Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y DIWEDDAR BARCH. ELLIS EDWARDS,…

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR BARCH. ELLIS ED- WARDS, D. D., BALA. Gan y Parch. T. M. Jones (Gwenallt), j Gronant, Gogledd Cymru. Yr haf y flwyddyn 1900, cefais y fraint a'r pleser o dalu ymweliad a'r America, a phreswj-liwn yn Colwyn Bay y pryd hwnw, ond er's oddeutu ped- air blynedd bellach yr wyf yn byw yn ardal fechan Gronant, gerllaw Pres- tatyn. Nid wyf eto wedi annghofio y caredigrwydd a dderbyniais gan fy nghydgenedl yn ystod yr ymweliad hwnw, ac yn fynych byddaf yn ail fyned dros fy nhaith mewn adgof a myfyrdod. Chwith genyf feddwl fod llu o gyfeillion anwyl a gyfarfyddais yma a thraw yr adeg hono yn y dystaw fedd erbyn hyn, megys-y Parchn. Hugh Davies, E. C. Evans (Remsen), John Owen Jones (Slatington), Hugh Hughes (Bangor), Richard F. Jones, Dr. Davies (Osh- fcosh), Trogwy Evans, Daniel Thomas, John W. Roberts a John T. Lewis (Powell), Owen R. Morris, W. Machno Jones, R. Yaughan Griffiths, W. A. Jones (Coedmawr), Griffith Jones (Dodgeville) a'i frawd, Mr. William Jones (Earneveld), Thomas R. Jones, John R. Johns, John K. Roberts (Spain) a'i frawd, Mr. Thomas D. Roberts (Ran- dolph), Mri. John C. Roberts (golygydd v "Drych"), T. Solomon Griffiths, Lewis T. Roberts, Thomas Lloyd Williams, Gwilym Bryrl, R. W. Hughes (Menai- fardd), James B. Lewis, a llu eraill nas gallaf gofio eu henwau, ac nas gwn yn iawn a ydynt ar dir y rhai byw-yn weinidogion a lleygwyr, ac er nad oes ond prin bymtheg mlynedd er hyny, rhyfedd meddwl cynifer o hen gyfeill- ion anwyl sydd wedi tewi am byth yn yr anscu. Un genedlaeth yn myned, a chenedlaeth. arall yn dyfod, a dyna hanes ein byd o'r dechreuad. Gwn fod lluaws eto yn aros o'r cyfeillion y der- byniais eu caredrgrwvdd, a dymunaf gael fy nghofio atynt yn y modd mwyaf caredig. Yr un peth ellir ddweyd am Gymru hefyd cwympwyd colofnau amlwg lawn yma er's pymtheng mlynedd, ac oferedd fyddai ceisio eu henwi mewn ysgrif fer fel hon. Yn ystod yr wyth- nosau diweddaf collasom nifer o ddyn- ion rhagorol—yr Athraw Edward An- wyl, Aberystwyth (un o ddynion gwerthfawrocaf ein cenedl), Dr. Spin- ther James (hanesydd gwych), Emlyn Tones, Treforris: Syr Marchant Wil- fiams, Mr. D. P. Williams (un o feibion Arfon, ac un a gyflawnodd waith mawr gydag Addysg yn y sir hono). a choll- odd Lerpwl ddau _Gymro anhawdd gwneyd hebddynt—Mri. John Morris a William Thomas. Pa ddyben dechreu enwi? Anhawdd cadw cyfrif o gyflawn- iadau Angeii. Modd bynag, un arall a gymerwyd ymaith yn ddi^eddar ydoedd yr un y ceir ei enw uwchben yr ysgrif hon, Dr. Ellis Edwards, mab hynaf y diweddar Hybarch Roger Edwards, Wyddgrug. Ceir dau o blant Roger Edwards yn aros eto yn ein plith-Lady Lewis (priod Syr Henry Lewis. Bangor), a Dr. David Edwards, Wyddgrug. Bu Richard -bachgen athrylithgar—farw flynydd- au lawer yn ol. Ellis Edwards oedd yr hynaf o honynt, a bu ef farw Chwefror 2il diweddaf, yn 70 mlwydd oed. Cladd- wyd ef yn mynwent Llanycil, ger y I Bala. Rhyfeddai rhai na chladdwyd ef gyda'i rieni yn y Wyddgrug, ond nid an- naturiol o gwbl i hyn gymeryd lleyn Llanycil, heblaw ei fod yn gyfleus yn yrayl y Bala (lie y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, a'r lie y bu farw), ac yn orphwysfan i luaws o ddynion tra adna- bvddus, ceir yma hefyd nifer luosog o deulu a pherthynpsau Ell's Edwards. Yn y Bala y ganwyd ei dad. 1.—Fel dyn. Prin y mae angen rhoddi desgrifiad o hone i luaws o ddar- llenwyr y "Drrch" gan iddynt ei weled pan oeddynt. ar ymweliad a Chymru, ond er mwyn y rhai nas gwelsant ef, gellir dweyd ei fod yn meddu ymddang- osiad personol enillgar iawn, gwyneb prydferth yn meddu ar lawer o swyn, pryd tywyll, taldra canolog, cerddwr cyflym ac ysgafn ei lam, ac yn wastad yn gwisgo ei wydrau. Fel yr heneidd- iai ymdebygai i'w dad. Am nodweddion ei gymeriad, gellir dweyd ar unwaith ei fod yn foneddwr. Heblaw bed yn efryd- ydd yn y Bala dan ei addysg am bedair blynedd (ac y mae rhai o'm cyd-efryd- wyr yn yr America heddyw, a gallant gadarnhau yr hyn wyf yn ddweyd), cef- ais yr anrhydedd o ysgrifenu Cofiant i'w hybarch dad, ac felly cefais gryn fantais i'w adnabod, a dyna fy nhystiol- aeth—yr oedd Mr. Ellis Edwards yn foneddwr Cristionogol, dyn unplyg, unol a'i air, doeth, ac nid yn unig yr oedd yn hoffus yn ngolwg pobl y Bala a'r wlad, ond yn ffefryn to ar ol to o efrydwyr. Yr oedd rhyw bethau ynddo ag oeddynt yn tynu ato-tynid rhai o bob oed a chylch, plant a hen bobl, gweithwyr cyffredin ac athrawon Coleg- au, &c. Yr oedd mor dryloew, mor sym1. mor gywir, nes tynu rhai ato, ac heb ddim ynddo i'w taflu yn ol drachefn yn mhellach. 2.Fel pregethwr. Rhaid cofio ei fotf dan anfaritais gyda. phregethu, gan fod ei amser a'i lafur yn rhedeg i gyfeiriad arall gyda gv/aith yr Athrofa. Ond yr oedd llawer o elfenau pregethwr pobl- osraidd ynddo. Meddai ar allu i dynu sylw ei gynulleidfa. Nis gallesid peidlo gwrandnw arno. Yn y pwlpud Evddai rhywbeth yn darawiadol yn ei olwg— dwvs ei wedd, urddasol a thawel, a rhywbeth allan o'r ffordd gyffredin yn ei dduil yn sefyll a'i edrychiad, dyfnder ac arafwch ei oslpf gydag ambell air a tra,wddeg, ac weirhiau, pan wedi ei gyffroi, camai yn ol ac yn mlaen, yr ochr hon a'r ochr acw, gan gyhooddi a gwaeddi, fel Cadfridog yn gorchymyn ei filwvr. Amrywiai gryn lawer yn ei oedfeuon, a gellir dweyd yn ddiddadl y byddai ar adegau yn effeithiol iawn. Pwv yn well am ddechreu gwasanaeth gyda defosiwn a pharchedigaeth? Byddni vn fwy effeithiol pan yn traethu vn rhydd w. phan yn rhwym gyda'! bapyr. Er mor rhagorol ydoedd ei Gvnsror ar yr Ordeiriad yn Nsrhvmdeith- asfa Treffynon (1913). diau y buasai yn well pe yn rhydd oddiwrth ei bapyr- yn fwv errymus ac ysgubol. RTfiaid cofio y pregethai yn y ddwv iaith, ac ystyrid ef yn un o'r preeet.hwyr Seisnig mwyaf derbvniol yn y Cvfundeb (gyda Itaw, bu vn fiizail ar eglwys Seisnig- yn Nhroes- •oswallt am rai blvnvddoedd-ei ofal- aeth srvntaf a'i unig ofalaeth fueeiliol). a gallai gvnrvchioli ei gyfundeb a'i eenedl ar unrhvw lwyfan-Cvmrei neu Seisniz-ar faterion gwleidyddol a chrefvddol rvdag anrhvdedd. 3.—Fel Athraw. Nid wyf am fanylu arno fel dyn dysgedig a chyflawn; ac am ei allu yn nglyn a cherddoriaeth a changenau eraill, ac nid amcan hyn o ysgrif yw galw sylw at ei waith amryw- iol, eithr yn syml talu teyrnged fechan o barch i'w goffadwriaeth, a dewisaf wneyd hyny yn y "Drych" am y rhe- swm fod llu o hen gyfeillion ac edmyg- wyr iddo ar yr ochr yna i'r Werydd. Pan benodwyd ef yn athraw i'r Bala- dros ddeugain mlynedd yn ol-bu cryn feirniadu a chondemnio, gan yr ofnai rhai fod ei ddiffyg clyw yn ei annghym- wyso i'r safle hono. Rhaid cydnabod fod y diffyg hwn yn peri pryder ar y pryd, ond y gwir yw fod Dr. Ellis Ed- wards, er yr anfantais, wedi profi ei hunan yn athraw tra llwyddianuS. Rhaid ei fod yn ddyn o benderfyniad, yn meddu ewyllys gref, i allu gorfyw yr anfantais hon. Heblaw bod yn eithr- iadol o gryf mewn llenyddiaeth Lladin a Seisnig, ac athroniaeth, &c., meddai ar lawer o swyn a gwreiddioldeb yn ei ddull yn cyfranu addysg, ac anfynych y ceid athraw allai daflu mwy o ysbryd- iaeth i efrydwyr. Yr oedd yn llawn o gydymdeimlad a'r dynion ieuainc, a dy- wedir iddo gynorthwyo ami un mewn ystyr arianol os gwyddai fod prinder. Talai sylw i'w efrydwyr fel yr oeddynt yn bersonau unigol-yr oedd ganddo syniad am safle pob un, am ei argy- hoeddiadau, am nerth a gwendid yr unigol, llawer mwy felly nag a dybid ar y pryd. Nid ymwneyd a'r efrydwyr fel eyfan-gorff byddai ef, ond yr oedd yn graff a sytwgar iawn, a gallai ddos- barthu ac elfenu pob efrydydd wrtho ei hun, ac anfynych y gwnelai gamgymer- iad. Hefyd yr oedd yn hynod am bar- hau i gymeryd dyddordeb yn yr efryd- wyr ar ol gadael yr Athrofa: nid ffar- welio a hwy am byth y foment ga3aw- "nt y Coleg, ond dylynai hwy i Athro- feydd eraill, neu i'w cartrefi, neu i'w meusydd llafur, ac i'w teuluoedd, ac os cyfarfyddai a hwynt mewn blvnyddoedd ar yr heol, neu y rheilffordd, neu rywle arall, tynai ei het a moes-vmgrymai iddynt fel pe byddent foneddigion penaf y wlad, ac ysgydwai law mewn dull nas Erallai neb arall wneyd, ac yna dechreu- ai holi am eu hynt, am eu meusydd llafur. am v wraig a'r plant, am y llyfr- au, am v bregeth, &c., nes y teimlid yn well am wythnosau wedi cael chwarter awr o'i gymdeithas. Bellach, huned yn dawel hyd foreu yr Adgyfodiad. a hawdd credu yr edrycha pf vn hardd a lion y boreu rhyfedd hwnw. Yn awr, wele y tri athraw oedd vn y Bala pan oeddwn yno-Dr. Lewis Edwards, Dr. Hugh Williams, a Dr. Ellis Edwards—tri o ddynion rhagorol, wedi eu galw ymaith, a lluaws o'r Xen ryd-efrvdwyr anwyl, a diau na bydd hen dref gysegndig v Bala byth yr un vn hollol i lawer o honom eto.

CINCINNATI, O.II

GOF YN EISIEU. I

Advertising

MARWOLAETH MR. JOHN E.I HUGHES,…

Advertising

SPOKANE, WASH.

Advertising