Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
-.N,fae Vincent Morgan, y cyfan- soddwr Cymreig hyglod, wedi cael ei apwyntio yn arweinydd y Beecham Grand Opera. Efe ydyw rbeolwr cerddorol Cymdeithas Sir Ddinbych yn Llundain.
PWLPUD Y DRYCHI
PWLPUD Y DRYCH I AIL-ENEDIGAETH. I Efenervl loan. 3 ben.. 3-7 adn. Y Parch. J. T. Williams (W.), Bangor, Pa. Rhan o'r spnddyddan ddigyffelyb fu rhwng Crist a Nicodemus yw yr ad- nodau hyn. Ychydig a wyddom am Nicodemus. Deallwn mai pendefia dysgedig ydoadd, ac yn aelod o'r San- hedrim, a'i gijon yn curo'n gynes iawn tuag at y Gwaredwr. Safodd i fyny yn nghanol y llys i gardw chwareu teg i'r Iesu. Ac wedi y croeshoeliad, daw gyda myrr, a'C aloes i eneinio ei gorff Ef. Dywed yr hanes iddo ddyfod at yr Iesu "liw nos," a chymer rhai esbon- wyr yn ganiataol ei fod o dymer Iwfr, yn ei waith yn dyfod fel hyn, fod arno ofn yr Iuddewon, ofn iddynt ei amddi- fadu o'i swydd, a'i erlid. Hwyrach fod peth sail i'r dybiaeth, ond credwn mai nid dyna'r rheswm penaf. Perygl pob oes ydyw camliwio a chamesbonio dyn da. Rhaid edrych trwy yr arwynebol i mewn i "galon yr amgylchiadau" cyn byth y gellir 'barnu'n gywir am ddyn. Cofier mai 4Z. ma y Pasc cyntaf o weini- dogaeth gyhoeddus yr Iesu, ac ni fu ei debyg cyn hym yn Jerusalem. Testyn ymddyddan pawb wrth gerdded yr heol, a phan yn eistedd yn eu tai, oedd y JMwygiwr ieuanc o Nazareth, a'i wyrthiau rhyfedd. Dyma ei ddyddiau prysur Ef, ac o herwydd hyny gwelodd Nicodemus mai ei unig gyfle i siarad a'r Iesu ydoedd "liw nos." Gwelwn mai ymholi yr oedd yn nghylch teyrnas Dduw, a'r cymwysder oedd yn angen- rheidiol ar ei chyfer. Mater y paragraff ydyw, "Ailenedig- aeth yr unig ddor i'r deyrnas ysbryd- ol," ac edrychir arno mewn tair gwedd: 1. Natur yr Aileni. 2. Rheidrwydd yr Aileni. 3. Breintiau yr Aileni. 1. Natur yr Aileni.—Yn ol dysgeid- iaeth y Beibl, dyna ydyw aileni, cyf- newidiad yn nhueddiad y meddwl. Newid yr egwyddor lywodraethol yn mywyd y dyn. Yr oedd ei dueddiadau gynt i gyfeiriad pechod, llygredd, a thrueni, ond yn yr ailent troir hwynt i gyfeiriad daioni, purdeb, a santeidd- rwydd. Dangosir y cyfnewidiad yn glir iawn yn nameg yr afradlon. Dyna ddywedir am dano, "a phan ddaeth ato ei hun." Y mae pechod yn gwneyd dyn yn estron iddo ei hun. Ystyr y frawddeg yn y ddameg ydyw, fod dyn yn ei bechod wedi colli ei synwyr moesol, wedi colli ei hunan, y dyn. Rhyw d:diwrnod, tra yr afradlon yn nghanol ei gyni, a'i gyflwr truenus, daw cyfnewidiad i'w hanes, gwel ei gyflwr, a thry ei gefn ar ei bechod, a'i wyneb tua thy ei dad, i gyfeiriad llawnder a dedwyddweh. Dyna y cyf- newidliad gymer le yn mywyd dyn wrth gael ei aileni. Yn y cyfnewid- lad, ni chyll dyn ei hunaniaeth. Nid rhoi enaid newydd iddo a wna Duw. Nid cyfnewid, ond santeiddio cynedd- fau rhesymol enaid pechadur a wneir yn yr ailenedigaeth. Goleuo ei ddeall, ysbrydoli ei deimladau, a dwyn ei ewyllys i gydgordiad perffaith ag ewyllys santaidd Duw. (a) Cyfnewidiad goruwchnaturiol ydyw, "a anwyd o'r ysbryd." Gweith- red o eiddo'r Ysbryd Glan ydyw aileni pechadur. Mae gan ddynion lawer i wneyd i ddwyn eu hunain i afael ag iachawdwriaeth, eto, rhaid i'r gor- uwchnaturiol ddod i mewn i fywyd cyn byth yr ailenir ef. Geni oddi uchod ydyw. Perygl mawr yr oes ydyw colli golwg ar y gwirionedd hwn, pan y mae cymaint o wahanol alluoedd yn y byd, a'r cwbl yn amcanu at wella'r ddynoliaeth. Nid ydyw yn ddiystyr o'r gwaith da y mae y galluoedd hyn yn ei wneyd trwy leddfu dyoddefaint, ac ychwanegu yn barhaus at gysur y byd, ond nid yw hyn ond gwella allan- olion dyn; rhaid cael yr Ysbryd o'r nef 1 gyfnewid ei galon. Dywedir gan ys- gol o athronwyr nad oes eisieu dim ond diwylliant er cael pechadur yn ol i ddelw Duw. Dywedant fod hadau dai- oni a phurdeb yn gorwedd yn guddied- ig yn natur pob dyn, a'r cwbl sydd eisieu ydyw deffroi a dadblygu yr had- au hyn. Gwir i hadau daioni a rhin- wedd gael ei hau unwaith, ond fe ddaeth y "gelyn ddyn" ar ol hyny ac a hauodd efrau yn eu lie. Na, diwyllier a gwrteithier faint a fyner, eto i gyd, nid yw diwylliant ei hunan yn ddigon- ol, rhatd cael y gallu oddi uchod i greu bywyd' newydd yn yr enaid. Nid yw yr un gwir Gristion yn hawlio fod ei fywyd ysbrydol yn ganlyniad ei egni a'i allu ei hun, ond cydnebydd mai rhyw waddol oruwchnaturiol ydyw, "Nid myfi sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi." Fe ddywedir wrth- ym hefyd mai gradd1 uchel o foesoldeb ydyw Cristionogaeth. Gwir fod y moesoldeb glanaf a phuraf i'w gael mewn Cristionogaeth, eto, nid digon hyn i wneyd dyn yn Gristion. Y mae crefyddau eraill yn dysgu moesoldeb i'w deiliaid, ond nid oes yr un grefydd ond Cristionogaeth ag sydd yn dysgu ysbrydolrwydd cymeriad. Er cyraedd bywyd uchel mewn moesoldeb, nis gall, yn ei allu ei hun, symud yn mlaen i fywyd o dduwioldeb a santeiddrwydd. Pa mor uchel bynag dy foesoldeb, os nad yw yr Ysbryd Glan wedi dy ar- wain trwy ddor yr Aileni, ni'th gyfrinr yn Gristion yn ngolwg y nef. (b) Cyfnewidiad sydyn ydyw. Nid gwaith graddol fel santeiddhad, ond cymer le ar adeg neillduol yn mywyd pob dyn. Diau fod llawer yn cael eu parotoi ar ei gyfer, ond am y cyfnewid- iad ei hun, dygwyddiad sydyn, diatreg ydyw. Meddylier am y llosg-fynydd fel engraifft. Yn sydyn a disymwth y ffrwydra ihwnw, gan yru degau o bobl i dragwyddoldeb, ond fe gymer- odd y llosg-fynydd1 flynyddau lawer yn darparu ei hun ar gyfer yr alanas. Oes, mae yma rag-barotoi yn hanes dynion ar gyfer eu haileni, ond yn sydyn y dygwydd y cyfnewidiad. Nid yr Ysbryd Glan, ond y pechadur sydd i benderfynu yr adeg, a'r drwg ydyw fod dynion yn aros yn rhy hir, nes colli pob cyfle i ymostwng i ddylanwad yr Ysbryd. Fe sonia John Foster am dad yn cynyg swm o arian am ryddhad el ddau fab, gymerwyd yn garcharorion rhyfel, ac i gael eu colli, a chafodd atebiad fod yr arian yn ddigon am ryddhad un o'r meibion, iddo ef ben- derfynu pa un. Anhawdd oedd pen- derfynu, a phetrusodd mor hir nes i'r adeg benodedig fyned heibio, fel y collwyd y ddau fab. Felly y mae dyn- ion yn gwrthod cymellion yr Ysbryd nes colli o honynt bob cyfleusdra. Nid yfory, ond "heddyw yw amser Duw i wneyd enaid marw'n fyw." (c) Cyfnewidiad trwyad,l ydyw, "Yr hyn a aned." Mae yma ddwynbywyd newydd i fodolaeth. Nid parhad o'r hen fywyd, neu ddadblygiad neu adgy- weiriad o'r bywyd blaenorol ydyw, ond mae yma greadigaeth newydd hollol. Dywed athroniaeth mai nid wedi marw, ond cysgu y mae y natur ddynol, a'r hyn sy'n angenrheidiol er ei hiach- awdwriaeth ydyw cyffroi ei galluoedd a'i hysgwyd o'i hirgw&g. Nage, ebai'r Beibl, y mae'r enaid yn farw heb wreichionen o fywyd ynddo, "A chwithau a fywhaodd Eife pan oeddych yn cysgu," na, "ond pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." Nid parhad, nid bywyd wedi ei goethi a'i ddlwygio yw y bywyd ailenedig, ond dechreuad newydd o fywyd ar linellau hollol wahanol. 2. Rheidrwydd yr Aileni. "Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn." Syniad Nicodemus oedd, "fod genedig- aeth o Abraham yn ddigon i sicrhau'r deyrnas. Na, meddai'r lesu, rhaid eich haileni, eich geni oddi uchod. (a) Mae'r cyfnewidiad yn angen- rheidiol am mai ysbrydol ydyw y deyr- nas y genir y pechadlur iddi. Mae yna filoedd o bobl yn onest a difrifol yn methu a deall paham nas gall dyn dyfu yn well, well o hyd, nes enill hawl o hono ei hun i fynd i mewn i'r deyrnas ysbrydol. Etyb Drummond drwy ofyn cwestiwn arall, Paham nas gall y gareg farw dyfu yn barhaus nes dod i feddiant o'r bywyd sy'n eiddo'r Ilys- ieuyn? Na, ysbrydol yw teyrnas Dduw, a rhaid rhoi cyfle i'r Ysbr-yd Glan ysbrydoli'r bywyd cyn byth y ceir mynediad i'r deyrnas hon. Go- fynwyd i John Wesley ei reswm dros bregethu cymaint ar y geiridu hyn, a'i ateb oedd, "Am fod yn rhaid eich geni chwi drachefn." (b) Mae'r cyfnewidiad yn angen- rheidiol am fod tynged dragwyddol dyn yn ofnadwy hebddo. Rhaid aileni, rhaid credu yn y Mab, "fel na choller." Mae yma golli ofnadwy, heb yr aileni. Dyma'r drws, a'r unig ddrws y mae Dijw wedi ei agor i bechadur ddianc drwyddo er osgoi trueni a cholledig- aeth. Fe ddaw adeg ipan ga'r drws hwn ei gau, byth i agor tnwy. Ac fe arfer Duw lawer moddion i gael pech- adur i fyned drwyddo i'r deyrnas. Dichon fod dy fam dduwiol, gyda gweddiau taer, wedi ceisio dy gael drwyddo. Bu cymydogion crefyddol yn dy gyngori. Cefaist dy ddesgrifio yn fanwl gan y pregethwr, yr hwn oedd yn chwalu y gynulleidfa i chwilio am danat, eto gwrthod myned drwodd yr ydwyt. Hwyrach ycel fyw yn hir ar y ddaear, ond cofia y daw adeg pryd y rhaid croesi'r ffin o fywyd i farwolaeth, a'r Duw trugarog y buost yn ei ddi- ystyru ar hyd dy fywyd yn dweyd wrth swyddogion dinystr, "Rhwymwch ef draed a dwylaw, a bwriwch ef i'r tyw- yllwch eithaf." Dyma drueni y dyn diailenedig. Gweler bwysiced y cyf- newidiad. 3. Breintiau yr Aileni. (a) Gweled y deyrnas. Oddi eithr geni drachefn, ni ddichon efe weled y deyrnas. Yn yr aileni fe gynysg- aeddir y pechadur a gwelediad ysbryd- ol. Gweld y deyrnas. Fe deimlodd Moses yn ofidus pan gafodd air o'r nef yn ei hysbysu fod y fynedfa i Ganaan wedi ei chau i'w erbyn. Syrthiodd ar, ei liniau mewn ymbil a'i Dduw am gael myned I mewn. "Na," meddai Duw, "chei di ddim myned trosodd, ond dyma wna 1 hefo ti. Dos i fyny i ben Pisgah, a dyrchafa dy lygaid, ae edrych ar y wlad." Ac o'r fan hono fe welodd ei mynydd-dir a'i dyffryn-dir, fe welodd haul natur yn suddo dros ei gorwelion, fe welodd draw i ororau Bethlehem Judah, a Chalfaria, a boddi- Ion oedd i farw wedi yr olygfa ogon- eddus hon; ond pa faint mwy gogon- eddus yw yr olygfa ga y creadur ail- enedig ar y deyrnas ysbrydol. Saif ar ei therfynau, a gwel am y tro cyntaf yr elfenau hyny sydd yn cyfansoddi'r deyrnas, daioni, cyfiawnder, a san- teiddrwydd. Mae yn gweled blodau rhinwedd a moesoldeb yn tyfu yn mhob man, a ffrwythau ed,ifeirweh yn llanw y lie. Ac er edrych ac edrych ar dlysnl a gogoniant y wlad, y mae yna well olygfa yn dod i'r golwg o hyd. Gweld y deyrnas. (b) Myned i mewn i'r deyrnas. Nid ei gweld yn unig ond myned i mewn iddi. Fe gafodd Moses weld gwlad yr addewid, ond ni chafodd fyned i mewn iddi. Am y credadyn, ca hawl i fyned i mewn i'r deyrnas, ac unwaith o'i mewn, fe ga holl allu'r nef o'i blaid, i'w amddlffyn a'i ddyogelu. Y mae llw y Duwdod y bydd iddo dy gadw rhag cam. Fe ddaw "troion yr yrfa" i chwerwi melusder dy fywyd di, fe ddaw nerth y demtasiwn ifel corwynt ar dtaws, dy gydwybod, ond cei drwch Duwdod i sefyll rhyngot a'r gwaethaf. Fe gei fanna o'r nef i ymiborthi arno. Cyfiawnder, uniondeb. a santeidd- rwydd fydd dy fwyd a'th ddiod. (c) Fod y deyrnas yn dragwyddol ei pharhad. Nid yw amser nac amgylch- iadau yn effeithio dim ar deyrnas y credinwyr. Ceisia Pedr ei desgrifio, "Yr Hwn a'n hadgenedlodd ni i obaith bywiol, i etifeddiaeth anllygredtg, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yn nghadw yn y nefoedd i chwi." Daw, fe ddaw adeg pan fydd teyrnasoedd daear wedi diflanu, pan fydd gorsedd- au'r byd wedi mynd yn Ilweh, a phob coron ddaearol wedi eu toddi gan dan Duw, ond am deyrnas y saint, erys hon yn dragywydd. Fe saif pan fydd pob peth arall yn syrthia. "Saif breninlaeth, fawr yr Iesu, A'l gorseddfa'n tfythol lan, Saif ei heddwch yn dragywydd, Saif ei chysur byth, a'i chan. Teyrnas ydyw na ddiflana, Rhodia'i deiliaid oil yn rhydd; A phan syrth gogoniant anian, Harddwch hon yn fwyfwy fydd J'
Advertising
CANTATA. The "COMMANDMENTS" by PETER EIDW ARDS, Mus. Bac. English & Welsh Words. Send for sample copy-50 cents. Special terms to Choirs. Selling agent in U. S. A., R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y.
CYFIEITHIAD O'R SAESNEG FRI…
CYFIEITHIAD O'R SAESNEG FR I GYMRAEG. Buddugol yn Eisteddfod Fawr San Francisco, Calif. Gan S. Lewis, Oakland, Calif. Testyn. "Y Tad." gan Biornstjeme Biornson. Y gwr sydd yn wrthddrych yr hanes adroddir yma ydoedd y person cyfoeth- ocaf a'r mwyaf dylanwadol yn ei blwyf. Ei enw ydoedd Thord Overaas. Gwnaeth ei ymddangosiad yn myfyr- gell yr offeiriad un diwrnod, yn dal a difrifol. "Yr wyf wedi cael mab," ebe fe, "ac yr wyf yn dymuno ei gyflwyno i'w fed- yddio. "!Beth yw ei enw i fod?" "Finn—ar ol fy nhad." "A'r tadau a mamau bedydd?" Crybwyllwyd hwynt, a phrofasant fod y gwyr a'r gwragedd goreu o ber- thynasau Thord yn y plwyf. "Oes rhywbeth arall?" gofynodd yr offeiriad, ac edrychodd i fyny. Petrusodd y gwrengwr ychydig. "Dymunwn yn fawr iddo gael ei fed- yddio wrtho ei hunan," ebe fe o'r diwedd. "Hyny yw ar ddiwrnod o'r wythnos —dydd Sadwrn nesaf, am ddeuddeg o'r gloch—canol dydd." "Oes rhywbeth arall?" gofynodd yr offeiriad. "Na, nid oes dim arall," a throell- odd y gwladwr ei gap fel pe ar fedr myned. Yna cyfododd yr offeiriad. "Y mae hyn eto fodd bynag," ebe fe, a chan gerdded tuag at Thord, cymerodd ef gerfydd ei law ac edrychodd yn ddi- frifol i'w lygaid. "Duw ganiatao i'r plentyn fod yn fendith i chwi!" Un diwrnod un-flynedd-ar-bymtheg yn ddiweddarach, safodd Thord un- waith yn ychwaneg yn myfyrgell yr offeiriad. "Yn wir, yr ydych yn dwyn eich oed yn rhyfeddol dda, Thord," ebai'r offeir- iad, oblegid ni welai ddim cyfnewidiad o gwbl ynddo. "Yr achos o hyny ydyw nad oes gen- yf ddim trafferthion," atebai Thord. Ni atebodd yr offeiriad ddim i hyn, ond yn mhen ychydig gofynodd, "Beth yw y pleser geir yr hwyr yma?" "Yr wyf wedi dyfod heno yn nghylch y mab yna o'r eiddof, sydd i dderbyn bedydd esgob yfory." "Y mae yn fachgen dysglaer." "Nid oeddwn yn chwenychu talu yr offeiriad nes i mi glywed pa rifnod gai y bachgen pan gymer ei le yn yr eglwys yfory." "Saif ar ben y rhes." "Felly clywais; a dyma ddeg doler i'r offeiriad." "A oes rhywbeth arall allaf wneyd i chwi?" gofynodd yr offeiriad, gan sef- ydlu ei olygon ar Thord. "Na, nid oes dim arall." Aeth Thord i ffwrdd. Treiglodd wyth mlynedd yn ychwan- eg heibio, ac yna un diwrnod clywid twrw y tuallan i fyfyrgfell yr offeiriad, oblegid yr oedd lluaws o ddynion yn dynesu, yn cael eu blaenori gan Thord, yr hwn a aeth i fewn yn flaenaf. Edrychodd yr offeiriad i'r lan ac ad- nabyddodd ef. "Yr ydych yn dyfod yn gryf y prydnawn yma, Thord," ebe fe. "Yr wyf yma i erchi i ostegion fy mab gael-eu cyhoeddi; y mae ar fedr priodi Karen Storlinden, merch Gud- mund sydd yn sefyll yn fy ymyl." "Pa'm, dyna'r ferch gyfoethocaf yn y plwyf." "Felly y maent yn dweyd," ebe'r gwladwr, gan lofelu ei wallt yn ol ag un Haw. Eisteddodd yr offeiriad am ychydig fel pe mewn dwfn fyfyrdod, yna dod- odd yr enwau yn ei lyfr, heb wneuthur unrhyw sylwadau, ac arwyddodd y gwyr eu henwau islaw. Gosododd Thord dri doler ar y bwrdd. "Un yw yr oil sydd yn dyfod i mi," ebe'r offeiriad. "Gwn hyny yn eithaf da, ond efe yw fy unig blentyn-yr wyf am wneuthur y peth mewn modd anrhydeddus." Cymerodd yr offeiriad yr arian. "Dyma'r drydedd waith yn awr Thord i chwi ddyfod yma ar ran eich mab." "Yr wyf yn darfod ag ef yn awr," ebe Thord, a chan blygu ei lyfr Ilogell, dywedodd Yn dda booh, ac i ffwrdd ag ef. Canlynodd y gwyr ef yn araf. Bythefnos yn ddiweddarach yr oedd y tad a'r mab yn rhwyfo yn groes i'r llyn un dydd tawel, Ilonydd, i Storlin- den i wneuthur trefniadau ar gyfer y briodas. "Nid ydyw y groes-ystyllen yma yn ddyogel," ebe'r mab, a safodd i fyny i unioni y sedd ar ba un yr eisteddai. Yr un eiliad llithrodd yr ystyllen yr oedd yn sefyll arni odditano, taflodd el freichiau allan, rhoddodd ysgrech a syrthiodd dros y bwrdd. "Cymer afael yn y rhwyf!" gwaedd- odd y tad, gan neidio ar ei draed a dal allan y rhwyf, ond wedi i'r mab wneuthur ychydig ymdrechion, aeth yn ffer. "Aros eiliad!" gwaeddodd et dad, a dechreuodd rwyfo tuag ato. Yna treiglodd y mab ar ei gefn, a rhoddodd un edryChiad hir ar ei dad, a suddodd! Braidd y gallasai Thord gredu ei lygaid; cadwodd y bad yn llonydd, a llygadrythodd ar y fan lie yr aethai ei fab i lawr, fel pe byddai yn sicr fod yn rhaid iddo ddyfod i'r wyneb drachefn. Cododd ychydig awyrbelenau-yna ychwaneg, ac yn olaf un fawr a dor- odd yn chwilfriw; a'r llyn yn gorwedd yno drachefn mor wastad a dysglaer a'r drych. Am dri diwrnod a thair noswaith gwelai pobl y tad yn rhwyfo o amgylch-ogylch y fan, heb- gymeryd naill na bwyd na chwsg; yr oedd yn rhwydlusgo y llyn am gorff ei fab. A thua'r boreu, y trydydd dydd, cafodd afael arno, a dygodd ef yn i freichiau i fyny dros y bryniau i'w gartref. Yn mhen rhyw flwyddyn wedi y diwrnod hwnw clywodd yr offeiriad yn ddiweddar un hwyr Hydref rywun! yn y dramwyfa y tuallan i'r drws, yn chwilio yn ofalus i gael gafael yn y glicied. Agoorodd yr offeiriad y drws, a cherddodd i fewn wr tal, teneu, crymedig, a gwallt gwyn. Eidrychodd yr offeiriad yn hir arno cyn iddo ei adnabod. Thord ydoedd! "A ydych yn rhodio allan mor ddi- weddar?" ebe'r offeiriad, gan sefyll yn llonydd o'i flaen. "Ah, ydyw! y mae yn ddiweddar," ebe Thord, ac eisteddodd. Eisteddodd yr offeiriad i lawr hefyd, fel pe yn dys- gwyl. Wedi hir, hir dawelwch, yn y diwedd dywedodd Thord, "Y Mae rhywbeth genyf y carwn ei roddi i'r tlodion. Yr wyf am iddo gael ei fudd- soddi fel cymunrodd yn enw fy mab." Yna cododd a rhoddodd swm o arian ar y bwrdd, ac eisteddodd i lawr dra- chefn. Cyfrifodd yr offeiriad ef. "Y mae yn llawer iawn o arian," ebe fe. "Y mae yn haner pris fy amaethlan. Gwerthais hi heddyw." Eisteddodd yr offeiriad mewn hir ddystawrwydd. Yn y diwedd gofynodd, ond yn fwynaidd, "Pa beth fwriadwch ei wneuthur yn awr, Thord?" "Rhyw,beth gwell." Eisteddasant am ysbaid, Thord a golygon athrist, a'r offeiriad a'i lygaid wedi eu sefydlu ar Thord. Yna yn mhen ychydig dywedodd yr offeiriad yn araf a thyner, "Yr wyf yn credu fod eich mab o'r diwedd wedi dyfod & gwir fendith i chwi." "Ydyw, yr wyf yn meddwl hyn,y fy hunan," ebe Thord, gan edrych i fyny tra yr oed,d dau ddeigryn mawr yn araf dreiglo dros ei ruddiau.
GAIR 0 FANGOR. PA.
GAIR 0 FANGOR. PA. Gan R. R. Lloyd, Springfield, Ill. Dichon mai nid annerbyniol gan rai o'm hen gyfeillion fydd cael gair o'r He hwn, ac ychydig o hanes rhai Cym- ry a gyfarfyddais er pan y cyraeddais y dref fach brydferth a Chymreigaidd hon ddechreu y mis hwn. Yn fuan wedi i mi ddod yn ddigon cryf ar ol treulio wythnosau yn yr ysbyty yn ein dinas, sef Springfield, Ills., cymerais yn fy mhen, a chydag anogaeth fy meddyg, y buasai newid awyr yn gwneyd lies i mi yn gorfforol, felly ga- dewais gartref ac am Buffalo, N. Y., dinas oedd i'm golwg i yn llawn o fywyd, a phob peth fel pe bae yn myn- ed ddydd a nos. Ychydig wahaniaeth oedd i'w weled ar yr heolydd, pobl a phob peth arall yn mynd yn barhaus yno, ac felly tua Niagara Falls. Oddi yma fe gymerais y D. L. & W. R. R., ac i ddinas boblogaidd Scranton, Pa. Gan fod trosodd i bymtheg mlynedd ar hugain er pan y bum y ffordd hon o'r blaen, rhyfeddwn wrth weled y fath gyfnewidiadau a gwelliantau y mae y cWIpni hwn wedi ei wneuthur ar eu ffordd o Buffalo i Scranton, Pa. Y mae yn un o'r ffyrdd goreu yn y cylch- oedd heddyw. Wel, dyma ni yn ninas fawr a iphoblogaidd Scranton. Er mai ychydig o amser a gefais yn y ddinasi hon, llawer ydyw y cyfnewidiadau i'w canfod yno er pan y bum ynddi o'r blaen, y tro diweddaf yn canu gyda chor undebol Wilkes-Barre, Pa., o dan arweiniad y cerddor gwych David Jonathan, yr hwn sydd, fel y deallaf, wedi ei gladdu er's llawer dydd. Enill- am y brif wobr yno o dan feirniad- aeth David Jenkins, yr hwn oedd ar daith yn y wlad y pryd hyny. Wel, i symud yn mlaen, dyma fi yn Mangor, Pa., a thybiwn fy mod wedi disgyn yn Penygroes, Talysarn, neu Carmel, y bobl yn siarad Cymraeg ar yr heolydd fel pe yn Nghymru, a rhy- fedd i mi oedd eu clywed, ond gan fy mod wedi blino yn teithio, rhaid oedd i mi fyned yn fy mlaen tua pen y daith i gael gorphwys, set i dy fy chwaer, Mrs. John H. Jones, 241 N. 7th St., a chanfyddais hi a John yn iach a chysurus, er fod agos i 40 o flynyddau er pan y gwelais ef, y pryd hyny tua Fair Haven, Vt., ac wrth gwrs, rhaid oedd myned yn ol i holl am hwn ac am y llall a oeddym yn adnabod tua Fair Haven, sef William Parry (Rhen Barr) a Thomas Morris, y ddau er's blynyddau lawer yn ninas New York, wedi gwneyd eu ff ortiwn, ac yn byw ar eu harian yn awr, gobeithio. Hefyd un arall a ddaeth o dan ein sylw oedd John R. Jones, Fair Haven, gwr i Jane fy cliwaer (Jack Cae'rgof, fel y byddai yn cael ei alw). Daethom ni ein dau i'r wlad gyda'n gilydd ar yr un llong, ond y mae ei briod, sef Jane, fy chwaer, wedi ei chladdu er's tua deg mlynedd yn Fair Haven. Yr oedd- wn wedi colli ei chyfeiriad a'i hanes er hyny, hyd yn awr, a melus ydoedd cael ymgomio a chofio am danynt ac am foreu oes a'r dygWyddiadau oedd wedi cymeryd lie. Wei, dyma ddydd Sadwrn y Sul- gwyn, a gwyl flynyddol gan yr Anni- bynwyr yn y capel Cymraeg, ac yn dechreu nos Sadwrn, y lOfed cyf., pre- gethwyd gan nifer o weinidogion galluog. Gan fod cynifer o flynyddau er pan y clywais i ddim Cymraeg na phregethu, gellwch gredu ei bod yn wledd ac yn fraint i mi i gael bod yma yn y cyfarfodydd hyn, y gweinidogion ar eu huchelfanau yn traddodi y gen- adwri am Iesu Grist a'r Groes, a'r canu gyda'r goreu a glywais gan gynulleid- fa o'i maint. Yn sicr, nis gallai y gweinidogion beidio a phregethu yn dda, gan fod ysbryd y peth byw yn y canu bendigedig oedd yma. Buasai yn dda genyf ymhelaethu ar y cyfarfodi hwn a'r gweinidogion, ond gan fod cynifer o ohebwyr gan y "Drych" yma, gwell ydyw i mi adael i hyny. Cyfarfyddais W. R. Davies (Gwilym Glan Conwy) a'r cerddor melus, Wm. Moses, un yn ddarllenwr cyson a'r Hall yn ohebydd rheolaidd. Gan fy mod yn aros y drws nesaf i'r ddau gawr hyn, byddwn yn cael llawer o ymgomio gyd- a'n gilydd. Un arall o ohebwyr y "Drych" a gyfarfyddais yma oedd y dadganwr melus John Rowlands, o Nazareth, Pa. Rhaid oedd iddo gael bod yn Bangor ar gyfarfod y Sulgwyn. Y mae yma gynifer o Gymry o ardal- oedd Llanllyfni a Talysarn a Carmel, a lluaws o berthynasau o bell na ddar- fu i ni gwrdd a'n gilydd erioed o'r blaen, a charaswn wneyd sylw o hon- ynt, ond rhaid yw atal y tro hwn. Hefyd llawer o fechgyn a merched y cawsom amser da gyda'n gilydd tua Pisgah agos i ddeugain mlynedd yn ol. Ychydig a ddaeth i'm meddwl eu bod yma yn Mangor, amryw o honynt wedi gweled, amser caled, eolli eu gwyr a theuluoedd mawr ganddynt i'w codi, ac wedi eu dwyn i fyny yr oil o hon- ynt yn barchus, a heddyw maent yn oreuon y dref, ac yn talu parch aigwar- ogaeth i'w mamau am eu llafur. Un o'r hen chwiorydd a gyfarfydd- ais ydyw Mrs. Pritchard, priod y di- weddar John Pritchard, sydd yn cael ei chaethiwo y dyddiau hyn i'r ty gan y gwynegon. Hen gymeriad dysglaer ydyw hithau. Wel, gwell tewi bellach, gan fy mod yn cychwyn yn fuan am Wilkes-Barre a'r cylchoedd, yna i New York am ychydig, ac oddi yno i Balti- more, Md., a Washington, D. C. Dichon y caf anfon gair eto ar fy nhaith.
ATEBIAD I EBEN P. DAVIES.
ATEBIAD I EBEN P. DAVIES. Gan A. H. Williams, Henderson, Iowa. Sicr yw na'ddyoddefa yr un athraw- iaeth lawer o gam, os ca ei hamddiff- yn gan Mr. Eben P. Davies, oblegic1 fe'i gesyd ef hi allan yn ei gwisgoedd gcreu, a mwyaf pwrpasol at greu ar- gyhoeddiad yn meddwl y darllenydd. Ond rhaid i mi gyfaddef nas gallaf gytuno ag ef yn ei haeriad nad allem wybod am wres, pe difodid oerni. A ddarfu i'r darllenydd sylwi pan y bydd Mr. Davies wedi gwneyd cam- gymeriad, ac yn cael ei gornelu yn ei gylch, ei arferiad ystrywgar yw ceisio dyfod allan o honi drwy haeru nad yw ei wrthwynebydd yn ei ddeall, ac nad yw ar y pwnc, neu ryw ymadrodd eyff e'yb? Dangosais fel y gallai dyn fyw mewn gwlad lie nad yw y tymeredd uu amser yn disgyn yn is na 90 o raddau, ac ni fuasai efe yn gwybod am oerni o gwbl, ond fe deimlai wres yn ei wahanol raddau o gynesrwydd, joethder a llosgiad, serch hyny. Ond waeth pa beth, nid yw hyn yna ar y pwnc o gwbl. "Ein hymwybyddiaeth perthynasol gwrthgyferbyniol o'r pethau hyn sydd gan E. P. D." Mae yn amlwg felly fod eisieu clirio yr awyr, a chael deffiniad eglur o'n gwahanol safleoedd, ac i'r dyben hwnw, dyfynaf ychydig frawddegau o eiddo Mr. D. allan o'i ysgrif yn "Nrych" Ionawr 6. "Ydyw siwr, mae Eben P. yn ddigon gwirion i gredu na fyddai gwres pe difodid oerni." "Pe dyddymid oerni yna byddai pob peth drwy y greadigaeth yr un dymeredd." "A fyddai dwfr claiar a dwfr berwedig yn bod pe difodid oerni?" "Teimlwn yn bresenol fod y peth hwn yn wresog, a'r peth arall yn oer o herwydd y gwa- haniaeth sydd rhyngddynt a thymer- edd ein gwaed (camgymeriad mawr) ond difoder oerni, yna byddai y gwaed yr un dymeredd a phob peth arall." Fe ddarllena y brawddegau yna fel clwsdwr o enigmas disynwyr, ond yr allwedd a rydd drefn a rheswm arnynt oil yw hyn: Fe ddefnyddia Mr. D. oer- ni fel ffon llathen i fesur gwres. Y gwahaniaeth rhwng dwfr poeth a dwfr claiar, yn ol ei dyb ef, yw fod llai o oerni yn y cyntaf. Yn ol yr athrawiaeth yna, wrth gwrs, pe difodid oerni, ni fyddai gen- ym unrhyw beth i fesur gwres gydag ef, a byddai pob peth yr un dymeredd. Y drwg gyda hyn yna yw ei fod yn annghywir, ac yn groes i ffaith, nid gwrthgyferbyniad perthynasol ag oerni yw sail ein hymwybyddiaeth o wres, ond teimlad o ansawdd neillduol, an- rhebyg i'r un teimlad arall, ac fe am- rywia y teimlad yn ei ansawdd yn ol nerth y gwres fydd yn symbylu ein hermigau y rhai sydd guddiedig yn y croen. Yr amrywiaeth yna yn an- sawdd ein teimlad yw y mesurydd a pha un y mesurwn wres, ac nid gwrth- gyferbyniad ag oerni. Bydd y ddirnad- aeth am oerni feallai yn mhell oddi- wrthym. Pan gawn ddiwrnod poeth yn nghanol yr haf, onid a diwrnodau eraill o haf y byddwn yn ei gydmaru, ac nid a diwrnod ganol gauaf? Pe dyddymid oerni, ni theimlem bob peth yr un dymeredd, fel y dywed Mr. D., oblegid mae digon o amrywiaeth yn y tymeredd o 90 gradd i fyny i alluogi y meddwl i ffurfio cydmariaethau per- thynasol fel sail ei amgyffrediad o wres. Dychymygion dansoddol blew- holltol, disail, sydd gan Mr. D. Maent mor groes i synwyr cyffredin fel y synaf na chwyd ameuaeth yn ei fedd- wl nad oes gwall yn rhywle yn ei resymeg. Un peth dibwys arall. Fe'm cywir- wyd gan Mr. D. am ddweyd mai eneid- egwyr fu yn rhoddi astudiaeth i'r modd y teimla y corff dynol wres ac oerni, a dywed mai pwnc astudiaeth, nid i eneidegwyr, ond i anianyddwyr yw hyny. Oni chlywodd efe erioed am eneidegwyr anianyddol, busnes pa ra.i, meddai Angfell, yw attudio ymwybydd- iaeth yn ei gysylltiadau a'r corff ma- terol ? Hwynthwy yw y bechgyn y cyfeiriais i atynt.
Advertising
ITOO, GWOBR $100. Bydd yn dda gan ddarllemwyr y "Dryah" gael gwybod fbd gwyddon wedi darganM ffordd 1 laebilu o Wal un tahwyldir Dw- yglux, set Catarrh. yn et wahapol raddau. Hall's Catarrh Cure yw yr unlg foddtoa hollol effefthloi I wneyd hyny. Aflechyd eyfansoddlajdol ydyw, a rhaid oumyw trlnlaeth gyfansoddiadol ato. Cymerlr Hall's Catarrh Cure yn fewnd, effeifhfa yn Tmlcmfryrchol ar y gwaed ac arwynebedd BysmifMiM y corff, nee caffe y dyuAMvdd Berth gynoi thwyo natur 1 weithio y drwg allan. Mae gan y perchenogloa y fath lfydd yn ei rtaweddau meddyglniaethol fel y cyn- yglant Gait" Dolar am unrhyw achoe a Iachau. Anfonwch am reatr 8 lyettotaethan. Cyfetrier- F. icirENET CO.. Toledo, o.
HELYNTION YR YNYS WERDD. I
HELYNTION YR YNYS WERDD. I Gan y Parch. Dan Perry Davies, Carroll, Neb. IV. Yn 1803, ceisiodd Napoleon yn ei wane anniwall i wneuthur Ffrainc yn feistres y byd, ac yn enwedig yn ei gynddaredd gwyllt yn erbyn Prydain, gyffroi gwrthryfel yn y Werddon yn erbyn yr Undeb. Ond ni lwyddodd yr Ymerawdwr uchelgeisiol yn ei gyn- lluniau. Gwir yw i derfysg dori allan yn Dublin, yr hwn a ddiweddodd yn nienyddiad Robert Emmett. Yn 1809, ffurfiodd Daniel O'Connell, "pen difriwr ei oes," Bwyllgor Pabydd- ol," ac yn 1823 Gymdeithasfa Babydd- ol, yr hon a ddaeth yn fuan i feddu awdurdod helaethach na'r Llywodraeth ei hun. Daeth i amryw wrthdarawiad- au a'r Cymdeithasau Orange, a bu rhaid llethu yr holl gymdeithasau hyn am dair blynedd. Eithr cyn gynted ag i'r amser ddirwyn i ben, dychwelodd y Gymdeithasfa Babyddol O'Connell, fel aelod seneddol dros etholaeth Clare, yn erbyn ymgeisydd Protestanaidd poblogaidd. Gwelodd y weinyddiaeth Dcriaidd, o dan arweiniad y Due Wellington, nad oedd modd ysgoi rhy- fel cartrefol, os na symudid yr achos o'r anfoddlonrwydd, ac yn 1829, gwth- iwyd drwy'r senedd fesur o "ysgafn- had" i'r Pabyddion, yr hwn a ganiatai iddynt gymeryd eu lie yn nau dy'r Senedd, ac ar yr holl fyrddau corffor- edig, ac i ddal pob swydd wleidyddol a barnol, gydag eithrio'r swyddi can- lynol, sef eiddo'r Rhaglaw (Regent), Arglwydd Gangellydd Prydain a'r Werddon, ac Arglwydd Raglaw y Werddon. Ar yr un adeg, pasiwyd mesurau i ddifodi y Gymdeithasfa Babyddol, ac i leihau dylanwad yr offeiriadaeth Babyddol drwy godi yr addasder i'r etholfraint yn hanes y rhydd-ddeiliaid o 40 swllt i lOp. Yn fuan wedi pasio o'r mesurau hyn, dechreuodd O'Connell weithio er di- ddymu yr undeb ac i ryddhau y werin Babyddol rhag talu degymau i'r eg- lwys Brotestanaidd sefydledig. Gryfed fu yr ymdrech fel mai anm'hosibl oedd casglu degwm o'r bron yn y Werddon. Yn gynar yn nheyrnasiad Victoria, cyfododd plaid newydd yn yr ynys o dan arweiniad Thomas Davis a Charles Gavan Duffy. Gelwid hi yn "Werdd- on Ieuanc," a chredai ei harweinwyr mai yr unig ffordd o weithio allan iachawdwriaeth i'r genedl ydoedd mab- wysiadu cynlluniau Seisnig mewn gwleidyddiaeth a diwydianaeth. Blu cryn lawer o gyffroad yn y wlad, pan y gwaharddodd y Llywodraeth i gyfar- fod anferth i gael ei gynal yn Clont- arf, yn yr hwn y bwriadai O'Connell wthio yn mlaen y cwestiwn o ddiddym- iad yr undeb. Ac er syndod i'w gan- lynwyr, ufuddhaodd O'Connell i'r gwa- harddiad, a thrwy hyny collodd lawer lawn o'i ddylanwad. Eithr ymgododd cwestiynau pwysicach ar y gorwel, o herwydd yn 1845 ac 1846, bu miloedd o'r werin farw o newyn. ar ol methiant cnwd y pytatws, a dim ond trwy ym- fudo y darfu i niferi mawrion osgoi yr un dynged enbyd. Yn ystod y blyn- yddoedd 1845-1850, dywedir i boblog- aetb y Werddon leihau ryw ddwy filiwn o bobl, naill al gan angeu neu drwy ym-fudiad. Arweiniodd y newyn arswydus hwn i ganlyniadau pwysig yn M,hrydain, oblegid efe fu yn brif ach- lysur i ddilead deddfau'r yd yno. Gwnaeth y llywodraeth rodd o ddeng miliwn o bunau er lleddfu yr angen a phasiwyd hefyd "Mesur Coercion" ar gyfer y terfysg a ffynai yn y Werddon. 0 herwydd diofalwch y rhai a ofalent am weinyddu yr arian, ychydig a wnawd i leddfu yr angen angeuol, ac yn 1848, torodd yr anfoddlonrwydd allan mewn terfysgoedd o dan Smith O'Brien, arweinydd adran eithafol y "Werddon Ieuanc," ond byrhoedlog oedd y gwrthgodiad y tro nWn. Panhau a wnai yr anesmwythder yn mywyd y genedl, a gorfu i weinydd- iaethau Russell a Derby atal gweith- rediad "Gweithred Habeas Corpus" yn yr ynys. Ond yn 1867 ceisiodd y Finiaid, sef cymdeithas o Wyddelod Americaniaid, gyffroi nifer o wrthgod- iadau aflwyddianus yn y wlad. Ym- drechwyd i gymeryd meddiant o Gaer, ac ymosodwyd ar garohar Clerkenwell. Benjamin Disraeli oedd prif weinidog Prydain Fawr y pryd hwn, ond yr oedd un arall galluoced ag yntau yn ddyfal wylied symudiadau yr Iuddew, sef yr anfarwol Gladstone. Priodolai yr olaf y cynyrfladau Gwyddelig i fodolaeth annghyfiawnderau sylweddol yn eg- lwysig a gwladol, a llwyddodd i gario penderfyniad yn ffafr Dadgysylltiad yr eglwys Brotestanaidd yn y Werddon, yr hyn a fu yn foddilon i Disraeli ym- ddiswyddo. Pan ddaeth y gwron o Benarlag i awdurdod trodd ei egnion i gyfeiriad problemau'r Gwyddel. Ym- gorffolodd ei benderfyniad yn Fesur o Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad, yr hwn a aeth yn ddeddf ar waethaf "bygythion a chelanedd y Toriaid. Eithr ni lwyddodd cystal gyda'i fesur tir, yr hwn a roddai i'r tenantiaid yr hawl i godi iawn am ddiwygiadau ar eu tyddynod, pan yn eu rhoddi i fyny, ac a ddarparai arian hefyd i denantiaid i brynu eu daliadau, pa bryd bynag yr ewyllysiai y tirfeddlanwyr werthu y cyfryw. Yn 1873, ffurfiwyd Cyngrair Ym- reolaeth (Home Rule League) er sicr- hau diddymiad yr undeb, a chryfed oedd gallu y gymdeithas hon fel y llwyddai i ethol yr rhai a fynai fel cyn- rychiolwyr dros yr etholaethau Gwydd- elig. Yr oedd iddi arweinwyr medrus a chraff, sef yn nghyntaf Isaac Butt, ac ar ei ol ef yr enwog Charles Steward Parnell. Y polisi a fabwysiadent oedd. galw sylw at gwyn y Werddon drwy rwystro holl weithrediadau y Senedd. A gaf fi adgofio'r darllenydd yn ddys- taw bach, i David Lloyd George gael ei "suspendio" gan Lefarydd Ty'r Cyff- redin unwaith am yr un gwaith, er na fu mor eithafol a Butt a Parnell. Chwe mlynedd ar ol hyn, ffurfiodd Michael Davitt y "Cyngrair Tir Gwyddelig" gyda'r amcan o ostwng ar- drethi, ac o'r diwedd cael gwared o'r tirfeddianwyr yn hollol. A chyda llaw, mewn cyfarfod yn Nghymru, a anerchid gan y gwr hwn y gwnaeth ein cydwladwr enwog Lloyd George ei "maiden speech" wleidyddol. Gofod ai balla i ni fanylu ar y nifer luosog o "Coercion Bills" a basiwyd gan y gweinyddiaethau Rhyddfrydol a Thor- iaidd, er ceisio darostwng boycotio, llofruddiaethau, ac anfau anifeiliaid, nac am yr amrywiol fesurau tir a bas- iwyd gan y ddwy blaid. Haedda un dygwyddiad gwaradwyddus grybwyll- iad byr, sef llofruddiaeth greulawn Arglwydd Frederick Cavendish, y rhaglaw, a Mr. Burke, ei brif swydd- og, fel y rhodient trwy bare Phoenix yn Dublin. Bu yr anfadwaith hwn yn achos i oeri brwdfrydedd Iluaws o bobl yn Mhrydain, y rhai a gydymdeimlent a dyheadau y Gwyddelod, er i'r arwein- wyr wystlo eu hanrhydedd nad oeddynt gyfrifol yn y mesur lleiaf am y llofruddiaethau. Hysbys i bawb yw hanes ymgeisiad- au Mr. Gladstone i roddi Ymreolaeth i'r Werddon, yn nghyntaf yn 1886, pan y taflwyd y mesur allan ar yr ail ddarlleniad gan Dy'r Cyffredin, ac yn 1892-1894 pan y gwthiwyd y mesur allan yn ddiseremoni gan Dy yr Ar- glwyddi. Ac y mae y blaid Doriaidd byth oddiar hyny wedi bod yn 'fflirtio' a'r cwestiwn, pa bryd bynag y gwel- sent fantais o hyny, ac yn enwedig felly yn 1892, pan yr appwyntiodd Mr. Balfour Syr Anthony MacDonnell yn is-ysgrifenydd y Werddon, ac yntau yn Ymreolwr pendant, ac un o'i ddyled- swyddau cyntaf oedd tynu allan gynL llun o "Devolution," yr hwn sydd yn gyfran o waith Ymreolaeth. Y Toriaid hefyd a roddasant fesur o lywodraeth leol i'r Werddon yn 1889. Llawenydd i'n calon yw, meddwl fod y blaid Ryddfrydol wedi dal yn ffydd- lawn i'w thraddodiadau o geisio gwneuthur cyfiawnder a'r Werddon drwy roddi iddi yr hyn sydd gyfiawn, yn unol a'r hyn a wnaed a Chanada a Deheu Affrica. Y mae y trefedigaeth- au Prydeinig yn ddieithriad mewn dwfn gydymdeimlad a'r gofynion Gwyddelig, o herwydd hysbys iddynt y ffaith mai draen yn ystlys Prydain Fawr fydd y Werddon anfoddog, hyd nes y ca'r gallu i lywodraethu ei hun mewn materion Gwyddelig, yn unol a'i hanianawd arbenig. A chredwn na wna y gwrthryfel anffodus d'iweddar roddi ergyd marwol i'r ddeddf sydd eis- oes ar ddeddf-Iyfrau Prydain, wedi y delo'r rhyfel ar gyfandir Ewrop i'r terfyn. Ffieiddiwn y weithred fradwr- us gymaint a neb, ond na choller golwg ar y ffaith gyferbyniol, sef teyrngar- wch y miloedd o feibion glew yr Ynys Werdd, y rhai a orchuddir gan ogon- iant bythol ar gyfrif eu gwrhydri yn mrwydrau dychrynllyd Mons a Marne.
I NODION 0 CHICAGO. ILL.
I NODION 0 CHICAGO. ILL. I Gan y Llwynog. Yn mhreswylfod ei rhieni, Mr. a Mrs. D. T. Harries, Oak Park, unwyd mewn glan briodas Miss Elizabeth Mary Harries a Mr. Thomas Raymond Jones, nos Fercher, Mehefin 21ain. Mae tad y briodasferch yn adnabyddus iawn yn mysg Cymry Chicago a'r cylchoedd, fel Cymro rhagorol a gweithgar mewn byd ac eglwys. Mab i Mr. J. A. Jones, o East Chicago, yw y gwr ieuanc hapus. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. S. Harries, o Des Moines, Iowa, ewythr y briodasferch, ac yr oedd y gerddoriaeth o dan ofal Miss Gertrude Murphy, o St. Paul, Minn. Cyn y gwasanaeth, dadganodd Madame Gwennie Williams Evans y gan swynol "Entreat me notl to leave Thee." Miss Olwen Jones, cyfnither Miss Harries, oed,d y forwyn briodas, a gofalwyd am y rhubanau gan Miss Gwendolyn Evans a Raymond Nichols. Gwasanaethwyd fel gwas priodas gan Mr. William Hamilton, cefnder i Mr. Jones, a rhoddwyd y ferch ieuanc ymaith gan ei thad. "White satin and net embroidered in silver, were effectively combined in the bridal gown, with a veil of tulle. The bride carried an old fashioned bride's bouquet of white sweet peas and orchids, while the bridesmaid, Miss Jones, was gowned in yellow Georgette crepe combined with taffeta; and carried an old fashioned bouquet of sunburst roses." Cynaliwyd gwledd i tua thriugain o wahoddedigion yn dylyn y gwasanaeth. Bwriada y par ieuanc ymgartrefu yn 6062 Story Island Ave., Chicago. Ddydd isuil diweddaf, pregethwyd yn Hebron gan y Parch. W. S. Harries, Des Moines, Iowa. Pregethwr rhagor- ol yn Gymraeg a Saesneg yw y gwr dial yma. Yn sicr yr oedd ei bregeth nos Sul yn un o'r rhai goreu a glywsom er's talm o amser. Y Sadwrn o'r blaen cynaliwyd picnic iblynyddol Ysgol Sabbothol Hebron yn Garfield Park. Cafwyd tywydd dy- munol, cynulliad rhagorol, digon i'w fwyta ac amser da. ————
PREGETHWR MEWN HELYNT YN NGHYMRU.
ddaethym ychydig yn well, ceisiais eg- luro i'r ynad y gallaswn yn fy ffwdan i ddal y tren yn y boreu, fod wedi ys- gubo y gemau oddiar y dresser i'm suit- case, yn berffaith anfwriadol, gyda fy studs a'm links fy hunan. Ond nid oedd stori fel yna yn tycio dim. Ed- drychodd yr ynad yn myw fy llygaid gan ddywedyd mai syniad ofnadwy oedd y ffaith fod pregethwr yr Efen- gyl yn ceisio cuddio ysbail lladrad rhwng manuscript ei bregethau. Wyl- ais a gweddiais. Daeth pdb, peth I'm meddwl ar unwaith. Syniad y wlad am danaf, Jane a'r plant yn fy nys- gwyl gartref. Gweddiais yn iaith yr Apostol, "Pwy a'm gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon." Gor- chymy.nwyd fi i'r carchar i aroe fy mhrawf. Cauwyd y drws arnaf, ac yn swn clep y drws, deffroais, a diolch i Dduw, wele breuddwyd ydoedd.