Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

NEWYDDION CYMRU. I

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMRU. I -Gada,wodd Joseph Parry Jones, Plas Glyn, Rhiwabon, Dinbych, y swm o 16,999p. ar ei ol. -Penodw-cl Miss K. E. Jones. B. A. (merch i Llew Tegid, Bangor), yn athrawes yn yr High School, Croydon. Ysgol i ferch-ed ydyw. —Hysbysir marwolaeth y Parch. Morgan Davies. fu yn weinidog ar yr egwys Annibynol yn Abergele am odeutu chwarter canrif. —Yn Nghasnewydd, bu farw Llew- elyn Llewelyn, perchenog glofeydd ad- nabyddus Cymreig, yn yr oedran teg o 76 mlwydd. —Dirwvwyd Canon Davies, Gwrec- sam, gan ynadon Trallwm i 30s. am wyllt yru ei gar modur. Endorsiwyd ei drwydded hefyd. -Bydd yn dda gan laweroedd gael ar ddeall fod Ffrancon Davies, y bari- tone enwog, wedi llwyr wella o'i afiechyd, ac fad galwadau am ei was- anaeth yn dyfod o bob cyfeiriad. -Mae Mr. a Mrs. Richard Griffith, Borthygest, Porthmadog, wedi marw mewn ychydig oriau i'w gilvdd, yn 75 a 70 mlwydd oed. Cleddir y ddau gyd- a'u gilydd ar yr un dyddiad. -Er ei bod hi yn Ffrainc ar waith da gyda'r milwyr, y mae Miss Pughe Jones, Ynysgain, Criccieth, wedi cael ei hail ethol yn gynrychiolydd i'r ys- golion elfenol yr ardal hono ar lys llywodraethol Ysgol Ganolradd Porth- madog. —Cafodd y Paroh. John Hughes, M. A., groeso cynes iawn gan y gynull- eidfa pan welwyd ef yn Seiat Fawr Lerpwl yr wythnos o'r blaen-ei ym- ddangosiad cyhoeddus cyntaf ar ol ei ddychweliad o'r America. Deallwn fod Mr. Hughes yn debyg o aros yn Lerpwl i fyw, ac nad yw yn bwriadu symud i'r Deheudir, fel y tybid un- waith. —Daethpwyd i gytundeb ar ddau gwestiwn oeddynt yn annghytuno ar- nynt rhwng perchenogion a gweith- wyr glo De Cvraru, ac felly mae'r perygl o streic ar hyn o bryd wedi ei osgoi. Cyfarfyddodd y Bwrdd Cymod yn Nghaerdydd. a phenderfynwyd der- !byn argymelliad y Barnwr O'Connor. Deallwn fod y termau yn foddhaol i'r ddwy ochr. -Mae Uchel Sirydd Mon (Mr. Eccles) wedi sefydlu y 29ain o Or- phenaf i ddienyddio John Elias, yr am- aethwr oedranus ddedfrydwyd i far- wolaeth yn Mrawdlys Biwmaris am lofruddio ei fab. Mae iMr. R. Gordon Roberts am ap-ollo yn erbyn y ddedfryd ar y tir fod y Barnwr Coleridge wedi camarwain y rheithwyr. Os metha'r apel, cyrfier y dienyddiad le yn Nghaer- narfon. Bu farw yr argraffydd a'r lienor enwog, D. L. Jones (Cynalaw), yn Brynywawr, tref Aberteifi. Mehefin 6ed, ar ol cystudd byr. Llesghaodd yn fawr y blynyddoedd diweddaf. Wedi ail briodi symudodd i gyfaneddu i dref Aberteifi. Hunodd yn ei 75ain mlwydd oed, wedi bywyd llafurus mewn llenyddiaeth amrywiol—Cerdd- oriaeth, barddoniaeth, rhyddiaith, &c., ac fel argraffydd. —Edrychir yn mlaen am Eisteddfod I lwyddianus yn Aberystwyth, ac am Gymanfa Ganu fwy llwyddianus na hyny. Ymddengys yn dra thebyg na i fydd y gyntaf ond rhagredegydd i'r diweddaf, a mynegir fod yn mwriad y y Pwyllgor ddanfon rhai miloedd o'r rhagleni i'r milwyr Cymreig yn Ffrainc, a da y gwnant. Mae'r hen emynau Cymraeg wedi profi yn gyn- orthwyon 'bendithlawn odiaith. —Yr wythnos o'r blaen. cafodd dwy foneddiges Seisnig oedd ar ymweliad a Phorthmadog brofiad chwerw. Aeth- ant ar ben craig yn pwyntio allan i'r mor, a tlhra'n darllen clywodd un o honynt y tonau yn curo yn erbyn gwaelod y graig, a chanfyddodd fod y mor rhyngddynt a'r lan. Llwyddasant, fodd bynag, i ddod oddi yno yn ddyo- gel. Yn fuan ar ol hyn yr oedd y graig o'r golwg yn y mor. —Mab yw Charles Evans Hughes, yr ymgeisydd Republicanaidd am ar- lywyddiaeth yr Unol Dalaethau, i'r di- weddar Barch. David Hughes, a fu byw yn Merthyr ac Aberbig, cyn symud i'r America, ac y mae'n wyr i'r diweddar Nathan Hughes, Tredegar. Yn mhlith ei berthynasau yn y wlad hon y mae Mrs. Rogers, Woodville Road. Caerdydd; yr Henadur S. N. Jones, U. H., Casnewydd, a'i chwaer, Mrs. Rhys, priod y Parch. J. Emlyn Rhys, a'r Parch. H. Harris Hughes, B. A., B. D., Princes Road, Lerpwl, ei frawd, Mr. J. R. Lloyd Hughes, o staff y "Liverpool Post." a'i chwaer, Mrs. W. Eames, Manchester.

MARWOLAETHAU. I

Advertising

-BYR _NODION 0 CLEVELAND.…

Advertising

NEW YORK A VERMONT. I