Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
1851. Y DRYCH 1916 Newyddiadur Cenedlaethol Cyhoeddedig Bob Dydd Iau Pris y Talaethau Unedig$2.00 i*ris i Canada a Chymru, tal yn mlaen Haw yn ddieithriad_$2.50 ^TRACES j r- ^C^INCIL^ HYSBYSIADAU am Brisiau Rhea- fcymol. Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN mewn Post Office Order, Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy i'r perchenog- THOMAS J. GRIFFITHS, Drych Office, Utica, N. Y. AT EIN GOHEBWYR Er arbed trafferth i'r clerc yn y Swyddfa cyfeirier pob gohebiaeth a phob taliadau i'r "Drych" a'r 'Cambrian a'r rhai hyny yn tv !g) i Thomas J. Griffiths, Utica, N. Y. Dealled ein derbynwyr yn yr Hen Wlad nad yw Postal Orders rr- werth dim i ni yma. Dim ond Post Office Orders sy'n dderbyniol ochr hon. Eglwys Annibynol Cymreig 206-208 EAST 11th ST.. NEW YORK CITY. hawng 3rd a 2nd Ave.; taith pum mynyd o 14th St. Subway a'r 14th St. L. Station. Rhed y 3rd Ave. surface car heibio 11th St. Gwetnidog-Parch. JOSEPH EV AJNS, B. A., 575 W. 172nd St., New York City. Phone 635.4 Audobon. Trysorydd—Mr. David Jones, 43 Booraem Ave., Jersey City. Ysgrifenydd-Mr. J. Watkin Roberts, 189 Wegman Parkway, Jersey City. Y Sabboth nesaf pregethir am dri y prydnawn a saith yr hwyr an y Parch. Joseph Evans, B. A. Eglwjs y T refnyddion Calfinaidd 505 WEST 155th STREET. NEW YORK (On West Side of Citv). Gweinidog Parch. JOSEPH RO- BERTS, D. D., 519 West 152nd St. Ysgrifenydd Gohebol—Edward Morris, 146A Sip Avenue, Jersey City, N. J. Nos Sabboth, Gorph. 2, am 8 o'r gloch, pregeth olaf Dr. Roberts, a gweinyddiad yr Ordinhad Santaidd Swper yr Arglwydd. Saif yr adeilad newydd rhwng Broadway ac Amsterdam Avenue. Sub- way Express i 157th St. Gwahoddiad cynes i'n cydgenedl yn y ddinas a'r cylchoedd, ac hefyd i ym- welwyr.
[No title]
Ebe y bachgen wrth ei gariad yn y gegin, "Wel'di, mae yn 11 o'r gloch!" "0, paid gwylltio," meddai hithau, "amser y llywodraeth yw hwna. Deg yw wrth yr amser iawn—yr hen amser gynt." Nid yw y wasg Americanaidd hyd yn nod yn cymeryd y safle iawn yn nglyn a chyffroadau ein gwlad. Y cyn- llun o hyd yw "rhoi terfysgoedd i lawr," ond dengys terfysgoedd ryw achosion neu glwyfau fiiewnol y dylid talu sylw gwellhaol iddynt. Ebe un o gyhoeddiadau wythnosol Cymru, am- y cydwybodwyr "Cant fwy o sylw ac o barch bob dydd. Dyma'r dynion a fydd yn setlo pethau ar ol y rhyfel." Y mae yn ameue genym. O'u rhan hwy, ni fyddai dim i'w setlo; byddai y Germaniaid wedi setlo y cyfan! Da oedd genym gael y newydd o'r Hen Wlad fod gelynion D. Lloyd George yn dechreu dystewi. Y mae yn bryd, hefyd. Ai ni ddylid galw ei "elynion" yn "wehilion." Mae D. Ll. G. a'i elynion yn coffau i ni "Joseph a'i Frodyr," ac fe wyr plant yr Ysgol Sul sut y trodd hi allan. Yr ydym wedi awgrymu droiau na ddylid cynal hyn ac arall yn ystod y rhyfel, eithr ymroi ati i lorio y Ger- maniaid, ac yna hi fydd yn werth byw. Gadawer pob moethau a danteithion crefyddol ac Eisteddfodol, &c., 1 fyned. Gadawer gWyr y cyfarpar a'r glowyr yn llonydd hyd hyny. Peidier son am Eisteddfod Genedlaethol na dim cyff- elyb nes eistedd ar war y German. Mae llawer o wirionideb yn mhlith pobl barchus a chreffyddol yn Nghymru. Mae rhyw duedd gref yn rhai o gy- hoeddiadau Cymru i ysrpengio o her- wydd hirbarhad y rhyfel, a beiant y llywodraeth ac Asquith, D. Lloyd George ac eraill mewn awdurdod, er na wnaethant hwy eu hunain ddim o'r dechreu! "Addawant o hyd o hyd fod y rhyfel yn dod i ben, &c., ac nid oes argoel eto." Dyna wna gobaith, addaw o hyd o hyd, neu byddai yn ddigon ddi- galon., Gobaith sydd yn ein cadw yn fyw. Y mae y "Drych" yn teimlo fel addaw eto! Clywsom o'r Hen Wlad fod y Seis- neg yn enill tir yn yr America yma. Tebyg iawn. Pa ryfedd? le, pa ry- fedd, pan nad yw y Cymry yn gofalu dim am y "tir?" Ni welwn warchffos Gymreig yn un man i amddiffyn yr Hen laith rhag ruthr y gelyn! Pa amddiffyn sydd gan genedl ddilyfrau yn erbyn dylif llenyddiaeth Seisneg? Meddylier am genedl o bobl heb lyfr yn cael ei gyhoeddi yn eu plith mewn blwyddyn—dwy flynedd! A miloedd o Gymry hefyd yn barod i waeddi "Oes y byd," &c.? Cyfyd rhai mathau o bobl yn erbyn "parodrwydd" am y byddai i ddosbarth elwa ar hyny, ond nid yw hyny yn rheswm dros beidio parotoi. Meddyl- ier am ddyn pan y mae tywydd oer zero yn agoshau yn peidio prynu cob uchaf rhag i ryw ddilledydd feallai wneyd dwy neu dair doler yn fwy arni nag y dylai. Rheswm gwael iawn. Mae cri'bddeiliaeth yn ddrwg cyffredin. Ni yfir ac ni fwytir, ni wisgir, ac ni symudir na fydd rhywrai yn elwa! Y dyddiau cyffrous hyn y mae y Democratiaid yn awyddus iawn am glywed Hughes yn dwrdio yr "hyphen. Mae amser i bob peth. Mae y ddwy blaid yn osgoi yr "hyphen" glaint ag a allont, oblegid- y mae Germaniaeth yn gryn fwgan. Ond y mae eto yn rhy gynar. Rhaid fydd i'r ddwy blaid fyned i hwyl cyn y teimlant fel dwrdio dim. Cafodd cythraul canu ei drwyn i fewn m,wn oedfa ganu un nos Sul yn Hyde Park, Llundain. Arfera y Cymry gyfarfod yno ar nosau Sul i ganu emynau, a chymer y Seison ddy- ddordeb mawr yn nghanu y Cymry; ond y nos Sul o'r blaen, hauodd y gelyn ddyn annghydfod yn mhlith y cantorion. Yr oedd un adran am ganu "Aberystwyth," a'r llall "Crugybar," a bygythir y naill blaid, os yr ai y llall am "Aberystwyth," yr ai hithau am "Crugybar!" Nis gwyddom sut y trodd allan yn y diwedd. Y mae y ddwy don yn dda, ond ni swnient yn dda ar un waithf Ar don mor y Gogledd bu yn frwydr o fawr a llynges y Kaiser am bedair awr; 'roedd holl lu y Kaiser yn nghyd wedi cwrdd, a holl ddoniau'r Kwltwr i gyd ar y bwrdd. Mi roesom ni gurfa i Shon, ebe Kai; mi chwalsom ei lynges i gyd yn. o chwai; am suddo'i holl lynges 'rwy'n diolch i chwi-Rhe- olwr y mor o hyn allan wyf fi! Pellebru'n ddi wifrau wnaeth Kai dros y byd; mae'n hoff o ryw bethma fel hyny o hyd; ond clywch yr hen Shon wedi darfod o'r twrdd: "Hai, Kaigi, beth wnaeth i ti redeg i ffwrdd?" Sicr yw fod y meddwl Germanaidd yn myned dan gyfnewidiad. Flwydd- yn yn ol yn Hotel Astor daeth cym- deithas o foneddigesau o haniad Ger- manaidd yn nghyd i fath o gwrdd gweddi, i weddio dros fuddugoliaeth i'r-fyddin Germanaidd; y nos o'r blaen cynaliwyd cwrdd cyffelyb, ond y tro hwn i weddio am heddwch. Ebe'r llywyddes, "Canolbwyntiwch eich holl feddwl ar heddwch." Ond nid oedd y llywyddes wedi dysgu y wers oil, oblegid aeth i foli y genedl German- aidd goruwch pob cenedl, ac hyd yn nod goruwch yr Americaniaid. Cymer gryn fwy o anffodion i ddofi yr Hwn. Beth bynag yw cyflwr Germani, sef y Kaiser a'i gymdeithion milwrol, am- lwg yw fod rhai yno yn dechreu gwel- ed y goleu. Yn y Reichstag y dydd o'r blaen, siaradai Herr Noske, Cymdeith- asolwr, yn synwyrol iawn, yn wahanol i'r Germaniaid yn gyffredin. Ebe efe: "Nid yw y Germaniaid am dywallt ychwaneg o waed er mwyn cynlluniau' mympwy. Nid yw y bobl na'r milwyr yn y ffrynt am fwy o dywallt gwaed. Mae y bobl yn erbyn parhau y rhyfel hyd nes cael eu gwaedu yn wyn (chwedl Bismarck ) Byddai hyny yn ddrwg mawr. Y peth sydd eisieu ar y 'byd yw cyd-ddealltwriaeth." Bu lledu aden enbydus gan yr hy- awdledd Democrataidd yn y gynadledd yn St. Louis, Mo., yn ddiweddar. Defnyddid chwedloniaeth ac Ysbrydol- iaeth gan y llefarwyr i hudo y gwran- dawyr i gefnogi yr Arlywydd, Apostol Heddwch, hyd yr eithaf. Mewn un anerchlad brwd, cyfarfyddai yr Iesu a Wilson gan ei longyfarch fel tangnef- eddwr, ac aeth y cyn-Lywodraethwr Glynn o New York hyd ei geg mewn chwedloniaeth i chwyddo clod Wilson, fel gwladweinydd digyffelyb. "Nid oes cerbyd segur ar ein rheilffyrdd," ebe efe; ond yn ol tystiolaeth Cymdeithas- fa Reilfforddol America yr oedd 67,588 o geir gweigion ar y cyntaf o Fehefin. Feallai i Wilson eu cael i fyned am y dydd i ddathlu cyfarfyddiad y Demo- cratiaid yn St. Louis. Yn America yma, cawn lawer o ym- ffrost yn awr ac eto am i ni yn ffodus hyd yma gadw ein hunain allan o'r ffrae fawr yn EJwrop, lie y mae pobl, BELGIAID YN GORPHWYSO YN Y TRENSHIS. yn enwedig yn Germani ac Austria, a Thwrci hefyd yn cael ymborth yn ol rheol y cardiau; ond ni feddylia llawer mai ychydig o wahaniaeth sydd rhwng trefn y cardiau a'r bread line yn New York, a dinasoedd eraill; ac oni bae am y fasnach fawr anferth mewn defn- yddiau rhyfel rhwng America ag Ewrop, buasai cardiau mewn bri yma hefyd. Gallai America gymeryd gwers o Germani yn nglyn a llawer o dlodi mewn ami i barth. Daw i'n meddwl yn gryf am gyflwr trueiniaid yn ystod y gauaf yn New York, lie y mae pobl dlawd yn prynu glo wrth y pwys. Purion peth fyddai iddynt gael card- iau glo, a chael rhywrai i dalu am dano. Gwelwn nad dyeithr yno. hefyd yw gweled trueiniaid yn brecwasta o'r garbage cans! Mae lie i gyfundrefn y cardiau yn America. Oes, yn siwr, os y gellir credu pobl gyfrifol! Dau fath o bobl a fyddant boen a blinder i'r ddwy blaid oddigerth i'r ddwy blaid ddyfod i'r maes yn iawn fydd y Germaniaid a Merched y Bleid- lais. Nid yw y ddwy blaid wedi dyfod allan yn onest eto yn nglyn a'r Merched. Y mae y ddwy wedi gwneyd rhyw haner addewid i'r Merched, ond ni fwriadant wneyd mwy na'u hudo i lonyddwch. Clywsom fod yr hwn a. ddarllenai yr astell yn manlawr y Gwerinwyr yn Chicago yn rhyw ysmic- ian pan yn myned dros y geiriau. Geilw un o flaenoresau y Merched yr astell Ddemocrataidd yn "dafod dy- eithr" gan na wyr y Democratiaid eu hunain beth olyga. Y mae y Merched ag eisieu rhywbeth yn debycach i le a Nage. Bydd y Merched a'r Germaniaid yn debyg o dynu y rhagrith allan o'r ddwy blaid. Clywn fod Hughes yn barod i wneyd rywbeth amlwg a phen- dant o achos y Merched, drwy ei wneyd yn fudiad cenedlaethol, gan fod cryn rwystrau ar y ffordd i'r merched enill yr etholfraint yn dalaethol. Y mae y Democratiaid hefyd yn barod yn danod i'r Gwerinwyr mai ymgeisydd o benod- iad Germanaidd yw Hughes; felly dy- ledswydd benaf y ddwy blaid fydd di- arddel pob perthynas a chysylltiad a'r Hwniaid. Dywedai yr Arlywydd Wilson y dydd o'r blaen fod y bobl Americanaidd yn heddychol, ac "nad oeddynt am gymer- yd Haw yn y cythrwfl presenol yn Ewrop," ac yr oedd yn a,gos i'w le, ond derfydd ein Harlywydd bob-pryd o'r braidd gyda rhyw ddywediad a andwya y gweddill o'i ddoethineb. Ebe efe, "Y mae y pleidiau yr ochr draw wedi myned i'r fath eithafion, fel nas gellir eu hystyried yn gyfrifol. Os yw y gweddill o'r byd yn wallgof, nid yw hyny yn rheswm y dylem ni ymrafaelio gyda hwy." A dyma yr Arlywydd mewn perygl o gyfranogi o "wallgof- rwydd" Mexico, a myned i'r un eithaf- 1 ion'annghyfrifol! Pan yr a dyn allan o'i ben, ac yn berygl i ddyogelwch cymdeithas, y rheol yw cymeryd gafael ynddo (os y gellir) a'i rwymo neu ei gyfyngu. Ni oddefir i basiffistiaid a chydwybodwyr ymyryd; ac ni ymyrant ychwaith. Pan yr a cyfran o'r byd allan o'i ben, ai ni ddylai y gweddill o hono wneyd ymdrech I wrthwynebu y gyfran wallgof? Y gyfran wallgof, onide, y dylid dweyd am dani ei bod yn myned i eithafion annghyfrifoldeb, nid y blaid sydd am ei rhwymo rhag dinystrio y byd. Y naill a i eithafion annghyfrifol, ond y llall i eithafion cyf- rifol! Fe wel y darllenydd y gwahan- iaeth, hyderwn. I gadw cydbwysedd, rhaid gwynpbu y naill eithafion ag eithafion eraill; y naill yn eithafion drwg a'r llall yn dda.
MAE YN HEN GWYN. I
MAE YN HEN GWYN. Y mae yr Eglwys heddyw yn pro- ffesu mwy o deyrngarwch na'r enwad- au. Cyfyd llawer o basiffistiaeth a chydwybodaeth a gwendidau o'r fath yn mhlith yr enwadau yn benaf. Yn amser y rhyfel a Ffrainc, er's talwm iawn, ffynai yr un teimlad rhwng yr Eglwys ag Ymneillduaeth y pryd hwnw, ac aed mor bell a chyhuiddo Ymneillduaeth o anffyddlondeb i'r Brenin a'r wlad. Un tro taenid y newydd fod John Elias o Fon a rhyw R. Lloyd, yntau hefyd o'r un air, wedi eu bwrw i gar- char dan ddrwgdybiaeth eu bod yn pre- gethu annheyrngarwch. Nid oedd yr hanes yn wir, ond mae yn wir y drwg- dybid hwy am ryw reswm. Feallai eu bod yn siarad fel y pasi- i ffistiåid presenol. Cyhoeddwyd llyfrau I ar y pwnc ar y ddwy ochr. Gwnaed defnydd o "gydwybod" y pryd hwnw fel heddyw, er nad i'r un graddau. I Yr oedd dosbarth yn erbyn dwyn arfau ar y Sul, yn groes i'w cydwy- bodau, a chyhuddid Ymneillduwyr a Methodistiaid o droi eu cefn ar y Bren- in a'r wlad. Ysgrifenodd Charles o'r Bala lyfr i amddiffyn y Methodistiaid. Tebyg y ceid egin "pasiffistiaeth" a "chydwybod" ein dyddiau ni y pryd hwnw, ond ei fod wedi ymddadblygu I yn o gryf heddyw. Y mae llawer o I hyn yn Nghymru heddyw, ac y mae pobl gyfrifol ar waith yn efengylu a dysgyblu trueiniaid y ffordd i ffugio "cydwybod!"
Y BANLORIAU. I
Y BANLORIAU. I Barn y bobl gmffus ar ol cymharu I banloriau y ddwy blaid yw eu bod yn hynod de'by,g i'w gilydd. ymddangos-I ant yn cefnogi yr un egwyddorion; a dadgana un o bapyrau Democrataidd blaenaf New York y gallai yr un llaw fod wedi eu parotoi, a gallai y naill fanlawr fod wedi ei fabwysiadu gan y blaid arall heb fod yn dramgwydd mawr iddi. Nid oes o'r braidd yn y naill ddim a gythryblai y llall yn fawr, oddigerth iddi gael gwybod nad ei heiddo oedd. Yn llawer o'r adranau y mae y dad- ganiadau yn hynod gyffelyb, a'r unig wahaniaeth amlwg ynddynt yw fod y naill yn perthyn i'r naill blaid a'r Ilall i'r Ilall. Y mae y ddau fanlawr yn unfryd yn eu cefnogaeth a'u mawrygiad o Ameri- caniaeth; gofyna y ddau am barod- rwydd digonol yn llyngesol a byddinol; y mae y ddau yn gefnogol i welliantau cymdeithasol, gweithfaol, gofal am lafur, parch i'r gweithiwr, hawliau plant, gwragedd a phob dosbarth o'r bobl; a chefnogant ddiwygiadau yn nghyfundrefn gwasanaeth y wlad. Daw y ddwy blaid allan bob un yn ei ffordd ei hun dros yr etholfraint i'r Merched; ond ni enwir yr "hyphen" na Germani gan yr un. 0 ran dim penod- ol a phendant, gallai y parodrwydd fod yn ddarpariaeth i wrthwynebu Pry- dain. Ni chrybwyllir eu bod yn ofni Ger- mani yn arbenig. Y mae y ddwy blaid yn anmhenodol gyda hyn. Anfoddlona banlawr y Gwerinwyr y Democratiaid am na fyddai fwy cyfeiriadol a phen- dant, a gallai y Gwerinwyr ddwyn cwyn gyffelyb. Edrycha y ddau fan- lawr i bob cyfeiriad ond tua Germani. Y mae y ddau yn osgoi y llygad Ger- manaidd. Daw y tri banlawr, y Gwerinol, y Democrataidd a'r Blaenfynedol allan o blaid Americanisleth, undeb American- aidd, a theyrngarwch i America, &c., ond ni chyffyrddir yn ddigamsyniol a'r llwgr mewnol gododd hyn i sylw. Mae yr amlder geiriau yn gryn rhwystr i ni ganfod yn glir beth sydd yr ochr draw iddynt. Feallai y diflana y mwg (neu y niwl, beth bynag yw) ar fyr. Daw y Gwerinwyr allan dros yr eth- olfraint gydag "ond"; a'r Democrat- iaid gydag "ond" o fath arall. Coll- I farna y "New York World" y ddau fanlawr yn Chicago fel "banloriau rhagrith." Yn nglyn a Mexico yn unig y daw gwahaniaeth pendant i'r amlwg. Y mae y banloriau (y tri) yn gychwyn- iad da fel tae, ac yn ddiweddarach yn y deongliadau ar lwyfanau amrywiol y daw gwir egwyddorion a bwriadau y pleidiau i'r golwg. Os yw y pleidiau yn sefyll ochr wrth ochr yn ngorsaf y banloriau, fel dau dren, yn y man yr ymadawant, cawn weled i ba gyfeiriadau yr ant. Y mae yn rhy fuan eto i benderfynu.
Advertising
$100, GWOBR$100. Bydd yn dda van ddwllenwyr y "Dryali" gael gwylMd fo4 grryddom wedi darganfod fferdd t laohau o letaf un anhwylder per- yglus, set Catarrh, yn ei wahanol raddau. Hall's Catarrh Cure yw yr unig foddton hollol effetthlol t wneyd hyny. Afiechyd eyfansoddladol ydyw, a rhaid cymwyoo trtnlaeth gyfannoddtadol ato. Cymerlr Hall's Catarrh Cure yn fewnol, effeltnla yn vniongyrehol ar y ffwaed ao arwynebedd ltysnafeddol y eorff, now caffe y dyoddefv«*d Berth I gynerthwyo natur I weithto y drwg allan. Mae gan y perehenoglon y fath ffydd yn el rlnweddau meddygistaethol fel y eyn- yglant Gan, Dolar am unrhyw achoe fethodd laehau. Anfonwch am reetr 8 Ayetielaeth&u. Crteiliecl- F. J.CHBNET CO.. Toledo. 0,
-NODION 0 NEW YORK.I
NODION 0 NEW YORK. I Swn parotoi sydd yn mysg Cymry y dyddiau hyn ar gyfer cyfarfod ym- adawol Dr. a Mrs. Roberts, yr hwn a gymer le am wyth o'r gloch nos Iau nesaf, Mehefin 29, yn addoldy y Meth- odistiaid Calfinaidd ar West 155th Street. Croesaw i bawb ddod yno. Mae amryw o'r Cymry yn barod wedi gwa- hodd Dr. a Mrs. Roberts i'w cartrefi cyn ffarwelio a hwy. Yn mysg y rhai hyn, rhoddodd Mrs. Owen Evans lunch o'r fath oreu i Mrs. Roberts a tua deu- ddeg o chwiorydd o'r eglwys. Hefyd, Mr. a Mrs. Thomas Jones roddodd gin- iaw ardderchog i'r Dr a Mrs. Roberts a'r swyddogion a'u gwragedd. Bydd yn chwith genym ar ol y Dr. a'i briod wedi bod yma gyda ni dros ddwy flyn- edd ar hugain. ■Cafwyd amser difyr yn y picnic ddydd Sadwrn. Daeth cynulliad da yn nghyd.—R. C. Gwelsom hefyd Gymry eraill, sef T. B. Stevenson a'i briod, o Sardis, Ala. 'Cotton planter' yw Stevenson yn Ala- bama, a'i briod yn un o ferched dinas New York, sef Miss Hughes. Ar eu hymweliad a'n dinas cyfarfyddasant a 11 u o hen igyfeillion yn eglwysi 11th St. a 155th St.; lie y derbyniwyd hwy yn anrhydeddus. Hefyd buont drwy Wall St. a'r Cotton a'r Stock Exchange o dan arweiniad G. T. Matthews. Yn mhlith yr ymwelwyr a'n dinas yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y Parch. J. Tudor Lewis, gweinidog y Bedyddwyr yn Niles, 0., yn nghyd a'i briod. Y Sul yr oeddynt yn bresenol yn nghapel Plymouth, Brooklyn, gyda eu cyfaill G. T. Matthews, yr hwn a'u cyflwynodd i sylw y gweinidog a'r I blaenoriaid, a chawsant dderbyniad caredig.
[No title]
I Arthur E. Pierce. Uchod ceir darlun o Arthur E. Pierce, mab David A. Pierce, 32 Gart- side, Manchester, Lloegr; aelod o'r Royal Marines, Mediterranean Ex- peditionary Force. Bu yn y Dardan- j eles am dros 12 mis, a daeth drwy y cyfan yn ddyogel. Archadeiladydd ydyw wrth ei alwedigaeth, ac nid yw ond 23 mlwydd oed. Y mae yn cym- eryd dyddorde'b neillduol mewn mabol gampau. Efe enillodd y Running Championship y Manchester Tram- ways Sports, ac hefyd allan o 148 o gystadleuwyr y Bollington Mile Championship, yr hon a wnaeth mewn 4 mynyd, 16 eiliad. Y mae Arthur yn gefnder i Evan M. Edwards a John M. Edwards, Utica, a Mrs. O. G. Hum- phreys, Deansboro, N. Y.
ICoferolofn v Parch. 0. G.…
I Coferolofn v Parch. 0. G. Owen (Alafon). I Dymunir cydnabod a ganlyn gyda diolchgarwch y Pwyllgor: Mr. R. W. Williams, Plasyrhiw, Ysgoldy gynt $5.0,0 Parch. J. W. Morris, Poultney.. 1.00 Mr. O. Jones (Groeslon), Poult- ney 1.00 Mr. W. Jones, eto. 1.00 Mr. O. M. Griffith, eta. 1.00 Mr. J. R. Jones, Waenfawr, eto .50 Derbynir cyfraniadau gan R. O. Wil- liams, Ysgoldy, Cwmyglo, Carnarvon- shire, N. W.
[No title]
Rhoddodd Treibiwnlys Llanrwst, yn cael ei wneyd i fyny yn fwyaf o am- aethwyr, brawf tarawiadol o'u hystyr- iaeth i amaethyddiaeth trwy roddi rhyddhad i 49 o ddynion allan o haner cant o apeliadau. Bygythiodd y rhan fwyaf o'r amaethwyr os na chania- teid rhyddhad i'w dynion oedd gyda'r wedd, a'u bugeiliaid, y rhan fwyaf oeddynt eu meibion, y rhoddemt eu ffermydd- i fyny.
[No title]
Er nad yw awdurdodau Coleg Aber- ystwyth wedi dweyd gair, dywed cyf- eillion fod ganddynt resymau cryfion dros estyn blwydd-dal i Dr. Eithe. Gresyn na byddai modd clirio pob an- sicrwydd ar y wedd gyfrelthiol a moes- ol, a goreu po gyntaf i wneyd hyny er mw-yn y coleg. Gresyn yw magu oer- felgarwch rhwntg y (wlad a phrif <goleg Cymru.
NODION PERSONOL I
NODION PERSONOL I Bu y Parch. John W. Griffith, Ban- gor, Pa., yn bur wael yn ddiweddar, ond da genym hysbysu ei luaws cyfeill- ion yn y wlad hon a Chymru ei fod wedi gwella yn bur dda. Gwelsom ef yn Seiloh gyda'r gynulleidfa ddoe.— Cyfaill. Cyraeddodd cyfieithiad Anthropos o "Love of Country" Syr Walter Scott, ni o'r Hen Wlad, yn argraffedig fel pe wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiad Cymraeg. A wyr rhywun yn mha fodd y'i cyhoeddwyd? Nid oedd yn y gys- tadleuaeth yn Utica.—Gol. Fel hyn y can Cadle i'r bardd Dewi Gwenog: Croew gan y cywir Gwenog—dyr o draw Drwy y "Drych" yn rhywiog; Hwyliog gar, pyncia fel cog 0 dwyn henaint anhunog. Wedi bod yn cadw maelfa ar 197 Heol Michigan, yn Milwaukee, Wis., am lawer o flynyddau, mae y cyfaill John D. James newydd symud i fan mwy cyfleus a chanolog, rhif 644 Heol Jackson, lie yr eiddunwn iddo bob Ilwyddiant eto yn y dyfodol. Cawsom air oddiwrth J. H. Roberts, Mt. Vernon, ei fod yn ymadael gyda'r 10fed Gatrawd, N. Y., am Mexico. Brodor o Ffestiniog, G. C., yw Mr. Roberts, ac yn aelod o Eglwys 11th St., Dinas New York, ac yn y wlad hon er's deng mlynedd. Yr ydym yn dy- muno dychweliad dyogel i Mr. Roberts. Teimla Index yn aflonydd er's talwm, ac un ffordd o gael ymwared o'r ysfa yw cyhoeddi llyfr arall; ei ddeg- fed. Bydd yn llyfr dyddorol, gydag enw yn werth 25c. Mae iddo hanes hefyd; aeth i golli a rhoddir yr hanes yn y rhagymadrodd. Ca y Cymry glywed eu dyledswydd yn nglyn ag ef ar fyr. Yr oedd y Parch. Henry R. Hughes, Plymouth, Pa., yn Utica ddechreu yr wythnos ar ei ffordd gartref o Plain- field, N. Y. Yr oedd efe yn un o'r gweinidogion a alwyd i gadw y gyman- fa bregethu yn Plainfield, He y cafwyd cyfarfodydd gwlithog. Cawsom gwm- ni Mr. Hughes yn y Swyddfa foreu Llun. Cawsom lythyr dyddorol oddiwrth ein gohebydd Thomas L. Williams (gynt o Granville, N. Y.) yn awr o Hastings on the Hudson, N. Y., lie y mae efe a'i gyfaill Owen Jones yn gweithio. Dywed mai yr unig Gymro sydd yn ymweled ag ef yn awr yw y "Drych," a'i fod yn fwy blasus nag erioed. Yr unig Gymraes yn y lie yw ei fodryb, Mrs. John McClave, a hys- bysa fod ei bachgen ieuengaf (ugain oed) wedi pasio ei arholiad i fod yn feddyg. \Cyngorwn ein gohebwyr i fod yn hirymaros; ac os na welant eu cyn- vrchion yn y "Drych" hwn, byddant yn debyg o'u gweled yn y nesaf. Yr ydym wedi awgrymu droiau fod y "Drych" yn dal ei lond; ac weithiau llifa drosodd i'r nesaf. Meddyliwn weithiau am roi "I'w barhau" ar ddi- wedd pob rhifyn o'r "Drych," er cael ein gohebwyr i obeithio ac edrych yn mlaen. Y mae cryn lawer o le yn y "Drych," ond iddo gael amser a chwareu teg. Y Parch. E. S. Jenkins, Martin's Ferry, 0., a ymwelodd a'n Swyddfa ar ei ffordd yn ol wedi bod yn gwasan- aethu yr eglwys yn Granville, N. Y., am ddau Sabboth. Teimlai yn anfodd- lon i fyned adref heb roi tro am ddinas y "Drych," a chawsom ymgom ddy- ddorol ag ef am y peth hwn ac arall. Y mae Mr. Jenkins yn mlodau ei ddyddiau, ac yn edrych yn dda. Bro- dor o Sir Aberteifi yw, ac yr oedd am alw ar y Parch. W. Caradog Jones, teulu yr hwn a adwaenai yn yr hen gartref. Yr oedd hefyd am weled hen gydnabod ar Jefferson Ave., sef Hugh Hughes. Cymro parchus arall y cawsom y fraint o'i weled yn ein Swyddfa ddwy neu dair gwaith oedd y Parch. H. H. Parry, Brooklyn, N. Y., adnabyddus i ddarllenwyr y "Drych" a'r "Cam- brian." Brodor o Gaergybi yw Mr. Parry, er yn y wlad hon er's llawer o flynyddau. Yr oedd yn efrydydd yn ngholeg Colgate, sir Madison, N. Y., yr un adeg a Charles Evans Hughes, yr ymgeisydd am yr Arlywyddiaeth ar y tocyn Gwerinol, a chafodd y fraint un- waith o gysgu yn yr un gwely (a'r Arlywydd go'beithiwn). Hyderwn na siomir ef. Yr oedd yn adwaen ei dad hefyd yn dda. Hysbysa Gwilym Ddu, Lansford, Pa., farwolaeth John Stephens yn 50 mlwydd oed, ddydd Mawrth, Mehefin 20, ar ol hir gystudd o'r cancr yn nghartref ei frawd, Robert; dyn tawel a chymwynasgar. Claddwyd ef ddydd Gwener, ar Summit Hill yn mynwent y Gwroniaid, y Parch. Mr. Ball, gwein- idog eglwys yr A. Seisneg, yn gwein- yddu. Sabboth, yr 18ifed, y Parch. Theophilus Davies, Miners Mills, Pa., oedd yn gwasanaethu yn eglwys Gym- reig Ashton; yn y boreu yn Gymraeg a'r Seisneg yn yr hwyr. Nid oes rhaid canmol Mr. Davies; un o ddysgyblion Rhydderch ap Morgan. Brodor o Aberafon yw.—Gwilym Ddu. Oni ddywedais i chwi am ddychwel- iad y blaid Werinol? Dywedais nad oedd plaid Lincoln ddim i farw, ac na fyddai i'r iblaid roddodd ei bywyd yn aberth i achub yr Undeb, yn nghyd a symud ymaith y llecyn du o gaethwas- iaeth oddiar gymeriad llywodraeth yr Unol Dalaethau ddim i gael ei di- ddymu. Na, na; wele ddyn o anian- awd ac ysbryd egwyddorol Lincoln wedi cael ei benodi; ie, ei benodi hefyd gan y werin bobl, a Charles Evans Hughes yw ei enw; cymjrawd o waed ac o allu iawnol, ac yn wladweinydd teil- wng o weriniaeth rhyddfrydig yr Unol Dalaethau. Uned Cymry y wlad yn glybiau gwerinol cyfaddas i'w gefnogi tuag at ei osod yn sicr yn sedd uchaf y weriniaeth Americanaidd a'r byd.— D. F. Lewis. Penderfyniad o gydymdeimlad ar farwolaeth y Parch. T. C. Davies, Willows, Calif.: Yn wyneb y newydd blin o farwolaeth y Parch. T. C. Davies, gweinidog hynaf ein dosbarth, a'n Cyfundeb yn yr Amerig ac yn wyneb ein parch i'r hwn fu yn ymwel- ed a ni i dori Bara y Bywyd in heg- lwys ar St. Clair Street, laweroedd o weithiau, ac a fu gyda ni mewn llawer amgylchiad neillduol yn hyfforddi a gweithredu, penderfynwyd ein bod yn dadgan ein gofld yn y golled hon, ac win f-Lj yn anfon ein cydymdeimlad at ei weddw a'i blant yn eu galar, gan eu cyflwyno yn ein gweddiau i ofal tyner ein Tad nefol. Penderfynwyd hefyd ein bod yn anfon y penderfyniad hwn i'w gyhoeddi yn y "Drych," ar ran eg- lwys. Fethodistiaid Calfinaidd Cleve- land, Ohio.—S. W. Griffiths (Gwein- idog). Vaynor, Queen's Avenue, Porthcawl, South Wales: Gwelais nodyn yn y "Drych" gan fy nghyfaill Idris o'r Llwyn yn holi am danaf, y carai wy- bod a ydwyf ar dir y byw. Dymunaf hysbysu fy mod yn fyw, ond wedi fy analluogi i ysgrifenu dim. Yr wyf yn gal-lu cyfansoddi yn y gwely, yn y gadair, ac ar y. ffordd, ond yn rhy grynedig i ysgrifenu gair ar bapyr. Yr wyf yn cael y "Drych" bob wyth- nos, ac yn ei ddarllen gyda bias ac adeiladaeth. Yr wyf yn gwneyd fy nghartref gyda nith i mi yn Porthcawl. Y mae yn dyner a gofalus iawn o honof. Y mae dyddiau henaint wedi fy nal, ac wedi dod a'i gwmni gydag ef—gwallt gwyn, llygaid wedi pylu, clywed yn drwm, y lleferydd yn floesg, a'r breichiau a'r cluniau yn grynedig. Mae y ty o glai yn dod i lawr yn gyf- lym. Felly y mae ar Athrywyn yn awr. Cofion cynesaf a'r dymuniadau goreu i Idris o'r Llwyn, y Gol., a holl ddarllenwyr y "Drych."—'Morgan A. Davies (Athrywyn).
[No title]
SUB-LIEUT. RICHARD L. PHILLIPS. Mab i William a Mary Phillips, Min- ffordd, Penrhyndeudraeth, G. C., a gollodd ei fywyd trwy suddiad yr H. M. S. "Tara" yn Mor y Canoldir yn mis Tachwedd diweddaf. Cyfansodd- wyd y farddoniaeth ganlynol er cof am dano gan ei dad, y bardd Dwyryd. Yn y gad, fy machgen gwyn a gwympodd Trwy gamp waith y gelyn; Ofnadwy erch fynydyn, I mi oedd, er ameu hyn. Y "Tara" trwy erch faterion—a sudd- Gan droseddwyr creulon; (wyd O'r "Tara" ein Rhisiart tirion Aeth i'w fedd am byth o Fon. Yn yr Aifft, lie mae yr lor—yn wyliwr Ei wely mewn dyfnfor; Yn gweled mae gwaelod mor, A Rhisiart fwyn, fy nhrysor. Gwr anwyl, hawddgar hynod—oedd Hardd rosyn ei briod; (Rhisiart A thad call, mawr fu'r trallod I awr ddu ei farw ddod.
IMarw vn Nerhymm.
Marw vn Nerhymm. Claddwyd un o ragorolion y ddaear yn mynwent Llanycil, ger y Bala, G. C., yn ddiweddar, sef Mrs. Jones, priod Mr. John Jones, fu am flynydd- oedd yn byw yn nhy capel Clwyd St. Rhoes Mr. Jones y swydd o geidwad y capel i fyny o herwydd afiechyd. Bu Mrs. Jones yn wael am flynyddoedd, ond pan welsom hi ddiweddaf, ychydig wythnosau yn ol, ar ei dychweliad i dy ei mab yn Nghorwen, o Birming- ham, lie y bu yn aros am dymor gyda'i merch, Mrs. Sitch, yr oedd wedi gwella llawer, a dysgwyliem y cawsai adfer- iad llwyr. Symudodd o Gorwen i'r Bala, cafodd anwyd, a bu farw yno yn nhy ei merch. Merch oedd Mrs. Jones i'r hen frawd gwreiddiol a da, "Wil- liam Williams, Caer," fu am rai blyn- yddoedd yn ddiacon yn Clwyd Street. Ymfudodd hi a'i phriod i'r America yn 1882, a buont am dymor yn geidwaid capel yn Venedocia, 0., a dychwelas- ant i ymgymeryd a'r un gwaith yn Clwyd Street ryw ddeunaw mlynedd yn ol. Nid dynes gyffredin oedd Mrs. Jones, ac y mae darluniad y Gwr Doeth o'r wraig rinweddol yn ddesgrifiad lied gywir o honi. Y mae mab a merch iddi yn yr America, ac y mae yno lawer iawn o gyfeillion i'r teulu.— Huwco Penmaen.
I MANION 0 VANCOUVER. B. C.
MANION 0 VANCOUVER. B. C. Cawsom dywydd hyfryd yma yr wythnos ddiweddaf. Yr haul yn cynesu yr hen ddaear aphob peth yn tyfu yn ardderchog. Er yn lied gynes nid yn rhy boeth, gan fod awelon yn disgyn oddiar yr eira o'r mynyddoedd, ac awelon balmaidd y mor yn chwythu yn dyner arnom. Cymerwyd mantais gan ganoedd heblaw yr ysgrifenydd i ymsuddo a nofio yn nyfroedd brwd yr ymdrochle yn English Bay. Golygfa heb ei chydmar ydoedd gweled canoedd o wyr a gweision, gwragedd a Iphlant yn mwynhau eu hunain yn nyfroedd y mor tawel, heb yr un don i'w peryglu. Dydd Gwener, Mehefin 16, rhodd- wyd gweddillion y diweddar Robert Jones i orwedd yn mynwent Mount Pleasant. Cyfarfyddodd y cyfaill hwn a'i ddiwedd tra wrth ei orchwyl yn Granby Bay, B. C. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Peter Gray Evans. Deallwn fod y cymrawd John O. Jones wedi symud i Nelson. Bralwd, yw ef i Cadben Harri Jones. Dydd Mawrth, cadwyd cyfarfod coffadwriaethol i'r diweddar Kitch- ener, a thalwyd teyrnged uchel iddo fel milwr a dyn. Parhau i fyned, ymaith y mae bech- gyn y Cymry fel nad oes ond ychydig yn aros, ac anhawdd ydyw ysgrifenu hanes yr hen genedl gan eu bod yn awr ar wasgar. Llonder i'n calon ydyw gweled gwyneb hawddgar y "Drych" bob wythnos.—Mwnwr.