Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
m 3Drtecb, A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general IF oalled to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousand? who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union. In Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
CASTELL CASWALLON.I
CASTELL CASWALLON. I Gerald Gymro. j Ysgrif IX. Yr ydym wedi dod hyd at ail ran "Desgrifiad o Gymru," a theimlwn y byddai yn well genym adael y rhan hon yn ddisylw, ond prin y byddai hyny yn deg. Yn ei Ragymadrodd i'r ail ran hon, dywed yr awdwr ei fod yn ystyried fod trefn a gweddeidd-dra yn gofyn ar fod iddo—wedi treulio cymaint o amser a gofod i gasglu ac i groniclo yr hyn sydd yn adlewyrchu clod ar ein cenedl—bell- ach, alw sylw at yr hyn oedd ddiffygiol a diraddiol yn ein hynafiaid. Dywed nad oes ystyr nac awdurdod i hanes- iaeth a fyddo yn celu un ochr i'r gwir- ionedd. Ymhelaetha nad oes neb wedi ei eni nad oes iddo ei golliadau a'i wendidau. Awgryma y gallai fod y genedl hon wedi ei llygru a'i dirywio gan hir alltud- iaeth a thlodi, oblegid er fod tlodi yn fynych yn foddion i atal llawer drwg, mynych hefyd y profodd yn effeithiol i gynyrchu llawer o ffaeleddau croes i rinwedd. Cyhuddiadau. ) Mae y bobl hyn mor ysgafn o feddwl ag ydynt o gorff, ac nis gellir mewn un modd ddibynu arnynt. Hawdd eu per- swadio i wneyd peth, a'r un mor hawdd eu perswadio i ymatal. Ni thalant un- rhyw barch i lw, ffyddlondeb, na gwir- ionedd. Ni phetrusant gymeryd llw er mwyn hunanles ac elw. Cyhuddir hwy hefyd o fyw ar ladrad (plunder), ac o ddiystyru. rhwymau heddwch a chyfeill- garwch.' Nid yn unig gwnant ymosod- iadau ysbeilgar ar eu gelynion, ond hefyd ar eu cydgenedl. Cyhudda Gildas o fod yn rhy lawdrom arnynt pan y dy- wed nad ydynt "na gwrol mewn rhyfel, na ffyddlon yn amser heddwch." Gwrth- brofa Gerald hyn trwy alw i gof y modd gwrol yr ymladdasant yn erbyn y Rhu- feiniad dan Casivellannus. Ac eto, cy- hudda Gerald ei hunan hwy o fod yn ddiffygiol mewn brwydr, ac yn isel a di- anrhydeddus yn eu ffoedigaeth, ac eto dywed fod eu gwroldeb yn dod i'r golwg yn fwy yn eu ffoedigaeth (retreat) na phan yn gwynebu y gelyn, oblegid tro- ant o amgylch ac ail ymosodant, ac fel y Parthiaid saethant o'u hoi. Dywed eu bod yn uchelgeisiol am feddianu tiriogaethau eraill, a'u bod yn nodedig am gweryla a'u gilydd. Dy- wed eu bod yn hoff o osod treth drom lie y gallont arfer awdurdod; eu bod yn annghymedrol yn eu cariad at ym- borth a diodydd meddwol. Dymunem alw i gof y darllenydd yr hyn a ddywed- id am Gerald fod ganddo yntau ei ffael- eddau, ac mai un o honynt ydoedd "na chywilyddiai fod yn annghyson." Cofus i ni sylwi fod y Cymry cyntefig yn ol Gerald ei hun yn dra chymedrol ar fater bwydydd ac mai dwy waith yn y dydd y bwytaent. Dywed eu bod yn gynil pan fo yr adeg yn galed ac yn was- traffus pan fo digonedd. Cyhuddiad pwysig a ddygir yn eu herbyn yw eu bod yn euog o briodi eu gilydd hyd yn oed yn y drydedd radd o berthynas gwaed. Dywed fod gan eu heglwysl gynifer o bersoniaid a chyfranogion ag sydd o arweinwyr mewn plwyf, ac fod meibion yr offeiriaid yn esgyn i swydd y tad yn rhinwedd gwaedoliaeth ac nid drwy etholiad. Priodola orchfygiad Prydain i bechodau y trigolion yn ogys- tal ag i ddialedd Duw am yr un rheswm, meddai ef, y collasant Caerdroia. Rhyfedd yw gweled penod yn y rhan hon ar "Y modd i orchfygu y genedl hon." Yr awgrymiad cyntaf yw (a) Talu sylw manwl i'r mater hwn am ys- baid blwyddyn, oblegid nis gellir gorch- fygu pobl fel hyn na ddeuant allan i frwydr agored, ond llechu mewn amddi- ffvnfevdd a chastelli caerog, mewn un frwydr, ond yn hytrach eu gwisgo allan trwy oediad ac amynedd. (b) Trwy ranu eu nerth, ac ymdrechu trwy addewidion ac anrhegion (bribes) i'w gosod y naill yn erbyn y llall; gan eu bod mor eiddigeddus o'u gilydd, ac mor fradwrus. (c) Trwy godi cestyll ar hyd y terfyn a gosod teuluoedd Seisnig i fyw ynddynt, ac atal pob bwydydd o Lloegr, yn y cynauaf (autumn). Yna yn y gwanwyn anfoner milwyr arfog i'r coedwigoedd lie y trigant, a gwnaer ym- osodiad, ac yna anfoner milwyr ereill, ac eraill, nes llwyr orchfygu y bobl hyn. Pa fodd y dylid llywodraethu y genedl hon wedi y gorchfygir hi? Gosoder dyn o feddwl cryf a phenderfynol i lywodr- aethu, yr hwn yn ystod amser heddwch a dalo ufudd-dod i'r gyfraith, ac na barcho lywodraeth; oblegid fel cenedl- oedd eraill mewn cyflwr barbaraidd, hoffant gael eu parchu a'u hanrhydeddu. Cosber hwy yn uniongyrchol am wrth- ryfel, ond pan edifarhaont ac y gwnant iawn am eu trosedd, maddeuer iddynt, a goddefer iddynt fwynhau dyogelwch a pharch, tra y parhaont yn ffyddlon. Yn y cyfryw fodd trwy dynerwch, gellir eu henill i ufudd-dod ac i garu heddwch. Ei gwestiwn nesaf yw, "Pa fodd y gall y genedl hon wrthsefyll a gwrth- ryfela? Pe bai y genedl hon yn gyfar-, wydd ag ymladd cyson, ac yn ymarfer ei hun i hyny, yn lie dibynu ar eu medrusrwydd a'u bywiogrwydd, pe byddai eu tywysogion a'u swyddogion milwrol yn gallu ymuno a'u gilydd mewn amddiffyniad cadarn a diysgog, neu pe gallent gael un Tywysog a hwnw yn un da, nis gellid darostwng y genedl hon yn hollol byth bythoedd. Ar ddi- wedd y benod hon adroddir yr ystori am y gwr o Pencader, yn ateb gofymad Harri II. gyda golwg ar y posiblrwydd o orchfygu y genedl hon "Ond ni ellir byth ei llwyr orchfygu oni bai fod dialedd Duw yn cael ei ychwanegu at ddialedd dyn ac nid wyf yn credu fod unrhyw genedl amgen na'r Cymry, a all ant ateb am y rhan hon o'r wlad yn nydd mawr y cyfrif." Ni gofiwn fod Gerald yn ysgrifenU tuag 800 o flynyddoedd yn ol, ac mai am Gymry yn eu hystad anniwylliedig a bar baraidd yr ysgrifena. Priodola iddynt bechodau gwarthus ac ymddygiadau an- nheilwng, ond mor bell yn ol a hyny cydmarant yn weddol a rhai o genedl- oedd gwareiddiedig y byd heddyw. Oni thebyga y Germaniaid yn eu dull o ym- ladd iddynt yn awr; nid hir y byddai yr Allies yn tynu y g-vkys i'r pen pe caent y gelyn ar dir teg. A dyma eu llongau rhyfel! Mae llongau rhyfel Prydain yn haeddu clod dibendraw am gadw y giwaid hyn yn Mor y Gogledd pe methai a. gwneyd dim arall, a thybiem ni yn fwy gweddus i Arlywydd ein gwlad gyd- nabod Prydain am waredu masnach y byd rhag cael ei pheryglu gan longau rhyfel Germani nag anfon protest yn er- byn y wlad am wneyd yn sicr na bod dim nwyddau dinystriol yn cael eu har- llwys i wlad yr Ellmyn. Mor ddall yw ein Llywodraethwyr na welent mai ben- dith i'r byd fyddai tynu y rhyfel i'r pen mewn mor lleied o amser ag a fyddo yn bosibl. "Hands off," Wilson a Bryan, ddywedaf fi, gadawer i fyddinoedd y Duw byw law rydd i roi pen ar ormes y 'religious fanatic and hypocrite' penaf welodd y byd erioed heb eithrio Mari Waedlyd. CASWALLON.
GOLWG ARALL AR Y RHYFEL. I
GOLWG ARALL AR Y RHYFEL. I Gan Wil Caerwyni. t II. I Dywed Pennant-twrch fod Prydain a Lloegr yn eiriau cyfystyr genyf. Dich- on eu bod, 'onid cyfystyr ydynt yn y cysylltiad y defnyddiwn hwynt. Mae gwahaniae'th yn y geiriau-Lloegr yn un wlad, Cymru yn un wlad, y Werddon yn un wlad a'r Ysgotland yn un wlad, ond Lloegr wedi ladrata y tair trwy feiddgarwch gwaedlycl ac wedi gorfodi y tair i blygu i a gwasanaethu Lloegr yn y modd a'r dull y barnai Lloegr yn oreu; eu gorchfygu, eu gorfodi, eu rhwymo a gawsant. Nid yw y gwled- ydd hyn o dan rwymau moesol i wasan- aethu Lloegr mewn rhyfel nac arall. Mae Pennant-twrch yn meddwl fod y gair Prydain yn cuddio twyll a gwaed. Ei efengyl ef yw, "Pan weli leidr cy- tuna ag ef, a dos gydag ef er cario ei fasnach yn mlaen." Ni roddaswn waed ceiliog er i Lloegr gael yr oruchaflaeth, ond rhoddaswn bob dafn o waed fy nghalon er cael Cymru yn rhydd o ?aethiwed y Sais. Nid Sais addolwr nac edmygwr yw Wil Caerwyni ond Cvmro sydd yn foddlawn aberthu ei fywyd dros Gymro, Cymru a Chymraeg. Gwna Pennant-twrch ddefnydd hel- "th o ffaith y ddwy lvnges yn Manila "Ray, ond nid yw yn cteall athroniaeth y ffaith. Cred ef mai cyfetllgarwch Pry- dain a'r Unol Dalaethau fu y rhwystr i Germani, ac efallai i wledydd eraill, i beidio cymeryd plaid yr Ysbaen, ond ni ddywed wrthym mai cyfeillgarwch Pry- dain a'r Unol Dalaethau fu achos i Bry- dain i estyn ei bysedd blewog a rheibus i faterion ein Panama Canal, a chyn hyny i estyn cynorthwy a chydymdeim- lad i rebels y de pan oeddent am ddifa y wladwriaeth ac yn lladd ein plant. Pe Pennant-twrch haner mor gall ac ydyw o addolwr Sion Darw buasai yn gallu deall ffaith Manila Bay fel y mae athroniaeth yn ei deall. "Mae Prydain yn cashau yr Unol Dalaethau, ond yn cashau Germani yn fwy, felly pan mae y ddwy yn groes i'w gilydd mae Pry- dain yn ochri i'r un mae hi yn gashau leiaf. Nid oes ffaith yn hanes Prydain ellir yn wirioneddol briodoli i gyfeill- garwch. Mae ei moesgarwch ymddang- osiadol ar brydiau tuag at yr Unol Dal- aethau yn orfodiaeth a wesgir allan o honi gan ymwybyddiaeth ei chalon o uwchaflaeth a rhagorach ac anrhydeclu- usach cenedl; mae ei hofn arni. Dywed Pennant-twrch mai dim ond y Twrc sydd yn bleidiol i Germani. Nid pleidio Germani yw fy amcan i; ni ddy- wedais air o'i phlaid. Mae Twrch yn cymeryd yn ganiataol nas gall un fod yn anmhleidiol hyd y ca y ffeithiau. Aros am danynt wnaf fl. Pan fydd y rhai hyn genyf gwnaf fy ngoreu i ffurfio barn na fydd raid ei newid, ond hyd yn hyn ni wna Pennant-twrch a'i fro- dyr byrbwyll un gronyn o help er pen- derfynu, ac ni enillant gydymdeimlad a Phrydain. Mae papyrau dyddiol y wlad yn rhoddi i'r bobl amgenach goleu. Tybed ei fod yn credu nad oes neb ond y Twrc yn bleidiol i Germani. Ar fy ngair, nid ydwyf fl-yn credu er gwaeled yw y Twrc ei fod yn bleidiol i Germani. Ei orfodi a ga gan amgylchiadau, fel y ca eraill, i fod yn bleidiol i wledydd eraill. Byddai yn werth i Twrch i anfon 25c. i'r Celtic Press, 15 So. 9th Street, Phila- delphia, Pa., am gopi o "The Crime eAgainst Europe" gan Syr Roger Case- ment, gwr a fu am dros ugain mlynedd yn consul dros Brydain mewn gwahan- ol wledydd, ac un sydd yn gwybod han- es Prydain ac yn deall ei hysbryd. Cyn y rhyfel ysgrifenodd Syr Roger res o ysgrifau er dynoethi achosion cyflafan ofnadwy oedd yn agoshau; yr oedd yn anmhosibl iddi beidio dyfod; mae wedi dyfod a'i chanlyniadau yn anhysbys. Gwyddel yw y gwr hwn. Dywed mai peth ofnadwy yw fod Cymry, Scotiaid a Gwyddelod trwy amgylchiadau gor- mesawl yn gorfod ymladd brwydrau eu gelynion a lladd pobl na welsant erioed ond caredigrwydd ar eu llaw. Barna efe mai gwell fuasai i'r Werddon fod dan deyrnasiad Germani na theyrnas- iad Lloegr, ond nid am hyn mae yn dadleu ond am y Werddon i'r Gwyddel, fel y dadleua pob gwir Gymro am Gymru i'r Cymro. Paham lai? Pa hawl foesoj sydd gan Lloegr i drawsfeddianu Cymru, y Werddon a Scotland. Nid ydyw y bobl erioed wedi ceisio am un- deb a Lloegr. Pa le mae hawl Lloegr? Nid yw fod y lladrad wedi cymeryd lie ganoedd o flynyddau yn ol yn ei wneyd yn llai lladrad; mae gwaed y bobloedd yn llefain o'r ddaear yn erbyn eu mwrddwyr. Mae Prydain am fod yn feistres y byd; mae Germani yn ameu ei hawl i hyny, ac am gael ei lie. Ar y llinellau hyn y ceir gafael ar wir achos- ion y rhyfel. Rhaid i Brydain yn awr brofi ei gallu o fod yn ben neu i gilio o'r neilldu. Mae gan Germani gystal hawl i fod yn ben ag sydd gan Brydain. Pe Germani i enill ac i Brydain i golli, beth fyddai enill neu golled y byd? Am "Cymro" mae ef wedi colli ei le yn ei ddosbarth ei hun ac wedi syrthio o "Rhodd Mam" i'r A. B. C. Mae ef yn cael pleser wrth ddywedyd dim. Pob llwydd iddo. Ysgrifena Maurice C. Roberts rai pethau da, ac mewn ysbryd carladlawn, ond y mae wedi rhoddi "black eye' cywilyddus i'r Bod Mawr trwy ei wneyd yn rhanog o anfadwaith Pry- dain. Doeth fuasai iddo ailfeddwl ac ail osod ei syniad. Os cyfaill Prydain yw y Bod Mawr, os ysbryd a delfryd Prydain sydd dda gan ei galon, gelyn pawb a phob peth ydyw tu allan i Bry- dain, ac ofer i ni i dreio ei wasanaethu. Rhyfedd mor araf mae pobl yn codi i "sefyll yn y rhyddid a'r hwn y rhydd- haodd Crist hwynt." Pa le mae y boys sydd yn dadleu mai "yr hyn sydd sydd oreu?" Hwynthwy o bawb sydd fitiach i fod yn ffrynt y Tad, ac nid yw o bwys yn ol ei hathraw- iaeth hwy ar ba ochr.
1O'R TWR.1
1 O'R TWR. I Gan Sylvetus. j I III. Flynyddau yn ol, gwelsom o'r "Twr" fod Rwsia wedi meddianu porthladd cyfleus yn y Dwyrain-Porth Arthur. Pan welodd Wili hyn, daeth awydd cryf arno yntau i chwilio am degan o'r fath; ac mewn adeg o wrthryfel yn China llofruddiwyd yno ddau offeinad Pab- aidd Germanaidd, a bu hyn yn esgus iddo ofyn am iawn oddiar > llywodr- aeth hono, yr iawn a gafodd ydoedd Kiao-Chau, porthladd, fel y gallai fod yn gyfartal i Rwsia yn y rhan hono o'r byd. Gwariodd Germani gan miliwn o ddoleri i gadarnhau y' porthladd yma, ac yr oedd hyn yn ddychryn i'r holl fyd Dwyreiniol. Dyma barodd i Brydain gadarnhau Wei-hei-wai. Erbyn heddyw mae Germani wedi ei hysgubo o'r rhan yma o'r byd. Yr oedd ganddi amryw ynysoedd yn y moroedd yma, y rhai a feddianwyd gan Awstralia wedi cy- hoeddiad y rhyfel a suddiad yr Emden. Cyn i Wili gyhoeddi rhyfel yn erbyn Prydain, yr oedd yn anfon yno gudd- swyddogion, a dirgel ysbiwyr i edrych ansawdd y wlad; a daeth y rhain yn ol ato wedi eu llenwi a newyddion pwy- sig. Dyma yn fyr eu cenadwri iddo mewn perthynas a'r Trefsdigaethau Prydeinig: 1. Yr India a'i thri can miliwn tri- golion yn llawn teyrnfradwriaeth. 2. Yr Aifft yn drwm dan orthrwm, a theyrnfradwr yn llywodraethwr yno. Nid yw perthynas Awstralia a New Zealand yn ffyddlon; mae Awstralia wedi gwrthod i Brydain lywodraethu ei llynges. 4. Nid yw Deheubarth Affrica yn deyrngarol, a dysgwyliant am gyfie i fwrw ymaith yr iau. 5. Oer iawn yw teimlad Canada tuag at y Fam-wlad. 6. Mae'r Iwerddon wrtTi ei drws ar drothwy rhyfel cartrefol. Heblaw hyn, dywedwyd llawer o bethau yn ddystaw yn ei glust am y fyddin a'r Llynges—"Nid oes yno fydd- in gwerth yr enw." Felly, nid rhyfedd iddynt gredu yno y buasent gyda'u byddin yn Llundain cyn y Nadolig. Er- byn hyn, gwelwn o'r 'Twr' fod y Trefed- igaethau wedi ymddwyn at Brydain yn bur wahanol i fel y paentiwyd hwy i Wili a'i bencadlys tua Berlin. Cawn hyd nod Ddeheubarth Affrica yn anfon i Brydain y gallent hebgor eu milwyr rheolaidd at ei gwasanaeth, ac y buas- ent hwy (Botha a Smuts) yn gofalu am heddwch y Drefedigaeth, yr hyn a wnaethpwyd, gan osod y gwrthryfelwyr i lawr a llaw gref. Troes y gelynion cyndyn hyny i fod yn frwdfrydig dros Brydain. Er cymaint y dwndwr wyf wedi ei glywed o'r "Twr" yn ystod tri deg o flwyddi, fod Canada wedi blino bod dan y Faner Brydeinig, eto cawn hithau wedi ei thanio o for hyd for, ac yn bwrw ei byddinoedd i gynorthwyo yr 'hen fam' ar faes y gwaed! Yr India fawr yr un modd gyda'i thri chan mil- iwn o boblogaeth, yn ymladd ysgwydd wrth ysgwydd a Phrydain, ac wedi ei dwyn drwy y rhyfel yn fwy teyrngarol nag erioed! Dywedir y gall Prydain, os daw yn angen, ddwyn allan, gartref, ac o'i threfedigaethau, tua 20,000,000 o fyddin! Gwelwn fod sylw y byd wedi troi i gyfeiriad Twrci. Paham? 0 herwydd mai rheoli Caercystenyn a chulfor y Dardanells, a'r Bosphorus, yw yr agoy- iad i gynllun mawr y Cyngreiriaid yn y rhyfel hwn. I hyn mae John Bull wedi bod a'i lygaid yn agored, a chawn ef a Ffrainc wedi gwthio yn mhell i'r culfor gyda'r amcan o'i agor, fel gallo y Cyng- reiriaid gael eu cynaliaeth o gwpbwrdd mawr Rwsia. Pan berswadiodd Will y Twrc i ryfel, yr oedd y drws yma yn cael ei gau a'r agoriad yn eu dwylaw, a'r un pryd cauwyd y fynedfa i wenith Rwsia ddod allan o'r Mor Du, a defn- yddiau rhyfel i fyned i mewn iddo. Mae y gwenith sydd ar Brydain a Ffrainc ei 'angen yn awr, yn "eleva- tors" mawrion Odessa yn "hollol di- werth iddynt (tua 80,000,000). Gan fod yn Rwsia ddigon i'w chyflenwad ei hun- an, Prydain a Ffrainc, bydd llywodr- aethu culfor y Dardanelles a'r Bosphor- us yn gosod gwerth ar yr hyn sydd yn cael ei gadw yn nghwpwrdd Rwsia, ac yn gosod Prydain yn annibynol ar y wlad hon ag Argentina am wenith. Yr oedd Wili druan yn tybio ond iddo gael y Twrc ar flaenau ei fysedd i wneyd fel y myno ag ef, ei fod wedi cael "gold medal" i'w gosod ar ei fyn- wes. Gwelwn trwy ein hysbienddrych fod y cynllun yma wedi ei chwalu i'r nedwar gwynt, ac fod y culfor i'w agor. a Chaercystenyn i syrthio i ddwylaw y cyngreiriaid a'u trafnidiaeth yn myned dan furiau y porthladd henafol. Yna bydd gorsedd y Swltan yn Ewrop yn syrthio. Bydd hyn yn saeth i galon Will, gwaeth na chael ei orchfygu yn Poland a Belgium yn y dyddiau a ddaw. Mae ei ddylanwad yn colli, a'i nerth yn pallu, a bydd y crogbren a barotodd i grogi arall arno, i fod yr un y crogir ef arno cyn bo hir. Da gan wr y "Twr" ddarllen ysgrifau galluog ar y rhyfel gan E. L. Griffithc ac Humphrey Griffiths, Utica, a'r Doctor o S. Lake; heb eithrio yr "hits," a'r cyfarwyddiadau i'r boys ar y "march" gan Shon y Dyrnwr. (I Barhau). 0 s0,
IDEDDF ANYSGRIFENEDIG AD-DALIAD..
I DEDDF ANYSGRIFENEDIG AD- DALIAD. I Gan D. F. Lewis. Yn annibynol ar ddeddfau argraffed- ig ac ordeiniedig llysoedd gwladol yn mhlith llywodraethau y cyfanfyd, y mae hefyd ddeddf ddynol anordeinied- ig, yr hon a weinyddir mewn miloedd o achosion heb unrhyw allu awdurdod- edig i hyny. Y mae dyn yn fath o farn- wr uwchlaw penodiad gwladol, ac yn cadw llys yn ei fynwes ei hun, ac o hono yn dedfrydu cosb o ad-daliad ar bob troseddwr a gyflawna drosedd an- nghyfiawn yn ei erbyn ef, yn enwedig os bydd yn greulon ac yn ddyoddefus. Y mae ei ddeddf ef yn un anianyddol. Waeth beth fydd hawliau deddfau gwladol, fe fyn os yn ddichonadwy weinyddu ei ddedfryd o ad-daliad ar bwy bynag sydd yn euog, a hyny yn ol yr un natur a weinyddwyd arno ef. Cymerer, er engraifft, hanes ac ym- ddygiad y Brenin bwystfilaidd anynol Adonibezec, sydd yn gofnodedig yn y benod gyntaf o Lyfr Barnwyr. Gweith- red yr anfadyn erchyll hwnw ydoedd tori ymaith holl fysedd dwylaw a bod- iau traed saith deg o freninoedd eraill, yn ei wallgofrwydd a'i ddigllonedd buddugoliaethus arnynt. Ond pan ddal- iwyd ef wedi hir ymerlid am dano, fe gyflawnwyd yr un fath weithred ar ei ddwylaw a'i draed yntau, am yr hyn y cyfaddefodd iddo gael ei gyfiawn ad- daliad gan Dduw, a dygwyd ef i Jerusa- lem lie yn fuan y bu farw o'i boenedig- aeth. Cafodd ei gyfiawn daledigaeth. Y mae pob anwiredd a nodwedd a bwriad enllibol, maleisddrwg a gy- hoeddir, neu a wneir yn ddiachos yn erbyn arall-yn dra sicr o gynyrchu math o gareg ateb hwyr neu hwyrach. Y mae'r ddeddf anian-ddynol fel cwn- stabl yn gwylied am gyfle i. dalu'r pwyth. Y mae y gwenwyn o eiddigeffd a deflir i ffynonell cysur a heddwch arall yn dra chyffredin yn enyn gwen- wyn yn mywyd y gwenwynwr ei hun. Beth ellir ddysgwyl oddiwrth William, yr ellyllwr Ellmyn a'i gyd ellyllon? Nid yn unig fel torwyr bysedd a bodiau, ond yn dorwyr breichiau a choesau, torwyr bronau, torwyr tafodau, a llosg- wyr llygaid o'u ceudod, ac hyd yn nod torwyr penau oddiar yddfau personau heb fod yn y weithred o ryfela.* Ond beth hefyd am dori llw cyfamod- ol rhwng gwahanol lywodraethau a'u gilydd, gan gyfrif hyny fel cerpyn baw- lyd o bapyr, tori llywodraeth a gwlad- wyr heddychol a diniwed y Belgiaid yn llarpiog, a llofruddio miloedd o'r deil- iaid fel pe baent nadroedd a llygod o'r hil ddynol. Mynant dori pob rheol o degwch fel ymladdwyr, dinystrio bywyd a phethau ydyw eu holl fwriad ac egni, dytetha eu deiliaid eu hunain a phawb er mwyn boddloni angerdd eu hunanoldeb a'u trachwant gormesol am oruwchaflaeth annuwiol ar wledydd Ewrop. Ai tybed yr a yr holl doriadau amryfath hyn heibio, heb i ad-daliad cyflawn a chyfatebol, cyffelyb i eiddo Adonibezec, gael ei weinyddtT ar dros- eddwyr mor felldigedig o fwriadol ar fywyd ac eiddo pobl oeddent o fewn cysylltiadau cyfeillgarol a chytundeb i gydfyw yn heddychol. Bydd yti anmhosibl gwneyd ad-uniad, heb ad-daliad cyfatebol i'r dadraniad, a'r toriadau bwriadol a chelanyddol sydd eisoes wedi eu cyflawni. I ddi- weddu hyn o weithredoedd llengoedd y fall, beth am y llongaid o blant y Bel- giaid yn graddio yn yr oedran 11, 12, a 13eg oed, rhai newydd gyraedd Canada, a'r oil o honynt heb na thad na mam i'w hanwylo a'u gwarchod, ond syned a chywilyddied nef a daear mewn eith- afol ddirmyg—y mae y Iluosocaf o'r merched yn y gwahanol oedranau a nodwyd yn y cyflwr i fod yn famau plant yn fuan, wedi eu treisio gap hiliogaeth gelyn mwyaf annynol y byd- ysawd. Dywedir fod y Canadiaid yn gruddfan mewn digllonedd. Pa ryfedd hyny! Ai ni fydd gwaedd farnol o ad laliad am ynidriniaeth o'r fath warth lod aflunaidd ar blant dan oed?
I -Y RHYFEL YN EWROP.i
I Y RHYFEL YN EWROP. I Gan Humphrey Griffiths, Utica. Bydd i fis Gorphenaf sefyll ar ei ben ei hun ar goflyfrau hanes y byd am mai yn y mis hwnw yr oedd y byddinoedd yn ymgynull yn nghyd ar gyfer y rhyfel ofnadwy sydd wedi goddeithio cyfandir Ewrop er hyny. Yr oedd ymfyddino cyflym a rheolaidd yn myned yn mlaen; yn y dwyrain yr oedd Rwsia fawr megys yn ymddadebru o'i chwsg tra ar yr ochr arall yr oedd Ffrainc a Ger- mani yn gwylio symudiad y naill a'r llall, ac yn barod i symud ar fynyd o rybudd. Bygythid Awstria wlad fechan Servia, a duai y ffurfafen wleidyddol; yr oedd yr ystorm at dori, a rhwyg i gymeryd lie rhwng y Cyngor Triphlyg a'r Cyngor Cyfeillgar, a arweiniai y gwledydd mawrion i yddfau eu gilydd. Fe ddywedir wrthym mai brad-lofrudd- iad tywysog coronog Awstria oedd yr achos o'r rhyfel, ond gorwedd y gwir reswm yn llawer dyfnach na hynyna. Cawn hanes yr Ymerawdwr William yn cynyrfu y Galluoedd cyn hyn, pan oedd a'i fryd ar dalaeth y Congo a Morocco, a chreodd chwyldroad yn Paris drwy hawlio ymddiswyddiad gweinidog tramor Ffrainc, a chawn ef hefyd yn bygwth yr arth fawr o Rwsia. Ond a chaniatau mai brad-lofrudd- iaeth y Tywysog Coronog oedd yr achos, yr oedd math o gytundeb neu gymod arwynebol wedi ei adferu rhwng y ddwy wlad, er o dan y wyneb yr oedd elfenau ffrwydrol yn irechu. Yn sydyn, ac annysgwyliadwy i'r sawl oedd "heb astudio y sefyllfa, cymerodd Awstria ei cham anffortunus, bu iddi gyflwyno telerau celyd i Servia, gan achosi mater trafodaeth ddifrifol rhwng pen- aethiad y gwahanol wledydd yn Ewrop, a phan gyhoeddwyd cynwys y Telerau a gyflwynwyd i Servia ar y 24ain o Or- phenaf, cyfeiriwyd cydymdeimlad y gwledydd a hi oil, ac eithrio Germani. Yr oedd anrTiytTedd ac annibyniaeth Servia fechan yn y fantol. Yn fuan, clybuwyd rhuadau yr arth fawr; atgof- iodd Rwsia y byd yn fuan fod ganddi fuddianau i'w gwarchod yn nhalaethau y Balkan, ac nas gallai orwedd i lawr y tro hwn fel y darfu yn flaenorol, a gweled ei chymydog bach yn dyoddef gwawd a bygythion Awstria. Ni fu y llew Prydeinig yn hir heb glywed rhu- adau yr arth o Rwsia, ysgwydodd yn- tau ei fwng a gollyngodd un nad nes pery braw a dychryn trwy wersyll ei elynion fod brenin y Galluoedd yn paro- toi i amddiffyn y gwan, ac fe gawn Syr Edward Grey yn trefnu deuddydd o am- ser i Servia i feddwl ac ateb cynwys cenadwri Awstria. 0 hyn yn mlaen eyflymodd pethau'n ddirfawr; deir- gwaith yn nghwrs y deuddyn hyn gwnaeth llywodraeth Prydain geisiad- au diflino i ddwyn oddiamgylch fath o gytundeb roddasai gyfle i awdurdodau gwledydd leoli'r annghydfod, ond yn Merlin nid oedd dim gobaith am y llew- yrch lleiaf o oleuni ar y mater. Pen- derfynodd Germani fod yr amser wedi dod iddi ruthro ar ei gelynion ar y ddau ffindir a hyny gyda syniad ei bod wedi ei pherffeithio i gyfarfod a phob peth a ddeuai o'i blaen, ac yr oedd rhyfel yn anocheladwy. Gwrthodwyd cynyg Syr Edward Grey am gynadledd o'r Gallu- oedd gan Germani yn unig 28ain o Orphenaf; y diwrnod dylynol tynwyd y gorchudd ymaith, daeth- y newydd fod y rhyfel wedi dechreu, fod Belgrade, prif ddinas Servia yn cael ei than- beleni a bod Rwsia yn galw ei byddin- oedd i'r gad i amddiffyn Servia. Am- Iwg ydyw drwy'r holl drafodaeth fod Awstria yn gwneyd ei goreu i lethu Servia fechan trwy ei bod yn gwrthod iddi gael porthladd a mynediad i mewn i ddyfroedd yr Adriatic, a hyny trwy fod y Kaiser yn gwthio ei gynlluniau dieflig, ac ef sydd yn gyfrifol am hyrdd- io y miloedd i dragwyddoldeb. Cawn fod y Kaiser ar y 30ain o Orphenaf wedi rhoddi gorchymyn i'w filwyr symud yn mlaen am y terfynau o Luxemburg i'r Vosges a bod adgyf- nerthion yn cyraedd amddiffynfa Metz, a chlywn fod ei fyddinoedd wedi croesi y terfynau, ac wedi tori cytundeb an- mhleidiol Belgium, y weithred fwyaf anfad wnaed yn yr oes wareiddiedig hon. Clywir llawer o Germaniaid yn beio Rwsia mai hi sydd gyfrifol am yr hel- ynt hwn, a'i bod wedi dylanwadu ar Ffrainc i ddod i'w hamddiffyn, ac fod Prydain wedi gwthio ei hun i'r helynt ofnadwy hwn, er llorio Germani. Dyma sydd ffaith medd y Kaiser, arglwydd y -hyfel waedlyd, "Maent wedi gwthio y nledd i'm llaw, ac o herwydd hyny, haid ymladd am fodolaeth yr Ymer- ,draeth. Y mae yn ffaith fod Itali eto yn anmhleidiol, a beth yw y rheswm am hyny, tra hi yn aelod o'r Cyngor Triphlig? Fe ddywedir iddi wrthod cy- meryd y maes am fod Germani ac Aws- tria wedi ei bradychu trwy beidio cario allan ei chytundeb, yr hwn a alwai ar iddynt gario yi mlaen yr ohebiaeth gyda holl aelodau y cyngor, a rhoddi iddynt bob gwybodaeth oedd yn ofynol yn ol darpariaeth y cytundeb. Yn hyn bttont yn ddiffygiol, darfu iddynt weith- io pechau mewn modd dirgelaidd. Yr oeddynt wedi gweithio pethau i fan peryglus yn mis Gorphenaf pan yn parotoi ar gyfer y rhyfel ofnadwy hon, oi d pan yr oedd y ffrwydriad yn an- ocheladwy y darfu iddynt hysbysu Italy o'u bwriad i ryfela ac am iddynt gy- meryd ei safle o dan y cytundeb i ym- ladd gyda hwy, ond fe wrthododd. Daeth i'r penderfyniad ar unwaith mai Germani ac Awstria oedd yn gyfrifol am yr helynt, ac mai hwy oedd yr ym- osodwyr, a thrwy hyny, nid oedd dan orfodaeth i ymladd. Dengys hyn i'r byd goleuedig mai y Kaiser a'i we- helyth. Fe wyr Itali am gynllwynion y Kaiser pan yr oeddynt yn ymladd a'r Tyrciaid yn Tripoli, pan y darfu iddo wneyd ymgais feiddgar am gael porth- ladd yn Tripoli, a hawdd oedd deall ei fwriad am ei fod a'i lygaid ar yr Aifft, ac yr oedd cytundeb yn bod rhwng Twrci ac yntau fod iddo gael miliwn o wyr arfog i oresgyn yr Aifft, ond fe'i siomwyd yn ei gynllun, gorchfygwyd y Tyrciaid gan yr Eidal. ac yn fwy di- weddar yn rhyfel y Balkan yn 1912; bu hyn yn siomedigaeth Chwerw iddo, a chreodd ddigter yn ei galon tuag at Itali, a dyna y rheswm ei bod wedi troi yn glust fyddar i holl gymeltion Ger- mani ac Awstria, ac ni fydd yn syndod yn y byd genyf glywed ei bod wedi bwrw ei choelbren gyda'r teyrnasoedd sydd yn brwydro am ryddid y byd yn erbyn ysbryd milwrol y Kaiser, yr hwn sydd yn warth i wareiddiad yr ugeinfed ganrif, ac fe fyn y Germaniad a'r Cymro Germanaidd (Wi ICaerwyni) ein hargyhoeddi mai dechreu y cweryl oedd fod awyrlong neu fodur gyda dau swyddog perthynol i Ffrainc wedi myn- ed trwy gongl feciian o Belgium rhyw haner- awr cyn i'r fyddin Germanaidd ymdaith yn mlaen dros y terfynau i Belgium a thori ar anmhleidioldeb Bel- gium a Luxemburg, yr hon oedd wedi cael ei chadarnhau a'i harwyddo gan- ddynt yn y flwyddyn 1839, ac yn 1870 gan Bismarck. Ai tybed pe tae Belgium yn gwybod mis Awst diweddaf am yr hyn a wneid iddi, a fuasai hi yn sefyll ar ffordd y rheibiwr creulon hwn oedd yn cynyg y swm o ugain miliwn fel iawn i'r wlad fechan am dori y cytun- deb? Na, yr oedd digon o anrhydedd ynddi i gario allan ei chytundeb ac fe wnaeth hyny nes peri syndod i'r byd a siomedigaeth chwerw i Wilhelm a'i fll- wyr creulon. Udgenir eu clodydd am eu dewrder arwrol ddyddiau'r ddaear, a bydd eu henw yn anrhydeddus ar du- dalenau hanes.
NODIADAU CERDDOROL.
NODIADAU CERDDOROL. Gan Peter Edwards, Mus. Bac. (Pedr Alaw). Tonau y.Cysegr.—Dywed y Golygydd mewn paragraff yn y "Drych" am Chwefror y 25ain, fod beimiaid Cym- reig wedi dyfod o hyd i'r ffaith fod cryn dipyn o'r ysbryd Germanaidd yn llyfr tonau y M. C., ac ychwanega nad yw y Cymro lawer am ei gerddoriaeth na'i lenyddiaeth ei hun. Yr wyf cyn hyn wedi canmol y tonau Germanaidd yn y golofn hon-tonau ardderchog ydynt: tonau ysgrifenwyd mewn cyfnod cyn- Nietzschaidd. Dylem goflo hyn. Y mae i mi yn ymddangos nas gallai neb ond dynion gwir grefyddol gyfansoddi y fath donau. Pa fodd y gallent roddi ynddynt gymaint o'r cysegredig os na chynyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd ar y pryd? Y mae llawer o donau Seisnig a Chymreig ar gael, o waith dvnion o feddwl bydol-a barnu oddiwrth y ton- au. Anhawdd genyf gredu y gallai y cyfryw ddynion roddi yr elfen ddwyfol yn eu tonau. Na, yr hyn sydd yn y llestr a ddaw allan o hono. Felly, na fydded i ni gondemnio tonau y German- iaid am mai o Germani y daethant ddwy a thair canrif yn ol. Ond mae y Golygydd yn ei le pan y dywed nad yw y Cymro lawer am ei gerddoriaeth ei hun. Yn ddiau, y mae llawer o hen donau anwyl ein tadau wedi eu cadw allan o'n Llvfrau Tonau er mwyn rhoddi lie i rai Ellmynaidd ar yr un mesurau-am y rheswm, mi gred- af, y tybient nad oedd yr oes hon yn galw am donau sy'n ail adrodd. Ond pwy benderfynodd hyny dros ein cen- edl, neu, os myner, ein crefyddwyr? Y mae yn debyg mai Ieuan Gwyllt yw'r "pechadur pena' yn hyn o beth. Apel-
[No title]
Y mae hvsbysrwydd wedi ei dderbvn eod y Cadben, yr Anrhvdeddus G. H I ">on?las Pennant, mab hynaf Lad'" "enrhv-n. wedi ei ladd yn mrwydr Neuve Chapelle.