Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
1851 Y DRYCH 1915 ewyddiadur Cenedlacthol Cvhoeddedig Bob Dydd Ia. -?'. y Talaethau Unedtg$2.00 { i Canada a Chymru, tal yn mlaen Uaw yn ddieithriad„$2.50 -?vS3 YSIAD AU am Brisiau Rhet- or .roi. Anfoner am ein Telerau. \NFONER ARIAN mewn Post Office Order, Registered Letter, neu niewn Draft ar New York, Aladwy i'r perchenog— THOMAS J. GRIFFITHS, Drych Office, Utica, N. Y. AT EIN GOHEBWYR Fx arbed trafferth i'r clerc yn y .hvyddfa cyfeirier pob gohebiaeth < phob taliadau i'r "Drych" a'r "CRmbnan" (a'r rhai hyny yn fmC) i Thomas J. Griffiths, Utica, N. Y. Dealled ein derbynwyT yn yr H>m Wlad nad yw Postal Order* werth dim i ni yma. Dim ond Office Orders sy'n dderbylJol Y* iirhr hon. EgIwyS Annibynol Gymreig, NEW YORK CITY. 205-208 EAST 11th ST. kkwag 3rd a 2nd Are. Ta.ith 5 mynyd 4 14th St. Subway a'r 14th St. L. Sta- Rbed y 3rd Ave. Surfa" Car friM-bio litis St. Y Ba-bboth nesaf, pregethir am 3 y trydnawn a 7 yr bwyr gan y Parch. Owen Jones, Mountain Ash. Cymru. Welsh Calvinistic Methodist Church NEW YORK CITY. 505-507 West 155th Street. Between Amsterdam Avenue and Broad- way. Formerly at 225 East 13th Street). Services are now being held in the Sew Church as follows: gimdays-Preaching at 10.30 A. M. and 7 P. M. Sunday School at 3 P. M. Christian Endeavor Meeting at 6 S, M. Mid-Week Prayer Meeting, Thursdays at 8 P. M. Rev. Joseph Roberts, D. D., Pastor, 519 West 152nd Street, Phone AudubOJP 4383; Wm. Ap Rees, Secretary of the Church, 324 West 88th Street, Phone Schuyler 5777; Wm. E. Jones, Secretary of Trustees, 316 West 19th Street, Phone, Chelsea 3123. Donations to the Building Fund of the New Church from former members or friends will be thankfully received. WANTED Canvasser in YOUR town. Ap- ply E, "Drych" Office, Utica, N. Y. j
[No title]
C- Un sicr arwydd fod y gwanwyn wedi J dyfod, ebe un hen gono, yw fod pobl yn dechreu pigo hen ganiau -a hen aflerwch o'r fath, ac yn eu taflu i erddi eo cymydogion! r Y mae y Germaniaid cythrymaidd yn mlneQ 9 ddrwg i waeth, Ar y cyh- tal? sudden I; iongaii, a gadawent i'r- d^ylaw a'r telthwyr, os y byddai rai, i ddianc oreu y gallent. Yn awr, y maent yn defnyddio drylliau i'w lladd! Digrif yw clywed i'r tfchaflys bender- fynu fod marw yn y Wefrgadair yn Hal p.nus nag ar y crogbren! Pa fodd y daeth y boneddigion i wybod? Y di- enyddiedig yw'r cymwysaf i dystio hyny ar ol iddo gael ei grogi a'i "gadeirio!" Oes, mae gan awdurdodau dinasoedd America hawl i blanu coed o fjaen anedd-dai ar draul y pewatenog, os yr esgeulusa efe wneyd. Dymunol iawn, onide? Eto llawer mwy dymunol mewn tref a dinas fyddai hawl gan y bobl i ddadblanu y dafarn o'u plith! Nid oes genym hyny yn Utica. Ddydd Mawrth, Ebrill 6, pleidleisiai y Merched am y tro cyntaf am Faer yn Chicago, Ill., a throesant y ddinas a'i gwaelod i fyny. Yr oedd wedi ym- buteinio gymaint ar ol Democratiaeth fel yr oedd galw uchel am ei cheryddu. Mae y Merched yn gwybod rhywbeth am lanhau! Gwell i ysgoleigion ac athrawon en- cilio i ryw gongl. Y mae geneth ieu- anc deuddeg oed, o'r enw Winifred Sackville Stoner yn y wlad hon yn dar- llen 17 o ieithoedd, ae yn siarad wyth, a gall lawer o gampiau heb law hyny. T mae ei mam yn benaeth rhyw sefyd- Had addysg a hawlia y gall addysgu plentyn i ysgrifenu mewn deg diwr- nod! Mae Winifred hefyd yn athrawes lwyddianus. Yn New York y mae y teulu yn awr. I Gwelwn fod Maer dinas Berlin, Prwsia, wedi rhoi allan gyhoeddeb yn gwahardd moethau. Ymddengys fod y bobl barchus wedi blino ar y bara K, sef y bara rhyfel, a'u bod am rywbeth mwy blasus. Gresyn na ai y bobl am wir achos y rhyfel, sef y Kaiser ei hun. Buasai y bobl yn mwynhau eu prydiau yn eu hamser oni bae am dano ef a'i wiriondeb milwrol. Mae llawer o olygiadau annuwiol ac annynol yn ein byd, a syn y ceir golyg- iadau o'r fath yn ein newyddiaduron. Cwynai newyddiadur parchus yn New York nad oedd rhyw ganwr neillduol yn cael y sylw dyledus, ac y dylai gael mwy, ac eto hysbysid ei fod yn ddi- weddar wedi sicrhau$20,000 am ugain cyngerdd. Ein teimlad ni yw fod dyn o'r fath yn cael gormod o sylw-gor- mod o dal, o'i gymharu a llafurwyr eraill a wnant well gwasanaeth o lawer i gymdeithas. At wagedd yr a Ilawer o gynyrch llafur a dlwydrwydd y bobl y He yn ychwanegiad sylweddol at gyflogau y werin. Gallwn fyw ar lai o gyngerddau, ond rhaid i ni wrth fendithion llafur. Ni all neb lai na sylwi fod Sam yn colli 'ei urddas a'i awdurdod yn y byd. Gwawdir ef, ei faner, a'i awdurdod yn Mexico, ac y mae Germani yn hollol ddisvlw o'i dori geiriau drwy oruch- wyliaeth yr Arlywydd Wilson a'i Bw Ba, Bryan. Dymunodd Wilson lwc dda i'r Kaiser ar ben ei flwydd pan newydd lofruddio a difrodi Belgium, ac ni annghofir Wilson tra y cofir am Belgium. Cofir am Wilson fyth fel yr Arlywydd na agorodd ei enau pan y cyflawnid un o gythrymweithiau penaf yr oesau! Pe y caem ni y cyfle o edrych i fewn i galon y German y dyddiau hyn, caem fod ei bader yn debyg i hyn: "Ein Tad (Unser Vater) yr hwn wyt yn Walhala, cwltwrier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megys yn Berlin, felly hefyd yn Paris a Llundain. Dyro i ni heddyw ein hen lwc (oedd i ni cyn i'r Prydeinwyr yma ddod i'r maes). Maddeu i ni ein cythrymwaith, fel y maeddwn ni ein gelynion. Ac nac. ar- wain ni yn agos i'r llynges Brydeinig, eithr gwared ni rhag Prydain. Canys eiddot ti (a Kai) yw y deyrnas, y nerth a'r gogoniant yn oesoesoedd, Amen." Dyna weddi'r Arglwydd o Potsdam, yn ddiau, a'i ddeiliaid gwir- ion y dyddiau hyn. Y mae cryn lawer o chwerwder yn mhlith dosbarth o Gymry yn nglyn a. phenderfyniad y weinyddiaeth i ohirio jhoi gweinyddfad Deddf Dadgysylltiad ar yvaitt, hyd ar <)1 y rhyfe} brdus preseno!. Ystyriwn hyny yn ddoeth, ac yn berffaith gyson a synwyr cyff- redlu a llafur a lluijded yn nglyn a'; ymdrech fawr. Cydymdeimlet a gwr- oniaid y llywodraeth ag sydd yn ben- derfynol o ddarostwng yr Annghrist o Prwsia. Nid rhywbeth i'w benderfynu yn gymysg a gorchfygu Germani yw pwnc y Dadgysylltiad. Gymry parchus £ pharchedig, un rhyfel ar y tro! Myned o ddrwg i waeth y mae y DiwyMiant Germanaidd yn yr ymdrech echrydus bresenol. Bydd y rhyfel hwn yn foddion i ddadguddio y meddwl a'r ysbryd Germanaidd. Y mae Germani wedi bod yn jnnffrostio yn ei diwyll- iant, yn ei hathronwyr a'i milwrolr iaeth yn arbenig, ac wedi awgrymu yn amlwg er's blynyddau mai y genydi I Germanaidd yw yr "unig" genedl deil- wng o reoll y byd; fod y pobloeqd er- am oil yn ddirywiQtffe, yn Ü:wträh! ac. yn llygredig, ac mai yr unig ffordd i'w hacffub fyddai cael Germani i'w had- genediu a'u mamaethu, a'u phroffes- wrs ^mnedi^ i'Tsr hatbrawu, &c. Ond erbyn heddyw y mae holl wledydd y ddaeat Wedi cael agoriad llygad, ac y raafe Germani wedi colli pob gobaith am reoli y byd. 0 hyn allan, rhestrir y Kaiser gyda Baal, Belial a Belze- bwb, a phenaduriaid o'r fath! Gelwir y Kaiser eto yn Annghriat. ac y mae yn Ilanw ei le yn wU na'r Pab. Y mae y Pab hyd yma wedi ym- ddwyn fel boneddwr, o'i gymharu a Kai. Y dydd o'r blaen yr oeddym yn darllen cofiantau yr Annghrist, a rhoddai un hen fynach ei lun yn ddifyr iawn: "Y mae iddo ddau ben, a chy- lioedda ei fod yn Dduw, ac y dylid ei adcloli." Y mae yn wir fod gan y Kaiser ddau wyneb, fodd bynag am y ddau ben, ac yn siwr y mae am warog- aeth holl wledydd y ddaear. Ychwan- ega yr hen fynach "y gorchfygir ef mewn brwydr fawr, pan y disgyna. gwlaw o dan a brwmstan ar ei fyddin (un pluie de feu et de soufre). Dyna ddygwyddodd y dydd o'r blaen yn Neuve Chapelle, pan y cyfaddefai y Germaniaid nad rhyfela oedd y Pry- deiniaid, ond Ilosgi a than a brwm- stan. Nid oedd brwydr Neuve Chap- elle ond dyferynau o'r gawod o dan a brwmstan, chwedl yr hen fynach, sydd i ddisgyn aT yr Annghrist o Potsdam ar ol hyn. Felly y mae y Prinz Eitel, y llong Germanaidd, yn Newport News, Va.. wedi penderfynu peidio symud. Wedi bod am fisoedd ar hyd y Tawelfor yn suddo llongau masnachol a'u cynwys gwerthfawr, ac yn eu plith un o long- au hwyliau mwyaf godidog Newyrth Sam, gyda gwenith, cyraeddodd New- port News ar ei chythlwng, a chafodd y croesaw mwyaf dymunol, a'r capten bob caredigrwydd, a'i wahodd i gymer- yd rhan yn lansiad y 'Philadelphia' ac eistedd mewn cadair Phariseaidd, cael cyflenwadau o bob angenrheidiau a chysuron, ac yn ol un papyr, 50,0,00 o gostrelau o gwrw, i'w wneyd yn barod i ail gychwyn ei waith suddol a di- frifol. Dyna y modd digrif y ceidw yr Arlywydd Wilson anmbleidiaeth mewn gair a gweithred! Wedi yr oil, daeth y Capten brolgar Thierichens i'r pen- derfyniad i aros yno hyd ar ol y rhyfel, gan iddo gael ei siomi na ddaethai y Ilynges Germanaidd yno i'w gynorth- wyo allan! Ni wyddai'r truan fod y llynges Germani dan glo. Gwnaeth yn ddoeth i aros lie y mae. Doeth fyddai ynddo apelio am drwydded a throi ei long yn dafarn. Tebyg fod ein dinasoedd yn ddarlun- iau byw a ffyddlon o'i trigolion a'u cyfaneddant. Gyda dyfodiad y gwan- wyn, pan y mae gorchudd yr eira yn diflanu, y daw aflerwch ac anniben- dod y tu cefn i'r tai i'r golwg. De- chreua y wasg hefyd, yn ngwasanaeth y dinasoedd, alw sylw at yr aflerwch (a'r affendid yn rhy fynych). Y mae y gauaf (drwy yr eira), fel cariad, yn cuddio Ilawer o aflendid ac aflerwch, a daw y gwanwyn fel arolygydd budr- eddi i ddynoethi a bygwth. Daw gwa- hanol ddrygsawrau i sylw y ffroenan, ac achosir teimlau annymunol. Nid ydynt yn blino yr aflan, a bendith fawr yw fod pobl lanwaith yn trigo yn ein dinasoedd, a rhai yn cymeryd dyddor- deb mewn purdeb amgylchedd ac awyrgylch. Y mae yn werth sylwi fod pobl barchus yn y ffrynt yn afler iawn yn y cefn, a choffant i ni y Phariseald a olchent bethau y tu allan (neu yn y golwg) gan esgeuluso yr ochr fewnol (na sydd yn weladwy i'r cyhoedd). Y mae dyn sydd mor daclus y tu mewn ag yw y tu allan yn gryn foneddwr, fel y mae ty a'i gefn mor lan a'i ffrynt yn foneddwr o gartref, pe bae ond bwth. Mae r-hywbeth difrifol a digrifol yn nglyn a'r Garawys (Lent). I'n brodyr a'n chwiorydd Pabyddol ac Eglwysig y mae yn dymor o fyfyrdod ac ympryd (o hunanymwadiad), ac y mae hyny yn weddus ac yn fendithiol i filoedd, ond edrychai llawer yn mlaen at y dydd y deuai y rhyddid iddynt gydymffurfto a'r byd a boddhau eu blysiau am wagedd bydol. Ymollyngant ati yn o fuan wedi i'r amser fyned heibio. Ni welwn lawer o grefydd yn hyny. Y mae hunanymwadiad yn rhinwed/d Crist- ionogol amlwg-y mwyaf a'r penaf o safbwynt y Groes, ond ni wnaeth y byd Cristionogol fawr o hono hyd yma, oddigerth yn ddefodol, fel y cedwir y Garawys, Ein cred yw fod hunanym- wadiad yn rhinwfftcr beubyddioj nid yn rhywbeth dysbeidiol, Cylai dyn a dynes ymwadu a drwg a gormodiaeth I ar hyd y flWyddyn. Ni ddylent ym- wadu a dim sydd fuddiol i'w cyrff a'u heneidiau, ond dylent a phob path afreidiol, gwageddiis a dirywiol. Y mae pobl yn eistedd yn ffugdduwiol drwy dymor y Garawys gan blethu eu dwylaw yn ddefodol, ac yna gyda fod y tymor drosodd yn ffchwyn i lam- sachu a dylyn coeg arferion y byd, yn ymddangos i ni yn wirion a digrif. EtQ y mae hyn yn boblogaidd gan ddos- barth o GkLstionogion, fel y mae pob arferion arwytiebol yn boblogaidd. Y dydd o'r blaen gwelsom Wawd-ddarlun tarawiadol, sef dynes yn dawnsio yn mreichiau y diafol, ac o dan y darlun yr oedd "Re-united!" CAM Y SBAMPIWN. [ Pan y clywodd Mrs. Jess Willard fod ei gwr wedi curo Jac Johnson, dywedai "nad oedd yn synu dim, a throdd at ei mab bychan, 16 mis oed, gan ei hys- bysu fod ei dad yn ben ShAEVpiwa y byd; ac aeth yr awen blentynaidd TLti fel hyn: 0, nanwyl garlad pena'i fam, y tlysa'i wen a'r pert'a'i gam, fy siwgwr candi 'wyt,onte? A'r perlyn gwynaf Is y nfc! Yn fwy dy werth na'r byd o'r bron; dy swyt.,ol wen, a'th lygad lion; y trysor 'penaf heddyw'n tyw-ond, Jesse (jiwnior) yma clyw: I Giwba'r aeth dy dad yn hyf i ym- ladd a rhyw filain cryf; un du fel diafl, yn fraw i'r wlad, end ato'n ddewr yr aeth dy dad! Mewn cemaes yno'r aeth yn ffaig, dy dad ac ef, fel Sior a'r ddraig; dy dad a'i safodd rownd a rownd, gan ddal i herio'r mil yn sownd. Fe wfctwdiai'th dad, dirmygai'th dad, gan roi a gair a gwep sarhad; end daliai'th dad fel craig o hyd-peryglus yw y gwron mud! "Ti, was y parddu," ebai'th dad o'i fewn yn ngwyneb ei sarhad, "fe ddown ni'n fuan hyd y ffordd pan gel di deim- lo bias yr ordd." A'r ordd a'i trawodd, a'r cawr Jae a aeth i lawr yn Hip a. llac; a'tb dad mor wrol, mawr a mud sydd heddyw'n Shampiwn pena'r byd! Ni chymrwn gyfoeth Rock-i-phel am danat ti, fy ebol ffel; a gan John Bier- pont nid oes a bryn Ap Shampiwn pena'r oes! Y GWYN A'R DU. I Diwrnod nodedig yn ein byd oedd dydd Llun pan y gorchfyg-wyd Affrica r-an Arrerica ar y maes yn Hafana. Cuba: Jac Johnson yn cynrychioli Affrica, a Jess Willard yn sefyll i fyny dros America; dau gynrychiolydd gwir "ysgaprwydd," chwimwth a pheryglus. Am gryn amser, gwisgasai Affrica goron "hardd" y wyddor a'r gelf o gwffio, a rhygyngai Jac gydag asglod- yn ar ei ysgwydd, gan herio yr holl Israel gwyn, fel Goliath fochsachus gynt, ond yr oedd ei loriwr yn cael ei fagu a'i barotoi yn Kansas, nid mewn tref neu ddinas foethus, ond ar dyddyn mewn ymarferiad corfforol ag ychain a cheffylau, ac yn byw ar fwyd natur. Wedi i Jess dyfu yn chwe troedfedd a chwe modfedd gwelai dros ysgwyddau y werin gwffiol y Goliath Johnson yn rliodio yn hergar ar hyd heolydd Paris, a chamodd ei fys arno i ddod i Cuba i gael ei feddyginiaeth. Daeth i'r maes yn Hafana, ac yn mhen 26 o ran-ym- drechion ceid Goliath ar wastad ei gefn ar lawr, ac yn yr adroddiad yn y wasg, gyda gwyn ei lygaid yn unig yn y golwg. Nid yw yn arfer heddyw fel gynt i dori ymaith benau gelynion, felly wedi i Jac ddod ato ei hun, diflanodd yn wylaidd, ac ni wyddai neb i ba le yr aeth. Aeth i ymneillduaeth i wella ei friwiau (nid y rhai corfforol, yn gy- maint a'i rai meddyliol ac ysbrydol). Peth blin yw colli brwydr pan yn sef- yll i fyny dros gyfandir, dros feddyl- ddrych, neu fel y dywed yr Ysgol New- ydd yma, dros "ddelfryd" cyfandirol. Dywedai papyr pwysig yn New York fod llawenydd yn ngwydd gwehilion y wlad pan y dMllwyd drwy y wifren fod Jac ar ei gefn! Na, yn wir, yr oedd yr Americaniaid ya dra chyffredinol yn llawenhau wel- ed coron cwffio unwaith eto ar ben dyn gwyn. Aethai ias o wynfyd drwy galon Kansas, talaeth enedigol Jess. Priod- olai Bili Sunday orchfygiad Jac i'r "yfed camweddus, uffernol, dry ymen- ydd dyn yn llaid-bwll brwnt." Nid yw y ddiod hyd yn nod yn gymorth i'r yfwr. Nid yw y diafol a'i blant a'i ddiodydd yn dda i ddim. Mae llawer o ddigrifwch a natur ddynol mewn cwymp adyn fel Jac, a dyrchafiad cawr fel Willard. Pan y cafodd Mrs. Willard y newydd, ni syn- ai damaid ebe yr hanes, "Mi wyddwfi i" ebe hi. Peth canmoladwy yw ffydd gwraig yn ei gwr. Y mae Willard yn gawr o ddyn, ac yn engraifft hardd, a hyderwn na erys yn hir yn awyrgylch cwffio. Y mae ganddo blentyn un mis ar bymtheg oed, ac ebai ei fam wrtho, "Glywi di, n'anwyl; dy dad yw shamp- iwn yr holl fyd." Nid clod bychan yw bod yn blentyn i shampiwn yr holl fyd. Nid i lawer o blant America y daw clod mor fawr. Waeth i ni heb dewi. y mae gallu gwneyd unrhyw orchest yn ddyddorol lawn i blant dynion. Rhaid i ni gael gorchest i dynu sylw a dylanwadu ar blant Adda. Dyna ddirgelwch llwydd- iant dirfawr Bili Sunday ei bun, y rngo yn gyflawnwr gorchestion gyda chref- yddz ac y mae ei orchestion yn brawf Vi fod yn fawr gyda Duw, fel y bydd Willard yn fawr gyda dynion am ryw ¡ hyd. Y KAISER A'R BUCHLANC. Ii Y mae y meddwl byw yn clywed un peth a chofio peth arall. Dyna fel yr oeddem pan yn clywed son- am gwymp Jackson, y gwr du. Yr oeddem yn meddwl am gwymp un du arall (nid y diafol) eithr y Kaiser, Dyma Jac Johnson Ewrop a gwareiddiad, ac y mae yntatt wedi bod yn parotoi ei hun a'i deyrnas ar gyfer ymdrech fawj 3E?: oesau, ac y mae oryli gyffeiybrwydd rhwng y ddau, ond 'fod y naill yn ddii o'r tu allan a'r Hall o'r tu mewn; ac o'r ddau y Kaiser yw y mwyaf per- yglus i'r byd a'i wareiddiad. Y mae un swrthdebygH^dd rhwng Jac a SRI; CytpLiadoda Jac Paris a chafodd ryw fath o fi*<Jesaw yno, tra yr aeth Kai a'i griw- mor bell a'r afon Marnq, pan y ttrfu iddo droi yn ei ol a ffoi b'engiWcdramwnwgl! Y mae Jac yn fwy cymeradwy na Kai. WedPr cwbl, UU wedi'r oil ("prun^ sy'n iawn?) Y mae cryn gyfatebiaeth rhwng Jac a Kai yn eu tynged. Ebe Jac pan yr oedd y diwedd yn cau arno, "Mae y diwedd-yn agoshau. Nis gallaf sefyll hyn yn hir. Ni ellir gwrth- wynebu natur." Teimlai Jac fod natur yn myned. yn ol arno, fel yr a tynged a rhagluniaeth yn ol ar Kai. Mae gan Kai fwy o elynion nag a fu erioed gan y gwr du (Johnson, feddyliwn). O'r dechreu y mae y Kaiser yn erbyn Duw a dyn, yn erbyn gwareiddiad, yn erbyn treddfau y natur ddynol, yn erbyn cfi- wylliant, yn erbyn bwriadau rhaglun- iaeth. Yr oedd yn ddyddorol sylwi fel yr oedd prifathrawon a phrif ddysgedig- ion yr wyddor a'r gelf o gwffio yn go- gw.ro,do at Johnson; ac ebent hwy am vr hen filwr dwrn, yr oedd gwyddor (science) ganddo; yr oedd yn gyflym- ach ei drem a'i dreed na Willard: yr oedd Jesse Willard yn ddibroflad fel Prydain Fawr, ac edrychid i lawr yn rhyw fath o ddirmygus ar y cow puncher, fel y gwawdiai Germani Shon Darw. Siaradai pawb a Jess fel yn j anobeithiol; ond ni cbollai y buchlanc ei wroldeb. Ebe Jess, 'Rwyf am gael gweled gyntaf beth sydd gan y gwr du i'w roi." Yr un fath y teimlai Shon Darw. Clywsai y Tarwddyn am wrhydrl yr Hwn; am ei allu athronyddol, am ei fyddin anorchfygol, am ei grwpwaith. a barn llawer, hyd yn'nod yn Mhrydain oedd na fuasai gan y Tarwddyn (y Cowboy Prydeinig) draed o dano! Nid hawdd yw dychrynu Shon! Aeth i'r maes a byddin fach ddirmygedig, fel Dafydd gynt a'i gareg lefn o'r afon a'i ffon dafl. a chwarddal y Kaiser, ac ebai Shon wrtho, "Yr wyt ti yn dyfod gyd- a'th Grwpp, a'th gap a phigyn, a dy haerllugrwydd milwrol, a'th Zepplin a'th sybmarin, a minau a ddeuaf gyda buddianau gwareiddiad, yn enw Duw a dyn, a chwymp sydd yn dy aros." Yr oedd military science o du Ger- mani, a-i ffawd blaenorol, ei buddugol- iaethau, ei darpariadau rhyfel, ond waeth beth a fo, cwympodd Johnson, a chwymp y Kaiser hefyd. Ar fyr ca y Kaiser brofiad Johnson (a Goliath o'u blaen) "Y mae y diwedd yn agoshau. Nis gallaf sefyll hyn yn hir. Ni ellir gwrthwynebu tynged." Daw chwech- ed rangamp ar ugain yr ymdrech, a cheir gweled y Kaiser ar wastad ei gefn, ag ond gwyn ei lygaid yn y golwg, ac ar ol y delo hun, bydd yn llawen ganddo dreulio y gweddill o'i oes mewn dinodedd, os y llwydda i gael ei hoedl. ———— «» »
GWLEDD GERDDOROL YN WILKES-BARRE,…
GWLEDD GERDDOROL YN WILKES- BARRE, PA. Gan Mair Llechid. Ebrill 7fed, 1915.-Brydnawn a nos Lun Pasg, cawsom Gymanfa Ganu fawreddog yn nghapel y T. C. ar Mead St, un na chafwyd ei chystal erioed. Daeth mwy na llond y capel yn nghyd yn yr hwyr, a bron ei lond y prydnawn, er yr anfantais fawr oedd cael cyfleus- derau teithiol, trwy fod gweithwyr y Traction Company ar streic, fel nad yw'r heolgerbydau yn rhedeg er's wyth- nos, ond er y cyfan, daeth y cantorion a'r gwrandawyr rywfodd o'r holl gylch- oedd ac amryw o bellder ffordd, sef Bangor, Scranton a lleoedd eraill, a bu iddynt gael gwledd gwerth dod o bell ffordd; dyma dystiolaeth pawb. Yr arweinydd ydoedd y Parch. R. R. Davies, ein gweinidog, a gwnaeth ei waith yn y modd goreu ac effeithiol trwy gael y gynulleidfa fawr i ganu a'r ysbryd ac a'r ddeall. Fel y sylwodd Dr. T. C. Edwards, Kingston, yn ei anerch- iad y prydnawn wedi i'r don "Eirinwg" gael ei chanu mor effeithiol, fod yn ddi- ameu fod y ddaear yn esgyn i fyny, a'r nefoedd yn disgyn i lawr" pan y can- wyd y geiriau ar ddiwedd y penill olaf gyda'r fath deimlad. Mae hon yn don a geiriau atdderchog, a'r oil o'r tonau a'r emynau oedd ar y rhaglen, yn nghyd ac amryw o rai da ac effeithiol o'r "Revival Hymns" Parch. W. A. Sunday, a'r "Hallelujah Chorus" ganwyd yn fen- digedig. Mae clod mawr yn ddyledus i'n. parchus weinidog, R. R. Davies, am lwyddiant y Gymanfa hon, a chael y Cymry mor unol i deimlo y fath ddyddordeb, a'u cael i barotoi ar ei chy- fer yn flaenorol; ni chafodd yr hen Gymry y fath wledd er's blynyddau. Son am Welsh Day: yn wir, dyma ni wedi cael un y dydd hwn ag oedd wrth ein bodd. "Moes mwy" eto, o'i debyg. Mae pobl Bangor wedi penderfynu cael un yn Mehefln gyda'r un tonau, a chael yr un arwein- ydd. Mi raid iddo ofni mynd at y chwarelwyr, bydd yn sicr o ganu fydd wrth ei fod04 ond rhaid i mi beidio a'i lethu a. gwaith. Llywydd cyfarfod y prydnawn ydoedd y Parch. H. W. Griffith, M. A., B. D., Plymouth, a bu yn ddoeth i beidio siarad llawer er rhoi yr amser i'r can- torion a'r dyeithriaid oedd yn bresenol. I Dechreuwyd trwy ddarlleniad a gweddi. fer ac effeithiol gan y Parch. John R. Williams, Providence, darllenwyd pa- pyr ar gerddoriaeth gan Benjamin Evans, South Wilkes-Barre, anerchiad- au rhagorol gan y Parch. T. Gray Davies, Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu eglwys Kingston, a chan j T. C. Edwards, D.D. (Cynonfardd.) Nid rhaid iddo ef wrth ganmoliaeth, mae ei i enw yn ddigon. Y gerddoriaeth wyd y prydnawn ydoedd the j Fort, "Amana, "gend the power j again," "Abbvrtgot" "Requiem," "Hale- lujia, what a. Saviour, "When Lo-ie Shines in,' "Llanidloes" a chaftwyd, yr "Hallelujah Chorus" y pryda^^ a'r I hwyr yn fendigedig. Terfynd y gwa- ¡ sanaeth gan yr hen dad, y Parch. Wil- liam J. Lewis, Scranton* yr hwn e-Md wedi el foddhau mewn addoliad taawr trwy y canu. Yr oedd lluniaeth *vedi ei ddarparu yn yr ystafelloedd eraill, a chafwyd cryn social time a chwrdd a hen. gyfeillion wrth y bwrdd rhwng y ddau gyfarfod. Rhaglen yr hwyr oedd fel y canlyn: Llywydd, Evan C. Jones, Warrior Run. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. T. L. Jones, So. Wilkes-Barre; araeth gan y Llywydd; darllenwyd papyr ar ganu gan James M. Williams, Nanti- cOke;Parchedigion Herbert Jones, J. W. Matthews o Bangor, a H. O. Prytherch o Scranton, anerchodd yn rhagorol yn fyr ac i bwrpas. "Wonderful Love," "Dychweliad," "I am praying for you," "Eirinwg," "Harvest time is here," "Glanrhondda" yn y modd mwyaf effeithiol ac addolgar. Er siomedigaet), i'r cantorion gorfuwyd gadael dwy don dda heb eu canu gan i rywbeth arall fyned a'r amser, a bu rhaid terfynu, ond 'roedd pawb, mewn ysbryd y gall- ent ganu awr neu ddwy wedy'n. Can- wyd yr oil yn fendigedig ac mewn ys- ■ ryd sddolgar a clodforus, yn enwedig pan yn canu y chorus. Gwnaeth yr orchestra ei rhan yn ganmoladwy; hefyd T. W. Thomson wrth' yr organ. Ar y diwedd daeth y Parch. R. R. Davids, a chynllun yn mlaen garai gael y flwyddyn nesaf, sef Cymanfa Ganu yn Scranton a Wilkes- Barre gyda yr un gerddoriaeth, ac werli hyny un fawr gyffredinol gyda eu gilydd mewn adeilad mawr yn un o'r trefydd Derbyniwyd hyn yn bleidiol ac feallai y bydd iddo gael ei gario allan. Rhodd- wyd y fendith ar y diwedd gan y Parch D. D. Jenkins, Wilkes-Barre, ac aetb pawb gartref wedi eu boddhau a chael rhywbeth i ymborthi arno yn y dyfoool, ni a hyderwn.
INFORMATION WANTED. I
INFORMATION WANTED. I Re DAVID JONES formerly of Cae'r Blpddyn, Penisarwaen, Carnarvonshire, Wales. Information is reauired, whether liv- ing or dead of David Jones, otherwise known as "Dave" of Cae'r Bleddyn aforesaid. When last heard of (8 or 9 years ago) he resided at Virginia City He previously lived at Granville,. Ross- land, and Gwin Mine. Any clue or in- formation will be gratefully received by the relatives at the above address or the undersigned. Nath Roberts Solicitor. 25 Bangor Street, Carnarvon, North Wales, G, B.
I NODION PERSONOL_I
I NODION PERSONOL I Ysgrifena gweinidog wrth dalu am y "Drych": "O'r holl newyddiaduron a chylchgronau sydd yn dod i'n cartref yn gyson, mae llawn mwy o groesaw i'r "Drych" na namyn un o honynt. Ystyriaf ef yn gredit i'n cenedl. Mae'n bleser genyf anfon fy nhanysgrifiad am dano." Cynelir Cyfarfod Dosbarth Wau- kesha, Wis., yn Bethania, Mai 26-27, 1915. Mater y Seiad, "LIe a dylanwad yr Ysgol Sabbothol yn meithriniad bywyd crefyddol." -I'w agor, R. Trevor Jones, Hebron.-O. O. J. (Ysg.). Carwn gywiro gwall a ymddangos- odd mewn brawddeg yn fy ysgrif ar "Dydd Heddwch," Mawrth 18. Yn lie darllen 'mwy na' gwaed, iaith a thraddodiadau, yn llawn a helaeth, barotoi y ffordd i heddwch," &c. Dar- llener: "ni wna," yna gwelir y syn- ^yr.—T. A. Williams, Stafford Springs, Conn. Cynelir gwyl flynyddol Bedyddwyr Cymreig Ohio a Gorllewinbarth Penn- sylvania ar ddyddiau Sadwrn a Sul, Mai yr 8fed a'r 9fed, gydag eglwys Emmanuel, Newcastle, Pa.' Cynelir y gynadledd am ddeg o'r gloch foreu Sadwrn. Hyderwn y bydd y gweini- dogion a'r cenadon yn bresenol yn brydlon.—J. Dwight Roberts (Ysg.). Chwith fydd gan ganoedd o'n cenedl yn y wlad hon a'r Hen Wlad ddeall am farwolaeth annysgwyliadwy y cerddor adnabyddus a'r cymeriad pur, O. T. Morris, Minneapolis, Minn., mewn can- lyniad i operation yr aeth o dani yn yr Eitel Hospital Ebrill 8. Bu farw ych- ydig cyn wyth o'r gloch nos Fawrth, y 6ed. Nid oedd ond ychydig ddyddiau er pan ddychwelodd adref ar ol taith, yn y Gorllewin.-Hugh J. Williams. Er fod ambell un yn grwgnach nad yw y "Drych" yn berffaith, cawn lawer iawn o ddymuniadau da oddiwrth Gymry a'u gwaed yn curo yn iach a'u cyllau yn treulio eu hymborth yn hwylus. Dyma ddywed Cymro o Dal- aeth Illinois: "Nid oes yr un cyhoedd- iad yn fwy derbyniol. Y mae yr erthyglau golygyddol yn gampus, yn iach yn y ffydd ac yn ymarferol." Yn mhlith y miloedd fuont yn Harrisburg, Pa., Ebrill 6ed, yn cefnogi Llywydd y Dalaeth yn ei ymdrech i gael local option, gwelsom dri o weini- dogion Cymreig: y Parch. R. E. Wil- liams, Philadelphia; John Hammond, Scranton; ac H. W. Griffith, Plymouth. Ni welwyd erioed y fath frwdfrydedd dirwestol yn yr hen dalaeth o'r blaen. Yr oedd y ty mor llawn fel mai sefyll y bu Mr. G. ar hyd y cyfarfod, Mr. W. wedi ei wthio i gadair y Llefarydd; Mr. H. yn eistedd ar lawr. Cyfarfod a gofiant tra yn fyw yn ddiau, ac am- gylchiad a wna hanes yn Penna.- Brawd. Enfyn hen ohebydd atom ysgrif wedi oediad o ryw ychydig o wythnosau, a gwna, ebe efe, rhag i ni feddwl yn y "Drych" fod pawb yno wedi marw. Dyna rhwm da. Mae Smryw leoedd yn y wlad hon yn farw, o ran dim a glywn yn swyddogol oddiwrthynt. Penoder rhywrai mwy byw na'r Heill i dori ar y dystawrwydd. Yr ydym Wedi awgrymu droiau i'n gohebwyr arfer eu doniau'i fod "yn fyr ac i'r pwynt," er rhoi lie i'w cydoheb- r wyr. "Peth cas iawn," chwedl PQweil, t Caerdydd gynt. yw i rai o'n gohebwyr fyned a chymaint o Ie. gan beri i eraill aros yn y tywydd. Ohebwyr. byddwch yn fyr ac yn daclus! Cwyna dyn cyfcrifol fod gormod o farwolaethau a chofiantau meithion yn y "Drych;" ac yr ydym ninau wedi sylwi eu bod yn amlhau y blynyddau diweddaf hyn, ac fod rhai o'r cofiantau yn estynedig iawn. Gan fod cryn lawer o ddadleu hefyd yn y "Drych," dylem ofalu rhag gwneyd mynwent o hono gyda'r rhai byw yn cwffio y tu allan i'r argae. •fWeu dydd. Eadikrn, rbrill .1 'oedd y Proff..D. i. Evans. A. M., Ll. D., I Prifysgol yn myned drwy Utica am Boston, Mass., ar ymweled a'i fab, n hwy, sydd yn athraw yn Harvard, ac oerld ganddo amser nac yn gyfleus iddo aros a throi i fewn i'n gweled. Buasai yn hynod dda genym ei weled a chael ymgcm ag ef. Y mae Mr. Evans yn ben gyfaill i'r "Drych." Hyderwn y treffia yn well y tro nesaf. Ysgrifena t-'hq I o'n gohebwyr yn dy- muno ar y rtiai a'u beirniadant, neu a adolygant eh hysgrifau, ysgrifenu dan eu henwau priodol. Ofer i ni yw ceisio ganddynt wneyd hyny, rywfodd. Gwell yw igiabi lawer ymguddio y tu cefn i ffugenwau, ac y mae gan bob un ei reswm. Pecha pawb yn dra chyffred- inol yn hyn, yn aclilysurol, fwy neu lai: hyd yn nod y rhai gwynant! Y Parch. William Hay, F. R. G. S., gweinidog eglwys Fedyddiedig Nassau St., Winnipeg, Can., fydd ya. traddodi anerchiad y graddio yn y Mcfedy Bible Institute, Chicago, Ill., Ebrill 22. Dv- "hwelodd Mr. Hay y llynedd o'i ymwel- iad a gorsafoedd cenadol yn China, Korea a Japan, gan bresenoli ei hun vn y gynadledd Fedyddiedig yn Shanghai, ac anerch efrydwyr mewn gwahanol wledydd. Yr oedd gynt yn llywydd yr Undeb yn New Zealand. Ysgrifenodd David Belasco fel hyn at Parson Price, Mawrth 25, 1915: Anwyl Mr. Price, Cymeradwyais fon- eddiges fach o Boston, Miss Reed, i chwi dro yn ol, a dywed wrthyf mor hyfryd yw eich dull o'i hyfforddi, a gv- maint y dyddordeb a gymerwch ynddi. Ar fyr galwaf, a gofynaf eich barn yn nghylch ei dawn a'i 'chynydd. Mae yn llawen genyf bob amser gymeradwyo efrydwyr atoch am hyfforddiant ar y Hais, gan eu bod bob amser yn fwy na boddlon ar eu cynydd. Bydd yn ddrwg gan deulu y "Drvch" Tlywed fod iechyd y Parch. J. T. Lloyd. D. D., Youngstown, 0., wedi tori i lawr, ac nad yw yn alluog i bregethu. Y Ful diweddaf a'r ddau resaf, llenwir nwlpud ei eglwys gan ei frawd, y Parch. Morfryn Lloyd, o Kingston, Pa. Nos Iau, Ebrill 22ain, bydd y Parch R. J. (Catch-my-pal) Patterson, yn traddodi anerchiad yn nghapel Hebron, Chicago. Mae ef erbyn hyn yn fyd- adnabyddus fel un o'r areithwyr dir- •^estol mwyaf gnlluog, ac yn llawn o'r a'-Voedd Gwyddelig. Dysgwylir llond c a, I o gynulleidfa. Ysgrifena Mr. Robert Morris, La Crosse, Wis., atom, ac y mae yn dda eenvm llongyfarch Mr. Morris yn teithio yn mlaen am ei 86fed flwvdd. Y mae yn derbyn y "Drych" oddiar 1852, ac yn talu yn mlaen ar hyd y blynyddau. Yehydig iawn all ddwerd cymaint. Teimla fel hyn: v Mae mlinion hwyrion oriau A'm nos hir yn ymneshau. Ac eto hyn yw ei brofiad yn gwynebu angeu: Afon fawr a ofnwyf fi-ydyw hon A rhaid im' ei chroesi; Ond trwy fy Ion mentraf hi A byw fyddaf heb foddi. Cyflwyna Mrs. Ann Davies, Cleve- land, 0., y ddau benill a ganlyn i D. F. Lewis a John D. Lewis (Dryslwynfab) am y sylw caredig a wnaethant o honi mewn cyfarfod diweddar, pan y gwnaed hi yn "Farddes o Lanelli." Y mae Mrs. Davies wedi anfon amryw o'i chynyrchion i'r "Drych": Diolch i D. F. Lewis Am ei syniadau gwych, Drwy ganmol dipyn arnaf Yn ngholofn beirdd y "Drych." Yn wir ces yr anrhydedd 0 ysgwyd Ilaw a'r bardd, Sef Dryslwynfab a Dafydd F. A'r ddau mor lion a hardd! Ac enw newydd gefais, A hwnw'n newydd spon; Y Farddes o Lanelli Fydd Alsie Davies Ion; Dymunaf i o'm calon- Hir oes i'r ddau ddyn glan, A llawer iawn o wenau'r nef I fyw'n myd Hen a chan. Unadilla Forks, N. Y Hysbyeir am farwolaeth Wm. Jones, a adnabyddid yma wrth yr enw "Uncle Billy Jones, ef wedi cyraedd ei 94 mlwydd oed. Yr oedd er's rhai blynyddau yn trigo ar un o ffermydd S. E. Armstrong yn y lIe hwn. Seattle, Wash., Ebrill 2.-Cynal- iwyd parti godidog yr wythnos ddi- weddaf yn nhy Mr. a Mrs. Emil Schultz ar 46th Ave. Y mae Lizzie, gwraig Emil yn Gymraes lan loew, ac yn organyddes ragorol. Merch ydyw i Mr. a Mrs. William C. Jones. Yr oedd Bill C. yno yn chwys dyferol yn edrych ar dl y phonograph, a gwnawd y ty yn chwilboeth. Canasom oil hen alawon Cymreig' i'r phonograph, a chanodd y phonograph hwy yn ol i ni. Dylasai y records gael ei anfon i Frisco i'r ffair. Canwyd unawdau gan Annie, Mable, Mrs. H. M. Morgan, Miss Mary E. Jenkins, a chafwyd adroddiad rhag- orol gan Miss Rose Thomas, a bu rhaid iddi ail adrodd. Siaradwyd gan Mr. J. Foulks, Mr. !^ohn Jenkins, Mr. Thos. H., Griffith, a Mr. T. C. Humphreys. Yr oedd y swper yn ddigon da i'r Arlyw- ydd: young turkey, salads, bara brith, cakes, te a choffee. My! chwareuwyd y piano gan Lizzie ac Annie. Ym- adawyd tua haner nos ar ol canu America dan arweiniad Miss Thomas —Goh. „ ■ Rheolau Tref n. At Olygyddion y "Drych": Carwn ofyn eich caniatad am gael cyflwyno trwy y "Drych" i sylw swyddogion Cymanfa Gyffredinol y Cyfundeb Methodistaidd yn y wlad hon am yeh- ydig o eglurhad mewn cysylltiad v rheolau trefn y Corff. Yr wyf yn cyf- lwyno hyn i Lywydd ac Ysgrifenydd y Gymanfa am fy mod yn gofyn y pethau isod er cael gwybodaeth swyddogol, a chael hyny fel ag y maent yn argraff- edig, ac nid fel ag y "byddwn ni yn gwneyd yn yr eglwys lie y dois i o hgdl hi": 1. yw y Cyfundeb Methodis1»aidd yn y wlad hon yn ddarostyngedm i drefniant y Cyfundeb yn- Nghymru? Os ydyw, i ba raddau. 2. Beth yw y rheol mewn cysylltiad ag ethol swyddogion tuallan i flaen- oriaid? (Er engraifft trysorydd yr eglwys), ac a raid i'r cyfryw fod yn un o'r blaenoriaid, am y meddir fod rhan o'r gwaith yma i'w ystyried yn gyfrin- achol. Yr wyf yn gofyn y cwestiynau hyn am fod cymysgedd yn meddyliau rhai brodyr o'r eglwys yr wyf yn aelod o honi mewn cysylltiad a rheoleidd-dra dygiad y gwaith yma yn mlaen.-YM- pfynydd. ¿ 7Ilf ift ———
ALLIANCE, OHIO..
ALLIANCE, OHIO. Mawrth y 18fed, 1915. bu farw yr hen chwaer, Mrs. Davies, anwyl briod J. Berwyn Davies, East Summit St. Gan- wyd y chwaer hon yn Merthyr Tydfil, ychydig dros 71 mlynedd yn ol, ac yno yn hen eglwys Seion y derbyniwyd hi yn aelod crefyddol pan yn ferch ieuanc, a bu yn ffyddlon i'w phroffes hyd y di- wedd. Hyd o fewn ychydig i'w marwol- aeth, yr oedd yn hynod ffyddlon yn ngwasanaeth y cysegr, ac nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneyd dros ei Meistr. Cafodd gystudd caled am yehy- dig wythnosau dan y pneumonia, ond dyoddefodd y cyfan yn dawel gan ym- ddiried yn y gwr fu farw drosti. Pan yn ferch ieuanc yn Merthyr, un wyd hi mewn glan briodas a J. Berwjm Davies o'r un lie, ac ni fuont yn hir cyn dyfod i'r wlad hon. Buont fyw am beth amser yn Pennsylvania, ond deall- wn eu bod yn Ohio er's blynyddau. Bu- ont am beth amser yn Delroi, Ohio, cyn dyfod i'r ddinas hon. Yr oedd y chwaer hon yn berthynas agos i Frost y.Telyn- wr Cymreig enwog o Ferthyr Tydfil: a'i unie berthynas sydd yn aros o'r teulu bellach ydyw y Parch. W. F. Dav ies, North Scranton, Pa., yr hwn oedd vn bresenol yn nghladdedigaeth ei chwaer. Yr oedd yn ddrwg genym dde- all iddo orfod dychwelyd gartref mor fuan, er myned dan driniaeth lawfedd- ygol yn yr ysbyty. Heblaw ei phriod, gadawodd y chwaer hon i ataru ar ei hoi y plant canlvnol: Mrs. William Jones, Mrs. Isaac Jones, Mrs. B. O. Born, Mrs. William M. Dav- ies ac Arthur Davies oil yn Alliance: Mrs. Dnvir] Davies, Amsterdam, Obio, a Mrs. William Lewis, Woburn, Mass., heblaw wyrion a rhai gorwyrion. Dvdd Sadwrn canlynol, cynaliwyd y gwasanaeth angladdol pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch. W. Ely o New- Philadelohia, ei hen weinidog, a'r Parch. Richards, cynweinidog yr eglwys Fedyddiedig o'r ddinas hon, ond yn awr o Cleveland. Dygodd y ddau weinidog dvstiolaeth i gymeriad Cristionogol yr hen chwaer, ac fe ganwyd detholion priodol gan bedwarawd o'r eglwys yr oedd yn aelod o honi. Cfnodd y Cymry oedd yn bresenol "Bydd myrdd o ry- p "Yti v dvfroedd mawr a'r tonau." Claddwyd yn mynwent gy- hoeddus y dref. Erfyniwn nawdd y net dros ein hen gvfaill Berwyn yn ei un- igedd. a bydded i ysbryd crefvddol yr hen chwaer hon yn Israel ddisgyn i ran ei phlant a'r perthynasau oil.— Cyfaill.
[No title]
Esboniad y Parch. Hugh Williams, Amlwch, ar 11. Corinthiaid., Pris 75c. I'w gael gan R. Morris Williams, Box 256. Utica, IV. Y.—Adv.