Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
NODIADAU CERDDOROL.
NODIADAU CERDDOROL. Gan Peter Edwards, Mus. Bac. (Pedr (Alaw). Adolygiad.—Rhaid yr wythnos hon alw sylw at ddarnau anfonwyd i'rI swyddfa hon i'w hadolygu, a chan mai darnau Saesneg ydynt, goddefer i mi wneyd nodiadau arnynt yn yr iaith hono. Messrs. Fischer & Brother, New York, are the publishers of four Part songs, for mixed voices, 'by Arthur Hinton, a London Professor of Music. They are entitled (a) "I dare not," words by Robert Herrick (1591- 1674); Ob) "Cherry Ripe," words again by Herrick; (c) "Sleep," words by John Fletcher (1579-1625); (d) "The Message," words by Thomas Hey- wood (1575-16,5,0). (A) So we have here the thoughts of writers of the sixteenth and seven- teenth centuries clothed in twentieth century musical garb. The Composer gives evidence of great skill in the manipulation of his material. In (a) we have a part song written mostly in the Madrigal style—there being sus- tained interest in the melodies throughout. It is a clever piece; at times daring in harmonic combina- tions, but the composer gets the effects desired, and really produces a very vivid tone picture. In addition to a sustained interest by virtue of rich harmony, we have different move- ments in new Keys. This is, a telling piece of music, well worth learning. (B) We are all familiar with the words of "Cherry Ripe," as also with the pretty, yet simple, music associ- ated with them. At first sight, it would seem a pity to disturb the old familiar setting of the words, but, ag Tennyson says, the old order changes and must, forsooth, give place to the new. Say what you will, the old "Cherry Ripe" music was (as Dickens would say) "as near to nature as possible." One selling cherries would —if doing so in song—just offer them in that way. Here, however, the music is more elaborate and intricate. There is more art, more striving after effect, and the effect is obtained more perhaps by the way of art than of nature. (C) "Sleep" is, as its title suggests, a reposeful piece of music on the whole; but the varied thoughts of the poet always receive adequate musical treatment-even though some of the harmonies, or dissonances we should say, are startingly daring. But the Composer knows well what he wants, and gf.õts it. As a whole, this also is a clever piece of music. (D) This piece, entitled "The Message" appeals principally by reason of pretty melody. It is the most captivating one of the four, and can be strongly recommended. Indeed each of the pieces above referred to is well worth study and practice. Our Welsh Choral Societies should get acquainted with this Composer. He has a good, deal that is new to tell them in Music. J. Pryce Hughes.—Ymddangosodd darlun o'r cerddor hwn yn ddiweddar yn y "Drych." Cefais lythyr oddi- wrtho yn hysbysu mai hen ysgrif oed,d odditan y darlun; un ymddangosodd yn y "Cerddor" flynyddau yn ol. Felly, deallir nad ydoedd yn gwbl bwrpasol i'r amgylchiad o'i arwisgiad fel "Fellow." Dymunaf longyfarch Mr. Hughes ar ei lwyddiant yn cyraedd y radd uwchaf all Coleg y Sol-ffa ei rhoddi. Bydded iddo hir oes i wasan- aethu'r gan yn yr Hen WIad. Y mae swn a swyn ei fiwsig wedl cyraedd yr ochr hon i'r Werydd. Aed led-led y byd!
IMABEL ANN WILLIAMS. POSTVILLE.…
MABEL ANN WILLIAMS. POST- VILLE. NEB. Gan W. W. Hughes. Yr wythfed o Mehefin yr oeddym yn rhoi gweddillion ein hanwyl chwaer, Mabel Williams, i orwedd yn mynwent Postville. Geneth anwyl iawn ydoedd Mabel; un ag oedd yn hoff gan bawb; a thra nad oedd ond 25 oed, fe welodd yr Arglwydd yn dda ei chymeryd hi oddi arnom. Merch ydoedd i'r diwedd- ar Mr. a Mrs. J. D. Williams o'r ardal hon, a daetbant i'r wlad hon o sir Aberteifi yn 1870, ac yr oeddynt yn gefn mawr i'r achos yn Postville hyd eu bedd. Yn Postville y ganed Mabel yn y flwyddyn 1890, a bu yn yr ardal hon yn byw nes marw ei mam yn 1912. Tra yr oedd yn byw yma, yr oedd yn aelod parchus o'r eglwys, ac yn flaen- llaw gyda chyfarfodydd y bobl ieuainc, ac yn barod i wneyd ei rhan gyda'r achos er peri llwyddiant i deyrnae Crist. Bu yn chwareu yr organ yn nghapel y Cymry yma am gyfnod, ac yn gwneyd y rhan hono o'r gwaith yn gampus. Yn 1912, symudodd oddi yma i Grand Island, Neb., i'r ysgol, ac fe aeth trwy gwrs o addysg yn Ilwydd- ianus er ei chymwyso i fod yn steno- grapher. Wedi hyny bu mewn bank yn Hartington, Neb., am tua blwydd- yn, ac oddi yno yr aeth i Grand Island drachefn a bu yn gweithio i'r Cwmni Dolland Fruit Co. am tua dwy flynedd. Oddi yno y daeth at ei brawd sydd yma, sef W. R. Williams, a bu yma am dair wythnos, ac i bob ymddangosiad yr oedd yn igraddol 'wella, ac fe dyb- iodd y buasai yn ymweled a'i chwaer yn Cody, Neb., sef Mrs. Ellis Williams, ac yno y bu am ddwy wythnos, a phan yr oedd ar fedr dychwelyd drachefn at ei brawd, daeth yr alwad i'w chartref fry, ac ar y 5ed o Mehefin, ehedodd el hysbryd tyner hi at yr hwn a'i rhoddes. Cymerodd yr angladd le yn myn- went Postville, a gwasanaethwyd gan y gweinidog. Yr oedd llawer wedi dod at eu gilydd i gael yr olwg olaf ar Mabel, ac, 0, y teimlad dwys oedd wedi meddianu pawb. Rhoddwyd hi I or- wedd mewn tangnefedd, gan adael ar ei hoi i alaru ddau frawd a dwy chwaer, sef J. P. Williams a W. R. Williams o'r ardal hon; a Mrs. Ellis Williams, Cody, Neb.; a Mrs. Vickers, Tacoma, Washington; a llawer eraill o berthynasau a chyfeillion. Nawdd y nef fyddo dros eu holl berthynasau.
IFY YMWELIAD A -SHARON, PA.
I FY YMWELIAD A SHARON, PA. Gan Win. M. Jones, Martin's Ferry, O. II. Tra yn Sharon am ran o dridiau a dwy nos aroswn yn nghartref clyd Mr. a Mrs. William Morgan, Wheatfield Heights, hen gydaelodau a mi yn eg- lwys Calfaria, Llanelli, am flynyddau. Mae Mr. Morgan yn un o ymddiriedol- wyr y capel Cymraeg, ac mae yn ddyn y gellir gyda'r eofndra mwyaf ymddir- ied ynddo. Mae'r brawd da hwn yn rhy gywir a gonest i'r diafol ei hun ei hudo i weithredu twyll a gwneyd cam a neb. Mae Mrs. Morgans yn hanu o hen gyff enwog y Morrisiaid Calpel newydd; ac ewyrth iddi (brawd, ei mam) oedd y gwr athrylithgar a'r pregethwr digyffelyb, braidd na ddy- wedaf yr anfarwol, y Parch. Dafydd William Morris (Marmora). Adwaen- em ef yn Nghymru fel Morris, Cwm- sarnddu, neu Morris Cwmtwrch, ond am dros yr ugain mlynedd olaf o'i fyw- yd, ymaelododd yn nghapel Gomer, Abertawe, a gwasanaethai yn fisol rai o'r eglwysi cylchynol. Cadwodd ei gryman yn ddysglaer a miniog hyd ymyl y pedwar ugain a deg. Yr oedd o ran ei gof, ei ddoniau gweinidog- aethol, a'i ddull arbenig o bregethu, yn ol dull yr hen drioedd Cymreig, a rhwyddineb ymadroddi, yn ffefrddyn fel pregethwr cyrddau mawr yn Nghymru. Gyda rjiwyddineb y gallaswn ysgrif- enu am oedfaon rhyfedd a dygwyddiad- au neillduol yn hanes gyrfa weinidog- aethol a chymdeithasol y cawr hwn o fynydd Duw. Yr wyf yn cael fy nhemtio i nodi y dygwyddiad hwn, Cwrdd Mawr yn Carmel, Pontlliw, mis Medi, 1870, Morris Cwmtwrch (y pryd hwnw), a chawr arall o fynydd Duw, yr hyawdl R. D. Roberts, Llwynhendy, yn cydbregethu, ac ni fu dau yn Nghymru yn fwy poblogaidd gan y werin am flynyddau lawer na'r 'cewri uchod. Nos Sabboth, yn y cyfarfod a nodais, yr oedd dau i bregethu, a de- chreuodd Dafydd Morris y cyfarfod trwy ddarllen rhau o'r Gwirionedd, fel yr arferid. Yna wele wr Duw yn troi ei wyheb tuag at orseddfainc y gras, a phan welwyd ef yn gosod ei law ar ei glust, ac yn ei symud ol a blaen, gwyddai y rhai oedd gyfarwydd a Daf- ydd Morris, fod hyny yn arwydd ei fod yn y cywair priodol, ac nid hir y bu- wyd cyn canfod fod Gorchfygwr gyda Duw wrth gyrn yr allor, a'r gweddiwr amryddawn wedi ymgolli dan ddylan- wad yr ysbryd tragwyddol wrth ar- wain y gynulleidfa o lys yr Archoffeir- iad, yn nghwmni yr Iesu ar noson ry- fedd y gwadu, croesi afon Cedron, ac erbyn cyraedd golygfeydd fythgofiad- wy yr Ardd, a hen ddiaconiad Carmel, y duwiol Shon Phillip a'i "Amen" fawr a llydan, Daniel Lewis, Pal Mawr, a'i "Felly" yn llanw y capel, at Thos. Clement o'r Twyn a'i "Fendi- gedig" swynol. Erbyn hyn, yr oedd yr holl gynulleidfa wedi ymgolli i bob peth daearol, ac ar yr uchelfan hon dystawodd y gweddiwr, a daeth yr "Amen." Wedi canu emyn o fawl, wele wr, Duw o Llwynhendy yn esgyn i'r hen bwlpud faach ag oedd yn hongian, rhwng nen a llawr, a phan oedd Roberts yn agor y Beibl mawr, yr oedd y dyrfa yn gwylio gydag edmygedd arno yn agor ei enau llydan a Chym- raeg, gloew. Darllenai ei destynau bob amser gyda'r eglurder a'r hyawdl- edd mwyaf, a'i destyn y waith hon oedd, "Cleddyf yr Arglwydd a Gideon," ac ni raid dweyd na hwyliodd yr hen Lwynhendy, chwedl Robert Jones, Llanllyfni, am dano, ei long fawr i borthladd yr "Amen" yn full sail. LLWYTH 0 DANBELENAU. Wedi gorphen o Roberts, dysgwylid gydag edmygedd tu hwnt i'r cyffredin am ymddangosiad Dafydd Morris yn y pwlpud, gan fod dau i bregethu, ond nid oedd unrhyw arwydd o symud i'w weled. Eisteddai Morris y pryd hwn yn ymyl Thomas o'r Twyn, yn nghwr uchaf y sedd fawr. "Dafydd Morris," meddai Thomas, "yr ydych i bregethu ar ol Mr. Roberts." Ond nid oedd dim yn tycio, eisteddai a'i law dan ei ben fel pe mewn myfyrdod dwfn. Gwr mwyn a thawel oedd Thomas o'r Twyn, ond dacw yr hen Shon Phillip, diacon mawr Carmel y pryd hwnw yn symud i gyfeiriad Dafydd Morris, ac mewn llais cryf a'i law ar ysgwydd y brawd Morris mynegai yn eglur iddo, "Yr ydym yn aros wrthych chwi i bregethu pregeth olaf y dydd, ac ar darawiad, mewn modd eglur, atebodd Morris, "Yr wyf wedi pregethu unwaith i chwi." "Nid heno," meddai Shon." "Ie, heno," meddai Dafydd Morris, ond wedi ail ystyried, a chadarnhad Mr. Roberts, mai d.echreu'r cyfarfod a wnaeth, wele Dafydd Morris yn y pwl- pud, a mwy na llond y capel yn gwyl- ied gyda'r edmygedd mwyaf. Eto wele'r Beilbl Mawr yn cael ei agor, a'n testyn yn cael ei ddarllen, a chyn gor- phen o hono yr adnod oil, wele y llaw yn cael ei symud tua chyfeiriad y glust ac yn glywadwy i bob! y sedd fawr, y dywedai Daniel o'r Pal, "Mae'n all right." Testyn Dafydd Morris oedd, "Eli, Eli, lama sabachthani," hyny yw Fy Nuw, Fy Nuw, paham y'm gadew- aist." Hawdd oed,d deall fod llond enaid y llefarwr o ysbryd y Gwr a lef- arodd y geiriau rhyfedd uchod. Dis- gynai yr "Amenau" fel cawodydd ar laswellt, a'r dagrau fel gwlith ar ir- wellt, oedfa rhyfedd oedd yn hanes cewri Duw, ac yn eglwys Car.mel bu son dani am flynyddau lawer, ac hyd heddyw nid yw ei hargraff wedi di- flanu. Ymddiheuraf i'r Gol., ac erfyniaf am faddeuant y darllenydd am y nodiad hwn, gwaith anhawdd oedd poasio heib- io iddo pan yn dod i gysylltiad mol" agos yn America a pherthynas mor agos i gymeriad mor eithriadol. Dy- laswn nodi i mi gael manylion hanes yr oedfa a nodais gan y diacon duwiol Sion Phillip, Carmel, Pontlliw. Gwr cadarn oedd Shon ar ei liniau ac yn ddiail am ei dduwioldeb. Mae rhai o'i gyngorion yn fyw yn fy nghof heddyw, er ei fod yn y nefoedd er ys pump a deugain o flynyddau. Wel, son yr. oeddwn am deulu William Morgan, Wheatland Heights, Sharon. Mae hanes eu teulu hwy yn debyg i hanes fy nheulu inau: saith o blant. pedair merch a thri mab. tri o deulu Mr. Morgan, a phedwar o'm teulu inau yn briod, ond y gwahaniaeth mawr yw fod Mrs. Morgan yn fyw ac iach, ac yn llond cartref o fam i'w phlant, ac yn ymgeledd gymwys a pharod i'w phriod, pan mae fy anwyl briod inau yn mhriddellau oer ei beddrod, a'm car- tref yn wag heb fam a phriod. Cefais gerydd llvm gan Ddrvcbwyr Sharon am na fuaswn yn fwy ffyddlon i faes y "Drych." Cefais garedigrwydd mawr gan bawb y daethym i gysylltiad a hwy yno, a bydd cofion melus genyf hyd -fy medd am yr ymweliad hwn. Cofion caredig at bawb.
MEWN CWRDD GRADDIO. I
MEWN CWRDD GRADDIO. I Emporia, Kans., Mehefin 14eg.— Heddyw'r boreu cawsom y fraint o fod yn nghyfarfod y graddedigion perthyn- ol i athrofa y ddinas uchod. Wedi pedair blynedd o ddiwylliant meddyliol a deallol, llwyddodd 27 o fechgyn a genethod ieuainc i ddringo i ddos- barth graddedigion yr athrofa, a boreu heddyw cynaliwyd cyfarfod dyddorol iawn yn mhrif adeilad yr athrofa i an- rhydeddu yr oil yn gyhoeddus, ac i gyflwyno iddynt eu tystysgrifau ath- rofaol. Yr oedd yr orymdaith i'r adeil- ad yn hardd a thywysogaidd yr olwg. Arweinid y graddedigion gan lywydd yr athrofa, yr ymddiriedolwyr, yr athrawon a'r athrawesau, a'r rhai oedd yn wahoddedig i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Dechreuwyd y rhaglen trwy fawl a gweddi, ac wedi cael unawd ar y crwth gan un o'r athraw- on, cafwyd anerchiad cyfaddas i'r ach- lysur gan y Parch. Henry Core King McClure, D. D., L1. D., Ilywydd Athrofa McCormick, Chicago. Yr oedd yr an- erchiad drwyddo yn rymus, fel y gall- esid dysgwyl oddiwrth un o allu a safle y gwr da uchod. Ei fater ydoedd, "Dylanwad Personoliaeth." Ymdrin- iodd a rhai o brif agweddau y bywyd dynol, a dangosodd y gwerth moesol sydd i ddylanwad personoliaeth y dyn sydd wedi dyfod i gyffyrddiad byw a'r Dyn Crist Iesu, yn yr hwn y mae pob peth angenrheidiol i gyfarfod ag eisieu pawb yn ddiwahaniaeth. Yr oedd' yn amlwg fod cenadwri y siaradwr yn cael argraff fuddiol ar y gynulleidfa, ac yn enwedig ar y graddedigion. Nid oedd y Parch. William Foulkes, D. D., llywydd bwrdd ymddiriedolwyr yr athrofa, yn bresenol, a manteisiodd y Parch. Henry Coe Culberston, llyw- ydd yr athofa, ar y eyfleusdra i dalu teyrnged o barch dwfn iddo fel dyn o allu a dylanwad mawr yn elberthynais a'r coleg. Y mae efe a Mr. L. H. Lewis, ma'b hynaf y diweddar fonedd- wr, L. W. Lewis, fel aelodau o fwrdd yr ymddiriedolwyr, yn cymeryd dy- ddordeb mawr yn y coleg uchod, ac iddynt hwy y perthyn y clod o sicrhau y radd o "D. D." i'r Parch. Robert Henry Jones, B. A., bugail eglwys Bresbyteraidd Gymreig Los Angeles, yr hwn yn flaenorol i hyny a dreuliodd naw mlynedd ddedwydd a llwyddianus fel bugail yr eglwys Bresbyteraidd Gymreig yn y ddinas hon. Yr oedd efe yn un o bedwar a anrhydeddwyd foreu heddyw a'r radd uchod, ac fe gymer ei holl gyfeillion fantais ar hyn i'w lon- gyfarch ar yr anrhydedd sydd wedi dyfod i'w ran, ac i ddymuno iddo hir oes yn ngwaith mawr ei fywyd. Llawenydd hefyd i'w holl gydnabod ydyw cael ar ddeall fod ei anwyl briod wedi ei hadfer o'i hafiechyd i fesur mor helaeth fel ag i ail afael yn ei, gofalon teuluaidd a myned oddi am- gylch eto i fwynhau golygfeydd ysblen- j ydd dinas yr angylion a'i hamgylch- oedd. Deued hir oes a ffawd teulu'r ffydd i ran y naill a'r llall ac i ran yr anwyliaid hoff a roddes Duw iddynt. I Dymunwn fanteisio ar y cyfleusdra t hwn i hysbysu cyfeillion y dilledydd medrus, T. H. Lewis, ei fod wedi dy- chwelyd o'r Gynadledd Bresbyteraidd yn Atlantic City, lie yr oedd wedi myned fel cynrychiolydd yr henadur- iaeth hon. Bu yn Efrog Newydd yn gwrandaw ar y Parch. John Hughes, M. A., Lerpwl, yr hwn oedd yn pre- gethu yn nghapel y Parch. Joseph Roberts, D. D. Bu'n Nghymanfa Rem- sen, dinas y "Drych," dinas Hebron, ac amryw leoedd eraill. Nid oes ball arno yn canmol y lletygarwch a gafodd yn mhob man, a'r sylw a dalwyd iddo gan Gymry'r Dwyrain. Pan gyraeddodd "brifddinas Talaeth Missouri, fe aeth ar el union i dabernacl mawr Bili Sunday, a synwyd ef gan faint y gynulleidfa, gallu a medr areithyddol y pregethwr, brwdfryded,d y bobl a nifer luosog y dychweledigion. Cafwyd ganddo ad- roddiad dyddorol iawn yn y seiat y nos o'r blaen, ac y mae ganddoeto y rhan olaf o'i adroddiad ar gyfer y seiat yr I wythnos hon. Bu ei ymweliad a Capt. D. J. Roberts, Efrog Newydd, yn elfen o ad- fywiad mawr iddo, a theimla na chyf- arfyddodd a gwell cyfaill erioed. 0 ran hyny, nid oes dim arall i'w ddweyd am Captain Roberts. Derbyniodd Mr. Lewis hefyd lawer' o fudd wrth wrandaw ar ganu da mewn gwahanol leoedd, a dim ond de- chreu son am gerddorion a cherddor- iaeth y mae "T. H. ar unwaith yn annghofio'r byd, a'r betws, oblegid y mae ei holl natur yn berwi o gerddor- iaeth.—H. P. M. do I
NODION 0 DDINAS CHICAGO. I
NODION 0 DDINAS CHICAGO. I Gan y Llwynog. I Y Sul o'r blaen, bu y Parch. John Parry Jones, o Long Creek, Iowa, yn Uanw y pwlpud yn eglwys Hebron. Brodor o Benrhyndeudraeth, G. C., ydyw Mr. Jones, a drosodd yn y wlad hon er's oddeutu blwyddyn. Y mae yn wr ieuanc deniadol, yn meddu ar Iais swynol, ac yn pregethu yr efengyl yn ei grym. Da iawn genym "bob am- ser fydd elywed bachgen ieuanc yn pregethu yr efengyl, ac nid dim arall; ofn fydd arnom yn ami wrth wrando ar rai o'n bechgyn ieuainc mai pync- iau y dydd fydd yn cael mwyaf o'u sylw, ac nid hanfodion anhebgorol crefydd yr Arglwydd Iesu. Mae yr hen gyfaill doniol R. D. Jones, neu yn fwy hyddysg i bawb o drigolion dinas y gwynt, Dick Jones, yn gwella yn d,da ar ol bod yn cwyno. Un dyddorol ryfeddol yw Richard. Mae rhai o'i ystoriau am hen drigolion y Penrhyn yn ddoniol. Clywsom ef yn adrodd un sydd yn werth ei chofnodi am yr hen gymeriad Jack "Partyn." Yr oedd Jack yn yr Ysgol Sul un tro pan ddaeth yr adnod hono i fyny "Gwyliwch a gweddiwch," a gofynwyd i Jack am esboniad arni. "Wel, mi ddweda i chi partners," meddai, "yr oeddwn i yn tori ceryg ar fin y ffordd y dydd o'r blaen, ac wedi myned a fy nghinio gyda fl. Pan ddaeth canol dydd eisteddais ar y twr ceryg i fwyta, ond fel arfer cyn dechreu rhoddais y bwyd i lawr wrth fy ochr, a chauais fy llygaid i ofyn bendith Duw. Tra yr oeddwn yn ceisio cael bendith ar fy mwyd, daeth hen gi y Bwlchgwyn a bwytaodd ef bob tamaid. Ydach chi yn gweld partners, yr oeddwn i yn gweddio, ond do'n i ddim yn gwylio." Rhagorol Jack, yr ydym wedi clywed ami i salach esboniad ar yr adnod. Da genym weled Mrs. Deudraeth Jones yn rrynychu moddion gras etc ar ol ei gwaeledd mawr, ac y mae yn edrych yn gwella yn rhagorol. Mae gwahanol gymdeithasau eglwys Hebron wedi uno eu hymdrechion, ac o ganlyniad wedi pwrcasu perdoneg ragorol o wneuthuriad Fischer Bros. at wasanaeth yr addoldy. Rhagorol iawn, ffryndiau. Yr oedd angen am un er's talwm, a diameu fod yr eglwys yn gwerthfawrogi ein hymdrechion. Mae yr Iforiaid deallwn am gael picnic eto eleni, ac wedi codi pwyllgor gweithiol i dynu allan y parotoadau. Cewch y manylion mor fuan ag y deu- ant allan o'r wasg.
GLASGOED. ARFON. I
GLASGOED. ARFON. I Gan Coedglas. I Bu cyfarfod blynyddol y Cyngor Plwyf yn nechreu Ebrill, pryd y dewis- wyd y swyddogion a ganlyn am y flwyddyn: LIywydd, W. T. Williams, Coedglas; is-lywydd, J. T. Roberts, Penllyn, a brawd i'r hen gyfaill W. T. Roberts, Wind Gap (cofion ato). Yn overseers, dewiswyd o'r newydd: R. O. Davies, Dinorwig Terr.; Thos. Parry, Fachell, a Owen Ellis, Carreg y Ga.th; erys y swyddogion eraill fel cynt. Yn Rhiwlas, cawn Mrs. Elizabeth Pritchard, Carreg y Gath, yn marw yn 68 mlwydd oed. Yn Penisa'rwaen, bu farw Mrs. Jane Hughes, priod Evan Hughes, Tai'rffvnon, ei henw morwyn- ol oedd Jane, Tanycoed, gan mai yno v magwyd hi gyda David Williams a Mary Williams. Thomas Roberts, Cae Corniog, yntau fu farw wedi cystudd byr. Hefyd Robert Thomas Williams, mab Mrs. Jane Williams, Tai Newydd- ion, bu efe farw mewn ysbyty yn Malta. Y/mrestrodd yn filwr amser maith yn ol, a chafodd rhyw anhwyl- deb; yr oedd ef yli fab i Thomas Wil- liams, "Twm Ty Gwyn" gynt, yr hwn a gwrddodd a'i ddiwedd yn un o fwn- gloddiau Phoenix, B. C., rai blynyddau yn ol. Un arall sydd wed,i ei glwyfo ac wedi cyraedd adref yw Wm. 0. Lewis, Bryn Madog; edrycha'n dda. Mae iddo frawd tua San Francisco o'r enw Tomi: cofion fyrdd ato. Eto yn 16 mlwydd oed Hughie, mab i Mr. a Mrs. Hugh Jones, Penygroes. Cafodd gvstudd maith er mai ieuanc oedd. Yn y Glasgoed, dewiswyd G. E. Jones, ysgolfeistr Tanycoed, yn flaenor. Drwg yw deall am waeledd trwm y Parch. R. P. Elis, Beddgelert, Glas- goed (gynt). Prudd oedd marw y cyfaill ieuanc i R. 0. Thomas, Ty'nllan, Llanddeiniol- en, Bethel gynt, trwy ddamwain yn y chwarel, sef tori ei goes ymaith, bu fyw a,m tua pedwar diwrnod, a I choleddid gobaith am adferiad ioddo. i ond fel arall y trodd pethau. Chwith I fydd i'w fam weddw am dano, a theim- la yr eglwys Wesleyaidd yn Bethel o'i golli; bachgen tawel a charedig oedd Bob. Yn Seio,n, cawn uno Miss Row- lands, merch Mr. a Mrs. Hugh Row- lands, er gwell a gwaeth gyda Evan Roberts. Menai View, Porthdinorwig. Mae iddo frodyr tua Spokane, ni gred- wn. Wedi marw yn ei gwely, caed Mrs. Jane Jones, Brynffynon Road, Portdinorwig, yn 77 mlwydd oed. Trwy foddi tua Dover, ni gredwn mewn canlyniad i mine, collodd David Jones, Pensgoins, ei fywyd. Yr oedd efe cyn ymuno yn engine driver yn chwarel.Dinorwig, lie y bu am gyfnod maith gyda'r engine dyllu. Gadawodd ar ol wraig a naw o blant, ni gredwn. Ganwyd ef yn yr Ysgoldy, Bethel, yn ol a glywsom. Arall fu farw yn sydyn ydoedd Mrs. Griffith, priod David Griffith, Tyddyn Grogan; rhoddodd enedigaeth i ^feilliakl rai dyddiau yn ol, gan adael o'i hoi briod a phump o blant, yr efeilliaid yn aros o'i hoi. Hefyd yn 78 mlwydd oed, Mrs. Hannah Thomas, gweddw Owen Thomas, Pens- goins Cottages. Yn Seion, cawn farw John Jones, Cae Rhos, yn 88 mlwydd oed; byr fu ei gystudd. Yn Bethel ar Mawrth y 10fed, bu farw Robert Thomas, Tyddyn Berth, yn 72 mlwydd oed. Yr oedd ef yn un o swyddogion Bethel (A.), a rhoed gair da ar lan ei fedd yn mynwent Llanddeiniolen. Credwn fod iddo lu o berthynasau yn nhalaeth Wisconsin. Mawrth 22, bu farw Mrs. Hannah Thomas, Llwyn Celyn, Saron, yn 75 mlwydd oed, Ipriod y diweddar William Thomas (Mate), Mawrth 25, yn 78 mlwydd oed. Wedi cystudd maith Owen Parry, Tregof. Yn dylyn, ceir byr gofiant i David Edwards (Penrhos gynt) gan Richard Williams, Ysgoldy, Bethel: "Derbyn- iwyd y newydd trist am farwolaeth y newyddiadurwr David Edwards, Nott- ingham, yn 58 oed. Genedigol ydoedd o Bethel, mab y diweddar Griffith ac Ann Edwards, Penrhos. Prentisiwyd ef yn argraffydd yn swyddfa'r "Herald Cymreig" yn Nghaernarfon, ac wedi gorphen ei brentisiaeth, symudodd i Liverpool fel cysodydd yn swyddfa y "Daily Post." Pan gychwynwyd y "Genedl" yn 1877, ymunodd a'r staff, ac yn Awst yr un flwyddyn, cawn ef ac eraill yn cychwyn y "North Wales Express." Yn nesaf, cawn ef yn dyfod yn olygydd y "Genedl" a'r "Express" ac yn rheolwr cyffredinol y cwmni. Yn ms Mai, 1891, ymgymerodd a goruchwyliaeth y "Nottingham Daily Express," ac yn ddylynol yn is-gyfar- wyddwr o dan isyr John Robinson i'r "Daily News" yn Llundain. Yn fuan ar ol hyn ymneillduodd Syr John, a gosodwyd holl gyfrifoldeb y swyddfa a'r staff arno ef, ac fel prawf o'i allu a'i fedr yn y gwaith, derbyniodd swm mawr o arian a gwahanodd y cwmni, ac aeth Mr. Edwards yn ol i Notting- ham a ffurfiodd gwmni newydd i'r "Nottingham Express," gan gymeryd y swm helaethaf o'r cyfranau yn ei enw ei hun, ac yma fel "Managing Director" y cwimni y terfynodd ei oes Iwyddianus. Deuwyd a'i gorff i'w gladdu i hen fynwent Llanddeiniolen. O'i ol erys mab, Arthur Lloyd Ed- wards, a phriod, merch i'r diweddar Griffith Lloyd, Bangor St., Caernarfon. (I'w Barhau.)
HUMBOLDT PARK. CHICAGO. ILL.-1
HUMBOLDT PARK. CHICAGO. ILL. 1 Gan Wm. Ishmael Jones. Gadawodd y Parch. H. D. Jones, Ph. D., y ddinas hon Mai 30 ar ol treulio tri mis yn yr ardal. Bu yn ystod yr amser yn llanw pwlpud yr eg- lwys hon. Braint oedd cael eistedd o dan ei weinidogaeth. Y mae yn bre- gethwr rhagorol, a bydd bellach yn aros yn yr East hyd ddiwedd yr haf gan fwriadu y pryd hyny ddychwelyd yn ol i Gymru. Cynaliodd Cymdeithas y Ladies Aid eu ice cream social ac entertainment nos Iau diweddaf, a chaed cynulliad da o bobi er fod y tywydd yn an- ffafriol iawn. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mrs. E. R. Owen, ac ni phallodd mewn dim i'w wneyd yn ddyddorol. Aedi trwy y rhaglen ganlynol yn ,fyw- iog: Cornet solo, gan Miss Gladys Hughes; can, Mr. Owen Hughes; dar- llen, "Betsan's Oration," gan Mrs. E. R. Owen; can, gan aelodau y gym- deithas y Ladies' Aid, dan arweiniad Mrs. D. J. Evans; deuawd, gan Mrs. D. J. Evans a Mrs. A. T. Evans; can, gan gor o'r Ladies' Aid. Cyfeiliwvd i'r oil gan Miss Mary Eleanor Evans, a gwnaeth pawb eu rhan yn gampus. Cyn terfynu mwynhawyd yn fawr y wledd i'r corff, sef ice cream a cakes, &c. Well done, chwiorydd, bydd ipawb yn barod eto i'ch cefnogi, ond i chwi symud yn mlaen. Mae llawenydd nid bychan yn nghartref cysurus Mr. a Mrs. John Edwards, 3216 Wabansia Ave., o her- wydd ymddangosiad merch fach. Gan- wyd y fechan Mai 30, ac y mae hi a'i mam yn dod yn mlaen yn rhagorol. Nos Sul diweddaf, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad gan y frawdoliaeth a Mrs. John Mostyn Evans, yr hon a derbyniasai air oddiwrth Mr. Hughes, 13 Kings Rd., Llandudno, G. C., yn eu hysbysu am farwolaeth ei wraig anwyl a'i adael a chwech o blant; yr ym- adawedig yn chwaer i Mrs. Evans. Nodded y nef fyddo drosti hi a'r teulu yn yr Hen Wlad, yn eu galar dwfn. Derbyniodd Mrs. E. R. Owen, 3338 Crystal St., y penillion Saesneg can- Iynol oddiwrth ei hewythr, sef Gutyn H. Arfon, Bettwsycoed, G. C., pa rai sydd yn ymddangos yn darawiadol lawn i mi wrth feddwl am y difrod ofnadwy yn yr Hen Wlad o herwydd y rhyfel. Not at Home. The day was 'bright, and life was sweet, When passing through a village street, A traveller in a window saw A disc that bore this tale of woe Not at home. And suddenly his heart beat fast- The heavens with clouds seem'd over cast; Th,e message of the disc brought gloom, As from the shadow of a tomb— Not at home. Within the cottage, all alone, Two stricken figures weep and moan; A soldier boy—on foreign strandl Fell, fighting for', his dear home land- Not at home. Once more came brightness o'er the day; The gloom and darkness passed away As angels bore on wings of love The glorious tidings from above Safe at lnjme. Nos Sadwrn, Mehefin lOfed, y Parch. John E. Jones yn gweinyddu, unwyd mewnglan briodas Mr. Robert Evans a Miss Ketura Hughes, dau ael- od parchus a ffyddlon o eglwys Gym- raeg Humboldt Park. Mr. Evans yn adnabyddus iawn yn y byd cerddorol, yn baritone o radd uchel. Merch ydyw ei briod i Mrs. Hughes, 3261 Lemoyne St., gynt o Bethesda, G. C. ,Maent yn ymgartrefu yma er's blyn- yddau. Treuliwyd noson lawen gan y teulu a llu o wahodldedigion yn nghartref y briodferch er rhoi arben- igrwydd ar yr amgylchiad hapus. Der- byniasant lu mawr o anrhegion gwerthfawr, a dymuniadau da eu cyfeillion. Eu cyfeiriad i'r dyfodol ydyw 1142 Christiana Ave., Chicago, Ill. Bu Mrs. Ellis, 1738 Haqcock St., yn eithriadol wael yn ddiweddar, a bu yn orweddog am ddwy wythnos. Mae yn gwella yn raddol. Mae Mr. W. G. Rowlands yn gwella yn araf; yr oedd yn llawenydd genym oil ei weled yn y moddion y ddau Sabboth yn ddi- weddar. Mae ei le wedi bod yn wag er misoedd. Hefyd y brawd J. G. Jones ddaeth yn ol o Arizona; yntau yn gwella yn araf. Drwg genym fod Mr. Ness Williams wedi gorfod myned o dan driniaeth lIawfeddygol eto. Ceir ef yn awr yn y West Side Hospital dan ofal y meddyg adnabyddus Dr. Evans. Adferiad buan yw ein dymuniad a'n gweddi i'r oil o'r cleifion.
ARDAL WAUKESHA, WIS.
ARDAL WAUKESHA, WIS. Gan Begw. Oer, gwyntog a gwlawog ydyw y tywydd wedi bod er's llawer o wyth- nosau, ond mae golwg toreithiog iawn ar,y ddaear; digon o 'borthiant, a'r corn yn tyfu yn gyflym, ac yn edrych yn brydferth. Amser hyfryd iawn ar y flwyddyn yw gwanwyn, a dechreu haf, pan mae yr hen ddaear yn llwythog o brydferthwch natur. Yn foreu iawn ar y trydydd-ar-ddeg cyfisol, tarawyd yr ardal a galar a syndod, pan aeth y newydd fel mellten fod Filmore Thomas, Porth Amal, wedi marw ychydig cyn haner nos y deu- ddegfed. Yr oedd wedi bod yn wael iawn er's pythefnos gyda y pleuro- pneumonia, ond yn ngolwg pawb yn gwella yn dda oddifewn ychydig oriau i'w farwolaeth. Yn hollol annysgwyl- iadwy a difrifol o sydyn, daeth y diwedd. Mab oedd Mr. Thomas i Mr. a Mrs. Thomas John Thomas. Yr oedd wedi ei eni a'i fagu yn Porth Amal, ac yn hynod fawr ei barch yn yr ardal, ac wedi gadael lluaws mawr o ffrynd- iau a pberthynasau i alaru ar ei ol. Yr oedd Filmore yn fachgen ieuanc hynod o hoffus, a gwen ar ei wyneb bob amser, ac nid oedd dim yn ormod ganddo i'w wneyd yn llawen mewn byd ac eglwys, a gwelir am hir amser golled fawr ar ei ol mewn gwahanol gymdeithasau. Ar y trydydd-ar-ddeg cyfisol, yn ei chartref yn Summit, bu farw Miss Mamie Lewis. Merch oedd Miss Lewis i Lewis a Margaret Lewis, a ganwyd a magwyd hi yn ardal Bark River. Bu ei mam farw ychydig flynyddau yn ol. Mae iddi dad, dwy chwaer a brawd eto yn aros i alaru ar ei hoi. Perthyn i'r eglwys Seisneg oedd Miss Lewis, ac yn fawr ei pharch gan bawb. Dal yn wael mae llawer trwy y gymydogaeth; yn ei mysg, Owen Thomas, Sue Lake, er's amser maith, ac er gofal tyner a'i ddwy ferch, gwaethygu y mae, a lie i ofni nas gwel- wn ef mwyach feI ag y bu yn aelod gwasanaethgar yn eglwys Seion. David Lloyd hefyd sydd yn wael iawn er's misoedd bellach o dan glefyd y galon. Wm. Jones, Wales, hefyd: sydd yn wael iawn er's rhai misoedd. Mai 27, yn eglwys Jerusalem, cynal- iwyd cyfarfod undebol cenadol y merchaid. Cafwyd cyfarfod da, Miss Margaret Jones yn arwain. Mrs. Wm. Matthews yw y llywydd presenol ar yr undeb, yn nglyn a'r undeb perthynol i Gymanfa Wisconsin. Yn bresenol yn y cyfarfod yr oedd y Parch. Gwilym Jones, a siaradodd yn dda ar ran y genadaeth gartrefol. Yr ydym yn edrych yn jnlaen i ddyfodol dysglaer i'r sefydliad hwn sydd eto ond ieuanc iawn. Mae y peth ar dro i wneyd casgliad i roi rhodd o "tent" i Dr. Harriet Davies at a'i gwaith yn India. Yn mysg y dyeithriaid a welwyd yn ddiweddar yn ein hardal oedd Mr. a Mrs. Elmer Roberts, Chicago; hefyd Mrs. Idwal Mai, Racine, ac amryw eraill. Mae llawer o gyfeillion y Parch. John Davies, Racine, yn cydym- deimlo ag ef yn ei salwch, ac yn go- beithio am ei adferiad buan, ac y cawn ei weled eto fel ag o'r blaen yn llawn gwaith a bywyd.
I WIND GAP. PA.
WIND GAP. PA. I Cvfarfod v Sulgwyn. Cynaliwyd cyfarfod ipregethu blyn- yddol Annibynwyr Bangor a Wind Gap y Sulgwyn fel arferol, y gweini- dogion canlynol yn pregethu: Gan Bangor, y Parchn. W. Glyn Williams a E. P. Morris, y ddau o Wilkes-Barre; gan Wind Gap, y Parchn. Joseph Evans, B. A., New York, a Dr. Newton, o Slatington. Yn Wind Gap nos Sad- wrn, y Parch. Joseph Evans, oddiar Psalm 87:3, "Dinas Duw," yr eglwys yn gwneyd ei chartref mewn Ileoedd cadarn, ei sylfaen yw y "mynyddoedd santaidd;" mae yn fam, "y gwr a'r gwr a anwyd ynddi;" ei chariad yn llefaru yn gywir, yn cofrestru ffeith- iau fel y maent, a'u dadguddio fel y dylent fod. Mae cenedloeddi eraill yn cael enwogion "Rahab a Babilon," &c., ond Seion gafodd y Mab. Cyfeir- iodd yn amserol a phriodol at enwogion y rhyfel ofnadwy sydd yn y byd, y dyddiau hyn, yr hyn sydd yn brawf nas gall gwareiddiad, gwyddoniaeth na diwylliant wneyd trefn ar y byd. Yr eglwys yn unig all ddiwallu angen dyn, mae ynddi ddigon o adnoddau ar gyfer y presenol a'r dyfodol. Foreu Sul, y Parch. W. G. Williams, oddiar Marc 5: 18-19. Yr Iesu yn iachau y dyn dieflig oedd yn byw yn mhlith y beddau, ond yn gwrthod ei gais, i gael bod gydag Ef yn ei deith- iau, ond yn pery iddo fynd i'w dy at ei deulu, a phregethu iddynt hwy am drugareddau Duw. Gwnaeth Mr. Wil- liams sylwadau pwrrpasol ac effeithiol. Mae'r bobl yn siarad yn arbenig am ei bregeth gyda dyddordeb. Dr. Newton, oddiar Marc 9: 8, "Yr Iesu yn unig." Moses yn marw arben mynydd, Elias yn gorchfygu proffwydl Baal ar ben mynydd, a'r ddau yn cyf- arfod Crist ar ben mynydd, yn dystion o'i weddraewidiad ar ol hyny. "Ni welsant neb mwy ond yr Iesu yn unig." Mae Efe felly fel athraw, fel Brenin, fel proffwyd, fel offeiriad. fel cyfaill, ac fel Gwaredwr. Yr oedd yn ymarferol dda. Prydnawn Sul, y Parch. E. P. Morris, yn Saesneg, oddiar Salm 51: 12. Dymuniad am adferiad i "orfol- edd dy iachawdwriaeth," i'w llawen- ydd, tybia hyny, i fod yn Gristion, i dderbyn yr iachawdwriaeth yn ei chyflawnder, mae igorfoledd yr iach- awdwriaeth yn un o'r grasusau. Collir hyn weithiau drwy wendid corfforol, drwy anhwylder meddyliol, a thrwy gyflwr moesol neu ysbrydol. Bendithion yr iachawdwriaeth, gwar- edigaeth oddiwrth bechod a'i gosb, a chael bod mewn cymundeb a Duw. Pregeth i aelodau y C. E. Society yn arbenig. Yn yr oedfa, canodd y cor undebol "Worthy is the Lamb," yn rhagorol, nes codi ysbrydoedd y pre- gethwr a'r gwrandawyr. Nos Sul, wedi darllen a gweddio. canwyd deuawd gan W. R. Evans a Miss Marie Jones, "In the cross of Christ we glory" yn swynol. Pregeth- odd y Parch. Joseph Evans oddiar Exodus 13: 17-18. Yr anhawsder i gael cyfarwyddwr cywir; y ffordd gwmpasog yn fyrach na'r ffordd fyraf i'r annghyfarwydd; yr oedd yn rhaid cwmpasu. Nid oedd Israel yn ddigon cryfion i fynd drwy ffordd Gaza, y brif ffordd; buasai yn rhaid iddynt ymladd a'r Philistiaid. Mae yn rhaid cael dyn newydd i fynd i wlad newydd, rhaid! mynd drwy oruchwyliaeth y taber- nacl a'r ddeddf. Aeth Duw a hwy drwy yr anialwch er mwyn eu dyogel- wch, &c. Dr. Newton, oddiar Luc 24: 26, 46. Rheidrwydd am aberth Calfaria, rheidrwydd cyfiawnder, cyf- amod a chariad, Crist yn egluro y rheidrwydd. Pregeth ymarferol dda i ddiweddu y gyfres. Rhwnig y ddwy bregeth canodd y cor yr anthem "Teyrnasoedd y Ddaear" (J. Ambrose Lloyd). Yr oedd y canu yn rhagorol drwy y cyfarfodydd. Dvmunwn ddiolch i Plas Gwyn am ddifodi yr ysbryd drwg, ni wnaeth y c-1 canu ym- ddangos o gwbl. Mae rhyw hen fardd Cymreig wedi dweyd am Dafydd Frenin: "Dafydd delynor dwyfawl Pan ganodd diangodd y diawl." Mae'n debyg mai ffoi ddarfu iddo pan glywodd ganu y cor undebol yn Wind Gap. Mae Shakespeare hefyd wedi dweyd am y rhai na fwynhant i"'gyd- gordiad seiniau peraidd," eu bod yn gymwys i gyflawni unrhyw fath o er,chylldprau. Mae yn rhaid-eu bod o'r un gwehylyth a'r cythraul canu, ond, chwareu teg i P. G. gwnaeth ef satan yr Hebreaid yn foneddwr parchus, yn gynrychiolydd i Gymanfa neu Sasiwn meibion Duw, a chafodd sylw neillduol yn y gynadledd, a'i holi yn nghylch ei deithiau, a rhoddwyd prawf ar ei adroddiad, er iddo brofi ei hun yn gyhuddwr y brodyr. Ond nid Cymro oedd Satan, namyn Hebread. Go- beithio na bydd iddo ddychwelyd, ac y caiff y canu a'r pregethu y dylanwad priodol ar drigolion Wind Gap a Ban- gor, ac y bydd i'r undeib barhau. "Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd."
TUDALEN NODEDIG.
yn Nghymru wedi cynyrchu mwy o wir fawrion na'r gymydogaeth hon. Yma ar ael y bryn y bu Thomas Jones yr Esger yn ysgrifenu yr esboniad Cymraeg cyntaf ar lyfr Job a rhanau eraill o'r Ysgrythyrau. Yr oedd y Thomas Jones hwn o'r un linach a Llew o'r Llain. Yma hefyd y magwyd y lienor Cymreig .boreuol, Brutus, neu Daniel Owen. Arferai efe osod Ll. D. ar ol ei enw. Gofynodd cyfaill iddo, yn mha goleg yr oedd wedi cael y teitl? "Yn ngholeg neb," ebai Brutus, "Sut ddyn, y beiddiwch osiod Doctor of Laws ar ol eich enw heb ei gael gan neb?" "Nid Doctor of Laws y mae yn feddwl.' "Wel, beth?" "Llyncwr Diod, ac nid oes neb yn Nghymru yn fwy teilwng." Mae yna luoedd lawer o wir fawrion allesid enwi, ond gadawaf hwynt yn awr, gan obeithio y ca Dr. Griffiths hwyl atynt ryw dro, neu y Parch. J. Gwynoro Davies, yntau yn fab enwog yr hen ardal. Diolch i Dr. Griffiths am yr ysgrif ragorol hon. Yr ysgrif nesaf at eiddo Dr. Griff- iths yw ysgrif Llew o'r Llain, sydd er! ys deugain mlynedd yn ffyddlawn ohebydd i'r "Drych," yn o gystal ag i amryw bapyrau Americanaidd. Gan- wyd ef yn nghanol pentref Llanpump- saint, y drws nesaf ond un at y ty yn yr hwn y ganwyd yr enwog Brutus. Yr ysgrif nesaf at eiddo Llew o'r Llain yn y "Drych" hwn yw eiddo Daniel Ddu, yn ei 93 oed. Nid yw Daniel Ddu o Llanpumipsaint ond o Drelech, y plwyf nesaf, ac ychydig bach iawn o filldiroedd oddi yno. Yr oedd mwy na thri chwarter y tu dalen yn gynyrch Sirgars talentog a gwladgarol. Efallai na ddygwyddodd y fath 'beth yn hanes y "Drych," ac efallai na ddygwydd byth eto. Mae hyn yn gwneyd y "Drych" hwn yn nodedig.