadawyd am y cartref dae- arol i lanerch brydferth Forest Home-. Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Lodge. I alaru ar ei ol, gedy ei briod hoff, yr hon a weinyddodd yn rhagorol, Wm. Botham (leu.); Edward a Beatrice, a Mrs. John Evans; ei chwaer a'i frawd ¡ yn nghyfraith, Mrs. Richard Williams, Mrs. Ed. Hughes, a'r mab a'r ferch; Mrs. Evans, Racine, ac amryw eraill na chefais eu henwau. Hyderaf y cant oil nerth oddi uchod i ddal y brofedig- aeth hon.

SLATINGTON. PA. I

ICYMDEITHAS Y CYMREIGYDDION…

NODION PERSONOL

[No title]

Advertising

Y GYMANFA GANU YN UTICA. N.…

I Adroddiad Eglwys A. Martin's…