Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
[No title]
Marwolaeth Baban. Ffarwel i dawel flodeuyn-i oesi Tan len isel dyffryn; Ond i'w hanfod, Duw enfyn, Anfarwol haf ar ol hyn. Montreal, Can. IAGO TEGAI. --0- Edwin Griffiths, Cleveland. 0. Edwin Griffiths adwaenir-yn burion Fel beirniad y'i molir; Gwr dyddan, ei glorian glir, Ac heb os a'n teg bwysir. Xew Castle, Pa. W. J. DA VIES. o Pwlpud v "Drych." Gwawl Duw ydyw sy'n glod odiaeth- i'r "Drych" Sy'n rhad roi gwybodaeth; Sirioli a choethi chwaeth Yw syniad ei wasanaeth. Hwn a roed yn waredydd-y Gymraeg Lan aeg "Gymru lonydd;" Purdeb a'i foesoldeb sydd Yn goron a magwyrydd. E bar i ni lwybr newydd—o ddyled I addoli'r Prynydd; Ei ogoniant a'i gynydd Yw deddfau a ffeithiau ffydd. Er bri ei goethus bregethau-a geir Gan gewri'r 'Sgrythyrau; Llwyddir y gwir, lleddir gau, Ac ailenir calonau. Mawl i hwn a wna amlhau-yn Addysg a thalentau; (hoeddiad 0 mae yn nef cael mwynhau Y digymar deg emau! Chicago, Ill. GLAN RHOSYDD. --0-- Penillion Priodasol Y Parch. E. S. Jenkins, Martin's Ferry, Ohio, U. S. A., a Miss H. Lewis, Ysgolfeistres, New Tredegar, Myn., gynt. Adwaenaf y gwr ddaeth i Gymru O'r 'Merig i 'mofyn ei fun; Daeth aidgof o'r dyddiau ces ddysgu A syllu manylion ei lun; Mae argraff y goreu yn para Trwy ffurfio llinellau a chan; 'Roedd hyn y pryd hwnw fel bara Yn faethyn i'r enaid yn lan. Arweiniaist fTn foreu dros lwybrau, Dyeithr a sathr eu rhiw; Mi welaf fod blaenu mewn rhwymau; Y rhwymyn ga' bendith ein Duw, Bydd ieuo y ddeuddyn hyn anwyl Sy'n barchus a glanwedd eu rhin Yn glod i hen Walia fu'n breswyl A nod,ded i'w geiriau a'i min. Gobeithio bydd cysgod y nefoedd, Yn wastad o'ch plaid yn y nen; A hapus fydd aelwyd heb niwloedd Gofidiau y byd dros eich .pen; A chysur dedwyddwch di gymhar, Fydd hanes eich bywyd o hyd, A cheisiwch lefeinio y ddaear Yn well fydd arwyddair eich byd. Boed bywyd y ddau eto bellach, A'u bwriad i'r 'Merig i fyw, Yn dwyn y cyfandir yn burach A swynol i ni yma'n wiw; Ceir cariad yn cerdded pellafoedd, 'Does diffyg ar antur, neu swyn; A cheisiwch gael hedd ddaw a gwledd- oedd, Ac iechyd i'r fron, yno'n fwyn. Bedlinog, D. C. DANIEL DAVIES. o Milwyr Prydain. Ton: Rhagom Filwyr Iesu. Cyflwynedig i'r Milwyr Cymreig. Dewrion filwyr Prydain, Sydd ar faes y gwaed, Glywir heddyw'n llefain Codwn ar ein traed: Duw a ymladd trosom, Glynu wrtho wnawn; Buddugoliaeth gawsom, Buddugoliaeth gawn. Byddwn yn ysbrydol; Brysiwn oil i'r gad; Awn yn mlaen yn wrol, Brwydrwn dros ein gwlad. Llu o'n bechgyn gwrol Mewn ysbytai sydd; Duw, a'i nerth anfeidrol, Iddynt gymorth rydd; Buan y dychwelant Atom ni i'r gad, Ac yn ddewr ymladdant Eilwaith dros eu gwlad. Engyl sydd yn llefain Arnom ni o hyd: Rhagoch filwyr Prydain, Ewch i'r gad i gyd. Er yn anweledig, Nerthant ni wrth raid; lesu hendigedig Sydd i ni yn blaid. Nid oes ymerawdwr Yn llywodraeth Duw Goncra ein Hiachawdwr, Ceidwad dynol-ryw! Duw byddinoedd Jsrael Yn ein nerthu sydd; Ynddo mae ein gafael, Trwyddo cawn y dydd. Ni chaiff ein gelynion Dirio Prydain Fawr; Clywch fel mae'n hergydion Yn eu taro lawr! Yn ein Ilawn arfogaeth Beunydd mynwn fod, Nes i oruchafiaeth Anorchfygol dd'od. Milwyr Prydain ddaethant Atom o bob gwlad; Gyda ni yr aethant Yn eu grym i'r gad; Gyda hwynt ymladdwn Foreu, nawn a hwyr; Gyda hwynt enillwn Fuddugoliaeth lwyr. Milwyr Prydain ydym, Duw i ni sydd lor; Buddugoliaeth gyflym Gawn ar dir a mor! Heddwch i'r ddynoliaeth Yw ein hunig nod; Yn mhob buddugoliaeth, Iesu gaiff y clod. H. P. M. o David Lloyd George. Gwr mawr, a grym ei eiriau yn Yn cynyrfu'r creigiau; (Arfon A'i athrylith ar :hawliau Y Gymraeg yw ei mawrhau. Mawrhau wna'r Cymro eon-ei genedl Gweinia i'w hangenion; I'r Llwyd Sior y lleda son 0 aelwydydd tlodion. I'r tlodion digonedd—ddaw o'i ras Pan ddaw'r hwyr a llesgedd, A darpar ei drugaredd Lona'u byd ar lan y bedd. 0 lan bedd molianu byddant—ei werth Am gael hwyr o seibiant O'u lludded, a maes llwyddiant 0 fyd gwyn f fedi gant. Cant waddol i'w cynteddau—ac hedd- weh Ddaw o'u blwydd-daliadau; A bydd myrdd gyda byrddau Yn llawn iawn yn llawenhau. Llawenhau mae llu yn awr-a chofir Ei ddyrchaflad rhwysgfawr; Mawrhau mae y Cymro mawr, Yn nhwrf y gynau erfawr. Erfawr yw dystryw'r arfau-a dirfawr Dwrf ddaw o'r magnelau; Myna gosb i'r Ellmyn gau A sengir yn ffos angau. Angau fu'n medi'r rhengoedd—i'w Rhifai y minteioedd; (grafanc Heblaw Sior helbulus oedd Y rhyfela ar filoedd. Ar filoedd o ryfelwyr—du a fu Ond o fysg ein harwyr; Wele'r un a'i bylor, yr Her o dan y Prydeinwyr. Y Prydeinwyr parod unant-yn awr I ledaenu moliant, Ac i gynyg gogoniant Yn hoff o lwydd un o'i phlant. Un o'i phlant fel ei isant y sydd-yn Yn ei dysg a'i chrefydd, (dal Wna arbenig droi beunydd I roi i Dduw awr o'i ddydd. Awr o'i ddydd rydd i weddi—ac oriau Corwraidd i wladweini, A gweinidog yn oedi Yn seren hardd, yw'n Sior ni. EFROG.
I NEWYDD PRUDD AM FILWR. I
I NEWYDD PRUDD AM FILWR. Derbyniodd Mr. Geraint Roberts, Detroit, Mich., y newydd galarus o'r Hen Wlad fod ei frawd, sef Lieut. Elwyn Roberts, aelod o'r Royal Flying Corps, wedi cael ei ladd yn rhywle yn Ffrainc tra wrth ei orchwyl fel ob- servation officer. Ymddengys ei fod tua 8,000 o droedfeddi o uchder pan dar- awyd y peiriant ehedol gan wn wrth- awyrol, a bu farw yn uniongyrchol. Mab ydoedd i'r Parch. G. Ceidiog Ro- berts, Llanllyfni, ac nid oedd efe ond 23 mlwydd oed. Y mae hefyd adref er's dros ddwy flynedd bellach fab arall, sef Gunner Ivor Glyn Roberts yn dyoddef oddi- wrth effeithiau y nwy gwenwynllyd a ollyngodd yr Ellmyn ar y Prydeinwyr ar yr achlysuron cyntaf. Nid yw yn- tau ond 24 mlwydd oed. Deallaf ei fod yn graddol iawn wella, ond mae'n debyg y pery yn wanllyd iawn am Lieut. Elwyn Roberts. ysbaid o amser eto. Anfonir darlun^ iau o'r bechgyn dewr i'r "Drych," er rhoi cyfle i'w llu cyfeillion yn y wlad hon gael y fraint o'u hadnabod. Y mae mab arall hefyd yn gwneyd ei ran yn amlwg yn nglyn a'r rhyfel, sef 2nd Officer iGoronwy Roberts, White Star Line "Celtic." Y mae yn- tau yn parhau i forio rhwng y ddwy wlad er gwaethaf y gelyn, ac hyd yn hyn wedi dianc rhag cael ei suddo. Ceir hefyd ddau fab arall gartref, a dau yn y wlad hon, sef Geraint yn Detroit, a Griffith John, yn nhalaeth Colorado. I Gunner Ivor Glyn Roberts. Feallai mai buddiol yn y fan hon fydidai galw sylw holl gyfeillion ac edmygwyr eu tad, y Parch. G. Ceidiog! Roberts at gyflwr ei iechyd yn awr. Ymddengys ei fod yn wael iawn er's dwy flynedd, ac wedi ei barlysu i radd- au. fel na all lefaru fawr ddim. Mae'n debyg yr aidgoffa llawer am dano pan yr oedd ar daith yn y wlad hon yr un adeg a Dr. Cynddylan Jones. Y mae symudiad ar droed, o dan arweiniad J. B. Davies, ysgolfeistr, Llanllyfni, G. C., ac eraill, i wneyd tysteb iddo, a dymunir rhoddi cyfle i holl Gymry y Talaethau i gydweithio a'u brodyr yn Nghymru i wneyd y dysteb yn un deilwng. Y mae Ceidiog Roberts yn adna,byddus i luaws mawr, yn arbenig yn mhlwyfi Maentwrog a Llanllyfni, G. C., lie y bu yn gofalu am eglwysi y. M. C. Os oes rhywun a garai anfon cyfraniad, bydd yn dda genym eu der- byn, a'u hanfon drosodd i'r trysorydd -Nem Roberts, 1312 Brush Street, Detroit, Mich.
[No title]
PWYLLGOR A BUDDUGWYR GOBEITHLU M. C. GRANVILLE, N. Y. Yr uchod sydd ddarlun o bwyllgo r a. Ibuddugwyr cyntaf Gobeithlu M. C. Granville ar hyd y tymor, a hon yw g wobr y Pwyllgor i'r cyfryw fuddug- wyr. Efallai fod yma wynebau syd d yn adnabyddus i lawer ar hyd a lied y wlad. Yn sefyll (o'r chwith) Griff. Parry, Eira Williams, Lincoln Owens, Lucille Jones, Olwen Williams, Mrs. Thomas Pritchard, Griff. 0. Jones. Eistedd, David G. Owens, Eiluned Williams, D. W. Pritchard (Llifonwr); Ed. Jones (Iorwerth Dulyn); Emlyn Edwards, a Mrs. Llewelyn Thomas.-Llifonwr.
M. M. WILLIAMS, TAYLOR. PA.I
M. M. WILLIAMS, TAYLOR. PA. Gan Cadle. Y mae'r darlun uchod yn un lied gywir o'r gwrthrych, sef M. M. Wil- liams, Taylor, Pa., un o'r masnachwyr Cymreig mwyaf llwyddianus a parch- usaf yn sir Lackawanna. Ganwyd ef yn Merthyr Tydfil, De Cymru, yn y flwyddyn 1843. Dechreuodd weithio yn y lofa'n foreu iawn, hyny oedd tynged holl blant angen yn y dyddiau gynt yn Nighymru. Ymfudodd i'r wlad hon pan nad oedd ond tua dwy-ar- bymtheg oed, a bwriodd ei goelbren yn mysg ei gydgenedl yn Bellvue, Scranton, Pa. Wedi aros yno am beth amser symudodd i Tremont, Pa., ac yno y cyfarfyddodd a'r hon oedd i fod yn wraig iddo, sef Miss Mary Evans. Priodwyd hwynt gan yr hen Fongans, Pottsville, fel y'i gelwid, a bu iddynt nifer o blant, y rhai sydd oil yn fyw heddyw, ac yn anrhydedd i'w rhieni. Yn y flwyddyn 1869, dychwelasant fel teulu i'r ardal hon, gan ymsefydlu yn Taylor, Pa., lie y trigiasant yn ddidor ar hyd y blynyddoedd. M. M. Williams. I Mwnwr yw Mr. Williams wrth ei; alwedigaeth?a pherthyn iddo'r hynod- rwydd o fod yn un o'r rhai a dorodd y caraid cyntaf o lo yn nglofa Taylor, Pa. Wedi dylyn ei alwedigaeth lofaol am hir amser, cychwynodd fasnach I chwegnwyddwr (igrocer) yn Taylor, ac er na chawsai fanteision addysig gyff- redin yn moreu ei oes, llwyddodd drwy ei allu cynenid, i ddwyn ei fasnach yn mlaen yn dra thycianus, ac fe'i cydna- byddir heddyw fel un o fasnachwyr mwyaf llwyddianus y cylchoedd hyn. Tadogir ei ffyniant i'w ddiwydrwydd, ei øfal, ac i'w allu treiddigar i Tag- weled gwerth marchnadol nwyddau, a thrwy y galluoedd hyn, medrai byth a beunydd brynu'n fanteisiol a gwerthu am bris rhesymol. Nid yw llwyddiant wedi newid gronyn ar natur werinol y Cymro Cymroaidd M. M. Williams; y mae 6fei yn union yr un fel heddyw a phan oedd yn lowr du heb geiniog goah. Ni welais hyd yn hyn neb o'n icenedl ni, sydd wedi bod mor hir yn y wlad hon a'r cyfaill Williams, mor Gymreiigaidd ag yw ef, wedd a pharabl; try ei ber- sonoliaeth Gymreig y fan y bo ynddo yn ddarn o Wlad y Gan! Credaf mai efe yw y Cymro Cymreigiaf ar a wel- ais erioed, pwysleisia ei bryd a igwedd mai Cymro ydyw. Os mai dipyn yn fyr yw o ran corff, y mae ganddo ben hir, a hyny sydd yn cyfrif yn rhedegfa bywyd bob amser. Methodd ffwdan a. helbul masnachol sychu i fyny ddy- chymyg awenol y brawd o Taylor; nydda benill bychan 'nawr ac eil- waith, i foddio ei hun, ac os llwyddir i ddyfod o hyd i un o honynt, gosodir ef i fewn yn y tipyn llith hwn. Anr.hyd- eddwyd ef gan eglwys Gymraeg Tay- lor, drwy ei ethol yn ddiacon flynydd- oedd maith yn ol. Y mae hefyd yn ym- ddiriedolwr o'r eglwys hono, ac ethol- wyd ef yn aelod o Fwrdd Ysgol y Fwrdeisdref, ac etholwyd ef hefyd ar y Cyngor Trefol, felly gwelir ei fod yn fawr ei 'barch gan fyd ac eglwys, yn y lie y treuliodd y rhan fiwyaf o'i fywyd llaifurus. Y mae ei briod a'i blant, David A., y goruchwyliwr yswiriol adnabyddus; Oliver M., y masnachwr, a Miss Blanche, yn byw yn Taylor, Pa., a Richard M. yn IIwyddianus yn y Gor- llewin pell. Ceir M. M. Williams yn hydref bywyd a'i wedd yn dadol a thywysogaidd, dan gnwd o wallt brithwyn a llaes, a'i drem fel un o archdderwyddon Cvmru Fu, yn urddau ei ogoniant. Eiddunaf iddo bryd- nawnddydd tawel a hyfryd, dan wenau nef a daear. Wele benill o'i waith: "Mae nghalon 'nawr yn llamu Wrth feddwl am v fan, Y'm ganed draw yn Nghymru— Lie dygwyd fi i'r lan; Lie igwyliwyd fy man .gamrau Gan siriol lygad mam Fy nhad, gofalai yntau, Na chawswn unrhyw gam, Mae nhad a mam yn huno Yn dawel erbyn hyn, O! trwsied haf eu beddau A blodau coch a gwyn."
;_0 DALAETH WASH. I
0 DALAETH WASH. I Gan Gwilym Ddu o Went. I Bu farw y chwaer anwyl, Mrs. Richard O. Thomas, Mansfield Ave., Spokane, yr hyn ddaeth i'w rhan, Mawrth 11. Ganwyd hi Awst 13, 11815;1, yn Gwyndy, Cambria, Wis. Enwau ei rhieni oedd David ac Ann Rowlands. Priodwyd hi a Richard O. Thomas yn Lime Spring, Iowa, yn 1877. Ganwyd y plant canlynol idd- ynt, sef David R., Owen A., Emrys M. ac Elizabeth, pa rai sydd heddyw gyda thad anwyl yn galaru'n ddwys ar ol mam dyner a gofalus. Bu dwy ferch farw; Bertha a Mary, pa rai sydd wedi croesi y gagendor, a thebyg ar "y lan brydferth draw" yn dysgwyl er croesawu eu mam. Mae y brodyr ac un chwaer iddi yn hiraethu: William D. Rowlands, North Dakota; Thomas D. a David, Cambria. Wis.; Mrs. Ed- wards, Oakland, Calif. Cynaliwyd, yr angladd Mawrth 13, pryd y gwasan- aethwyd gan dri o weinidogion, sef y Parch. J. Daniels, yr hwn sydd new- vdd ddod i Spokane i weinidogaethu. Efe ddarllenodd ranau o'r Ysgrythyr, y Parch. Scafe, Fourth Presbyterian Church, aeth i weddi, a'r Parch. R. O. Williams, yr eglwys Gymraeg, bregeth- odd gyda dwysder.' Haws dychymygu na darlunio teimlad tad crediniol, pan oedd y fath nifer o amgylch ei or- weddfa. Felly yr oedd ein chwaer mewn iprvder fel Jacob- am y plant er eu bod oil yn briod, ond y ferch. Caf- wyd angladd fawr, capel Turbull lIe cynaliwyd y gwasanaeth yn orlawn, a tua 15 o dorchau blodau o bob lliw a llun yn dangos serch mawr ati. Yn nghanol ei defnyddioldeb ym- sflodd afiechyd yn ei chyfansoddiad er mor wrol a chadarn ei hymddangosiad, yr hyn a fu yn angreu iddi. Cyn i'r! eglwys gael ei sefydlu, yr oedd yn un o ffyddloniaid yr Ysgol Sul. er mai vchydig oeddem, ond yr oedd y chwaer yn ami ac yn barod i ddechreu yr Ysgol trwy fyned i weddi, a pharhaodd hyd y caniatai ei hiechyd yn un o'r ffyddloniaid. Pan y deallodd fod ei bywvd mewn perygl, cafodd rhai meddygon, ond y cwbl yn ofer. Yn ei wvthnosau a'i dyddiau olaf, dywedodd lawer am gadernid y Cyfamod yr oedd wedi ei lapio ynddo, gan dystio fod holl drefn yr iachawdwriaeth wrth ei I bodd. Dywedai yn ami, wrth son am srvmorth i ddyoddef yn ei chystudd, ei I bod yn ofni fod llawer heb feddwl erioed am ddyoddef gyda hi. "Nid ydynt yn meddwl," meddai. "i'w cref- ydd gostio dim iddynt. Yr oedd yn ateb i'r cymeriad a noda Solomon, sef "gwraig rinweddol." Yn ei chysyllt- iad a'i phriod, yr oedd ei galon a'i ym- ddiried vnddi, a phob amser yn cyd- rodio gvda eu gilvdd wrth fyned a dod i'r moddion. Canwyd yn dyner ac effeithiol gan foneddiges, a chanwyd yr wythawd Cymreig yn ddwys. Awd a'r corff i Fair Mount Cemetery, y ddinas lie claddwyi merch iddynt tua deg mlvnedd yn ol, ac ar lan y bedd canwyd "Bydd myrdd o ryfeddodau." Goiteithiwn y bydd i'r plant ddylyn Duw ei mam, a glynu hyd y diwedd fel v gwnaeth hi yn ffyddlon a chywir. vr hen feqwd sydd mewn dwfn alar, bydded iddo dynu o ffynonau yr iach- awdwriaeth. 8..
YMOFYNIAD AM
YMOFYNIAD AM EVAN J. DAVIES.—Genedigol o Llandybie, sir Gaerfyrddin, D. C. Daeth i'r wlad yma yn 1885. Gwneu- thurwr peirianau (machinist) yw wrth ei grefft. Bu yn gweithio yn Ansonia. Conn.. Newark. N. J.: Pitts- burgh, Pa.; Alliance, Ohio. 0 Cleve- land, Ohio, y clywyd oddiwrtho ddi- weddaf, rhyw bymtheg mlynedd yn ol. Os oes rhywun vn gwybod rhywbeth am dano, byddai ei frawd yn ddiolch- car am air o'i hanes. Cyfeirier. David O. Davies, Reading, Lyon Co., Kansas. JOHN HUMPHREYS, gvnt o Dol- pebyll. Llangadfan, sir Drefaldwyn. Clywyd oddiwrtho ddiweddaf o Twin Lakes. Colorado, yn y flwvddyn 1901. Y mae oddeutu 52 mlwydd oed. Dy- muna ei frawd gael rhyw air o hys- bvsrwvdd am dano. Cvfeiripr—Zach. Humphreys, Govan, Wash. ROBERT VAUGHAN ROBERTS.— Daeth o Canada i'r Unol Dalaethau Mehefiri. 1915, ean ymsefydlu yn Spo- kane. Wash. Oddi yno aeth i Butte, Montana, ond vmadawodd a'r ddinas bono tua diwedd Tachwedd. 1915. ac ni rhlvwyd srair wedi hvnv am dano. Cvfeirier unrhvw wybodf^th i'r Parch. J. D. Owen, Fair Haven, Vt.
"Rhydd i Bob Meddwl ei Earn…
"Rhydd i Bob Meddwl ei Earn ac i Bob Bam ei Llafar." Gofyniad. Mri. Gol.: Y mae pwnc athronol wedi bod o flaen cymdeithas lenyddol Bellevue yma, a methwn a chytuno, a charem i rai o ddarllenwyr y "Drych" ei ateb. Y cwestiwn yw hwn: Beth achosa darddiant o ddwfr ar gopa mynydd, pryd nad oestun man arall yn uwch na'r ffynon; beth wthia y dwfr i fyny? Bellevue. JAMES DAVIES. •'Beth sydd" eto: Dyma arall-eiriad Mr. R. Huw Thomas, Pentraeth, iMon, o benill Morgan Rhys: "Beth sydd i mr yn y byd Trugareddau Duw o hyd; Bendith ar ol bendith sydd Yn fy nylyn nos a dydd; Iesu, dyro ras i mi Wel'd Dy law haelionus Di, Yna'm bywyd byth gaiff fod Yn for o fawl i chwyddo'th glod." Gofyniad Arall. A wel Ieuan Fardd yn dda egluro y llinell gyntaf o'r trydydd penill o'i gyfieithiad ar yr emyn, "Mae'n hyfryd meddwl ambell dro?" Paham y mae yn defnyddio y gair "loss" yn hytrach na "lost" neu "lose?" Y mae pawb wyf wedi holi ar y mater yn dweyd mai gwall argraff ydyw; os felly, paham na ibuasai yn ei gywiro. Y mae yn agos i dri mis er pan y'i cyhoeddwyd. Dywedodd efe am rai o'r cyfieithwyr nad oeddynt yn gwybod y gwahaniaeth rhwng "loosing" a "losing," ac y mae yn edrych yn o debyg i'r annghall ei fod ef wedi cael ei ddal yn yr un fagl. ESQP, Y "Drych" a'r Gymraeg. Mri. Gol.: Yr wyf wedi bod yn dar- Ilen y "Drych" er's dros 30 mlynedd, a dyma yr unig foddion i Gymro gadw ei iaith. Nid oes Gymry yn y lie hwn ond y ni fel teulu, ac ni byddaf byth yn cael cyfle i ynganu gair o Gymraeg; eto gyda chymorth y "Drych" pe foydd- wn yma drigain mlynedd arall, ni chollwn fy Nghymraeg. Yr wyf yn mwynhau y "Drych," yn neillduol y rhan Olygyddol. Oredwyf fod ei iaith yn rhagori ar a oedd flynyddau yn ol. Hoffwn fwy o adgofion, yn neillduol adgofion o'r Hen Wlad. Cofiwyf am ysgrifau Gwilym Eryri a'i fath. Bydd- ai ambell ysgrif o'r eiddynt yn werth y "Drych" am flwyddyn. Odnant hef- vdd oedd un o'm ffryndiau, gan ei fod ef a minau wedi ein geni a'n magu yn yr un plwyf (Lanbrynmair). Nid oes dim i mi yn fwy gwrthun na chwrdd ag ambell Gymro ag sydd wedi dverwydd byw yn mhlith yr American- iaid am ychydig flynyddau a gymer arno ei fod wedi colli ei Gymraeg yn nghyd a phob dyddordeb yn ei genedl. Ceir eu gweled yn nghyrddau Dewi Sant ac yn canu "Hen Wlad fy Nhad- au" un waith y flwyddyn. Pob llwyddiant i chwi i gadw ein hiaith i fyw. Decatur, Ala. A. D. JERVIS. Ysglodion. ,Mri. Gol.: Y mae eglwys Gymreig neu Seisnig ar ben ei digon y dyddiau hyn, os y gall gyhoeddi adroddiad, yn nghyd a darlun o'r gweinidog ac en- wau y swyddogion. Nid oes son am gyhoeddi adroddiad yn y IBeibl; eithr v mae yr adnod hon ynddo: Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawn- der Ef." Faint o eneidiau achubwyd y flwyddyn ddiweddaf, sydd dragwydd- ol Ibwysig yn mhob eglwys. Pa faint? Nid oedd Diweddarwr ar y testyn. Nid crefyddwyr llac oedd mewn golwg gan "Paul:" eithr "blaenfynediaeth" srefyddol, fel system o grefydd a'r eg- luradaeth arni. Gyda llaw, cyfieithiad clogyrnaidd diarebol yw y gair "blaen- fynediaeth." Ai "progressiveness" a feddylir wrtho? Druan o'r Gymraeg. Gallech dybied fod Cymry Dydd y Cymry a'i gefnder, Dydd Gwyl Dewi, yn dra gwladgarol a Chymrogarol! Eu siaradwyr cyhoeddus yn gyfrredin ydynt o genedloedd eraill, tra yr an- vmwybyddant yn hollol fodolaeth Cymry; Cymry islaw eu sylw sydd yn treulio. eu hamser, yni a'u harian i'w dyddori hwy ar hyd y blynyddau; gyda.phwlpud, penill, can ac ysgrif. 0 ran eu cydgenedl, byddai pregeth- wr, bardd ac awdwr llyfrau Cymreig vn y tloty. Mae Hwfa Mon (ac eraill) heb gareg i nodi man fechan ei fedd. A ydyw ei wlad yn parchu Lloyd George fel y dylai? Druan o'r Welsh- man, mae'n lied hoff o'r hen gwpled: "Can di benill mwyn i'th nain, Fe gan dy nain i dithau." Melus hollol yw stori Rhys Evans. Byddaf yn hoff iawn o dafodiaith "gwvr y gweithie." Maent yn wleia yn hwylus. Mwy o ystraeon Cymreig. Dere eto, Rhys bach. Rhyfedd fod y goleubwyll "Coed- glas" yn dweyd fod "pregethwyr dawnus" yn brinion yn ngwlad y pre- gethu! Pe dwedid am hyn yma, ni ryfeddem, canys "bes bol" sydd uwch na phwlpud yma. Dyma compliment i 'gethwrs dawnus, Newythr Sam. NADDWR. Dylyn y Peiriant. Mri. Gol.: Mae yr Hen Shon wedi bod gartref drwy y gauaf ac wedi dar- llen peth anferth o lyfrau, a'r "Drych" bob tro y daw i law. Gwelaf fod y boys yn galed ar "Beth sydd i mi." Mi fydda'i yn hoff o ganu hen donau lleddf o barch ac er cof am yr amser gynt pan yr oedd hi yn ddigon caled ar hen Gymry. Clywais 'nhad yn ad- rodd lawer gwaith y modd y bywiai efe yn ddyn ieuanc ar fferm. Nid oedTl yno gyfle i ddarllen na dim. Ni chai lymaid o de byth, ac ni wyddai am deisen hyd nes yr oedd dros ugain, pan yr aeth i'r gweithiau. Yno am 'rai blynyddau, cerddai bedair milldir at ei waith. Mi fydda'i 'n hoff o ganu "Beth sydd i mi" o barch i'r hen gewri gynt. Gwelais y sylw gan y "Brython" yn nglyn ag America. Yr oedd yn rhanol wir, yn nglyn a'r gwynt. Gelwir Chi- cago yn Ddinas y Gwynt; ac y mae yma drowyntoedd, a chwyrnwyntoedd, &c.; ond credwn fod mwy o hono yn y "Brython" nag yn yr Americanwr. Ni ystyriaf H. P. M. yn fawr gwell na "smyglar" i gael ei farddoniaeth i fewn i'r rwm ffrynt mewn original package. Mae Pwntan wedi arfarwoli Scran- ton drwy son am ei llenorion a'i beirdd a'i mawrion amrywiol. Gwelaf yn awr pa ham y gelwid hi yn Athen. Dylent ddod yn nghyd i shop Tom Owen a phasio penderfyniad o ddiolch i'r Boneddwr o'r Bala. Ni ddylai Ieuan synu at bilcotiaid yn ameu gonestrwydd y beirniad. Y dydd o'r blaen, clywais fychanyn nas gall ysgrifenu ei enw yn pwyso un o ddysgawdwyr penaf America! Ni welodd yr Hen Slion engraifft mor fendigedig o ryddfrydiaeth nag yn mhenod XVII. o stori Je Ja, pan oedd achos claddu Die Wallter o flaen Cymdeithas y iSefydliad Cymreig. Dyna un o'r argiwments goreu glywais i er's talwm. Carwn i gael cyfeiriad Je Ja, os yn fyw. Wrth flaenfynediaeth fyddwn i yn golygu myned yn mlaen gyda chrf- ydd. Er engraifft, dylai crefydd adael llymeitian. Clywais am Gymro cref- yddol v dydd o'r blaen yn galw mewn tafarn wrth fyned adref o gwrdd gweddi. Blaenfynediaeth grefyddol fuasai iddo fyned yn mlaen heibio. Yr own i'n llawenhau clywed fod Wil Pegi yn ol o'r ffrynt gyda bomibs a shrapnels. Os cei di gyfle ar Wil Caerwyni dod'un o dan ei got. Difyrwyd fi yn fawr gan y "Gol- ofn." Gofyniad yn ei le oedd y rhe- swm gan J. M. J. pa ham y dylid galw "ceiliog" yn "ceiliag" yn y gair "ceil- iagwydd." A ddylid galw "ceiniog- werth" yn "ceiniagwerth?" Paham na? Mae ysgrifenu "petai" yn lie "pe bai" i mi fel "tossible" yn "possible." Ond rhaid cofio bod yn fyr. SHON Y DYRNWR. Dysgyrchiant a Goleuni. ,Mri. Gol. Yr wyf yn cydolygu yn hollol a Mr. E, p, Davies mai annheg- wch ag ef yw beirniadu ei erthyglau ar y ddamcaniaeth drydanol cyn y byddo wedi cwbl orphen y gyfres. Ni fuaswn yn son am na lleuad na llanw onibae iddo ef herio holl ddar- llenwyr y "Drych" i roddi cywirach esboniad o ddysgeidiaeth y dysgyrch- wyr ar y pwnc nag a roddai ef. Yn awr, wele efe eto yn haeru fod annghysondeb eithafol yn fy honiad fod dysgyrchiant yn gwanychu yn ol ysgwaredd y pellder yn yr un modd, ac am yr un rheswm ag y gwna goleu- ni a phob gallu canolog arall. Ond y ffaith yw fe ddylyna fy honiad o angenrheidrwydd oddiwrth egwyddor- ion mesuroniaeth. Fe ymleda y gallu dysgyrchiol i bob cyfeiriad, fel y gwna goleuni, gan ymwas-garu ar ffurf pelen, ac ymleda dros fwyfwy o dir o hyd fel yr elo yn mlaen. Yn ol mesur- oniaeth, fe gynydda arwynebedd pelen yn yr un cyfartaledd ag ysgwaredd pellder ei gwyneb oddiwrth ei chanol- Ihwynt. Felly, o angenrheidrwydd, fe wanycha y gallu, bydded oleuni neu ddysgyrchiant, yn yr un cyfartaledd, onide bydd rhywbeth yn cael ei wneu- thur o ddim. Fe ellir pro& cywirdeb y gwirion- eddau uchod hefyd yn rhwydd trwy arbrofion ymarferol, a phan y bydd athrawiaeth yn cael ei ategu gan fesuroniaeth a phrofiad, cyfrifli, hi yn safadwy tu hwnt i bob ameuaeth. Fe dybia Mr. D. mai yr achos fod gwyddonwyr yn gwrthod ei athraw- iaeth ef, ac yn glynu wrth yr hen ath- rawiaeth ddysgyrchiol yw, o herwydd rhyw gysegredigrwydd neu uniawn- gredaeth dybiedig a briodolir iddi; ond nid dyna yw dull gwyddonwyr. Na, mae yna resymau eraill pwysig, pwysig, a thebyg iawn y ca Mr. Dav- ies wybod am danynt pan orpheno ei gyfres erthyglau. A. H. WILLIAMS. Crefyddwyr Blaenfynedol. Gofyna Paul i mi egluro "beth yw blaenfynedwr crefyddol," ond crefydd- wyr iblaenfynedol feddyliai, mi gred- af; felly ceisiaf roddi ychydig o nod- weddion y fath un. Un yw yn derbyn deongliadau prif ysgoleigion Beiblaidd yr oes hon yn hytrach na deongliadau hen ysgoleigion Beiblaidd. Yr un yw ei reol gyda phyneiau eraill, o ran hyny, megys trydan neu fferylliaeth. Awdwvr diweddar yw ei safon, ac nid hen rai. Ei reswm dros hyn yw, fod gwybodaeth yn cynyddu mor gyflym nes mae perygl i hen lyfrau ar bob pwnc fod yn anymddiriedol. Er engraifft, ystyrir yr Encyclopedia Britannica yn un o'r awdurdodau uch- af ar y testynau sydd ynddo; mae am- ryw argraffiadau o hono, ond yr ar- graffiad diweddaraf yn unig ellir ei ystyried yn awdurdod heddyw. Mae'r gwahaniaeth rhwng y diweddaraf a'r lleill ar bron bob peth yn nooedig. Naturiol gofyn pa fodd i wybod pa rai ydynt brif ysgoleigion Beiblaidd yr oes? Nid anhawdd eu hadwaen, maent fel rheol yn cyraedd safleoedd uchel, sef i gadeiria.u colegawl a man- au o'r fath. Er engraifft, ystyrid Dr. Edwards, y Bala, yn un o ysgoleigion Cymreig Beiblaidd penaf ei oes; ond nid yw yn awdurdod heddyw. Yr oedd ei fab ar ei ol yn fwy o awdurdod, ac yn ei wrthddweyd; nid yn gymaint am fod y mab yn alluocach, ond am ei fod yn ibyw yn ddiweddarach-mewn mwy o oleuni. Mae'r byd yn bur alluog i adnabod ei ddynion mawr; os nad yn eu hoes bob amser, yn lied fuan wed'yn. Darwin, er engraifft, a gydnabydd- wyd gan lawer o ysgoleigion ei oes, ond heddyw a gydnabyddir yn,gyffred- inol, ond gan y rhai hyny sydd ar ol bob amser. Dyfarniad y byd yw fod Llwyd Sion vn wleidvddwr mawr, a gellir ymddir- ied i'w farn. Dyfarniad y byd oedd fod archesgob Whately yn ddyn mawr, a dywedodd rai pethau am y Beibl fyddai yn dramgwydd i lawer yn yr oes oleu hon. Nodwedd arall prif ysgoleigion Beiblaidd yr oes yw mai llyfrau di- weddar yw eu safon. Fynychaf pan yn difynu wrth siarad neu ysgrifenu flr bwnc. o awdwvr diweddar y ewnant. Yr hvii svdd yn rhoddi mwv o werth ar farn prif ysgoleigion Beibl- aidd diweddar nag ar farn hen ysgol- eigion Beiblaidd yw fod ganddynt fwy o fanteision. Fr engraifft. cvfieith- wvd v Reibl i'r Gvrnraeg goreu v gellid y prvd hwnw, mae yn debvg. ond mae yn lied wallus, ond nis gall gamarwain ein hvsgoleigion Beiblaidd goreu. gan eu bod hwy fynychaf yn gyfarwydd a'r ieithoedd yr ysgrifenwyd y Beibl yn- ddynt, ac o hen arferion dwyrelnlol, a hanesiaeth yn gyffredinol; pethau ag jsydd yn gynorthwy mawr os nad yn [i?anfodol i iawn ddeongliad y Beibl. L. GABRIEL.
0 POWELL AC IPSWICH. S. D.
0 POWELL AC IPSWICH. S. D. Marw Hen Gymydogion. Gan O. W. Rowlands. Cafodd angeu gynauaf toreithiog o blith hen sefydlwyr Cymreig y sefyd- liadau hyn; Powell ac Ipswich, S. D., yn ystod y pedwar mis diweddaf. Yr ydym wedi cofnodi am ddwy o'r hen chwiorydd yn ,barod, ac y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marw tair arall fu am flynyddau lawer yn gymydogion agos, ac a weiniasant yn ffyddlon mewn amrywiol ffyrdd yn ein plith: yn benaf, gyda chrefydd, mewn gwaeledd ac angen. ac yn wir ofalus a ffyddlon a weiniasant ar eu teuluoedd yn eu cartrefi wrth ymladd ag amgylchiadau ybywyd hwn yn ei wahanol agweddion. Y gyntaf a nodwn ydyw Mrs. Evan J. Williams a fu farw Ionawr .22,ain o'r flwyddyn hon. Ganwyd hi yn Cwm Bach, ger Aberdar, D. C.. Awst 22ain, 1850. Unwyd hi mewn priodas ag Evan J. Williams yn Merthyr Tydfil, Hydref 19eg, 1868. Ymfudasant i Thomastown, Ohio, yn y flwyddyn 1869: yna i Powell, S. D., yn 1886. Ganwyd iddynt 12 o blant, o ba rai y mae pedwar yn fyw, ac yn aros yn y sefydliad hwn: Evan, Thomas. William a Mattie. Claddwyd hi Ionawr y 24ain. Gweinyddwyd yn y ty a'r capel a glan y bedd, gan y Parch. Baldwin Davies. Bu yn nychu yn raddol am rai misoedd hyd nes daeth y diwedd. Dangoswyd arwyddion o barch neillduol a'r teulu yn eu prof- edieraeth gan yr ardalwyr, gan iddynt golli un fu yn wir ofalus o honynt yn I y cartref drwy yr holl flynyddau y buom mewn adnabyddiaeth a hwy. Xodweddid ein chwaer yn amlwg am ei charedigrwydd tuag at y teulu, a phawb a'i hadwaenai. Cydymdeimlwn a'r plant, a'i phriod sydd wedi ei adael yn weddw ac mewn gwth o oedran. Y nesaf ydyw Mrs. Richard H. Wil- liams, fu farw yn nghartref ei merch yn Burlington. la., Chwefror 8fed. Cafodd ein chwaer ergyd o'r parlys, Tachwedd yr Sfed, 1916. felly bu fyw dri mis wedi yr ymosodiad ar y babell, ac a wnaeth ei waith yn araf a sicr. Ganwyd hi Rhagfyr 23ain. 1839. Merch ydoedd i William a Margaret Griffiths. Celyn. plwyf Llanddeiniolen, Arfon, G. C. Daeth i Proscairon, ger Randolph, Wis., gyda'i rhieni pan yn saith mlwydd oed. Derbyniwyd hi yn aelod yn eglwys Proscairon yn bur ieuanc. Ymunodd mewn priodas a Richard H. Williams Rhagfyr 23ain, 1862. ac ymsefydlasant ar Portage Prairie, Wis. Symudasant i Lime Springs, la., yn 1877, a buont yno .bum mlynedd; yna symudasant am ysbaid byr i Lake Crystal, Minn., yna i sefydliad Powell, S. D., yn ngwan- wyn 1884. Yr oedd ei phriod wedi ei rhagflaenu er's un mlynedd-ar-ddeg. Dwy ferch hefyd, sef Maggie ac Ellen sydd wedi ei rhagflaenu. Yn aros mae pedwar o feibion a thair o ferched; Hugh, William, Ifor a John. Y merched ydynt, Mrs. W. H. Hughes, Gettysburgh, S. D.; Mrs. L. J. Smith, Burlington, Ia. a Miss Emma Wil- liams, Burlington, Ia. Dygwyd ei gweddillion yma Chwefror yr lleg, a chladdwyd hi yn nghladdfa y teulu yr un dyddiad. Gweinyddwyd yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. Baldwin Davies. Bu yn aelod ffyddlon o'r eg- lwys yn Powell tra yma, a chadwodd ei haelodaeth gyda ni er wedi symud i Iowa at ei merched; a thalodd ymwel- iad a ni droiau yn ystod y pedair blynedd diweddaf. Er oerder hin Chwefror, dangoswyd parchedigaeth dwfn at un fu yma gyda ni am flyn- yddau, yn un o honom. Y chwaer arall ydoedd Mrs. Seth Lewis, yr hon a fu farw yn dra sydyn yn ei chartref yn Ipswich, Chwefror 27ain. Ganwyd hi yn sir Benfro, D. C., Mai 7fed, 1841. Ymfudodd i'r America pan yn chwech oed, gyda'i rhieni, ac ymsefydlasant yn Ohio. Unwyd hi mewn priodas a Seth Lewis, Gorphenaf 23ain, 1865. yn Talmadge, Ohio, ac o'r 'briodas hon ganwyd idd- ynt wyth o blant; pedwar o honynt yn aros i alaru ar ol mam serchog a gofalus o honynt. Bu farw ei phriod, Mai laf, 1904. Daeth y teulu yma o Ohio yn 1883, ac ymsefydlasant ar fferm gerllaw Powell. Yn 1906 sym- udasant i dref Ipswich. Derbyniwyd hi yn gyflawn aelod yn eglwys Anni- bynol Talmadge pan yn 15 oed, a pharhaodd yn ffyddlon i'w bymrwym- iad crefyddol tra bu byw. Cystudd byr iawn a gafodd Mrs. Lewis, a theimlir chwithdod ar ei hoi yn Ipswich a Powell. Yr oedd o duedd lawen a chymdeithasgar, a sir- ioldeb yn ei gwedd bob amser. Daw adgofion hyfryd am ei charedigrwydd gan lawer, ac i'w phlant a'i pherthyn- asau daw dylanwadau dyfnion oedd yn ymglymu am danynt mewn anwyldelb a serch. I'r perthynasau sydd yn aros, yn sicr daw gwobr am garedig- rwydd ar bob llaw i un fu garedig i'r rhai o'i hamgylch. Gweinyddwyd yn y ty a'r capel yn Ipswich gan ei gwein- idog, y Parch. Godfrey Mathews (A.), Ipswich, a'r Parch. Baldwin Davies, Powell. Hebryngwyd hi i gladdfa Powell wrth ochr ei phriod a rhai o'r plant oedd wedi rhagflaenu. Y mae iddi dri. brawd a chwaer yn Ohio, a brawd yn Ipswich. Synir hen gydnabyddion yma ag acw, ddarllen am ymadawiad yr hen chwiorydd hyn yn ddiameu. Prinha yr hen "settlers"—enfyn angeu hwy i'r pentwr. Rhai "wedi bod yn hir gyd-deithio," ac ymadawant. "Draw yn lluoedd o fy mlaen, Rhai fu'n myn'd trwy ddyffryn Bacca Gyda ni tua Salem lan." Heddwch i lwch yr hen sefydlwyr ar ddiwedd eu diwrnod gwaith.
Advertising
$100, QWOBR 8100. Bydd yn dda pan ddarllenwyr y "Drych" gael g-wybod fod gwyddor wedi dargantod ffordd lachati o lelaf un anhwylder per- yglus, etef Catarrh, yn el wahanol raddsu. Hull's Catarrh Cure yw yr unig foddion hollol effeithiol I wneyd hyny Aflechyd cyfansoddladol ydyw, a rhald eymwyso trlnlaeth gyfansoddladol ato. Cymertr Hall's Catarrh Cure yn fewnol, effelthla yn uniongyrchol ar y pwaed ac arwynebedd llysnafeddol y corff. nes caffo y dyoddefydd nerth 1 pynorthwyo natur I welthlo y drws allan. Mae gan y perchenoglon y fatb ffydd yn el rlnweddau meddyglnlaethol fel y eynygrlant Oan' Dolar am unrhyw aohor, a fetliodd lachau. Anfonwch am r"tr n dystiolrethau. Cyfeirier— Ar werth gan erylTerwyr. 75c. F. J. CHENEY & CO., Toledo. O.