Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

NODION 0 LUNDAIN.

News
Cite
Share

NODION 0 LUNDAIN. Marwolaeth Edward HumT)hrevs.- Personolion Eraill. Mehefin 5ed, 1916.—Prif neges y nodiadau hyn yw hysbysu perthynasau a llu o gyfeillion yn America, am far- wolaeth ein hadnabyddus gyfaill, Ed- ward Humphreys. Genedigol o gym- ydogaeth Talywern, G. C., ydoedd, ond yn Llundain y bu efe a'i deulu yn byw y chwarter canrif diweddaf. Yr oedd yn aelod a diacon o eglwys Castle St., ac heb ofn y gallaf ddweyd ei fod yn un o'r rhai ffyddlonaf i bob moddion mewn eglwys a adnabum erioed, a'i gymeriad crefyddol yn lan, a'i ysbryd yn addfwyn. Mae ei golli wedi taflu ei briod a'i blant i alar mawr, a'r eg- lwys i dristwch gwirioneddol. Mae sydynrwydd yr amgylchiad wedi ychwanegu at y 'brofedigaeth, tua imis yn flaenorol yr oedd efe a'i fab hynaf yn Nghymru yn mwynhau eu gwyliau, yn hen ardal ei faboed, ond yn dra sydyn teimlai ddolur yn ei wddf, ond dim peryglus yn ol tystiolaeth y medd- yg, a chredai y teulu ei fod yn gwella, ond cafodd "cerebral hemorrhage." Felly sydyn fu y diwedd ganol nos, Mai y 31ain, 1916, a'r nos Wener dy- lynol, awd a'r hyn oedd farwol o hono i'w hoff gapel Castle St., ac yn barchus ac urddasol aethpwyd trwy y gwasan- aeth. Yr oedd ei hen weinidog, y Parch. R. E. Williams wedi dod o Ben Bray, D. C., parchus weinidog y Meth- odistiaid o Wilesden Green, Llundain, a'r Parch. W. P. Thomas, o Cemmaes, Mon, hefyd, a'r Parch. W. Davies, Ilford. Cymerodd y gweinidogion hyn ran yn y gwasanaeth, ac hefyd swydd- ogion yr eglwys, a,c yn eu mysg John Hinds, Ysw., A. S. Aeth y teulu a'u hanwyl briod a thad i'w gladdu i Talywern, claddfa y teulu. Teimlai E. Humphreys yn gynes at America, ni byddai efe a minau yn cwrdd un amser heb son am y ffryndiau yno, a dweyd y newyddion gaem yn y "Drych." Mae cyfeillion lawer i'n brawd yn Milwaukee, a llawer o deulu Mrs. Humphreys yn y wlad, y Parch. Rich- ard D. Hughes, Chicago, yn gefnder, a llu o linach y gwr da elwid Esgob y Gorllewin. Gwn y derbyniant y new- ydd mewn tristwch, ond ni raid wylo fel rhai heb obaith am ein diweddar frawd. Gan nad wyf wedi anfon er's tro i'r "Drych," gwn y goddefweh i mi roddi gair i fewn am un ag y mae llawer o Gymry America yn teimlo dyddordeb ynddi, sef Cranogwen. Cefais fy ngalw ganddi hi a merched y De, sef y chwi- orydd dirwestol, i anerch cyfarfodyd,d yn Ystrad Rhondda. Er mewn oedran mawr, ac wedi oes o waith caled, mae Cranogwen yn parhau i arwain y Gyimdeithas lesol hon, ac hefyd mae yn pregethu bob isul yn eglwysi y Meth- odistiaid. Gwn y 'bydd yn dda gan lawer glywed hyn. Teimlaf finau wedi gwella yn did a lawn, a chefais wahoddiad caredig i ddod i America y mis hwn, ond oedi hyny yr wyf ar hyn o bryd, gan fod genyf waith yma tra y mae ein gwlad yn yr enbydrwydd hwn. Addawaf an- fon nodion pan af am daith trwy Og- ledd Cymru yr wythnosau nesaf. Cof- ion calon at fy holl gyfeillion yn America.-Elenor Williams.

CrWREICHION 0 PITTSBURGH.…

Advertising

[No title]

COFFEE-Y-BRENIN.

Advertising

Family Notices

I FOREST CITY. PA. I

Advertising

NODION 0 BANGOR. PA. I

Advertising

OAKLAND. CALIFORNIA._I

Advertising

PRIODAS BARCHUS.

Advertising