Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
r O'R TWR. '
r O'R TWR. I Golygfa Waharddol. Gan Sylvetus. IV. Dyma ddiwinod hyfryd, clir k di- gwmwl, manteisiol i weled yn mhell o'r "Twr." Gwelwn oreuon ein gwlad wedi cael golwg glir ar ddyfodol y fasnach feddwol; dacw hi wedi ei chlwyfo! ac yn prysuro i dynu ei thraed i'r gwely i farw yn yr U. D.! Dyma'r hanes-ddaw o'n cylchgronau a'n newyddiaduron ac ychydig ydyw ei phleidwyr ar lwyfanau cyhoeddusrwydd, o herwydd mae'r wlad o'r Werydd i'r Tawelog yn brysur ddod i wybod mai masnach annheg ydyw. Byddai y diweddar J. R. o Lanbryn- mair, yn ymresymu yn gryf yn erbyn y fasnach hon pan oedd y pwnc o ddir- west yn dechreu dod i sylw yn Nghym- ru. Dangosai yr annhegwch gwrthun ydoedd i lywodraeth wladol roddi trwydded i werthu y ddiod feddwol, tra y ceid yr un llywodraeth yn cosbi dyn- ion am ei defnyddio a'i gwerthu—llyw- odraethau yn rhoddi achos i'r deiliaid ddod i gyffyrddiad a'r hyn oedd yn peri iddi .eu cosbi. Mwyaf a feddyliwn am ei sylw, daw mwy o ffolineb y llywodr- aethau i'r amlwg. Arferai yr hen Ddaf- ydd Dafis o Gowarch, ddweyd, "y gellir rhoddi hyny o ddaioni sydd yn yr hudol- es felen mewn plisgyn wy, ond ni ellwch stwffio ei drygioni i Gwm Cowarch," meddai. Rhyfeddwn ninau yn y mis- oedd hyn am y difrod ofnadwy wneir drwy y rhyfel ar fywydau ein cyd-ddyn- ion; saif y byd gwareiddiedig i edrych ar fywydau yn syrthio ar faes y gwaed, tra yr ydym wedi bod am flynyddau melthion megys rhai yn cysgu uwch mater y ddiod sydd wedi, ac yn lladd ei myrddiynau a'u gyru i feddau an- mharod. Gwelwn brif wledydd y byd yn deffro i wahardd ymarferiad o a gwerthiant y diodydd hyn. Dacw Rwsia fawr wedi eu cau o'i therfynau, Ffrainc i raddau pell felly, a Germani yn eu gwahardd o'r fyddin, a Japan yn dechreu ymysg- wyd. Ond yn lie mae Prydain? Sonir am Brydain feddw! Nid yw hi wedi bod fwy yn y camwedd na'i chymydog- esau. Ond ai tybed y bydd yn y dyfodol yn fwy felly? Gobeithiwn na fydd. Gwel- wn yr anwyl D. Lloyd George yn de- chreu codi cynwrf yn ngwersyll y fas- nach, bydd iddo dderbyn adgyfnerthion cryfion, a dyma gyfle i Brydain daro, a chredwn y daw yn erbyn y fasnach hon a llaw gref. Mae ein gwlad ninau wedi deffro o'i chwsg, a byddin sobrwydd yn myned gryfach, gryfach, bob mis. Gwelwn fod ddiweddaf. Neu ag arfer gair y tadau --Anffyddiaeth Germani. Mae effeithiau hyn i'w weled yn ym- ddygiadau y milwyr yn y rhyfel ofnad- wy hwn. Maent yn hollol ddibris o fywydau dynol. Yn y frwydr forawl yn ddiweddar, ger ynysoedd Falkland, cyf- arfu pump Hong ryfel Germani ag wyth o rai Prydain- Gorchymynodd y mor-
Advertising
IDr)2c bv a WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTTSETRS.-Th- attention of business men In general tp oaHfxl to Y DRYCH as a superior adver- tising medium. being read by thousand.* who cannot be reached by any other pub- '.icaUon. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of tli. Union, In Great Britain and thf- British Dependencies. It is the recognised National Organ of the Welsh People. i
YMOFYNIAD AGORED: "Y DUW-I…
YMOFYNIAD AGORED: "Y DUW- I DDYN." 0.. y Parch. J. Rhys Evans, Bisbee, Arizona. Ta rhifyn Mawrth 4ydd o'r "Drych," gwelais ofyniad agored gan yr hynaf- gwr D. P. Price, Elgin, 111., yn nghylch y mater pwysig o Dduw-ddyndod yr lean. Dymuna Mr. Price ddim ond Beibl pur heb esboniad neb fel atebiad i'r gotyniad. Rhag dygwydd i'r "ym- ofyniad agored" fod yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i'n crefyddwyr ieu- anc sydd yn darllen y "Drych," dymun- af gynyg a ganlyn fel profion digonol, i mi, o wirionedd Duw-ddyndod y Mab. Gwir na cheir yn un man yn y Beibl fynegiad (statement) pendant fod yr lesa yn Dduw-ddyn, yn fwy na cheir yn- ddo fynegiad pendant fod dyn yn gread- ur rheeymol a moesol. Ond fel y dysgir yn eglux drwy y Gair fod yn y creadur o ddyn nodweddion ac elfenau sydd yn ei wneyd yn ddim arall ond creadur ihCoyniol a moesol, felly hefyd am r Dduw-ddyndod yr lesu, y mae'r Ys- grythyT yn llawn o gyfeiriadau am briodoleddau ei berson a'i gymeriad nas gellir dyfod i unrhyw gasgliad yn e« goleuni ond fod lesu yn Dduw-ddyn. Un mater mawr a gredir gan bob en- wad Cristionogol, parthed yr lesu yw: Mai Efe yw y Messiah. Nis gwn am un enwad Cristionogol yn gwadu y gwir- ionedd hwn. Ac os nad yw'r lesu wedi dweyd mewn ffordd bendant ei fod yn Dduw-ddyn. dyma un peth y mae wedi llefaru gyda phendantrwydd plaen yn ei gylch, sef mai Efe yw y Messiah. Dar- 1 loner loan iv., 25, 26, "Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan a thi, yw hwnw," meddai mewn atebiad i'r wraig wrth y ffynon. Yn nghylch priodoleddau y Messiah ca.wn fod yr Hen Destament yn glir. Sylwch: "Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodr- aeth ar ei ysgwydd ef; a gelwir ei enw of Rhyfeddol, cyngorwr, y Duw cadarn. Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnef- edd," Is. ix. 6. Ni raid wrth esboniad neb er deall meddwl yr adnod yna. Y mae y Messiah yn Dduw-ddyn; lesu Grist yw y Messiah; ergo: Y mae Iesu Grist yn Dduw-ddyn. Gellir galw sylw yr ymofynydd at adnodau eraill yn yr Hen Destament nas gellir casglu dim oddiwrthynt ond y gwirionedd o Dduw- ddyndod yr leau. Carwn i Mr. Price edrych i fyny yr adnodau hyn sydd yn y Testament Newydd a mi a wn y gwel yr hyn a geieia. "A hwy a alwant ei enw ef Immanuel, yr hyn o'i gyfieithu yw: Duw gyda ni," Matt. 1: 23. "Duw gyda ni" oedd y rheswm am alw y Mab bach yn lesu. Nis gall ond y Duwdod waredu oddiwrth bechod. Y mae yr ymgnawd- oliad o bechod yn ein natur mor ofnad- wy fel nas gellir ei ddileu ond drwy'r ymgnawdoliad o'r Duwdod yn ein natur hefyd. Gwel Rhuf. 7: 24, 25; 1 loan 3: 5, 8. Eto, "Yn y dechreuad yr oedd y gair, a'r gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y gair." A'r gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith," loan 1: 1, 14. Nid duwiol na dwyfol oedd y gair, ond y Duwdod ei hun. Nid planu duwiol anian mewn cnawd, na fol osodiad ond y "Gair a wnaethpwyd yn gnawd" yn gyson a'r hyn ddysgir yn Matt. 1: 18. Eto: "Fy Arglwydd a'm Duw," loan 20, 28, medd Thomas, wedi i'r gwirion- edd mawr o bersonoliaeth yr lesu oleuo arno. Pe bai'r dystiolaeth yn gabledd, yr Iesu fyddai'r cyntaf i'w ger- yddu am y fath beth. -Etc: "Eithr y rhai yw y tadau; ac o'r rhai yr hauodd Crist yn ol y cnawd, yr hwn sydd uwcn law pawb yn Dduw bendigedig yn oes oeeoedd. Amen," Rhuf. 9: 5.. Pan flin- wyd y Colossiaid gan athrawon gau yn dysgu philosophi a gwagdwyll parthed hanfodion yr Efengyl, ysgrifenodd Paul atynt yn gryf ar y mater o bersonol- iaeth yr lesu. "Ynddo Ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol," Col. 2: 9. Dyna'r anfeidrol yn trigo yn y meidrol "Unitarianism to the contrary notwithstanding," chwedl Bili Sunday. Eto: "Yr Hwn ac Efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais i fod yn ogyfuwch a Duw," Phil. 2: 6. "Duw a ymddangosodd' yn y cnawd," 1 Tim. 3: 16. Dyna'r lesu yn Ddnw-ddyn rfior blaened ag y gall iaith ddweyd hyny. Terfynaf gydag un cyfeiriad arall, sef at Heb. 13, 8, "Iesu Grist, ddoe a hedd- yw yr un, ac yn dragywydd." Yr un yn ei berson, ei waith, a'i ogoniant. Neb ond y Duw-ddyn lesu allai fod felly. Gwel y darllenydd nad wyf wedi dyfynu yr un adnod a briodola i'r lesu briodol- eddau y Duwdod. Y mae y Testament Newydd yn llawn o honynt. Yr ydym yn cydolygu yn hollol a Mr. Price yn yr adnodau a ddyfyna. Dyn- dod yr lesu a ddysgir ynddynt. Y mae y rheswm o hyny yn amlwg. Y Dyndod oedd y "point of contact" rhwng yr lesu a'r pechadur. Rhaid i'r mwyaf. bob amser, sefyll ar dir cyffredin i'r lleiaf os am enill y Ileiaf. Felly gyda'r lesu i wneyd ei Dduwdod, yn eglur i ddynion yr oedd yn ofynol iddo wneyd ei ddyndod mor eglur ag oedd bosibl yn nghyntaf. I mi y mae i Dduw-ddyndod yr lesu sail wyddonol ac athronyddol yn ogystal ag un feiblaidd a duwinydd- ol. Ond gan na ofynwyd am ddim ond Beibl gan Mr. Price ymatallwn ar hyn gan obeithio y daw goleuni iddo yn y mater hwn yn hwyr-ddydd ei fywyd. Mater o syndod yw fod gwr mor hen yn gallu ysgrifenu mor dda a'i ddyddordeb mor iraidd yn mhethau mawrion y Deyrnas. I I
RHAI 0 HEN GYMERIADAU PENMACHNO.
RHAI 0 HEN GYMERIADAU PEN- MACHNO. Gan E. O. Roberts. I « XX. I Wrth derfynu yr ysgrifau anmher- ffaith hyn am rai o'r hen gymeriadau a lechant yn mysg y tyrfaoedd mud yn mynwentydd Machno, nid oes genyf ond dymuno heddwch i'w llwch hyd ddydd mawr y deffroad. Mae y cyfnod o 35 mlynedd oddiar pan y ffarweliais a'r hen ardal wedi dileu llawer o fy adgof- ion am dani; ac yn enwedig profedig- aethau bywyd y blynyddau diweddaf wedi rhoddi llawer o bethau anwyl y dyddiau gynt yn y bedd gyda'm hanwyl- iaid. Arferwn edrych ar y fynwent gydag ofn a dychryn, a chyda rhyw ddyeithrwch ac oerfelgarwch, ond er- byn heddyw ymlwybraf megys mewn byd newydd, ac nid oes dim mor gyseg- redig ac anwyl yn fy ngolwg a hen fynwent y plwyf yn Penmachno He y cwsg fy rhiaint a'm chwaer, a Fair- mont Cemetery yn y dref hon lie y gor- phwysa fy unig ferch Meredith, fy mrawd Owen, fy nghefnder Owen Jones, a fy rhieni yn nghyfraith. Gallaf ddweyd yn ngeiriau yr awengar Gethin Jones: Angeu hen ac anghynes.-anelodd At anwylyd fy mynwes; Nis gallai ddod yn nes Na nghalon i 'nol fy' angyles. Nid rhyfedd i'r bardd athrylithgar Gwi- lym Hiraethog ganu am hen elyn y ddynoliaeth wrth feddwl am y difrod ofnadwy gyflawnodd yn hanes y teulu. Dyma a ddywed: Nid oes gen i ond gair i'w ddweyd Wrthyt angeu creulon mawr, Hen angenfil brwnt a gwaedlyd Ceir dy gopa dithau i lawr; Dydd sy'n dod cawn weled claddu Dy ysgerbwd hyll ei wedd, Minau ddeuaf yno i ganu Haleliwia ar. dy fedd. Dydd sy'n dod i'th laddedigioti Ydynt dan dy draed yn awr, Godi'n fyw, a sathrant weithion Dithau dan eu traed i lawr; Ni bydd wedyn son am farw Gair o son am frenin braw, Nid oes mo lyth'renau d'enw Yn ngeirlyfrau y byd a ddaw. Dymunaf ddiolch i'r Golygyddion, a'r darllenwyr am fod mor amyneddgar wrthyf, ac hefyd i'r cysodwyr am eu gofal a'u cywirdeb. Diolchwn yn gynes hefyd i'r cyfeillion hyny a wnaethant sylwadau ar yr adgofion ar dudalenau y "Drych," ac eraill a ysgrifenodd ataf yn bersonol yn diolch i mi am yr ys- grifau. Diweddwn drwy roddi hanes-gerdd "Hen Goed Mawr y Fynwent" o eiddo ? y bardd peraidd Owain Machno. RhOdd-11 wyd bodolaeth i'r gan brydferth hon, ar waith i hen frodor o Benmachno, a ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 75 mly-I nedd yn ol, yn cyfarfod a dyn o'l fro j enedigol, yn mhen oddeutu haner can' mlynedd, ar un o heolydd Chicago, ac ar ol holi llawer am ei hen ardal a'i thrigolion, y gofynodd "A ydyw'r Hen 'Goed Mawr yn Mynwent Penmachno o hyd?" Hen wyliedyddion oesau yw'r preiffion goedydd ban Sy'n lledu eu cangenau uwch mynwent y Llan: Y gwanwyn am ganrifau yn Avisgo 'u breichiau coed A phlant y cenedlaethau fu'n tyrfu gylch eu troed. Bu'r coed yn wyliedyddion o'r holl dri- golion mad, Rhai chwalodd croes awelon ar wasgar i bob gwlad: A gwylient y trigolion yn dod, o un i un, Dan flodau y pren almon, yn mreich yr olaf hun. Tra bydd y coed a'u breichiau yn ym- ladd gyda'r gwynt, Ceir hwy yn gofgolofnau o ffydd ein tadau gynt; Mae'u brigau yn ymdaenu uwch myn- went Llan y Plwy, Tra "yn y llwch yn- llechu" mae'r rhai a'u planodd hw¡! Dros feusydd y canrifau y rhodlaf ar eu hoi, A dylyn cwrs eu llwybrau wna fy ny- chymyg ffol: Ymholaf yno i hanes eu bywyd,—Beth fu rhan Y dorf sy'n huno'n mynwes hen fyn- went hen y Llan? I Bullawer 'storm y gwanwyn yn siglo 'r coed i'w sail, Gan gludo ar eu hedyn, yn wyw, eu gwyrddion ddail: Ac felly 'stormydd angau, ar lawer ael- wyd fad Gipiasant dyner flodau o fynwes mam a thad. Bu'r coed fel "dystaw dystion" o dywyll gymyl prudd Fu'n arllwys dagrau heilltion i rychu llawer grudd: Hanesion yn gyfrolau am lawer oes ddi- hedd A glowyd gan law angau yn nghyfrin- gell y bedd! Mae amser yn myn'd heibio, fel afon Machno, o hyd, Ac oes 'rol oes yn cwympo, fel dail y coed i gyd: Blodeuo byddo rhinwedd a moesau yn y fro- Ni chleddir byth anrhydedd cymeriad pur mewn gro. Ar oriel teml anrhydedd, ceir rhai yn cadw 'u sedd, Ni cheir yn nos dinodedd, nac annghof, gloddio'u bedd! Bydd enw 'r Doctor Morgan yn glod- fawr yn mhob oes—1 Cyfieithydd Beibl cysegrlan, byth lusern rhin a moes. A'r enwog fargyfreithiwr dyngarol Ro- deric Llwyd-2 Tosturiol fu 'r boneddwr wrth lawir gwyneb llwyd; Trwy 'i rodd, y tlawd addysgir er's oes- au yn ein bro— Hen afon Fachno sychir cyn yr an- nghofir o! A'r clodfawr William Cynwal, dderbyn- iodd farwol wys, Tra'n ymladd "gornest farddol" a'r en- wog Edmwnt Prys:-4 A'r bardd llafurus Gethin, a'i bartner "Jones y Plas"-5, 6 Geir yma 'n huno 'n ddiflin, a'r Jones- iaid o'r Brynglas. Daeth yma lawer Cristion i huno 'i hun o hedd," A hiraeth lon'd ei galon am gartref gwlad yr hedd:" Disgynodd yn grynedig hyd risiau "brenin braw"- Esgyna yn gadwedig y bore mawr a ddaw! Ddaeth yma afradloniaid? a chwipiwyd yn eu hoes Yn dlawd druenus grwydriaid; a fath- rent rin a moes, Ar lydan brif-ffordd pechod fu'n tori deddfau Duw- A'u hanes yn drist benod—yn rhybudd i bawb byw! Is colofn hardd goffhaol, o'r fynwent ddyrch ei phen Yr hun Tri Brawd rhinweddol a fagwyd yn Ffridd Wen,—7 Eu bywyd euraidd dorwyd yn moreu gwyn eu dydd, A'u henwau hoff a gerfiwyd fel etifedd- ion ffydd. Ac yn ei chol ddigyffro ceir beddfaen Blaen y cwm,—8 A'r meib fu'n heini, effro, sy dano 'n cysgu 'n drwm. Ar fynwes eu dyfodol y lluniwyd bri a hedd, Ond, collwyd dau obeithiol dros erch- wyn oer y bedd! Ac nid yw'r beddrod unig, ond newydd gau ei ddor, I Ar un o'r meib caredig—1" en arwr Mach- no Stor.-9 Machludodd haul eu byw?j,d yn ngorwel daear brudd 4, I ail dywynu 'n hyfryd a ngwanwyn bythol ddydd. Daeth yma lu o dystion, gwir etifedd- ion ffydd Yn ngherbyd gwych -»obeithion, "o rwymau'r byd yn rhydd:" Mae'u llwybrau fel goleu r. drwy anial dreijiiog fyd, A phara' i "berarogli W;'ta'u henwau hoff" o hyd. Ystormydd sy'n cynyrfu byd, fel an- wadal for, Ond heddwch sy'n teyrna-m dros hon, hyd wlad lor: Ond, ni wna storm, er rbuthro, wirion- edd gwyn yn sarn, Y da geir yn blodeuo aitludw boreu'r fam! 1.—William Morgan, D.) cyfieithydd cyntaf yr holl Feibl i'r G mraeg. Ym- ddangosodd yr argraffiat cyntaf yn 1588. Ceir ffenestr liwe« tg hardd yn eglwys Penmachno, ac yn argraffedig arni.Er cof am William Morgan, D. D., Esgob Llanelwy, anwyd yn yr ardal hon. Bu farw, 1604.' 2.-Roderic Llwyd-Bargyfreithiwr o Lincoln Inn. Un o hyf tfiaid teulu Llwydiaid, Hafod-dwyryd.f Gadawodd arian a thiroedd i adeila'ilu a gwadd- oli deg o Elusendai, ac i godi Ysgoldy a rhoi ysgol i blant tlodiOD ei fro ened- igol. 3.-Wihiam Cynwal—Baidd o fri yn byw yn Mhenmachno, oddeutu 1560- 1600. Dywedai Goronwy Owain "Fod Cynawl yn rhagorol fel barJd o ran na- turioldeb anian ac athrylith, ond fod Prys yn rhagori mewn dysg." 4.-Edmwnd Prys—Archddiacon Meir- ionydd. Un o brif ddysgedigiün Cymru yn ei oes. Awdwr anfarw. ,1 y Salmau can. 5.—Owain Gethin Jones- Bardd, hyn- I afieithydd, ac adeiladydd clodfawr, a anwyd yn Mhenmachno, 181. Cyhoedd- yd cyfrol 63. o'i ei t; "¡.o,âonol, &c. 6.-0. Jones, Glascwm Hall-Partner Gethin, nai-fab chwaer iddo. Cynry- chiolydd cyntaf Rhanbarth Arfon ar 'Gyngor Sirol.' 7.-Y 'Tri Brawd.'—y Parchn. R. O. Jones, T.W., ac O. M. Jones, T.W., a Richard Jones-bardd a cherddor da, a Christion cywir. 8.-Meibion Blaen-y-Cwm—Parch. T. Roberts, T.W., ac O. Roberts, oedd fardd gobeithiol. Brodyr i'r Parch. Joseph Roberts, D.D., New York. 9.Arwr Machno Stores." Mr. Griffith Roberts (Ty Crwn gynt), blaen- or gyda'r Wesleyaid—gadawodd rodd haelionus i dlodion yr eglwys-Bethania (W.)
I Y DIWEDDAR D. R. JONES,…
I Y DIWEDDAR D. R. JONES, CAM- BRIA, WIS. I Gan y Parch. J. R. Jones, Columbus, I Gan y Parch, J. R. Jones, Columbus, Wis. Fel un a gafodd gydnabyddiaeth agos a chyfeillgar a'r diweddar dalentog, David R. Jones er dyddiau fy mhlentyn- dod, fe oddefir i mi gofnodi rhai adgof- ion a sylwadau am dano. Cofiaf yn fyw am ei rieni, ac am ei frodyr a'i chwaer alluog, a fu farw yn flaenorol iddo. Daeth ef gyda ei rieni i Wisconsin yn 1845, o'r un parth o Gymru ag y daeth ein teulu ninau ddwy flynedd yn ddi- weddarach. Bu ei dad ef, a fy nhaid inau o du fy mam, John Roberts, yr Hendref, yn flaenoriaid yn eglwys Dol- wyddelen, am o leiaf ddeng mlynedd, gyda eu gilydd. Ar ol i fy rhieni symud i Wisconsin, disgynasant yn gyfagoe at ei deulu ef; a pherthynent i hen eglwys Seion, a'r Welsh Prairie* yn yr hon y bu ei dad yn gweini fel y blaenbr penaf yn mysg wyth o G-dynion cryfion a al- wyd i'r swydd yno, oedd wedi eu dewls cynt yn Ngbymru. Fel y mae yn hysbys i rai cyfarwydd, yr oedd ei dad, Mr. Richard Jones, Oalr land, fel yr adnahyddid ef yn Wiscon- sin, yn un o feibion aufarwol Tany- castell, Dolwyddelen. Yr oedd yn y teulu bump o chwiorydd, a phedwar o frodyr; oil yn gymeriadau o dalent a medr uwchraddol. Daeth pedair o'r merched i America ac i dalaeth Wis- consin. Yr oedd yr hynaf, Margaret. uriod Thomas Edwards, yn fam i'r bardd ffraethbert, y rhifyddwr peni- gamp, a'r celfyddgar Edward L. Wil- liams, Treddolphin, ger Cambria, ac eraill. Bu hi farw ar ei dyfodiad i Wis- consin. Cofiaf yn dda am ei phriod, yr hwn a fu yn cartrefu yn niwedd ei oes g-yda ei ferch Ellen, priod Edward Wil- liams, Buck Hill. Yr oedd y chwaer nesaf, Catherine, yn briod a Mr. Wm. i Jones, Meifod, ac iddi un mab John W. Tones, wedi cyfranogi o fedr a chyw- reinrwydd nodedig ei fam, a chyraedd gradd dda fel saer o'i ben ei hun. Un arall o'r chwiorydd oedd Mrs. Mary Evans, fu yn briod a Mr. Robert Evans, yr hwn a fu farw cyn iddi hi a'r plant ymadael o Gymru am dalaeth Wisconsin. Mab iddi hi oedd tad gweddw fy mrawd, Griffith O. Jones, Augusta, yr hwn a fu farw yn Nghymru Daeth John R. Evans, Cemaes, David R. ac Evan R. Evans, Racine, yn niwedd eu hoes; ac o leiaf, dair chwaer i Wis- consin. Yr oedd yr ieuengaf yn briod a'r diweddar Dr. J. L. Williams, Cam- bria. Ni bu tawelach a rhagorach gwraig ar y ddaear nag oedd Mrs. Mary Evans, ac yr oedd talent teulu Tany- castell yn amlwg iawn yn y mwyafrif o'i phlant hi. Mrs. Jane Owens, Tyny- bryn, oedd y bedwaredd a ddaeth i Welsh Prairie, meibion iddi hi oedd y diweddar John H. Owens, Minneapolis, ac n^en L. Owens, Racine. Bu mab arallTRobert, farw yn gynarol. Yr oedd iddi bedair o ferched, ac y mae yr ieu- engaf yn fyw eto yn Minneapolis. Mrs. Jane Foulkes, gweddw y diweddar Barch. Thomas Foulkes, Randolph, yn y diwedd. Fel cangenau eraill, yr oedd llawer o blant Tynybryn yn athrylith- gar iawn. Am y brodyr, ofer ysgrifenu gan fod cymeriadau y Parchn. John Jones, Talsarn; David Jones, Treborth, a William J. Jones, Welsh Prairie, yn wybyddus yn mysg y Cymry ar ddau tu y mor. Am wrthrych yr ysgrif hon, mab i Richard Jones, yr ail o ran oedran o feibion Tanycastell oedd, a'r pumed o'r plant, mi dybiaf. Blaenor, yn llond yr enw, hyd yr ymylon oedd Richard Jones, wedi ei alw i ddechreu yn Seion, Llanrwst; yna yn Dolwyddelen; yn Bethel, Columbus, yn 1845; ac yn Seion, Welsh Prairie, ar ol symud yno, yn 1848. Cofiaf yn dda am ei wasan- aeth yn y lie olaf, er nad oeddwn ond bachgen lied ieuanc. Ar gyfrif ei allu uwchraddol, efe a fyddai yn cymeryd yr arweiniad. Pan gorfforwyd yr eglwys yn ffurfiol, ar ol codi y capel yn Seion yn 1848, fe alwyd y rhai canlynol yn flaeiioriaid, allan o un-zlr-ddeg oedd yno wedi cael eu galw yn Nghymru. Rich- ard Jones, Robert Williams, Ffestiniog; Thomas Rowlands, y Vaenol, a'i fab Robert T. Rowlands, David Owen, y Gaerwen; Edward Williams, Buck Hill; Evan Edwards, y Fron, a Jabez Lloyd. Heblaw yr uchod, yr oedd y Parch. William J. Jones, Snowdon, yn perthyn i'r eglwys; a'r Parch. Griffith Roberts, Lake Crystal, yn niwedd ei oes, am gyf- nod o tua tair blynedd. Nid yn fynych y gwelwyd eglwys wedi ei bendithio a'r fath nifer o swyddogion cryfion a galluog, a Seion y pryd hwnw. Byddai seiat yn cael ei chynal am ddau bryd- nawn ddydd gwaith, a'r swyddogion a'r aelodau yn cyrchu iddi o gyrion eithaf y sefydliad, a phawb yn gorfod gwneyd eu ffordd ar eu traed, gan nad oedd gan nemawr geffylau, dim ond hen ychain, a math o wageni wedi eu gwneyd gar- tref, gydag olwynion wedi eu llifio allan o logiau. Er fod Richard Jones yn byw dair neu bedair milldir o bellder, ac yn llawn ei drafferthion, byddai yno braidd vn ddifethu, a phawb yn dysgwyl wrtho. Nid wyf yn meddwl i mi wrando neb ar ei ol, na blaenor na phregethwr. a'r fath for o ddawn, ac a chymaint parodrwydd, beth bynag yr amgylchiad ag ef. Mewn adeg y bu tua Llanrhochwyn. arferai gymeryd rhan, mewn math o qyfarfod darllen, lie yr ymdrinid a 'lyfr y Dr. Edward Williams, ar "Union- deb y Llywodraeth Ddwyfol." Yn mysg eraill fyddai yn cymeryd rhan yn yr ymddyddan, gydag ef a'i frodyr, yr oedd I v diweddar Barch. Evan Evans (leuan Glan Geirionydd). Talodd y gwr enwog hwnw y deyrnged ganlynol iddo yn mhen blynyddoedd. "Yr oedd yn hawdd gweled y pryd hwnw, meddai wrth y Parch. David Jones, ychydig cyn ei far- wolaeth, "fod John a'i frawd Richard vn mhell uwchlaw y cyffredin. Ni chyfarfyddais a neb erioed mor gyflym- ei feddwl a Richard Jones, ac y mae yn ddiameu genyf pe buasai yn parhau i astudio fel y cychwynodd, heb ymroddi cymaint i'r byd y buasai yn ddyn an- nghyffredin, ac yn bregethwr digymar braidd, llawn cymaint, os nad mwy na John. Yr un pryd yr oedd rhyw gryf- der annghyffredin yn meddwl John. rhyw dreiddgarwch anwrthwynebol. ond iddo gael ychydig amser i fyfyrio y nwnc. Os cai John ohirio y mater dan sylw hyd y noswaith ganlynol, traddod- qi araeth nerthol a hyawdl, fel afon lifeiriol yn yseubo pob peth o'i flaen. ond os call Richard ganiatad i'w holi, byddai yn sicr o'i ddyrysu. Ni welais neb erioed mor barod ei feddwl a Rich- ard, na neb erioed a'r fath allu ganddo i daflu ei wrthwynebwr i ddyryswch." Gwn yn sior y cyduna pawb a gafodd gyfle i'w wrando, ac ymgydnabyddu ag ef, a'r dystiolaeth gref hon i'w alluoedd Am Mrs. Ann Jones, ei briod; merch ydoedd i'r hen flaenor Evan Owens. Llanrwst. Yr oedd hithau yn wraig feddylgar a doniol. Ganwyd i'r teulu un ferch, a phump o feibion, pedwar o ba rai erbyn hyn sydd wedi eu claddu, a dau yn fyw. Bu y tad farw Medi 11, 1850, pryd nad oedd ond tua 51 mlwydd oed. Bu ei weddw fyw hyd Mawrth 19, 1862. Y cyntaf o'r plant i gael ei alw oedd William R., yr agosaf i'r ieuengaf; yn wr ieuanc addawol, wedi enill safle dda mewn masnachdy llwyddianus yn un o ddinasoedd y dalaeth. Cafodd y gweddill estyniad einioes, nes cyraedd hwyrddydd henaint. Bu yr unig ferch, fu yn briod a'r cerddor enwog Elias B. Williams, yr hwn a fu farw yn ngwan- wyn 1878, cyn cyraedd ei 58 oed, fyw i gyraedd marc eithaf yr addewid. Bu hi fyw o gylch 32 mlynedd ar ei ol. Caf- odd John R. Jones, yr hynaf o'r meib- ion, fyw i fynd gryn nifer dros y ped- war ugain. Am David R. Jones, y mwy- af ei feddylgarwch o'r meibion; er nad oedd y mwyaf ei ddawn, fel siaradwr cyhoeddus. Yr oedd yntau wedi gadael ei 82 mlwydd oed, er Hydref y llynedd; fel y bu yntau fyw yn gyflawn o ddydd- iau. Y mae yr hynaf o'r brodyr sydd eto yn fyw, y galluog ac adnabyddus Evan O. Jones yn hyn na'i diweddar frawd, ond y llall yr ieuengaf oil o blant y teulu. (I'w Barhau).
Al ANFFYDDIAETH YW YR ACHOS…
Al ANFFYDDIAETH YW YR ACHOS O'R RHYFEL? Gan Dr. Daniel Williams. Yr wyf yn credu o'r dechreu mai Germani yw y prif achos, os nad yr holl achos o'r rhyfel hwn. Hi gyhoeddodd ryfel yn erbyn Rwsia a Ffrainc, a'i- byddiu hi aeth drwy Belgium. Heblaw hyn, pe buasai hi wedi ymuno a Phry- dain, Ffrainc ac Italy i gyflafareddu rhwng Awstria a Servia, yn ol cais Syr Edward Grey, mac yn ddiau y buasai y tywallt hyn wedi ei arbed. Os Germani yw yr achos o'r rhyfel, beth yw yr achos o'r rhyfel, beth yw yr achos fod Germani wedi ymddwyn fel hyn? Yr achos yw, yr wyf yn credu, fod Crefydd Crist wedi cael lie bychan iawn yn Ger- mani yn y ganrif neu ganrif a haner 18 o'r Talaethau wedi myned yn sych drwy duebu y fasnach allan o honynt yn llwyr; gymaint ag wyth o'r cyfryw wedi sychu yn ystod y saith mis di- weddaf. Daw hyn i brofi fod y wlad wedi deffro o blaid Gwaharddiaeth. Swn sydd yn mrig y morwydd fod rhag- or ar fin dod i'r rhenc waharddol. Hef- yd, mae agos yr oil o'r Talaethau eraill dan "lywodraethiad lleol" (local op- tion) a ch-eir rhai o'r Talaethau sydd dan y gyfraith hon yn sychu yn gyf- lym, a'r rhyfel rhwng y "dry's" a'r "wet's" yn dod i sylw mawr yn ninas- oedd a man drefi y Talaethau sydd dan "lywodraethiad lleol." Cawn fod yn mhell dros haner poblogaeth ein gwlad o dan y "dry system of law;" a pnan gofiwn fod dros haner y Gydgyngorfa yn Washington wedi tuebu dros fesur Gwaharddol yn ddiweddar, daw hyn eto i brofi fod y wlad yn dod yn addfet- ach dros Waharddiaeth a hyny yn gyf- lym iawn. Mae ochr y saloon wedi uno yn undeb cyngreiriol o dros 200,000 i wrthwynebu yr ochr sych yn y modd mwyaf dieflig. Yn eu gwrthwynebu gwelwn ddeg o wa- hanol Gymdeithasau sydd fel byddin- oedd di-droi-yn-ol yn tanio i rengau y saloon-yr Anti-Saloon League of America; The Woman's Christian Tem- gwneyd y cnawd yn arbenig trwy ddwy- perance Union; a'r Third Party Pro- hibitionist, &c. Yn mhlith ein holl en- wadau crefyddol, yn Brotestaniaid a Phabyddion, cawn hwy yn uno yn IIu o gymdeithasau eraill i wrthwynebu y Bachus hwn, ac arwyddair yr oil mewn llythyrenau breision ydyw "The Saloon must go." Mae sylw mawr yn cael ei roddi i'r gwahaniaeth mewn cyn- ydd yn y rhanau Gwaharddol, rhagor y manau mae'r ddiod mewn ymarferiad: delir y Ileoedd hyn wyneb yn wyneb a bernir hwy mewn modd teg. Yn y rhan- au Gwaharddol gwelir masnach yn fwy llwyddianus, a'r dinasyddion yn fwy dyrchafedig mewn moesoldeb a chref- vdd; tra yn y rhanau sydd heb fod dan Waharddiaeth, cawn eu hawyr yn ddi- g-ynydd ac anfoesol, a chrefydd fel myrtwydd yn y pant. Mae Peion IDuw wedi bod yn trydar am ddifodiad y tfaanacfo feddwol am E'np.dlaetbau, a bu amryw o'n hen wein- do,f-ion Cymreig yn ysigrifenu ar ddalen- ct,u y "D-rych" dros waharddiaeth Igvda mawr pel." Erbvn heddyw maie yr hyn y Tvregethent ol blaid, ac a wedd lent am d'8.no wedi dod yn llanw cryf sydd yn myned i ordoi y wlad. Edrychid ajnynt gan ryw ddosbarth o grefyddwyr gyda dirmyg, a gwelsom hwy yn cael eu gwrthwynebu dr,Vr wasig Gymreig. Br hyny, yr oeddynt hwy fel prophwydi yr Arglwtydd dan yr Hen Testament, ym d-didd erbyn wyneb yn llefaru am bechod- au y genedl. Teimlo yr wyf, a dywedaf yn onest, ein bod fel Oymry ar ol t"D. brodyr Americanaidd i wrthweithio gallu y saloon, a chredaf fed mwy o wa- harddiaetih wedi ei iphregeLhu o'r pwl- pud a'r wasg Gymreig flynyddau yn ol, gan rai sydd wedi myned dros y dorian i'r ochr draw, nag sydd yn awr. Os wyf yn camgymeryd goreu oil. Bydded i ni fel Cymry beidio sefyll yn ol yn nydd y frwydr; ein dyledswydd yw dweyd a gwneyd, dweyd yn yr eglwysi, ac yn ein cyfarfodydd dirwestol; a gwneyd pan ddaw cyfle i daro gyda chroes ddydd yr etholiad. Cofiwcn Gymry, geiriau a gweithredoedd. "Deulu Seion ymgryfhewch." Rhaid yw i'r frwydr hon gael ei hym- ladd i fuddugoliaeth. Melldith yw mas- nach y ddiod feddwol yn ein Gwerin- iaeth, ein heglwysl, a miloedd o gartrefi ein gwlad. Mae ein Gweriniaeth yn galw arnom i fod o ddifrif; ein crefydd yn dweyd wrthym am fod yn ffyddlon; y cartrefi yn llefain yn uchel—"bydd Ian;" a'r gydwybod yn dweyd "bydd gywir." Mae'r olwg lwyddianus sydd ar Waharddiaeth yn destyn o lawenydd mawr i'w phleidwyr. Os penaeth ym- erodrol, a ffrwyth llafur yr eglwys, neu gyfreithiau y Seneddau yw'r offerynau i olchi ymaith aflendid meddwdod; cofiwn hefyd mai Duw sy'n rhoi y cyn- ydd, ac yn bendithio llafur pawT) sydd yn caru sobrwydd.