Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NEWYBDMNCYMRU. I

News
Cite
Share

NEWYBDMNCYMRU. I —Er gwaetha'r rhyfel mae un new- yddiadur Cymreig yn cyhoeddi tua thair colofn o "farddoniaeth" bob wythnos. —Gadawodd y diweddar David Ed- wards, blaenor yn eglwys Gobaith, Cwmdar, a fu farw Mawrth 20, eiddo gwerth 5,715p. cyfanswm, 4,740p. net personalty. —'Mae Syr William James Thomas, y perchenog glofeydd Cymreig, wedi rhoddi 100,000p. tuag at sefydlu ysgol o feddyginiaèth Gymreig, -Yn Pembray, Ceredigion, deuwyd o hyd i ysgerbwd dyn hynod o dal, yn nghanol coed. Daliai lawdryll yn es- gyrn ei law ddeheu. —Cafodd dyn ei esgusodi rhag ym- uno a'r fyddin ar y tir ei fod yn cadw ei wraig a thri phlentyn, yn ogystal a dau frawd (anafwyd yn y rhyfel) a brawd arall oedd yn efrydd. I —Mai 4, bu farw William Evans, Newborough St., Blaenau Ffestiniog, yn 65 mlwydd oed. Bu am 40 mlyn- edd yn swyddog presenoldeb yn nglyn ag ysgolion elfenol Dosbarth Ffestin- iog. ac am flwyddi maith yn flaenor yn y Garregddu, ac wed'yn yn Maen- offeren. —"My only experience of the chapel is that I was married in it, and every- thing was seemly." Dyna air o lythyr Proff. Genese ar helynt Aberystwyth. —Dywedai y Parch. J. Talog Davies, Liverpool, fod yn gofyn mwy o ddewr- der i gadw allan o'r fyddin na bod yn- ddi yn y dyddiau hyn, ac y mae fod cant o Gymry ieuanc yn ngharchar milwrol yn Abergele yn brawf fod Ilawer o wir yn y sylw. —Mae'r oil o'r carcharorion Ger- manaidd oedd yn Frongoch, ger y Bala, wedi eu symud i ddeheudir Lloegr, ac ychydig o filwyr wedi eu gadael i ofalu am yr adeilad. Nid yw y rheswm am y svmudiad yn hysbys. —Y mae'r Aelodau Seneddol Cym- reig yn symud i geisio cael gan yr I Awdurdodau Milwrol gadw'r bechgyn Cymreig 18 oed a elwir i'r fyddin ar I wahan. Penodwyd Mr. E. T. John a Syr Herbert Roberts i weled yr awdur- dodau ar y mater. Yr amcan ydyw cadw'r bechgyn Cymreig gyda'i gilydd. —Clywir yr eos yn Clatter, pentref wrth ymyl Newton (Mont.), a chyrcha tyrfaoedd lawer bob nos i glywed ei chan. Ffafriwyd Sir Drefaldwyn y llynedd, hefvd, yr eos yr adeg hono yn canu yn Hochdre. heb fod yn mhell o'r lie y mae ar hyn o bryd. --0 herwydd nad oedd angen cinio fel arfer yn nglyn a brawdlys Aber- honddu, anfonodd yr Uchel Sirydd Brycheiniog rodd o 52p. 10s. i ysbyty y dref. Dyma esiampi sydd yn debyg o gymell ei hun i eraill sydd yn cael brawdlysoedd gwag. -Mae pe?rianwaith Chwarel Glan- rafon, Rhyd-ddu. yr hon sydd yn. gau- edig, yn cael eu symud, ac felly nid tebyg yr ail agorir hi. Bydd hyn yn golled fawr i'r ardal. Tua 25 mlynedd yn ol, yr oedd tua 500 o ddvnion yri gweithio yn y chwareV hon. -Tua blwyddyn a haner yn ol, aw- gryvjwvd yn y "Goleuad" y gwelid Lloyd George yn Ysgrifenydd Rhyfel. Chwerthwyd am ein penau am aw- grymu peth oedd, yn marn ein beirn- iaid, mor eithafol o annhebyg. Ond y "Goleuad" oedd nesaf i'w le. Ni ry- feddem glywed unrhyw fynyd fod Lloyd George wedi ei benodi yn olyn- ydd i ArglwYdd Kitchener. Y mae'r "Manchester Guardian" yn galw am hyny, ac nid ydym yn ameu na bydd y wlad o'r un farn. —Mae'r trefniadau weithian wedi eu cwblhau yn nglyn a'r Gymanfa Ganu Genedlaethol sydd i'w chynal dan nawdd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth fis Awst nesaf. Mae ihagien neillduol o ddyddorol wedi ei pharotoi, yn cynwys dros haner cant o bigion tonau ein cenedl. Bydd Lloyd George yn llywyddu ail ddiwrnod yr Eisteddfod, a chan ei fod yn cymeryd cymiaint o ddyddordeb yn y Gymanfa, diau y'i ceir i aros dan ddydd Gwener. Hyderir y cymerir rhan gyffredinol yn y Gymanfa, ac y gofala arweinydd pob eglwys a chapel i anfon at Ysgrifenydd yr Eisteddfod am ragleni'r tonau. —Mae gobaith Cymru am ddyfodol teilwng yn dibynu yn gyfangwbl ar dalu sylw dyladwy i'r oes sy'n codi, a pharhau i'w hyfforddi. Trodd brenin unwaith i siglo Haw a bachgenyn, a synai ei gydymaith pendefigaidd. at ei weithred, "Ah," meddai yntau, "er mor wael a charpiog yw .heddyw fe fydd ef byw pan fydd yr haul wedi machlud i beidio codi mwy." Pe syl- weddolai pawb bwysigrwydd y plentyn delai tro ar fyd yn fuan.

MARWOLAETHAU.

Advertising

I NEW CASTLE. PA.

[No title]

PLAINFIELD. N. Y. I

Advertising

West Liberty, Iowa. I

[No title]

Advertising