Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Tanforolyn. Ddinystriol danforolyn—llofruddiwr Llwfreiddiaf y gelyn; Arf dilais; fedd dyfais dyn Ymosodwr mwy sydyn? TRGSERCH. Wvt ti'n medru Cwcio ? Cyflwynedig i'r Gol. Wyt ti'n medru cwcio, Fy ngeneth, anwyl, ddel, A gwneuthur torth o fara Heb fod fel darn o shell; A pharotoi y cigfwyd, A chrasu teisen rich, Heb fod yn dod o'r pobty, Mor ddu a lwmp o bitch. Wyt ti'n medru cwcio A gwneuthur bara hrith, A phwdin lwmp Nadolig Heb deimlo'n ddwl a chwith; A gwneyd y gwelyau yn daclus, A thrin y nodwydd ddur, Ac edrych yn garuaidd, Heb droi dy drwyn yn sur? Wyt ti'n medru cwcio A chadw'r ty yn lan, A pheidio bod yn slebog Or-ddiog wrth y tan? Mae llawer llencyn gwylaidd Yn chwilio am y ferch All gadw cartref dedwydd, A gwir deilyngu'i serch. iMODRYB StHANW. o "Y Ddwv Delyn." (Yn ddiweddar, cafwyd hen delynor yn marw ar Hirwaun, D. C. Tynodd ei anadl olaf ar drothwy tloty Merthyr). Bu ar y waun helyntion dwys Ond pruddach ni fu'r lloer Na p,han roi cerddor tlawd ei bwys Ar ei gobenydd oer. Mae'i fysedd ar ei delyn fwyn A roes i'w glwyfau falm; Ond awel leddf yr hesg a'r brwyn A chwery'i holaf salm. Bendithiwyd a llawryfon gynt Ar lwyfan Gwalia wen; Ond llaw rhyw estron ar ei hynt Sy'n awr o dan ei ben. Fe'i cludir ef dros ddol a rhiw Am lawer milldir faith, Ond datod wna'i linynau briw Fel tanau'r delyn laith. Mae'i ysbryd balch yn angeu'n gry', Ei galon dyr yn ddwy; A chroesa at ei delyn fry A riniog tloty'r plwy'. Aberdar, D. C. OGWEN. o Claddu vr Annuwiol. Arafa awen; pa rhyw destyn syn, Fel breuddwyd erch i'th wynfa dlos a fyn Ymwthio, gan ddileu dy dawel hedd? Ai oni wyddost ti mai megys cledd I'm hysbryd egwan ydyw gwybod ddod I'w olaf hun, un gwr didduw, diglod? Arafa awen; nid yw ysig fedd Yr annuw, ond fel porth i wlad ddi- hedd! Claddu'r annuwiol! 0, fy awen syn, Pa ryw orchestwaith erch, a du, yw hyn A roddwyd it'? Ow, weledigaeth lom; I'r galon wyl, wyt megys penyd drom. Tro ymaith enyd; aros, dduwies wen; Ac ystyr gladdu'r duwiol; tan y nen Ni chaed ei harddach; yno yr oeddi Goreuon yr ardaloedd, oil ar goedd, Yn moli am rinweddau preiffion lu, A dagrau'r dorf yn tystio, pa mor gu, A chain ei fywyd, er ei eni'n dlawd; Ac na ddaeth iddo wlithog wenau ffawd. Gysured ydyw claddu un fel hyn, A dreuliodd oes o fywyd santaidd, gwyn, A sugna'i nerth o ludded Gwr y Groes, A ymdawelai, gan nad beth y loes? Nid oedd marwalaeth egr iddo ef Ond megys cenad lor i'w ddwyn i'w nef! Claddu'r annuwiol? 0, ragluniaeth Duw, Ryfedded yw dy drefn i ddynolryw? Dy wen, dy ffafr, dy fendith gynes gref, Ar lwybr hwn, mewn llawer gwlad a thref A geir; tra'th saint, er swyn y galon bur, Yn cwyno'n drwm, gan ingoedd loes a ehur. Ef uwch ei ddigon, heb ystyried clod Yr Hwn gyfrana'r oil i'w fyd a'i fod. Rhodia yn falch ar hyd ei lwybr ir; Ystyr yn fanwl ei ganoedd erwau tir; Gwel ddydd yr addfed rawn yn dod o draw, A'i gnwd enillgar; gwel yr haul a'r gwlaw, Yn pryAir brysur ar bob bryn a maes. Ychydig enyd, a daw'r pladur laes I gasglu'r oil i'w ysguboriau clyd, Gan ymlid ymaith ofn ynllwyr o'i fyd! Ond 0, fyddared yw i'r lleisiau lu, Gyhoedda fawl a chlod ei Grewr cu. Gwel hwn ei feusydd yn ymdoni'n lwys, Fel dwyfol gynganeddion heirdd a dwys. Gwel ddisgyn gwlaw fel bedydd Duw i'w dir, A phelydr haul, fel yna'i gynyrch ir. Clyw su yr awel, ond, ni chlywa fwy Yr hyfryd lais lefara'n gyson drwy Yr oil, am fryd a chalon rasol Duw, Ddarpara'n ddyddiol idd ei fywyd gwyw. Mor falch ei drem; aflaned yw ei lef; Try'n wawdiwr hyf, tan lewyrch gras y nef! Tery y Llaw fu'n estyn at ei raid; Llusga yr Enw mwyaf mawr trwy laid Ei lwon a'i regfeydd; un dim ni fedd Sy'n santaidd ganddo! Onid gwledd I'w enaid ydyw ystyr loes Goreuon Duw mewn rhin a moes? Ond leied a wyr ef, y gwelant hwy, Trwy lif eu dagrau, wlad heb ynddi glwy' Yn ddarparedig wobr seintiau Duw, A'r annuw wedi dod i'w ddiwedd gwyw! Claddu'r annuwiol? Onid claddu un Ddirmygodd lewyrch llathraidd Go- baith cun? "Y gobaith bywiol" rydd ar fywyd wen, A bri byd arall, er ei fynd yn hen, A'i cadwai'n lion ei fryd, er gwaetha'r bedd, Gan ddwyn i'w enaid, ddwyfol, nefol hedd! Gynygiai iddo ran yn mhlith y rhai Sy'n 'byw ar fin y ffynon fawr, ddidrai, Fed na ddoi loes, na phrofedigaeth ddu I darfu ar ei lwys drysorau lu. Ow, brudded yw ei fyd, fel erchyll nos, Heb yn ei wybr lewyrch seren dlos, J ddangos iddo y tudraw i'r bedd, Y bywyd gwyn, heb derfyn ar ei hedd! Claddu'r annuwiol? Claddu adyn gwyw, A'i wysio'n ddiymgeledd ger ei Dduw! Yn noeth, yn dlawd, resynus wr, a dall, Heb ar ei enaid llwm ond delw'r fall,! Ger gorseddi Duw, y Duw a wawdiodd ef, Gan gablu swyn a gras ei dyner lef. Chwarddodd yn wyneb ei dirioni hael, 0 ddydd i ddydd, a ddeuai mor ddi- ffael; Sathrodd ei ddeddfau santaidd tan ei draed, Barnodd yn aflan, rin y dwyfol waed. Ac edrych enyd ar ei hagr wedd, Mae eiliw gwan o'r uffern lom, ddi hedd Y cerddodd iddi trwy ei fywyd erch, Fel pregeth hyawdl ar y fro ddiserch! Ystyr y dyrfa yn ei hebrwng sydd Heb ddeigryn loes, na hiraeth ar ei grudd; Heb arwydd cydymdeimlad ar ei arch, Yn fud, heb air am glod, na rhin, na ipharch. "Daear i ddaear," mor briodol ydyw'r Ilef, Onid y ddaear iddo ef fu'n nef Ei enaid? Ni cha'dd Duw, nac arall fyd, Erioed dderbyniad gan ei egr fryd. Mesur ei fywyd glwth, o ddydd i ddydd, Oedd cnawd a mater; er i lewyrch ffydd Ddadguddio iddo'r gospedigaeth sydd 0 hyd yn aros yr annuwiol brwnt, Yn boenedieaeth fythol y tuhwnt 1 leni amser. Onid hyn ei lef? Fod digon daear iddo ef yn nef; Mai ofer son am Dduw a Gwynfa glyd, Yn nghadw iddo, mewn rhyw arall fyd! "Daear i ddaear," a'r annuw idd ei fedd, A chydag ef, ei enw'n gas di hedd; Mewn annghof hollol, dderfydd fel o'r tir; Y Da yn unig sydd a'i goffa'n ir. Randolph, Wis. 4 TEGFRYN.

I -YMA A THRAW.

YN EISIEUI

EGLWYS BETHESDA (A.) I UTICA.…

j I ihyoo ) Bob Meddwi el…

I LLITH 0 LINN GROVE. IOWA.

[No title]

YMOFYNIAD AM

PICNIC BLYNYDDOL CYMDEITHAS…

Advertising