Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

MARY JONES A'R GOLEUNI NEWYDD.

News
Cite
Share

MARY JONES A'R GOLEUNI NEWYDD. Gan Brodor o Brynmawr. Gwaeledd iechyd a phrysurdeb a'm lluddiodd i sylwi ar surni Mary Jones, a'i gwawdiaeth o bethau cysegredig Duw a dynion, yn y "Drych" rai wyth- nosau yn ol. Addawodd Mary brofi ei rhagoriaeth ar y Pabydd. Amcana wneyd hyny yn yr ysgrif grybwylledig4 Yn y llith hon daeth allan yn ddi- gywilydd wedi lapio am dani y dilladau a wisgid gan y Babaeth yn y canol oes- oedd pan yn cxflawni ei hylldra duaf a gwaethaf. Mae pob rheswm ac esgus a roddai y Babaeth am ladd a llosgi y rhai na allent gredu a gweithredu fel hi gyda Mary yn awr. Mae ysbryd ei geiriau yn profl mai fel y gwnaeth y Babaeth y gwnai hi pe mantais gandtji- Diolch ddylem ni i blant y goleu, i'r bobl sydd yn derbyn y goleuni newydd fel y rhoddir ef iddynt gan Dduw, nad oes gan Mary fantais i losgi ei heretic- iaid wrth y stanc. Mae athrawiaeth Voltaire neu Tom Paine yn "bregeth ar y mynydd" mewn cydmariaeth a'r hyn sydd gan Mary. Mae Mary mor anffaeledig mewn barn, mor sicr mai hi sydd yn iawn, mai Archoffeiriad y glymblaid fechan a fynai rwymo medd- yliau ac eneidiau wrth y bedwaredd ganrif yw Daniel Williams, mai i goll- edigaeth foesol a chymdeithasol y dy- lai pawb fyned sydd yn tybio yn groes iddynt hwy ac hefyd mai i golledigaetii dragywyddol y maent yn myned, ac y dylent fyned, ac ydyw y Pab mai ef yw pen yr eglwys yn y byd hwn. 0 ran ysbryd a meddwl mai Mary a Pab y bedwaredd ganrif yn un. Y golled i Mary a'r enill i ni sydd yn y ffaith fod goleuni newydd yr heretics wedi codi mor uchel fel nas gall ein rhwymo na'n llosgi. Mae safle Mary a D. Williams yn y byd meddyliol-crefyddol yn yr un gongl a chanlynwyr Dowie a Mrs. Eddie, ar benau eu hunain. Ni chredant fod posibilrwydd iddynt hwy fethu mewn unrhyw beth, iawn ydynt ar bob pwnc, nid oes ymresymu a hwynt am eu bod wedi penderfynu pob pwnc yn flaenorol o'u tu hwy. Maent hwy yn nes at y Goruchaf, yn ei ddeall yn well, wedi eu hanfon i'r byd fel ei etholedigion ef ac am hyny nid oes methiant i fod idd- ynt yn y byd hwn na'r byd a ddaw; pan y maent hwy yn siarad, maent yn siarad yn enw a thros Dduw ac nid dadleu neu ymresymu yw eu rhwymau, eithr cyhoeddi barn gyfiawn, fod y rhai a dyngedant hwy i golledigaeth dra- gywyddol i gael eu llosgi, nid yn fwy am eu bod yn ddrwg nag am eu bod yn gwrthod plygu i'w barn anffaeledig ac ysbrydol hwy; maent wedi congli yr Anfeidrol mewn man bychan cyfleus iddynt hwy i alw arno i gario allan eu hamcanion a'u hewyllysiau hwy ar y digred o bob lliw a llun. Gyda y fath rai nid oes dadl. Dyn rhagorol yn ei oes ei hun oedd Augustin. Pe yn byw yn yr oes hon ac yn byw mor ffyddlawn i'w goleuni ac y bu byw i oleuni ei oes ei hun I rhestrid ef gyda Henry Ward Beecher, Phillips Brooks, Thomas Charles Ed- ,I wards, R. J. Campbell a Proffeswr Briggs-y 'goleuadau mwyaf ymddan- gosodd yn ffurfafen cred er Paul yr apostol, yn ngoleuni pa rai mae dynion gonest yn gweled pethau gwell, yn an- nghofio y pethau sydd y tu ol ac yn ym- estyn at y pethau sydd y tu blaen yn enw ac yn rhinwedd Iesu Grist., Dyna lie buasai Augustin pe yn byw yn yr oes hon, ond mae dal Augustin y bed- waredd ganrif fel yr oedd yn y ganrif hono yn y cilfachau pabyddol y trigai ynddynt fel esiampl i bobl yr oes hon yn gabledd mor fawr fel mae cabledd yr anffyddwyr yn foneddigaidd ac yn ddysgedig yn ei ochr. Y grefydd sydd yn nacau cynydd mewn gwybodaeth a gras sydd rywbeth tu allan i grefydd Mab Duw; mae gan bobl hawl i'w gwrthod, marw ydyw ac fel pob peth marw dylai gael ei chladdu o'r golwg. Er dangos rhagoroldeb ar y Pabydd ac er dangos parch i weinidogion y Gair yn mhlith y Cymry dadleua Mary fod y gweinidogion Cymreig yn cael llawn tal am eu llafur. Mae Brodor yn dywedyd na chant. Dywed Brodor fod y gweinidogion Cymreig yn America sydd yn cael digon o gyflog i gadw y blaidd oddiwrth y drws yn llai na dwsin a haner tra mae lluaws o aelodau yn gwario mwy o arian am gwrw mewn noson nag a roddant at grefydd mewn blwyddyn. Mewn ysgrif olygyddol yn y "Cyfaill" yn ddiweddar mae yr awdwr galluog yn dadleu fod cyflogau gweision Duw yn rhy fach. Mewn cyfarfodydd misol a chymanfaoedd yn Nghymru mae dynion a llygaid ganddynt yn dadleu fod y gyflog yn rhy fach. Nac ydyw ebai Mary; mae yn llawn digon. Yn America ar gyfartaledd rhyw bum can ddoler yn y flwyddyn ydyw, llai na chyflog torwr glo. Yn Nghymru o bed- war i bum doler yn yr wythnos ydyw; ond y mae yn ddigon ebai Mary, a dywed nad oes gan Brodor barch i weinidogion Cymreig am ei fod yn honi nad ydynt yn cael llawn digon o dal. Dywed Mary fod y mwy na'r haner ne- wynog gweinidogion Cymreig yn brawf fod crefydd y Cymry yn rhagori ar grefydd y Pabydd sydd yn rhoddi yd i'r ych sydd yn dyrnu. Yn wyneb haer- iadau gwylltion disail fel hyn o eiddo Mary pa faint o ymddiried ellir roddi i'r hyn a ddywed ar unrhyw bwnc?

I NODJADAU CERDDOROL.I

NODION 0 OSHKOSH, WIS.

IY DIWEDDAR EDWARD E. JONES,…

IMRS. MARGARET REES, OAK HILL,…

I Y DIWEDDAR ROBERT WILLIAMS,…

Y DIWYGIAD A'l ALWADAU. I

PARCH. CHARLES W. RECORD,…

CAMBRIA, WIS.

r O'R TWR. '