Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
MARWOLAETH DWY GYMRAES YN…
MARWOLAETH DWY GYMRAES YN RACINE, WIS. Gan R. D. Evans. Mrs. Lizzie Jones. Gorchwyl pruddaidd ar lawer ystyr ydyw ceisio ysgrifenu y gair diweddar o flaen enwau rhai ieuainc, wedi eu tori i lawr yn nghanol eu defnyddiol- deb, megys. Dyna sydd yn rhaid i ni wneyd gyda Mrs. Jones, torwyd hi i lawr yn nghanol ei dyddiau, cyn gor- phen o honi fagu ei phlant bychain. Bu raid iddi hi eu gadael i eraill i of- alu am danynt. Anhawdd ar lawer adeg ydyw esbonio troion o'r fath, ond rhaid i ni "gofio fod dyben ac am- can i droion chwerw yr anialwch. Ganwyd Mrs. Jones yn Tyddyn Du, Bontnewydd, ger Caernarfon, Gog- ledd Cymru, Tachwedd 6ed, 1877; en- wau ei rhieni, Robert a Jane Jones. Bu ei thad farw rai blynyddau yn ol. Cafodd ei dwyn i fyny mewn awyr- gylch grefyddol, a chadwodd yn ffydd- lawn i addysg boreu oes trwy ei byw- yd. Chwefror 12fed, 1903. ymbriod- odd gyda Thomas Jones, mab y diw- eddar Thomas R. Jones fu am flynydd- au yn feistr tloty Caernarfon. Daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1910. gan aros ychydig yn Chicago, yna daethant i'r ddinas hon. Diau mai ychydig o gysuron bywyd a gaf- odd wedi dyfod i'r wlad yma, gan na bu ei hiechyd yn dda, ac heb iechyd. ychydig o fwyniant a allwn gael mewn bywyd. Ymdrechodd ein han- wyl chwaer yn galed i geisio magu ei phlant. a hyny yn nghanol llawer o wendid corfforol. Cafodd gystudd cal- ed iawn y flwyddyn olaf y Ibu fyw, ac awyddai lawer am gael gwellhad er mwyn ei rhai anwvl, ond mynd i lawr yn raddol yr ydoedd, a phan ddaeth i ddeall nad oedd gwellhad yn bosibl, fe ymdawelodd i'r drefn. Yr oedd yn gymeriad hynod o bryd- ferth, yn dawel a llednais. Aberth- odd lawer er mwyn el phlant bychain. a diau y bydd gan y rhai hynaf gof anwyl am eu mam. Y Beibl a'r llyfr emynau ydoedd pob peth ganddi y misoedd olaf, ac adroddai ranau hel- aeth o honynt wrth ei pherthvnasau a'r rhai fyddai yn ymweled a hi. Yn pier, yr oedd yn un o'r plant, a chan- ddi bob sicrwydd y cvraeddai y wynfa nefol yn ddyogel. Cysur mawr i'w ipherthynasau ydoedd y profiad uchel p feddai. a'r tawelwch a'r amynedd gyda nha un y dyoddefodd ei chys- tudd blin. Ymorphwysai ei henaid yn gyfan gwbl ar aberth Calfaria, a thrwy haeddiant vr Tesu y cafoddi ei gollwng i'r wlad lie na raid iddi ddy- oddef mwy. Bu farw Mai 19. gan ad- ael mewn galar ar ei hoi pi phriod, tri o blant 'bvchain. R. T.. Eirwen. a Hugh 0 Hefyd ei mam a dwy chwaer, na rai fu vn igweini evda ffvddlondeb mawr arni yn ystod ei cbvstlifi-d. Cy- merodd yr angladd le ddydd Llun, Mai 22ain. Cynaliwyd gwasanaeth vn y tv. y Parch. Owen O. Jones, West Allis. yn gweinvddu. Claddwyd hi yn Mound Cemetery. Huned mewn bedd. n chaffed y perthvnasau oil nerth i ddal y brofedieaeth. ac i ymddiried yn fwy llwyr nag erioed yn eu Ceid- wad. CDymunir ar i bapyrau Caernar- fon wneyd sylw o'r uchod.) Mrs. Marv Jenkins. Chwith genym weled yr hen sef- ydlwyr yn cael eu cymeryd ymaith y n a ill ar ol y Hall, fel erbyn hyn y maent wedi myned yn ychydig mewn nifer. Mae colli hen sefydlwyr, rhai fu yn ffyddlawn a gweithgar yn hanes yr eglwys Gymreig yn golled fawr, ac anhawdd ydyw cael rhai i lenwi eu lie mewn defnyddioldeb. Ganwyd Mrs. Jenkins yn Gronant. Dyffryn Ar- rUidwv, swydd Feirionydd. yn y flwyddyn 1833. Enwau ei rhieni yd- oedd Richard a Catharine Roberts. Daeth i'r wlad hon yn 1853, gan sef- ydlu yn y ddinas hon, lie y treuliodd y gweddill o'i hoes oddigerth rhyw wyth mlynedd y bu yn byw yn (Min- neapolis, Minn. Ar el dyfodiad i'r ddinas, ymaelod- odd a'r eglwys Gymreig, a pharhaodd yn ffyddlawn i bob moddion o ras tra y daliodd ei hiechyd. Yr oedd ei sel yn fawr dros yr Ysgol Sabbothol, ac o honi y bu yn aelod am flynyddau lawer. Carai ddarllen y Beibl, a myf- yrio yn ei wirioneddau. Yr oedd yn hoff o'r bregeth, ac yn wrandawr as- tud a meddylgar, ac yr oedd ei medd- wl a'i ph-arch i weinidogion y Gair yn fawr. Gwnaeth yr hyn a allai er hyr- wyddo pob symudiad daionus yn ein mysg, ac awyddai am weled crefydd Tesu Grist yn llwyddo. Yr oedd yn gymeriad tyner a charedig, a gwnaeth lawer i gysuro a chynorthwyo rhai mewn cyfyngder a phrofedigaeth. 0 herwydd sefyllfa ei hafiechvd, yr oedd wedi ei symud i un o ysbytai y ddinas er's tro, ac yno y dyoddefod'd ei chys- tudd olaf yn dawel ac amyneddgar, gan ymddiried y cwbl i'r gwr a garodd mor fawr trwy ei hoes. Bu farw ddydd Llun, Mehefin 5ed, yn 83 mlwydd oed, a chladdwyd hi y dydd Gw-ener dylynol yn Mound Cemetery. Cynaliwyd gwasanaeth yn y caipel Cymreig. pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John E. Jones, South Side, Chicago. Siaradodd Mr. Jones yn uchel am gymeriad yr ymadawedig, ac am y lie anwyl oedd iddi yn nghalon- au Cymry Racine. Gadawodd i alaru ar ei hoi ddau fab, ac un ferch, sef Richard Jenkins, Minneapolis; Griffith Jenkins, Racine, a Mrs. Kate Jane Roberts, Sheffield, Canada. Bydded iddynt gael nerth i ddal y brofedig- aeth ac i ymddiried yn fwy llwyr yn y Gwr sydd yn eiriol yn y nef ar eu rhan. -0-0
Younfrstown. 0.I
Younfrstown. 0. I Youngstown, O.-Blin genym nodi symudiad un arall o hen gvfeillion y "Drych," a Chymro blaenllaw yn y cylch hwn am haner can mlynedd, sef y cymydog hynaws, Levi Rees, Girard, yn 77 oed. Genedigol oedd o sir Ben- fro. Pan yn ieuanc, treuliodd flynydd- au yn Dowlais, lIe y bu yn gweithio yn y melinau. Daeth i'r wlad hon yn 1865. Bu yn Pittsburgh am ychvdig, ond cyraeddodd y ddinas hon yn 1866, a rhwng yma a Girard, y treuliodd y gweddill o'i yrfa. Pudler a roller wrth ei alwedigaeth. Prynodd fferm ger Weathersfleld, ac ar hono y treul- iodd y 30 mlynedd olaf. Bedvddiwr oedd yn ol cred, a Gwerinwr selog yn ol politics, ac Eisteddfodwr aiddgar yn ol difvrion a gogwyddiadau. Bu yn ysgrifenydd rhai o Eisteddfodau Youngstown mor bell yn ol a 1871 a 1872. Hoffai gystadlu yn y cyrddau llenyddol, a medrai rigymu yn llith- rig ar adegau. Fel llawer o'i gyfoed- ion, ni chafodd nemawr o fanteision addysg, ond eto drwy ymroddiad cas- glodd lawer o wybodaeth gyffred-inol, fel yr oedd yn bleser treulio hamdden yn ei gwmni. Dyn sobr, cymedrol, darbodus a hawddgar oedd Levi Rees, ac iddo lawer o gyfeillion, a theimlir chwithdod ar ei ol. Cawn nodi rhag- or o'i nodweddion yn y dyfodol. Bu yn briod ddwywaith. Gadawodd fab a merch.—John M. ———— .094 ————
SAN FRANCISCO. CALIF.I
SAN FRANCISCO. CALIF. Efflwvsi Cymreie Oakland a San Fran- cisco. Ore-an Newvdd. A or Busnes.-Y Cvmrodorion. &c. Gan H. J. Lloyd. Cyfarfyddodd swyddogion eglwysi Cymreig Oakland a San Francisco wythnos yn ol, i drafod cynllun sydd a'i amcan i alw bugail i wasanaethu y ddwy eglwys yn nghyd. Diau fod symudiad o'r fath yn amserol, ac ni bydd niwed yn deilliaw o'r ymddyddan brawdol, pe heb gyraedd y prif amcan Adlewyrcha graffder a phryder ar ran y swyddogion, a mawr obeithir y di- wedda mewn adfywiad gyfyd y ddwy eglwys i gyflwr gweithgar a blodeuog eto. Ceir y Cymry yn ymadael un ar ol y Hall i'r eglwysi Saesnig, a'u talentau yn cael tnwy o chwareu teg yn meusydd eangach y cenedloedd, neu waeth fyth, ymollwng i Iddifrawder o herwydd diffyg atdyniad chwaethus yn eu "cynulliad eu hunain." Mae yn amlwg ddigon, os am ddal gafael ar aelodaeth ddyfodol ein heglwysi Cym- reig allan yma, y ,bydd ofynol newid peth ar ffurf yr addoliad i ddull mwy poblogaidd ein heglwysi mwyaf. Nid ydys yn gwybod am well maes i wr "up to date," hyawdl yn y ddwy iaith, diplomat eglwysig a Ilawn o'r Ysbryd Glan na'r ddwy eglwys uchod gyda eu gilydd, a diameu genym y gwelid llafur y cyfryw wr cymwys yn derbyn cefn- ogaeth barod yn mhob cangen o waith y cysegr. Ond taflu golwg dros y pethau dyn- ant y nifer fwyaf yn nghyd, amlwg fod y "special music" cyn y bregeth yn taro yn dda, er ei fod o natur gwas- anaeth yr eglwysi mawr parotoa gywair y gwrandawyr i'r gweinidog. I chwi yn y Dwyrain, o bosi'bl, nid yw a ganlyn i'w gymwyso. Gwlad haf, haul a blodau ydyw California, gwlad Iliwiau ac ysgafnder' ysbryd, a gwlad mawrion ryfeddodau natur. Rhag ein cael un amser allan o gynganedd a swynion y greadigaeth, ai nid doeth fyddai rhoi mwy o le i'r lion a'r mawr- eddog yn nghaniadaeth y cysegr? Nid oe.s achos fyth a hefyd rygymu yn lleddfol a difynegiant, tra mae digon- edd o donaii da yn aros heb eu harfer. Ond clustfeinio amlygir i ni nad ydyw y cywair lleddf yn dygymod mor hwylus a'r "Young American" ag y gwna a Chymro o Gymry, ac ond arfer doethineb. credwn y gellir eu clenli eto i ymbleseru yn mawl Duw a gw-aiK,- Ei dy, a chyda hyny ddal i fvnv freichiau Ei was yn mhethau nwysicaf y deml. Gyda golwg ar y wedd hon, gwnaeth San Francisco waith cymeradwy yr wythnos ddi- weddaf, trwy bwrcasu organ newydd; nirl oes un braidd na lawenha yn swyn ei nodau. Ceid yr un flaenorol yn hen sopen dvuenus o oriog, ei nodau yn sur a phigfeinllyd, ac yn achlysur pechod i'r ffyddloniaid, ys dywedai Robert Davies. Mae v gynulleidfa i'w Ilongyf- arch am sefyll tros farn dda hyd furldugoliaeth. Nos Sabboth, cawsom bregeth ar- dderchog gan y Parch. J. S. Thomas, ac ar y diwedd ganu rhagorol gan y Mri. Owen Roberts, Richard Lloyd (aelod gynt o gor y Moelwvn) a Bob Roberts, diweddar o'r Empress Cir- cuit. Rhoddasant eu gwasanaeth yn rhad. Nos Wener, canasant i'r Cymro- dorion gyda hwyl ragorol. Mae y tri uchod wedi hanu o Ffes- tiniog, G. C., ac yn awr wedi agor restaurant yn y ddinas hon. Cofiwch am eu cyfeiriad, 18 Turk Street, yn neillduol yr ymwelwyr. Mae pob peth yn lan, blasus, rhesymol a pharchus. Cyfarfyddasom yno un noswaith a nifer dda o Gymry dan arweiniad y cyfreithiwr parchus Samuel J. Jones, ac yn ol :pob tebyg bydd yn gyrchfan Cymry yn y dyfodol. Nos Wener, mwynhaodd Cymdeith- as y Cymrodorion noswaith gyda'r bardd Americanaidd "Longfellow," o dan arweiniad Arthur C. Jones, yr hwn gyda Haw sydd wedi gwneyd astud- iaeth eang o brif feirdd y wlad hon. Yn mysg eraill ar y rhaglen, ceid Miss Florence Roberts, Mrs. Evans, Mrs. W. C. Roberts, Mri. Frank Davies ac L. Sharp. Cawsom y pleser o gyfarfod ye un noswaith a Mr. a Mrs; Harries, Renton, Wash. Treuliasant rai dyddiau yn ein dinas i fwynhau cynwyniad tystysgrif- au i efrydwyr College of Physicians and Surgeons. Hapus genym hysbysu am lwyddiant anrhydeddus eu mab, David T. Harries yn adran y "Dental Surgery." Ar ymweliad a'n dinas o Portland, Oregon, mae Mr. a Mrs. Griffith Jones, gynt o Pen y Fodlas. Llanrug. a chefn- der i'r gohebydd O. W. Rowlands, Inswich. Cawsom oriau difyr gydag ef ac R. J. Hughes, Tanycoed, un o fiaenoriaid ein heglwys Gymreig. Bydd y Pedwerydd o Orphenaf yn cael ei ddathlu eleni gan Gymry dwy ochr y bau gyda eu gilydd yn Golden Gate Park, lie cynaliwyd gorsedd urdda-pol Eisteddfod Fawr 1915. Mae pwyllgorau ar waith. er dwyn hyn oddi amgylch, a phob arwyddion y bydd yn Ilwvddiant mawr. Robert Davies. San Francisco, ydyw llywydd y gwaith. Gofidus genym glywed am farwol- aeth y Parch. T. C. Davies, Willows, CaMf. Cyraeddodd braidd ei 85 mlwydd. Clywais ef yn dweyd iddo °ap! ei ordeinio i'r weinldogaeth yr un flwvddvn ag y torodd allan y Rhyfel Cartrefol, felly rhoddodd oes lied dda yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Yr oedd o gvraeddiadau llenyddol uchel, yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof rhagorol. Arferai ddod i lawr yn ami i Oakland i bregethu iddynt vno ar y Sabboth. ac yna yn ol yr holl bellder foreu Llun. nid am y tal yn gymaint aig am y pleser yn y gwaith. SWYDDOGION FFRENGIG YN ASTUDIO EU MAPIAU AR Y MAES. _1
NODION 0 PHILADELPHIA. PA.
NODION 0 PHILADELPHIA. PA. Gan J. Humphreys Griffith. Phila, Pa., Mehefin 1ge9. Nos Fawrth, cynaliwyd social gan y cor, pryd y daeth dros haner cant yn nghyd i fwynhau noswaith hamddenol, yr hyn pedd yn newid hollol i'r cor, wedi eu llafur diflino y misoedd di- weddaf. Llywyddwvd y cyfarfod gan yr ysgrifenydd, a cymerwyd rhan gan Miss Edwards, Cefnycoed; Miss Esther Lloyd, Miss Edith Myfanwy Morgan, Miss Ada Roberts, Richard Thomas, Llywelyn Williams, a chafwyd araeth ar "Llydaw" gan Y. A. Bouget. Dar- Ilenwyd penillion llongyfarchiadol i'r cor gan Mrs. Susan Johns Mills. Trefn- odd Mrs. Edwards. Mrs. W. B. Wil- liams, Mrs. Mayberry, Mrs. Mass a Miss Mildred Jones y danteithion, a treuliwyd noswaith ddifyr. Darllen- odd Miss Morgan lythyrau o gymer- adwyaeth i'r cor wedi y cyngerdd di- weddaf, ac yn un cyfeiriai boneddwr ei fod ef yn y ddinas y noson hono, ac y buasai yn ddrwg ganddo pe wedi myned yn ol i Virginia, heb eu clywed. Drwg .genym golli y brawd Llewelyn Williams o'n plith. Bu yn y ddinas yn manteisio ar addysg gerddorol gyd- a'r cornet, ac y mae wedi ein gadael i fvned i dreulio ychydig ddyddiau i Nanticoke, Pa., cyn myned i'r Military and Navy Academy, Silver Lake, N. Y., lIe y mae i chwareu am rai misoedd. Dymunwn iddo bob Ilwvddiant, ac fe fydd chwith ar ei ol yn yr eglwys Gym- reig a'r cor. Y mae William Jones, o Edwards- ville, vma ar ymweliad a'i chwaer, Mrs. Tom Jones, Hazel Ave. Derbyniodd Evan G. Thomas, Fox Chase, y newydd am farwolaeth ei frawd, William R. Thomas, Colwyn Bay. a fu farw Ebrill 26, yn 32 mlwydd oed, gan adael priod ieuanc o bum mis. gan mai ar y 26ain o Dach- wedd y bu iddynt ymbriodi. Gweith- iai yn chwarel Trwyn y Fuwch, a bu cyn hyny yn y Garnedd Wen. Derbyn- iel y teulu yn nghyd ag Evan Thomas a'i chwaer, Mrs. Elizabeth Williams, Conwy, a'i briod ieuanfc ein cydym- deimlad. Y mae Mrs. Isaac Ambrose a'i chwaer, Mrs. Louie Jones, wedi myned i Ocean City i gartrefu am yr haf. Y cyfeiriad yw 904 Wesley Ave. Y brawd Hugh Lewis wedi myned, i Sea Side Park, N. J., i chwareu cello gyda seindorf am yr haf. Bu Miss Margaret Williams, Wilkes- Barre, a'i chwaer Miss Anna, o Spring City, yn treulio y Sul yma. Da genym ddeall fod eu mam, Mrs. Williams (Mair Llechid) yn gwella. Y Sul, cynaliwyd Sul y Plant, a'r gorchwyl cyntaf gafodd ein gweinidag, y Parch. R. E. Williams, oedd bedydd- io baban Mr. a Mrs. Fred Roberts. G.elwir hi Doris Marguerite. Yr oedd yn olygfa hardd ar foreu Sul y plant, ein gweinidog yn cofleidio y bychan ac yn ei cbyflwyno i'r Arglwydd. Yn yr hwyr, yr oedd y llwyfan yn brydferth gyda'r to ieuanc ac ol llafur arnynt, rai o'r plant lleiaf yn adrodd a chanu am y tro' cyntaf. Llafuriwyd gyda'r nlant igan Mrs. R. E: Williams a Miss Edith Myfanwy Morgan. Croesawn i'n plith Preston Evans, Delta. Y mae dau frawd iddo yma, sef Richard Hugh a William T. Evans; William yn ysgrifenydd y cor. Mr. a Mrs. David Williams a'r ferch, Mary, o Wilkes-Barre. Hefyd Noah Rees a'r teulu o'r un lie. Nos Tau, Mehefin 8, cynaliwyd "Strawberry Festival" dan nawdd y Tidies Aid. Cymerwyd rhan gan Miss Lizzietta Jones. Miss gbphia Bausch, Miss Edna Davies, Miss Margaret Ptenhens, Elizabeth McCrae a Thomas Hughes. Bu Mrs. Evan Roberts, Slatington, nr ymweliad a'r modryb, Mrs. J. E. Jones, Race Street. Yn Plysi yr vmwehvyr a'r eglwys nvmreisr. cawsom T. Owen Charles. s'olvgvdd y "Welsh American;" Mr. Enoch, o'r agerlong "West Point;" J. E. Lloyd, Brooklyn. N. Y.; Cadben John Davies o'r agerlong "Alban." Da oedd genym weled Mrs. David Jones wedi gwella digon da i fod yn y modd- ion. Drwg genym ddeall fod y brawd Tom Williams. Wind Gap, yn yslbyty Medico Chi. Daeth i lawr nos Sadwrn, a'r Sul bu o dan driniaeth y gyllell i symud asgwrn o tu ol i'w glust. Yr oedd brodyr Dan Hughes a Thomas Mills yn yr ysbyty yn llvgad dyst o'r weithred. a da genym ddeall fod pob peth wedi troi allan yn llwvddianus. Gyda braw y darllenasom yn y "Drych" diweddaf am farwolaeth y Parch. Alfred Harris. Yr oedd yn ad- nabyddus i Gymry y ddinas hon. a bu yn arwain Eisteddfod y Bobl Ieuainc vrna. Dymunwn fel Cymry yma gyf- Iwyno ein cvdymdeimlad' ilwyraf a Mrs. Harris a'r teulu yn eu profedig- aeth.
Advertising
Long Island Coast I In the surf, on the sandy i beach, or on the board walk- there's something to do all the time. j I The seashore is the best i f place to "make you over." 5 Won't you go this year? Through cars to New I York, the gateway to Long ( | Island resorts. I | Low Summer Excursion Fares For information about i tickets, time of trains and i LOW EXCURSION J FARES, call at New York t Central Station, Utica, I N. Y. Telephone Bell 4500 l ephone: Bell 4500
NODION 0 NANTICOKE. PA. I
NODION 0 NANTICOKE. PA. I Gan y Parch. A. L. Rowe. I Nanticoke, Mehefin 18, 1916.-Yn Glen Lyon, Mai 31, 1916, bu farw Mrs. Margar-et Hannah Evans, anwyl briod William T. Evans (saer maen) a hi yn 66 mlwydd oed. Ymadawodd a'i ffydd yn gref yn yr Hwn a ddywedodd "Byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hef- yd." Yr oedd yr ymadawedig yn ferch i Mr. a Mrs. John Lewis (Welshman), o Pendarren, ger Merthyr Tydfil, D. C. Ganwyd gwrthrych hyn o linellau yn y He uchod Ebrill 13eg, yn y flwyddyn 185(0, ac yn Merthyr Tyd,fil yn swyddfa y Cofrestrydd gan Mr. Morgan M. Williams, Chwef. lleg, 1867, ymun- odd mewn cyfamod priodasol a Mr. Evans, yr hwn sydd mewn galar mawr ar ol yr hon oedd mor hoff ganddo am dani, a hithau am dano yntau. Yn 1880, ymfudasant i'r wlad hon, ac ym- sefydlasant yn Pittston, Pa., He y bu- ont byw am bedair blynedd. Yna symudasant i Glen Lyon, ac yma y maent wedi cartrefu hyd nes y daeth angeu yn ol ei arferiad i'w hysgaru am byth tu yma i'r lien. Deallwn fod ein chwaer wedi rhoddi ei chalon i Iesu Grist pan ond 16 mlwydd oed. Ar y cyntaf ymunodd a'r eglwys Esgobydd- ol, ond wedi iddynt fel teulu symud i Glen Lyon, gan nad oedd yno eglwys Esgobyddol, ymunodd gyda'r achos hyd ddiwedd ei gyrfa ddaearol. Ni fu y chwaer hon heb ei hadfyd yn gystal a hawddfyd. Yr oedd yn fam i 21 o blant, ond y mae y mwyafrif o honynt wedi croesi y Ilinell i'r bvd ysbrydol. Nid oes ond y profiadol a wyr am y pryder sydd yn nglyn a darparu ar gyf.er angenrheidiau corfforol i deulu, mor fawr, a'r enillion yn brin he'blaw ,gweini arnynt pan yn gystuddiol, a cheisio eu gosod ar ben y ffordd i fywyd rhinweddol, defnyddiol a pharchus. Bu Mrs. E. yn gystuddiol ei hunan am lawer o flynyddoedd, ac heb fod yn gallu myned o'i thy gan y crydgymalau (rheumatism), ond godd- efodd holl gystuddiau a thrafferthion bywyd yn y modd mwyaf amyneddgar, gan gredu fod pob peth yn cydweithio er daioni, gan dreulio ei dyddiau olaf yn canmol a chlodfori yr Hwn a roddes ei fywyd yn bridwerth dros lawer. Ychydig ddyddiau cyn ei mar- wolaeth, cafodd ddwy ergyd o'r parlys, a hyn fu achos uniongyrchol ei mar- wolaeth.Mae y teulu, yr eglwys, a'r gymydogaeth. wedicaeI colled fawir yn symudiad Mrs. Evans. Yr oedd yn wraig ddarbodus, ac yn fam dyner. Yr oedd ei dyddordeb yn achos y Gwaredwr yn hynod fawr, er yn methu mynychu moddion gras yn y capel. Cafodd un o'r angladdau mwyaf Ilu- osog a pharchus a gymerodd le yn Glen Lyon er's rhai blynyddau, yr hyn a gymerodd le y Sabboth canlynol, sef yn y prydnawn. Wedi gwasanaeth byr yn y ty, aed yn dorf fawr a galar- us i gapel Bryn Seion, He yr oedd ein chwaer ymadawedig yn aelod, a Mr. Evans yn ddiacon, ac yn un o golofnau cryfaf yr achos yn y lie. Cynaliwyd gwasanaeth yn y capel, pryd y cymer- wyd rhan gan y Parch. A. L. Rowe, Nanticoke, a John Shugg, yr efengyl- ydd o Scranton. Yr oedd y canu dan ofal David J. Jenkins, ac ni chlywyd canu mwy tyner ac effeithiol er's gryn amser, a Miss Edith Thomas yn gwas- anaethu wrth yr organ. Gosodwyd gweddillion ein chwaer i orphwys hyd foreu y codi yn nghladdfa gyhoeddus a phrydferth Nanticoke. Bydded yr Ar- glwydd yn gysur i'r teulu oil yn eu dydd blin, a bydded iddynt eto gyfar- fod a'u gilydd yn ngwlad y bywyd a'r hedd tragwyddol. Mae lluaws cyfeillion James M. Griffiths, East Broad St., yn teimlo yn llawen i'w weled yn alluog i fod 0 gwmpas eto, wedi bod yn wael iawn gan pneumonia. Mae Mr. G. yn fawr ei barch trwy y dref hon. Mehefin 2, 1916, yn ei gartref, 225 West Main St., bu farw David Hughes, ac efe yn 39 mlwydd oed. Ychydig dyddiau yn flaenorol syrthiodd Mr. Hughes o ben wagen, ac hyn oedd achos uniongyrchol ei farwolaeth. Claddwyd ef ddydd Mawrth canlynol yn mynwent gyhoeddus y dref. Gwein- yddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. H. W. Griffiths, Plymouth, a'r ysgrifen- ydd. Bydded yr Arglwydd yn ddy- ddanwch i'r weddw alarus a'r per- thynasau oil yn eu trallod. Deallwn fod Mr. a Mrs. Thomas D. Lloyd, East Church St., wedi bod yn wael iawn, ond da genym gael ar ddeall eu bod ar wellhad. ac mae eu Iluaws cyfeillion yn dymuno iddynt adferiad llwyr a buan. Bydd yn hyfrydwch gan luosog dar- llenwvr y "Drych" gael ar ddeall fod eglwys Nebo wedi teimlo ar ei chalon i godi$100 yn nghyflog ei gweinidog galluog a gweithgar, sef y Parch. Jacob E. Davies, M. A. Mae Mr. D. wedi bod yn y maes hwn am 13 mlyn- edd, a dymuniad pobl oreu ei ofal yw ar iddo fod gyda hwy am 13 mlynedd arall, a dywedaf finau o galon, 'Amen.' Bu Miss Mary Roberts, East Green St., yn wael iawn am rai wythnosau, ond y mae hithau yn gwella yn gvf- lvm iawn. Un o rai ffyddlon ac ufudd eglwys Moriah yw Miss Roberts, so mae ei chyfeillion yn lluosog. Yr wythnos nesaf, cynelir y Chautau- qua yma, ac os dygir pethau yn ol T rhaglen gellir dysgwyl amser difyrus ac adeiladol.
Advertising
American A d. din g and = Listing Machine (eight column capacity) Price $ 8 8.00 F. O. B. MAYWOOD, ILL. Sold on one year's credit or 3 per cent. discount for cash. MAIL COUPON TODAY American Can Company Chicago, 111. Please send booklet descrip- tive of American Adding and Listing Machine. Name Address Clipped from » I If HE ERTHF I Gyd Dry h | Cynygiad Neillduol Dros Dymor Byr yn Unig i J Trwy gytundeb a'r ysgrifenydd galluog Beriah 1. 2M Gwynfe Evans, Caernarfon, G. C., cyhoeddir genym I !? y Ilyfr rhagorol |j I "RHAMANT BYWYD LLOYD GEORGE" § I a rhoddir copi o hono fel anrheg i bob un a d&lo o j| I hyn i ddiwedd y mis hwn am y "Drych" i fyny |j I hyd Ionawr laf, 1917, ac i bob un a enfyn enw new- |Si H ydd a blaendal. I i Y mae y llyfr, "RHAMANT BYWYD LLOYD I | GEORGE," wedi ei gyhoeddi gyntaf yn yr iaith |j Saesneg, ac yn gwerthu wrth y miloedd. 1 BARN Y WASG AM DANO: I 00 "It is a fascinating story that Mr. Evans tells of the boy from the cottage §§ 00 home who was to employ from the Treasury Bench the rhetorical arts i||y§ which he practised at the village smithy.London Times. |j| The truest, most faithful and most revealing picture of the Imperial ffl Statesman yet presented to the public.North Wales Guardian. "The Book is exceedingly interesting. "-Liverpool Express. jjjjg H Y mae yr awdwr wedi trefnu hefyd i ychwanegu penod arall i'r Ar- If ? ?raff?d Cymreig Americanaidd, sef "Lloyd George a Chymry America/' ? P-ru ? Dyma gyfle ardderchog i gael Ilyfr da yn RHAD 1 ? Ysgrifenwch heddyw at ij| ? THOMAS J GRIFFITHS, | ? "Drych" Office, Utica, N. Y. e| U "PR rrm rv r,-n r..m mm om rl-m rlm r-m EL!M rl-m om rommo